Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dangos i chi sut mae cael cofrestr a chofnodi presenoldeb ar gyfer eich dosbarth. Dyma’r broses os chi yw’r athro/athrawes arferol neu os ydych chi wedi cael eich aseinio i’r dosbarth trwy’r maes Cyflenwi. I ddysgu sut i gwblhau cofrestrau bwyd ar gyfer dosbarth, cyfeiriwch at ein herthygl yma.
Noder: Byddem yn eich cynghori i beidio ag arddangos y gofrestr ar eich Bwrdd Gwyn rhyngweithiol, am y bydd unrhyw sylwadau neu nodiadau ar y gofrestr yn weladwy i bawb yn y dosbarth.
Dod o hyd i’r gofrestr
Mae yna sawl ffordd y gallwch agor cofrestr eich Dosbarth. Yn gyntaf, bydd angen i chi fynd naill ai i’ch Calendr neu eich Dosbarthiadau.
I fynd i’ch calendr, ewch i’ch sgrin hafan. Yno fe welwch chi flwch o’r enw Fy Nghalendr, fel y gwelwch isod.
Gallwch gyrchu eich calendr hefyd trwy fynd i Fy eitemau > Fy Nghalendr.
O’r naill neu’r llall o’r llefydd yma, cliciwch ar y dosbarth rydych chi am ei gofrestru, a bydd hyn yn mynd â chi i drosolwg o dudalen Dangosfwrdd y Wers. Oddi yma, dewiswch dab y Gofrestr a fydd yn agor cofrestr eich dosbarth!
Awgrym: Gallwch fynd i Fy Eitemau > Fy Nosbarthiadau a dewis eich gwers nesaf oddi yma hefyd.
Nodyn: Os ydych chi’n cymryd dosbarth ar ran athro/athrawes arall, defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i’r athro/athrawes, wedyn cliciwch ar eu calendr ar y chwith a dewis y dosbarth.
Cymryd y gofrestr
Gallwch newid y sgrin i Gwedd rhestr neu Gwedd proffil trwy glicio ar y botwm perthnasol:
- I gofnodi presenoldeb mewn gwedd rhestr, cliciwch ar y gwymplen wrth ymyl enw pob myfyriwr, wedyn dewiswch y marc priodol.
- I gofnodi presenoldeb mewn gwedd proffil, cliciwch ar y marc priodol.
Gallwch neidio ymlaen i’r myfyriwr nesaf trwy glicio Neidio.
Ar y dde, gallwch weld presenoldeb myfyriwr ar gyfer heddiw neu am yr wythnos, yn dibynnu ar osodiadau eich ysgol.
I adio marc, cliciwch Absennol, Hwyr neu Presennol.
Os marciwch chi fyfyriwr yn Absennol bydd naidlen yn codi lle gallwch ddewis y marc absennol priodol. Os yw eich ysgol wedi dewis cyfyngu ar y marciau presenoldeb sydd ar gael, efallai na chewch ddewis o blith yr holl farciau absenoldeb yma.
I gael rhagor o fanylion am hyn, darllenwch erthygl y Ganolfan Gymorth: Gosodiadau Cymryd y Gofrestr
Wrth farcio myfyriwr yn hwyr, gallwch pa mor hwyr yn union yr oedd y myfyriwr.
Y ffordd gyflymaf o gofnodi marciau ar gyfer eich myfyrwyr Presennol yw clicio’r botwm Marcio Pob Blwch Gwag yn Bresennol, naill ai ar frig y dudalen (os yw’r holl fyfyrwyr yn bresennol) neu ar y gwaelod ar ôl cofnodi’r holl ddisgyblion absennol a hwyr.
I ddychwelyd i drosolwg y wers, cliciwch Dychwelyd i Ddangosfwrdd y Wers.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.