[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Mae Ap Myfyrwyr Arbor yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad at eu calendrau, eu negeseuon mewn ap a mwy o wybodaeth bwysig i’w helpu yn eu bywyd ysgol o ddydd i ddydd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r Ap Myfyrwyr, cysylltwch â’ch ysgol.
Student App not ready CY
Lawrlwytho’r ap myfyrwyr
Mae Ap Myfyrwyr Arbor a ryddhawyd yn ddiweddar ar gael ar gyfer iOS ac Android a gall myfyrwyr ysgolion cynradd ac uwchradd ei ddefnyddio wedi i fynediad at yr ap gael ei ganiatáu gan yr ysgol.
Mewngofnodi
Pan fydd eich ysgol yn troi’r Ap Myfyrwyr ymlaen, gallwch fewngofnodi i’r ap gan ddefnyddio manylion mewngofnodi eich Porth Myfyrwyr. Os nad ydych wedi derbyn eich manylion mewngofnodi ar gyfer yr Ap Myfyrwyr, cysylltwch â’ch ysgol.
Gallwch chi hefyd dapio ar y botwm Cofio fi sy’n eich galluogi i ddefnyddio dull mewngofnodi biometrig (ôl bys neu adnabod wyneb) i gael mynediad yn y dyfodol, gan arbed amser wrth fewngofnodi.
Defnyddio’r ap myfyrwyr
Calendr
Mae adran y calendr yn galluogi myfyrwyr i weld digwyddiadau sydd ar fin cael eu cynnal sydd wedi eu cofnodi yn eu hamserlenni, fel gwersi, ciniawau a chlybiau. Bydd pob digwyddiad calendr yn arddangos yr enw, yr ystafell, yr amser a’r dyddiad, a’r aelod staff sy’n ei arwain.
I lywio trwy’r calendr, gallwch dapio ar ddosbarthiadau i weld mwy o wybodaeth, sweipio i’r chwith a’r dde i weld dyddiadau yn y gorffennol a’r dyfodol neu dapio ar y dyddiadau ar dop y sgrin i neidio’n syth at y dyddiad a ddewiswyd.
Gallwch chi dapio ar y bar gwyrdd o dan ddyddiadau’r calendr i ehangu’r olwg hon a gweld y mis calendr cyfan. Gallwch sweipio i’r chwith a’r dde i lywio trwy fisoedd y calendr neu dapio ar y saethau ar dop y sgrin i newid y mis.
Gallwch chi hefyd dapio ar fotwm Heddiw i ddychwelyd at y calendr ar gyfer y diwrnod presennol.
Negeseuon
Mae’r tab negeseuon yn galluogi myfyrwyr i weld yr holl negeseuon mewn ap sy’n cael eu hanfon atoch gan yr ysgol. Bydd negeseuon yn dangos y pwnc ar y dudalen hon, a gallwch dapio ar neges i weld ei chynnwys. Nid oes unrhyw swyddogaeth i ymateb i negeseuon mewn ap ar hyn o bryd.
Wrth weld neges, tapiwch ar y saeth < ar dop y dudalen ar yr ochr chwith i ddychwelyd at eich mewnflwch negeseuon.
Gofyn i Arbor (Ask Arbor)
Sylwer: Mae’r nodwedd hon yn beta o hyd ac efallai na fydd y nodwedd hon wedi’i galluogi mewn rhai ysgolion. Cysylltwch â’ch ysgol i gael mwy o wybodaeth.
Mae Gofyn i Arbor (Ask Arbor) yn gynorthwywr Deallusrwydd Artiffisial (AI) gosodedig sy’n gallu ateb cwestiynau wedi’u mewnbynnu gan fyfyrwyr. Gall myfyrwyr ofyn cwestiynau am wersi sydd ar ddod, a bydd Gofyn i Arbor (Ask Arbor) yn rhoi atebion manwl yn cynghori myfyrwyr ar beth mae angen iddynt ei wybod. Er enghraifft, gallwch ofyn i Gofyn i Arbor (Ask Arbor) AI a fydd angen i chi gael eich cit Addysg Gorfforol ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos, a bydd Gofyn i Arbor (Ask Arbor) yn eich cynghori ynglŷn â ph’un a oes gennych chi unrhyw wersi Addysg Gorfforol cyn bo hir ai peidio.
Aseiniadau, Presenoldeb ac Ymddygiad
Yn yr adran Ysgolion yn yr Ap Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i Aseiniadau, Presenoldeb ac Ymddygiad. Gallwch dapio ar y rhain i weld mwy o wybodaeth.
Aseiniadau
Yn yr adran Aseiniadau ar y dudalen, gallwch weld rhestr o’ch Aseiniadau, eu dyddiadau dyledus, a’u statws, er enghraifft Wedi Cyflwyno neu Yn Aros iddo gael ei Gyflwyno.
Gallwch dapio ar aseiniad i weld mwy o fanylion, yn cynnwys y dyddiad dyledus, ar gyfer pa gwrs mae’r aseiniad, a’r cyfarwyddiadau ar gyfer yr aseiniad. Gallwch hefyd lawrlwytho unrhyw atodiadau sydd wedi cael eu hychwanegu gan eich athro.
Pan fyddwch chi wedi gorffen aseiniad, gallwch chi sweipio i farcio bod yr aseiniad wedi’i gwblhau.
Ymddygiad
Mae adran Ymddygiad yr ap myfyrwyr yn eich galluogi i weld yr holl ddigwyddiadau ymddygiadol sydd wedi’u cofnodi, a gweld tueddiadau dros wythnos, tymor neu flwyddyn. Mae’r saeth sy’n pwyntio i fyny yn dangos cynnydd mewn digwyddiadau a gofnodwyd o’r wythnos ddiwethaf / y tymor diwethaf / y flwyddyn ddiwethaf, mae dwy linell lorweddol yn golygu bod yr un faint o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi, a saeth tuag i fyny yn golygu bod nifer y digwyddiadau wedi cynyddu.
Gallwch chi hefyd dapio ar Linell Amser ar dop y dudalen ar yr ochr dde i weld rhestr o’r holl ddigwyddiadau a gofnodwyd a’r dyddiadau.
Presenoldeb
Gallwch chi weld eich ystadegau presenoldeb ar y dudalen hon a gweld a yw eich presenoldeb yn well neu’n waeth na’r wythnos flaenorol.
Gallwch chi hefyd dapio ar y botymau Wythnos, Tymor a Blwyddyn ar dop y dudalen i weld tueddiadau yn eich presenoldeb dros y cyfnodau amser hyn.
Gallwch chi hefyd weld y gwersi yr ydych wedi eu mynychu mewn rhestr yn yr adran Llinell Amser ar dop y dudalen ar yr ochr dde. Mae hyn yn eich galluogi i ddewis unrhyw ddyddiad a gweld eich presenoldeb ar gyfer pob gwers ar y diwrnod hwnnw.
Manylion am y cyfrif ac allgofnodi
I weld manylion am eich cyfrif, tapiwch y tair llinell ar dop y sgrin ar yr ochr chwith ac wedyn dewis Cyfrif. Yma, gallwch weld eich manylion sylfaenol ac rydych chi hefyd yn allgofnodi o’r Ap Myfyrwyr.
Os ydych chi wedi cofrestru mewn mwy nag un ysgol sydd hefyd wedi galluogi’r Ap Myfyrwyr, gallwch dapio ar Newid Cyfrifon i newid pa ysgol rydych chi wedi mewngofnodi ynddi, gan eich galluogi i weld gwybodaeth bwysig yn ddi-dor ar draws safleoedd heb fod angen allgofnodi’n llawn a mewngofnodi’n ôl eto.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.