Lanlwytho a lawrlwytho ffotograffau

Gallwch lanlwytho ffotograffau o fyfyrwyr a staff yn dorfol i Arbor yn uniongyrchol o ffeiliau ar eich cyfrifiadur.
 

Caniatâd

  • Yr Holl Staff: Gweinyddiaeth AD Sylfaenol - Lanlwytho ffotograffau staff
  • Ffotograffau Myfyrwyr: Gweinyddu Pob Myfyriwr - Lanlwytho ffotograffau myfyrwyr

Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i’ch tîm gweinyddu rhoi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
 

Enwau derbyniol ar gyfer ffeiliau

Os oes ffotograffwyr yn dod i mewn i dynnu’ch lluniau, bydd angen i chi ofyn iddyn nhw enwi’r ffeiliau gan ddefnyddio un o’r nodweddion adnabod canlynol. Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu’r ffotograffau â’r myfyrwyr cywir.

Er enghraifft, wrth enwi ffeil ffotograff James Smith, dylid rhoi un o’r enwau canlynol i’r ffotograff. Gallwch ddewis unrhyw un o’r nodweddion adnabod, ond cofiwch ddefnyddio’r un math ar gyfer pob ffeil.

Rhif Adnabod Staff Arbor (e.e. 1234.jpg)

Rhif Staff (e.e. 1234567.jpg)

Enw Cyntaf a Chyfenw (e.e. JamesSmith.jpg)

Llythyren Blaen a Chyfenw (e.e. JSmith.jpg)

Rhif Adnabod Myfyriwr Arbor (e.e. 1234.jpg)

Rhif y Myfyriwr (e.e. 1234567.jpg)

Rhif Disgybl Unigryw (RhUD) y Myfyriwr (e.e. H0000000001234.jpg)

Mae yna opsiwn i ddefnyddio “Dim Nodwedd Adnabod” a chysylltu’r holl ffotograffau â llaw hefyd (nid ydym yn argymell hyn, ond mae hi ar gael fel dewis os oes rhaid!)
 

Beth yw uchafswm maint y ffotograffau?

Nid oes uchafswm o ran dimensiynau picseli delweddau am ein bod ni’n pennu maint y lluniau i gyd-fynd â’r blwch yn awtomatig.

Er nad oes yna unrhyw gyfyngiadau o ran dimensiynau, y maint mwyaf ar gyfer ffeiliau yw 9.5 megabeit (9.5MB) y ffeil.
 

Creu rhestr o fyfyrwyr a’u nodweddion adnabod

Os oes angen rhestr sy’n cynnwys eich myfyrwyr ac un o’r nodweddion adnabod yma ar gyfer y cwmni sy’n tynnu lluniau eich myfyrwyr/staff, gallwch greu Adroddiad Pwrpasol gan ddefnyddio’r templed yma. Mae gennym ganllawiau ar sut i fewnforio templedi adroddiadau yma.

Ar ôl creu’r adroddiad, lawrlwythwch e ar ffurf Excel gan ddileu unrhyw golofnau adnabod diangen - wedyn gallwch rannu’r rhestr â’ch cwmni ffotograffau i’w cynorthwy i rannu’r ffotograffau dan yr enwau ffeil cywir.
 

Lanlwytho ffotograffau

Sicrhewch fod y lluniau’n gywir cyn eu lanlwytho, am nad oes modd dileu lluniau’n dorfol, dim ond eu diwygio o broffiliau unigol.
 

Lanlwytho’r ffotograffau yn dorfol

Mae yna wahanol ffyrdd o gyrraedd y teclyn Lanlwytho Ffotograffau yn dibynnu a ydych chi’n lanlwytho ffotograffau Staff neu Fyfyrwyr.

  • I lanlwytho ffotograffau myfyrwyr, ewch i Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Diweddaru’n Dorfol > Ffotograffau Myfyrwyr. Awgrym: Os ydych chi’n cael trafferth lanlwytho lluniau myfyrwyr ceisiwch eu llwytho fesul grŵp blwyddyn
  • I lanlwytho ffotograffau staff, ewch i Ysgol > Holl Staff > Diweddaru’n Dorfol > Ffotograffau Staff. Byddwn ni’n lanlwytho lluniau staff yn yr esiampl yma, ond mae’r dull o fynd ati’r un fath ar gyfer staff a myfyrwyr.

Yn y panel ar y dde, mae yna set o gyfarwyddiadau ar sut i ddechrau’r broses lanlwytho. Pan fyddwch wedi darllen y cyfarwyddiadau ac yn fodlon ar enwau neu ‘nodweddion adnabod’ eich ffeiliau, cliciwch ar y botwm Dechrau Lanlwythiad Newydd gwyrdd.

Screenshot_2022-10-17_at_17.01.49.png
 

Dewiswch enw ar gyfer y lanlwythiad, a dewiswch pa nodwedd adnabod rydych chi wedi ei defnyddio i enwi’r ffeiliau, wedyn cliciwch Lanlwytho Ffotograffau.

Screenshot_2022-10-17_at_17.02.12.png
 

Ar y dudalen nesaf, gallwch lanlwytho’r ffeiliau o’ch cyfrifiadur, neu eu llusgo a’u gollwng yn yr ardal lanlwytho. Nawr cliciwch Cysylltu Ffotograffau.

Screenshot_2022-10-17_at_17.02.49.png
 

Ar y dudalen nesaf, gallwch gadarnhau’r cysylltiadau, neu ddewis defnyddwyr i gysylltu lluniau â nhw.

Yn yr adran Cysylltiadau a Argymhellir, sicrhewch fod yr holl bobl wedi eu cysylltu’n gywir.

Os na, dewiswch yr holl bobl y mae angen eu newid, a defnyddiwch y botwm Gweithred torfol i’w cysylltu â pherson arall.

Screenshot_2022-10-17_at_16.57.07.png

Screenshot_2022-10-17_at_16.58.20.png
 

Ar ôl diwygio unrhyw gam-gysylltiadau, mae’n bosibl bydd gennych bobl yn yr adran Angen Gweithredu. Gallwch ddewis cysylltu’r llun yma â pherson sydd yno eisoes, neu ddileu’r llun a pheidio â diweddaru unrhyw broffiliau.

Screenshot_2022-10-17_at_16.57.46.png

Screen_Shot_2019-10-18_at_15.05.50.png
 

Yn olaf, ar gyfer y bobl sy’n weddill sydd wedi eu cysylltu’n gywir, dewiswch bob un wedyn clicio Cadarnhau’r Cysylltiadau.

Screenshot_2022-10-17_at_16.59.37.png

Screenshot_2022-10-17_at_17.00.00.png
 

Bydd eich holl bobl wedi eu cadarnhau wedyn, a gallwch nodi bod y Lanlwythiad yn Gyflawn.

Screenshot_2022-10-17_at_17.00.48.png
 

Ar ôl cadarnhau, ni chewch wneud unrhyw newidiadau pellach i’r lanlwythiad, ond gallwch olygu lluniau unigol o broffiliau.

Screen_Shot_2019-10-18_at_15.06.11.png
 

Bydd y mewnforio wedi ei Gwblhau wedyn.

Screenshot_2022-10-17_at_17.01.23.png
 

Lanlwytho ffotograffau ar broffil y Myfyriwr neu’r staff

Awgrym: Rhaid defnyddio fformat jpeg, a rhaid i faint pob ffeil fod yn llai nag 1MB.

Adiwch ffotograff myfyriwr unigol at broffil trwy fynd i’r proffil a chlicio ar y llun proffil.

Screenshot_2020-10-26_at_15.31.08.png
 

Yn y blwch llithro, cliciwch Pori i ddewis y ddelwedd i’w lanlwytho, wedyn cliciwch Lanlwytho. Sicrhewch fod y fformat yn JPG.

Screenshot_2020-10-26_at_15.32.25.png
 

Lawrlwytho ffotograffau

Taflen ffotograffau

I lawrlwytho ffotograffau eich dosbarth, ewch i Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Lluniau Proffil

Oddi yma, defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r rhestr o ffotograffau dosbarth rydych am eu lawrlwytho, wedyn cliciwch y botwm ‘Argraffu taflen Ffotograffau’ gwyrdd.

Screenshot_2020-10-26_at_15.24.00.png
 

Lawrlwytho ffotograffau Myfyrwyr fel JPEGs

Ewch i Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Lluniau Proffil > Lawrlwytho Ffotograffau yn Dorfol > Myfyrwyr. Cliciwch +Adio a dewiswch y myfyrwyr.

Screenshot_2022-10-17_at_17.03.31.png
 

Cliciwch ar y ffeil i’w lawrlwytho i’ch cyfrifiadur.

download_photos.png
 

Wrth agor y ffeil Zip ar eich cyfrifiadur, gallwch weld holl ddelweddau’r myfyrwyr fel ffeiliau JPG. Caiff unrhyw fyfyrwyr heb UPN eu lawrlwytho fel '1_ArborID.jpg'.

zipped_photos.png

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
10 allan o 30 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.