Trefnu Taliadau â Cherdyn - 1. Cyflwyniad

Mae’r erthygl hon yn cynnig cyflwyniad i drefnu taliadau â cherdyn yn Arbor ar gyfer ysgolion yn y Deyrnas Unedig. Mae’n amlinellu pa ganiatâd sydd ei angen, y gofynion hanfodol ar gyfer defnyddio taliadau â cherdyn yn Arbor, a’r nodweddion talu sy’n gynwysedig mewn amryw o becynnau.

Y canllaw hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o ganllawiau. Dyma’r canllawiau sydd yn y gyfres hon:

  1. Cyflwyniad
  2. Dilysu manylion yr ysgol
  3. Lanlwytho dogfennau’r ysgol
  4. Cofnodi manylion Cyfarwyddwr yr Ysgol
  5. Cofnodi manylion Cynrychiolwyr
  6. Adio cyfrif banc ar gyfer taliadau
  7. Gwirio eich manylion
  8. Cadarnhau a datrys problemau dilysu
  9. Galluogi Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid
  10. Cwestiynau Cyffredin a deunyddiau darllen pellach


    Awgrym: Ansicr ble i ddechrau gyda thaliadau yn Arbor, neu angen cymorth i drefnu taliadau? Rhowch gynnig ar ein Canllaw Cymorth gyda Thaliadau yn yr Ap!
     


Caniatâd

Dyma’r caniatâd sydd ei angen arnoch i drefnu a rheoli Taliadau yn Arbor:

  • Cyllid: Gweinyddu - I gwblhau unrhyw gamau trefnu sydd eu hangen i ddefnyddio taliadau â cherdyn ac i allu ychwanegu at gyfrifon heblaw eich un chi.
  • Cyllid: Gweld - I weld yr holl wybodaeth am daliadau â cherdyn yn Arbor.
  • Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu - I olygu manylion yr ysgol ar y dudalen Ysgol > Manylion yr Ysgol

Os nad oes caniatâd priodol gennych, gofynnwch i’ch tîm gweinyddol roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
 

Pam defnyddio taliadau yn Arbor?

Mae sefydlu taliadau â cherdyn yn Arbor yn eich galluogi chi i gymryd taliadau’n uniongyrchol o fewn eich MIS, gan ddileu’r angen am ddefnyddio rhaglen ar wahân. Gallwch dalu arian i nifer o gyfrifon banc a gweld dadansoddiad manwl am bob taliad, oll â ffi trafod ostyngol o 1.275% + TAW (sy’n rhatach na’r rhan fwyaf o ddarparwyr).
 

Ar gyfer beth y gallwn ni ddefnyddio’r taliadau â cherdyn?

Ar ôl galluogi taliadau â cherdyn, cewch eu defnyddio at amryw o ddibenion, gan gynnwys Clybiau, Teithiau, Prydau Bwyd, taliadau ad hoc, a Siop yr Ysgol (yn dibynnu ar eich pecyn).

Cewch dri chyfrif safonol yn Arbor: Clybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd. Gallwch alluogi taliadau â cherdyn ar gyfer y rhain yn Ysgol > Taliadau > Trefnu > Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid ar ôl cwblhau’r camau trefnu.

Gallwch greu cyfrifon ad hoc ychwanegol hefyd, a gallwch alluogi’r rhain i gymryd taliadau â cherdyn (fel i brynu byrbrydau). Dilynwch ein canllaw yma i’ch helpu chi i wneud hynny.

Screenshot_2022-12-01_at_13.50.26.png
 

Beth sydd ei angen arnoch i drefnu taliadau yn Arbor

Mae swyddogaeth taliadau â cherdyn Arbor ar gael i ysgolion sy’n bodloni’r gofynion hyn yn unig:

  • Rhaid i’r ysgol fod yn y Deyrnas Unedig, heb gynnwys Ynys Manaw.
  • Rhaid i’r ysgol fod â chyfrif banc sy’n derbyn taliadau trwy BACS neu ddebyd uniongyrchol
  • Rhaid i’r ysgol fod ar unrhyw un o’n pecynnau Perform, neu ein pecyn Comms diweddaraf.

    Os ydych chi am uwchraddio i becyn newydd neu gael gwybodaeth am eich pecyn cyfredol cysylltwch â customersales@arbor-education.com

Yn ogystal â’r uchod, bydd gofyn i chi ddarparu amryw o ddogfennau yn ystod y broses hefyd. Mae’r wybodaeth y byddwn ni’n gofyn i chi ei darparu yn y cyfarwyddiadau hyn yn angenrheidiol i gyflawni dilysiad ‘Adnabod eich Cwsmer’ sy’n ofyniad cyfreithiol.

Gallwn ofyn i chi ddarparu:

Tystiolaeth o gyfeiriad yr ysgol - Dogfen swyddogol sy’n cadarnhau cyfeiriad yr ysgol. Gallech ddefnyddio rhywbeth fel adroddiad arolwg Estyn (delfrydol), bil cyfleustod yn enw eich ysgol, dogfen gan eich banc yn enw eich ysgol, dogfen swyddogol gan Dŷ’r Cwmnïau neu ddogfen gan y Comisiwn Elusennau.

Dogfen Adnabod â Llun arni gan Gynrychiolydd yr Ysgol neu Gyfarwyddwr - Dogfen adnabod â llun arni yw un o’r dogfennau mwyaf cyffredin y gofynnir amdani ar gyfer Cynrychiolydd eich Ysgol (mae hyn yn llai tebygol yn achos Cyfarwyddwyr). Mae’r dogfennau derbyniol yn cynnwys Pasbort (delfrydol), Trwydded Yrru neu Ddogfen Adnabod arall gan y Llywodraeth (y blaen a’r cefn).

Rhaid i un o’ch cyfarwyddwyr fod yn Bennaeth yr ysgol yn unol â gofynion Adnabod eich Cwsmeriaid ein darparydd taliadau (Stripe). Peidiwch ag enwebu eich Pennaeth fel Cynrychiolydd eich Ysgol.

Manylion banc eich Ysgol - Cofiwch fod â’r rhain wrth law, am y gellir gofyn i chi ddarparu enw deiliad y cyfrif, rhif y cyfrif, y cod didoli a mwy.

Rydyn ni wedi atodi ffeil y gallwch ei lawrlwytho sy’n rhestru’r holl ofynion ar gyfer trefnu’ch taliadau â cherdyn. Gallwch lawrlwytho’r rhestr a thicio’r eitemau fel y bo angen.
 

Pa gamau y mae angen i mi eu cymryd yn ystod y broses drefnu?

Y cam cyntaf wrth drefnu eich taliadau â cherdyn yw cyflwyno dogfennaeth eich ysgol i’w dilysu gan ein partner taliadau, Stripe. Bydd Canllawiau 2 i 8 yn ein cyfres Trefnu Taliadau - Cam wrth gam yn eich tywys chi trwy’r rhan yma.

Ar ôl cyflwyno’r dogfennau dilysu, bydd angen i chi nodi pa fathau o gyfrifon rydych chi am eu defnyddio ar gyfer taliadau â cherdyn trwy eu dilysu, ac mae’r nawfed ganllaw yn y gyfres yn trafod hynny.

Dyma ddiwedd y canllaw cyntaf yn ein cyfres Trefnu Taliadau â Cherdyn. Y canllaw nesaf yn y gyfres hon yw Trefnu Taliadau â Cherdyn - 2. Dilysu manylion yr ysgol

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
53 allan o 106 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.