Yn Arbor, rydyn ni am wneud y siŵr eich bod chi’n gallu cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Er mwyn cadw eich ysgol yn rhedeg yn ddidrafferth, mae ein hadnoddau digidol a’n Canolfan Gymorth ar gael 24/7 i’ch galluogi chi i ddod o hyd i atebion a datrys problemau pryd bynnag sy’n gweithio i chi.
Ar yr adegau hynny pan rydych chi’n wynebu tasg gymhleth, angen datrys problem ddyrys, neu fater dybryd, fel pryder am ddiogelu unigolyn neu ddiogelu data, bydd ein Tîm Cymorth wrth law i helpu dros y ffôn, trwy sgwrs neu e-bost. Am fanylion ein hamserau ymateb a beth y gallwch ei ddisgwyl gan ein timau, darllenwch ein Siarter Profiad y rCwsmer.
Mae ein tîm ar gael dydd Llun-Gwe 8am-5pm, gydag oriau agor estynedig ar ddyddiadau allweddol, fel dyddiau cyhoeddi Canlyniadau Arholiadau.
Cyn cysylltu â ni:
- Gwarcheidwaid a Myfyrwyr: Cysylltwch â’ch ysgol yn uniongyrchol ag unrhyw ymholiadau. Am resymau diogelu data, ni all Arbor gyrchu na datrys problemau gyda chyfrifon myfyrwyr/gwarcheidwaid unigol.
-
Ysgolion dan adain partneriaid: Cysylltwch â’ch partner cymorth pwrpasol yn uniongyrchol am gymorth.
💻 Cymorth Digidol: Am Atebion Cyflym a Mynediad 24/7
1. Canolfan Gymorth Arbor (24/7)
Dyma’r lle cyntaf i droi am ateb yn y fan a’r lle. Mae ein Canolfan Gymorth ar agor bob amser ac yn llawn erthyglau gam wrth gam, atebion i gwestiynau cyffredin a chanllawiau hwylus ar bethau fel codau gwall Cyfrifiad. Chwiliad cyflym yn y fan yma yw’r ffordd orau o fynd ati yn aml.
2. Sgwrs Gwe
Y ffordd gyflymaf o gysylltu, a lle gwych i gael cymorth gyda chwestiynau cyflym ac amldasgio yn ystod diwrnod ysgol prysur.
- Sut i fynd ati: Cliciwch ar y Swigen Siarad yng nghornel chwith isaf eich MIS Arbor neu yn y Ganolfan Gymorth.
- Y Cynorthwyydd Rhithwir (24/7): Mae ein cynorthwyydd rhithwir yn cynnig atebion cyflym i gwestiynau cyffredin ar feysydd fel Adroddiadau Presenoldeb, Ymgynghori â Gwarcheidwaid, Cyfrifiadau, Taliadau a mwy ddydd a nos.
-
Sgwrs Fyw: Os nad yw’r Cynorthwyydd yn gallu ateb eich cwestiwn, bydd yn eich trosglwyddo chi’n syth i aelod o’n Tîm Cymorth o fewn yr un sgwrs (Ar gael Llun-Gwe, 8:00AM - 5:00PM).
3. Ffurflen Gysylltu (ar gyfer Ymchwiliadau Manwl)
Dyma’r dewis gorau ar gyfer ceisiadau lle nad oes brys mawr a lle bo angen ymchwiliadau dwfn, llawer o fanylion neu atodiadau at ffeiliau (e.e. problemau fformadu, ymholiadau am Baratoi Adroddiadau Pwrpasol, neu gofnodi namau).
- Ffurflen Gysylltu: Cliciwch ar Cysylltwch â Ni yng nghornel de uchaf y Ganolfan Gymorth i gyflwyno ymholiad strwythuredig.
-
Awgrym: Cofiwch gynnwys sgrinluniau, yr union negeseuon gwall, a’r URLs ar gyfer y tudalennau o dan sylw fel y gall ein tîm fynd at wraidd y broblem.
📞 Cymorth dros y Ffôn: Am Faterion Brys neu Gymhleth
Rydyn ni’n deall bod rhai sefyllfaoedd yn allweddol i weithrediad eich ysgol, neu’n rhy gymhleth i’w datrys trwy neges destun. Mae ein llinellau ffôn yma i’ch helpu chi i ffeindio’ch ffordd gyda materion brys (fel diffyg critigol yn y system neu bryderon diogelu) neu ymholiadau cymhleth (fel datrys problemau dyrys o ran Asesiadau, Arholiadau neu Daliadau) pan nad yw ein hoffer digidol wedi llwyddo i ddatrys y broblem.
- Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:00AM - 5:00PM (heblaw am wyliau banc a rhai dyddiadau penodol i’r cwmni).
- Ffoniwch ni: 020 3835 4025
I helpu ein tîm i fynd at wraidd y mater a dilysu eich manylion diogelwch, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod:
- Manylion eich ysgol: Enw’r ysgol, y cod post a’r linc i’r dudalen Arbor o dan sylw.
- Eich rôl busnes: Teitl eich swydd/eich rôl fel y mae eich proffil Arbor yn ei nodi’n swyddogol.
(Noder: Mae Cymorth Lefel Uwch ar gael ar gais i ysgolion sydd wedi prynu’r pecyn hwn).
🛠️ Problem sydyn ar y system?
Cyn cysylltu, ewch i’n Tudalen Statws y System i weld a oes yna broblem hysbys y mae ein timau technegol yn gweithio arni eisoes.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.