Creu CTF, CML, CMJ neu ULN i’w hallforio

Mae’r erthygl hon yn cynnig canllaw cam wrth gam ar sut i gynhyrchu CTF, CML, neu CMJ i’w allforio ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i’w cynhyrchu’n unigol ac yn dorfol, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer sicrhau’r fformatau cywir ar gyfer yr ysgol a’r cyfeiriad. Mae’n eesbonio hefyd na ellir golygu CTFs ar ôl eu cynhyrchu, ac yn cynnig atebion i broblemau cyffredin sy’n ymwneud â mewnforio CTFs.
 

Caniatâd

Bydd angen caniatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Allforio Data, Gweinyddu: Gweinyddu Pob Myfyriwr a/neu Gweinyddu: Gweinyddu Fy Myfyrwyr i allforio ffeiliau CTF, CML neu CMJ.

Os nad oes gennych chi’r caniatâd yma, gallwch ofyn i weinyddwr eich ysgol ei aseinio i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau yma.
 

Cynhyrchu CTF

Noder: os yw myfyriwr yn ymadael ag addysg lawn-amser, nid oes angen cynhyrchu CTF ar eu cyfer. Caiff y myfyriwr ei ddadgofrestru ar ddiwedd y flwyddyn a bennwyd wrth gwblhau’r broses Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd.
 

Cynhyrchu CTF ar gyfer myfyriwr unigol

I gynhyrchu CTF ar gyfer un myfyriwr – er enghraifft os ydyn nhw’n symud i ysgol newydd – ewch i broffil y myfyriwr, sgroliwch i’r gwaelod i ffeindio’r adran Swyddogaethau Gweinyddu, a dilynwch y camau hyn:

Screen_Shot_2019-01-21_at_11.50.52.png
 

  • Cliciwch y botwm +Adio gwyrdd
  • Dewiswch y math o CTF yn y naidlen. Dyma’ch dewisiadau: 
    • Allforio CTF Cyflawn - nid yw’r math yma’n caniatáu i chi nodi pa adrannau i’w cynnwys; bydd yn cynnwys yr holl adrannau
    • Allforio CTF Rhannol/Teilwra – mae’r math yma’n eich galluogi i ddewis pa adrannau i’w cynnwys wrth allforio
    • Allforio CMJ (Ymuno) - math penodol o CTF rhannol yw hwn - mae rhagor o fanylion am hyn yng nghanllawiau’r Adran Addysg ar CTF ac yn yr adran benodol ar y CMJ/CML yn y canllaw hwn.

 

Yn achos CTFs Llawn a Rhannol, bydd hyn yn mynd â chi i Gam 1 o 2 o’r broses Allforio CTF Newydd. Yn y cam yma:

  • Pennwch y math o Gyrchfan gan ddefnyddio’r gwymplen Cyrchfannau. Yr opsiynau sydd ar gael yw: 
    • Ysgol yng Nghymru neu Loegr
    • Ysgol breifat neu annibynnol
    • Cyrchfan anhysbys yng Nghymru a Lloegr
    • Cyrchfan anhysbys y tu hwnt i Gymru a Lloegr
    • Awdurdod Lleol
  • Cliciwch y botwm Nesaf gwyrdd i symud i gam 2

Awgrym: Os ydych chi’n creu CTF ar gyfer yr Asesiad Derbyn Sylfaenol, dilynwch y camau i wneud hynny yma.

 

Yng Ngham 2, nodwch fanylion y gyrchfan os ysgol yng Nghymru neu Loegr oedd y gyrchfan a bennwyd

  • Yn gyntaf, nodwch Awdurdod Lleol yr ysgol newydd (os na wnewch chi hyn, bydd y Gwymplen Ysgol yn wag)
  • Nesaf, dewiswch yr ysgol newydd o’r rhestr

Methu dewis yr ysgol gywir?

  • Ewch i Ysgol > Sefydliadau Cysylltiedig > Sefydliadau Addysgol i weld a yw’r manylion cywir ar gyfer yr ysgol rydych am anfon y cofnodion ati i’w gweld yno. Os na, gallwch eu hychwanegu.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr ysgol rydych am ei dewis ar agor, a bod gennych chi’r rhif cywir ar gyfer yr ALl a rhif yr Adran Addysg trwy fynd i https://www.get-information-schools.service.gov.uk Os yw’r wybodaeth yma’n anghywir, gofynnwch i’r ysgol arall gysylltu â’r Adran Addysg.

Ar gyfer pob math o gyrchfan, dilynwch y camau hyn:

  • Gwiriwch fod y manylion a restrwyd yn gywir
  • Adiwch unrhyw nodiadau rydych am eu rhannu trwy’r CTF
  • Yn achos CTFs rhannol yn unig, defnyddiwch y blychau ticio i Bennu’r Meysydd i’w Cynnwys. Bydd UPN, cyfenw, enw cyntaf, dyddiad geni a rhyw yn gynwysedig bob tro am fod y meysydd yma’n hanfodol er mwyn i’r CTF fod yn ddilys; rhaid i chi ddewis yr adrannau eraill â llaw er mwyn eu cynnwys. Dyma’r adrannau i ddewis ohonynt: 
    • Manylion Sylfaenol
    • Hanes Prydau Ysgol am Ddim
    • Derbyn Gofal
    • Hanes AAA
    • Cyfeiriad y Myfyriwr
    • Rhif Ffôn y Myfyriwr
    • Cyfeiriad E-bost y Myfyriwr
    • Cysylltiadau (Gwarcheidwaid)
    • Data Presenoldeb
    • Data Asesu
    • Hanes o ran Ysgolion
  • Cliciwch y botwm Creu CTF gwyrdd
  • Cliciwch Iawn yn y naidlen

Screenshot_2022-04-01_at_15.42.52.png

Screen_Shot_2019-09-06_at_11.05.07.png
 

Ar ôl gwneud hyn, caiff CTF ei greu yn y cefndir. Bydd hysbysiad yn ymddangos wrth eicon y Gloch yn ar y ddewislen ar y chwith ar ôl i’r CTF gael ei greu.

I lawrlwytho’r CTF, cliciwch ar y gloch, wedyn yr hysbysiad, a dewiswch Lawrlwytho yn y blwch llithro.

Screen_Shot_2019-09-06_at_11.06.15.png
 

Fel arall, galwch glicio’r adran allforio CTF ar eu proffil o dan Swyddogaeth Gweinyddu ar waelod y proffil, dewis y CTF, wedyn clicio Lawrlwytho.

Ar ôl clicio Lawrlwytho, bydd y CTF yn lawrlwytho i ffolder lawrlwytho diofyn eich cyfrifiadur er mwyn i chi ei anfon ymlaen.

Screen_Shot_2019-09-06_at_11.07.13.png

Screen_Shot_2019-09-06_at_11.07.23.png

Screen_Shot_2019-09-06_at_11.07.28.png
 

Cynhyrchu CTFs ar gyfer nifer o fyfyrwyr

Yn ogystal â chreu CTFs fesul myfyriwr, gallai fod angen i chi greu CTF ar gyfer sawl myfyriwr ar y tro. I wneud hyn:

  • Ewch i Ysgol > Data > Allforio > Allforio CTF.
  • Cliciwch +Adio o’r tab Llawn neu Rhannol/Teilwra.
    • Bydd clicio +Adio ar y tab Llawn yn caniatáu i chi greu CTFs llawn yn dorfol
    • Bydd clicio +Adio ar y tab Rhannol/Teilwra yn eich galluogi i bennu pa rannau o CTF rydych am eu cynnwys a’u hepgor

Screenshot_2022-10-17_at_16.04.33.png
 

  • Yn y blwch llithro, nodwch eich gosodiadau yn y cwymplenni. Mae angen llenwi pob un o’r tri:
     
    • Mae Blwyddyn Academaidd yn eich galluogi chi i ddewis ym mha flwyddyn academaidd y mae’r myfyrwyr a gynhwysir yn y CTF wedi eu cofrestru. Bydd hyn yn eich helpu chi i bennu pa fyfyrwyr a grwpiau fydd yn ymddangos yn y ddewislen Myfyrwyr.
    • Mae Myfyrwyr y eich galluogi chi i ddewis myfyrwyr a grwpiau penodol. Gallwch ddewis sawl un. Caiff y myfyrwyr a’r grwpiau y dewiswch chi eu cynnwys i’w hallforio.
    • Mae Cyrchfan yn eich galluogi i bennu ar gyfer pwy mae’r CTF (yn dibynnu ar y gyrchfan, bydd nodweddion a manylion adnabod y CTF yn wahanol). Dyma’ch opsiynau:
       
      • Ysgol yng Nghymru neu Loegr
      • Ysgol breifat neu annibynnol
      • Cyrchfan anhysbys yng Nghymru a Lloegr
      • Cyrchfan anhysbys y tu hwnt i Gymru a Lloegr
      • Awdurdod Lleol
  • Cliciwch Nesaf i fynd ymlaen i’r cam nesaf.

Awgrym: Wrth greu CTF ar gyfer yr asesiad Derbyn Sylfaenol, dewiswch Cyrchfan Anhysbys. Ni fydd angen i chi ddewis ysgol wedyn.

Screen_Shot_2019-03-25_at_09.53.31.png
 

Yn y blwch llithro nesaf (Cam 2):

  • Dewiswch yr ALl newydd ac enw’r Ysgol Newydd os oes angen
  • Adiwch nodiadau (opsiynol)
  • Yn achos CTFs rhannol/wedi eu teilwra yn unig, defnyddiwch y blychau ticio i Bennu’r Meysydd i’w Cynnwys. Bydd UPN, cyfenw, enw cyntaf, dyddiad geni a rhyw yn gynwysedig bob tro, am fod y meysydd yma’n hanfodol er mwyn i’r CTF fod yn ddilys; rhaid dewis yr adrannau eraill â llaw er mwyn eu cynnwys. Dyma’r adrannau o dan sylw:
     
    • Manylion Sylfaenol
    • Hanes Prydau Ysgol am Ddim
    • Derbyn Gofal
    • Hanes AAA
    • Cyfeiriad y Myfyriwr
    • Rhif Ffôn y Myfyriwr
    • Cyfeiriad E-bost y Myfyriwr
    • Cysylltiadau (Gwarcheidwaid)
    • Data Presenoldeb
    • Data Asesu
    • Hanes o ran Ysgolion
  • Cliciwch ar y botwm Creu CTF gwyrdd.

Methu dewis yr ysgol gywir?

  • Ewch i Ysgol > Sefydliadau Cysylltiedig > Sefydliadau Addysgol i weld a yw’r manylion cywir ar gyfer yr ysgol rydych am anfon y cofnodion ati i’w gweld yno. Os na, gallwch eu hychwanegu.
  • Gwnewch yn siŵr bod yr ysgol rydych am ei dewis ar agor, a bod gennych chi’r rhif cywir ar gyfer yr ALl a rhif yr Adran Addysg yn https://www.get-information-schools.service.gov.uk/. Os yw’r wybodaeth yma’n anghywir, gofynnwch i’r ysgol arall gysylltu â’r Adran Addysg.

Screenshot_2022-04-01_at_15.44.12.png
 

Adnewyddwch eich tudalen nes bod y tabl yn dangos bod y ffeil yn barod i’w lawrlwytho. Fel arall, gallwch glicio ar yr hysbysiad ar y ddewislen ar y chwith yn Arbor (eicon y Gloch) pan fydd yr hysbysiad yn ymddangos.

 

Wrth ddefnyddio’r tabl, cliciwch ‘Barod i Lawrlwytho’, wedyn y botwm, ‘Lawrlwytho’ gwyrdd o’r blwch llithro newydd.

Screenshot_2020-11-24_at_12.54.04.png

Screenshot_2020-11-24_at_12.53.49.png
 

Ni fydd creu CTF yn dadgofrestru myfyriwr; proses ar wahân yw hynny. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr erthygl hon i derfynu cofrestriad eich myfyrwyr.

Gallwch gynhyrchu CTFs yn dorfol hefyd wrth gwblhau Cam 2 o Broses Trefnu’r Flwyddyn Ysgol Newydd.

leaver_destinations.png
 

Sut i anfon y CTF

Darllenwch yr erthygl yma: Sut mae mynd ati i anfon CTF at ysgol newydd?
 

Oes modd golygu’r CTF?

Nid oes modd golygu’r CTF ar ôl ei greu. Os oes angen ei gynhyrchu ar gyfer ysgol wahanol er enghraifft, bydd angen i chi gynhyrchu CTF newydd â chyrchfan newydd.

Rhaid cadw cofnod o’r CTF gwreiddiol. Nid oes modd ei ddileu.
 

Nid yw’r ysgol newydd yn gallu mewnforio’r CTF a gynhyrchwyd?

Yn ail gam y broses o allforio’r CTF, fe welwch chi’r opsiwn i ddewis Fformat eich Cyfeiriad.

Mae mewnforio cyfeiriadau myfyrwyr â fformat ‘Llinellau Cyfeiriad’ o CTF yn achosi problem i rai MIS, sy’n golygu bod angen iddynt adio’r cyfeiriad â llaw. Os yw’r ysgol yn cael trafferth mewnforio’r ffeil, rhowch gynnig ar fformat cyfeiriad BS7666.

Dylid nodi bod yr opsiwn yma ar gael ar gyfer CTFs yn unig, nid CMJ, CML neu ULN, am nad yw’r broblem wedi codi wrth fewnforio’r rhain.
 

Cynhyrchu CML neu CMJ

Anfonir CMJs a CMLs at Awdurdodau Lleol ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer trosglwyddiad i ysgol. Mae’r ffeiliau yma’n bodoli i alluogi ysgolion i gyflawni’r rhwymedigaethau a amlinellir yn Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Lloegr) (Diwygiad) 2016, sy’n cael eu hesbonio yn y canllawiau plant sy’n colli addysg. Mae’r rheoliadau’n mynnu bod ysgolion yn anfon gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi cael eu hychwanegu at gofrestr yr ysgol (CMJ) neu eu dileu o gofrestr yr ysgol (CML) at eu Hawdurdod Lleol, ac eithrio’r rhai ar ddechrau blwyddyn gyntaf neu ar ddiwedd blwyddyn olaf yr addysg y mae’r ysgol yn ei darparu fel rheol. Gall awdurdodau lleol ofyn am y datganiadau hyn o dan amgylchiadau eraill.

 

Cynhyrchu CMJs neu CMLs ar gyfer unigolyn neu fyfyriwr

I greu CMJ, ewch i broffil y myfyriwr. Ar waelod proffil y myfyriwr, bydd adran Swyddogaethau Gweinyddu.

Screen_Shot_2019-01-21_at_11.50.52.png
 

Yn yr adran Swyddogaethau Gweinyddu:

  • Cliciwch y botwm +Adio
  • Ar y naidlen, dewiswch Allforio CMJ (ymuno)
  • Gwiriwch fod enw’r myfyriwr yn y blwch llithro yn gywir
  • Cliciwch y botwm Creu CMJ gwyrdd

 

Caiff eich CML ei gynhyrchu yn y cefndir. Ar ôl ei gynhyrchu, cewch hysbysiad yn y ddewislen ar y chwith (eicon y Gloch). Cliciwch ar yr hysbysiad hwn, a dewis Lawrlwytho ar y blwch llithro i gadw’r CML ar eich dyfais.
 

Cynhyrchu CMJs neu CMLs ar gyfer nifer o fyfyrwyr

Awgrym: Cewch gynhyrchu CMLs ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn unig o’r fan yma. Gallwch ddefnyddio proffil y myfyriwr (mae’r manylion uchod) i greu CMLs ar gyfer cyn-fyfyrwyr.

I gynhyrchu CMLs neu CMJs yn dorfol:

  • Ewch i Ysgol > Data > Allforio > Allforio CTF.
  • Cliciwch ar y tab CML neu CMJ (bydd mynd i’r tab CML yn allforio CMLs, a bydd mynd i’r tab CMJ yn allforio CMJs)
  • Cliciwch +Adio.

Screenshot_2022-10-17_at_16.05.18.png
 

  • Yn y blwch llithro, dewiswch y myfyriwr/wyr rydych am eu hallforio
  • Cliciwch y botwm Creu CMJ gwyrdd

Screenshot_2020-11-24_at_13.01.11.png
 

Bydd hyn yn cynhyrchu’ch ffeil yn y cefndir. Adnewyddwch eich tudalen nes bod y tabl yn dangos bod y ffeil yn barod i’w lawrlwytho. Neu, gallwch glicio’r hysbysiad yn newislen chwith Arbor (eicon y Gloch).

Dylid nodi, er bod yr hysbysiad yn dweud ei fod yn CTF, bydd yn y fformat a ddewiswyd (CML/CMJ). Yr ALl a restrir yw Awdurdod Lleol eich ysgol.

Screenshot_2022-10-17_at_16.06.08.png
 

Wedyn cewch glicio ar ‘Barod i Lawrlwytho’ a’r botwm ‘Lawrlwytho’ gwyrdd o’r blwch llithro newydd..

Screenshot_2020-11-24_at_13.05.21.png
 

Cynhyrchu ULN i’w Allforio

Defnyddir allforio ULN (Rhif Unigryw’r Dysgwr) i geisio ULN newydd ar gyfer myfyrwyr sydd heb gael un eto. Gwasanaeth S2S ULN yr Adran Addysg sy’n cyflawni hyn.

Gallwch ddarllen canllawiau defnyddiwr gwasanaeth S2S ULN yma.

Awgrym: Gwnewch yn siŵr bod holl fanylion y disgybl wedi eu cofnodi a’u sillafu’n gywir er mwyn sicrhau bod S2S yn gallu cynhyrchu/dilysu’r ULN.
 

Cynhyrchu CTF ULN i’w Allforio

  • Ewch i Ysgol > Data > Allforio > Allforio CTF
  • Cliciwch y tab ULN
  • Dewiswch +Adio

 

  • Yn y blwch llithro, dewiswch y Flwyddyn a’r Grŵp/Grwpiau blwyddyn rydych am eu cynnwys wrth allforio.
  • Cliciwch y botwm Creu CTF gwyrdd.

Caiff eich CTF ei gynhyrchu yn y cefndir. Ar ôl ei gynhyrchu, cewch hysbysiad yn y ddewislen ar y chwith (eicon y Gloch). Cliciwch ar yr hysbysiad hwn, a chlicio Lawrlwytho yn y blwch llithro er mwyn cadw’r CML ar eich dyfais.
 

Sut i anfon y CTF

Gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau yng nghanllawiau defnyddwyr gwasnaeth S2S ULN.
 

Sut i adio ULNs yn Dorfol

Darllenwch adran Sut mae mynd ati i adio ULNs yn dorfol yn yr erthygl yma yn y Ganolfan Gymorth.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
4 allan o 19 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.