Pan fydd rhiant yn mewngofnodi i’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni, byddan nhw’n gallu gweld manylion eu plant sy’n mynychu un ysgol sy’n defnyddio Arbor. Os oes dau blentyn ganddyn nhw yn yr un ysgol, bydd modd iddynt symud rhwng y myfyrwyr yn yr ap neu ar y wefan.
Ond sut mae’r Porth Rhieni’n gweithio i rieni â phlant mewn mwy nag un ysgol sy’n defnyddio Arbor?
Os oes gan riant blant mewn mwy nag un ysgol, bydd eu profiad o fewngofnodi i’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni ychydig bach yn wahanol. Os ydyn nhw’n defnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar eu proffil ar gyfer y ddwy ysgol, bydd Arbor yn gofyn iddynt pa ysgol maen nhw am fewngofnodi iddi wrth fynd i login.arbor.sc neu wrth fewngofnodi i’r Ap Rhieni.
Noder: Ni fydd y rhiant yn gallu symud rhwng myfyrwyr ar y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni os yw’r myfyrwyr mewn ysgolion gwahanol. Mae hynny am fod gan bob gwarcheidwad broffil/cyfrif ar wahân ym mhob ysgol.
Mae hynny’n golygu, os oes gan riant ddau fyfyriwr mewn dwy ysgol gwahanol, bydd dau gyfrif ar wahân ganddynt, ac ni fydd Arbor yn cysylltu’r cyfrifon hyn, heblaw ar y cam mewngofnodi yn yr Ap Rhieni neu ar y dudalen login.arbor.sc. Er mwyn gweld gwybodaeth am y gwahanol blant yn eu gwahanol ysgolion, bydd angen i’r gwarcheidwad allgofnodi o un cyfrif ac i mewn i un arall.
Defnyddio’r Porth Rhieni am y tro cyntaf a gosod cyfrinair
Gall rhieni gyrchu’r Porth Rhieni i fewngofnodi am y tro cyntaf mewn sawl ffordd wahanol:
- Trwy fynd i login.arbor.sc a dewis Wedi anghofio eich cyfrinair?
- Trwy fynd i URL yr ysgol, er enghraifft, os Sunnyville yw enw eich ysgol, mae’n debyg taw Sunnyville.uk.arbor.sc fydd yr URL, a chlicio ar Mewngofnodi am y Tro Cyntaf?
- Trwy glicio ar linc mewn e-bost Croeso i Arbor neu e-bost ailosod cyfrinair. Mae rhagor o wybodaeth am anfon negeseuon e-bost croeso at rieni yma.
Wrth ddefnyddio opsiwn 3, bydd Arbor yn gwybod eisoes ar gyfer pa ysgol mae’r cyfrinair newydd.
Wrth ddefnyddio opsiynau 1 neu 2, os oes gan riant broffil mewn dwy ysgol dan yr un cyfeiriad e-bost, bydd cwymplen i ddewis pa ysgol y maen nhw am osod cyfrinair ar ei chyfer.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.