Mae’r erthygl hon yn esbonio sut i fewngofodi i Borth Myfyrwyr Arbor fel myfyriwr, sy’n gofyn am fathau penodol o ganiatâd. Mae’n dangos manteision profi’r porth a chynorthwyo myfyrwyr â phroblemau trwy gyrchu eu cyfrifon.
Gallwch fewngofnodi i Borth Myfyrwyr Arbor fel petaech yn fyfyriwr penodol.
Caniatâd
Bydd naill ai angen cyfuniad o ganiatâd Myfyrwyr: Gwarcheidwaid: Mewngofnodi fel Gwarcheidwad ac Ysgol: Cyfrifon Defnyddwyr: Gweld , neu ganiatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu i fewngofnodi fel myfyriwr. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Pam defnyddio’r nodwedd yma?
Cyn rhyddhau’r Porth Myfyrwyr i’r holl fyfyrwyr, beth am ei brofi? Gallwch ofyn i fyfyriwr am gael mewngofnodi i’w cyfrif i weld sut mae’n edrych. Os ydych chi’n gallu mewngofnodi, cofiwch eich bod chi’n gallu gweld a golygu popeth y byddai myfyrwyr yn gallu ei weld a’i olygu.
Mae hyn yn ddefnyddiol i helpu i ddatrys unrhyw broblemau y mae myfyriwr yn eu cael gyda’r Porth Myfyrwyr hefyd.
Sut mae mynd ati i fewngofnodi fel myfyriwr?
Ewch i broffil y myfyriwr. Cliciwch ar y maes Manylion y Defnyddiwr.
Cliciwch ar Mewngofnodi i’r Porth Myfyrwyr fel myfyriwr yn y blwch llithro.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.