Y Porth Myfyrwyr – Cynghorion cyflym ar gyfer myfyrwyr

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Wedi i chi fewngofnodi i’r porth myfyrwyr, gallwch chi ddechrau archwilio! Gan ddefnyddio’r porth myfyrwyr, gallwch chi:

  • Weld pa ddigwyddiadau sydd gennych chi ar y gweill
  • Gweld pa ddosbarthiadau rydych chi’n eu cymryd
  • Gweld eich cyfraddau presenoldeb ac ymddygiad
  • Gweld Datganiadau mynediad, Amserlenni arholiadau a Datganiadau canlyniadau
  • Gweld cardiau adroddiad y mae eich ysgol wedi eu rhannu gyda chi
  • Gweld pa aseiniadau gwaith cartref sydd gennych chi ar y gweill, a pha rai sy’n hwyr
  • Cyflwyno aseiniadau wedi’u cwblhau
  • Gweld eich marciau aseiniadau a sylwadau 

Edrychwch ar y fideo a’r adrannau isod i weld cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddefnyddio eich Porth Myfyrwyr!


Beth sydd ar Ddangosfwrdd Arbor?

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi, y dudalen gyntaf y byddwch yn ei gweld yw eich Dangosfwrdd Arbor, y gallwch gael mynediad at holl ardaloedd y Porth Myfyrwyr ohono. 

Gan ddefnyddio’r ddewislen ar y top, gallwch chi gael mynediad at eich eitemau i fynd at eich calendr neu’ch cyfrif, edrychwch ar yr adrannau isod i gael mwy o fanylion. Gallwch chi allgofnodi, hefyd.

 

Yn yr adran Calendr, dangosir eich digwyddiadau diwethaf a’ch digwyddiadau nesaf. Gallwch chi hefyd weld yr holl ddigwyddiadau sydd gennych chi ar y gweill ar gyfer heddiw, ac ym mha ystafell y byddant yn cael eu cynnal, yn ogystal.

 

Ar y brif dudalen, gallwch chi weld eich presenoldeb, a faint o bwyntiau ymddygiad a ddyfarnwyd i chi. Gallwch chi hefyd weld eich aseiniadau – edrychwch ar yr adran isod i gael mwy o fanylion.

 

Yn yr adran Fy Nghyrsiau, gallwch chi weld pob un o’r dosbarthiadau yr ydych chi wedi’ch cofrestru ynddynt. Cyngor Da: Gallwch chi glicio ar y cwrs i weld mwy o wybodaeth, yn cynnwys ar gyfer pryd y mae’r wers olaf wedi’i threfnu.

 


Gweld gwybodaeth am arholiadau

Os byddwch yn mynd i Fy Eitemau > Fy Arholiadau, gallwch chi weld a lawrlwytho eich Datganiadau mynediad, Amserlenni arholiadau a Datganiadau canlyniadau wedi i’ch ysgol rannu’r rhain â chi.

 

Byddwch chi hefyd yn gweld eich arholiadau wedi eu hamserlennu yn eich calendr.

 


Gweld Cardiau Adroddiadau

Os byddwch chi’n mynd i Fy Eitemau > Fy Adroddiadau, gallwch chi weld a lawrlwytho unrhyw gardiau adroddiadau o eleni neu blynyddoedd blaenorol y mae eich ysgol wedi dewis eu rhannu â chi.

 

Dewiswch y cerdyn adroddiadau, wedyn clicio ar y botwm Lawrlwytho.

 

Wedyn, bydd y ddogfen PDF yn cael ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur, lle gallwch ei hagor.

 


Ailosod eich cyfrinair a gweld eich calendr

Os byddwch chi’n mynd i Fy Eitemau > Fy Nghyfrif, gallwch chi weld eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair presennol. Cliciwch i newid y cyfrinair y byddwch yn ei ddefnyddio y tro nesaf y byddwch chi’n mewngofnodi.

 

I weld calendr llawn o’ch digwyddiadau, ewch i Fy Eitemau > Fy Nghalendr

I newid y dyddiad, cliciwch ar eicon y Calendr i neidio ymlaen a gweld beth sydd ar y gweill, neu defnyddiwch y botymau i edrych ar heddiw, yr wythnos hon neu’r mis hwn.

Cyngor Da: Dylech hofran dros ddigwyddiad i gael mwy o fanylion, neu edrych ar y lleoliad trwy ddewis gweld y Diwrnod.

 

 

Ar gyfer clybiau gofal cofleidiol, sylwch y bydd y digwyddiad calendr yn ymestyn dros y sesiwn gyfan. Gallwch hofran dros y digwyddiad i weld gwir amseroedd sesiynau.

 


Aseiniadau

Os oes gennych chi unrhyw waith cartref (o’r enw Aseiniadau yn Arbor), byddwch yn gweld hyn ar eich Dangosfwrdd Arbor. Cliciwch ar yr aseiniad i weld mwy o fanylion.

 

Bydd pob statws cyflwyno yn dweud 'Yn aros i’r myfyriwr gyflwyno' (p’un a ydych chi’n gallu cyflwyno trwy’r Porth Myfyrwyr neu wyneb yn wyneb yn unig) hyd nes bydd wedi cael ei farcio gan eich athro.

Byddwch chi’n gallu gweld ar gyfer pa ddosbarth mae’r aseiniad, yn ogystal â’r dyddiad cyflwyno a’r dasg sy’n ofynnol. Os yw’r athro wedi anfon unrhyw adnoddau i chi eu defnyddio, byddant hefyd yn dangos yma i chi eu lawrlwytho.

 

I gyflwyno eich aseiniad cyflawn, cliciwch y blwch. Dewiswch y ffeil, wedyn ei lanlwytho.

 

Peidiwch â phwyso Marcio fel Wedi’i Gyflwyno hyd nes byddwch chi wedi lanlwytho pob un o’ch ffeiliau, gan na fyddwch chi’n gallu mynd yn ôl ac ychwanegu mwy yn ddiweddarach!

I ddileu ffeil, cliciwch ar eicon y bin.

 

 

Wedi i chi gyflwyno’ch aseiniad, byddwch yn gweld ei fod yn dweud ei fod yn aros i gael ei farcio gan yr athro.

 

Wedi i’ch athro farcio eich aseiniad, bydd yn dangos ar eich Dangosfwrdd Arbor ei fod wedi’i farcio.

 

Gallwch chi glicio yn yr aseiniad i weld eich marc ac unrhyw sylwadau.

 

A alla’ i weld dadansoddiad o ba wersi y mae fy mhwyntiau ymddygiad yn dod?

Na allwch. Nid yw Arbor yn caniatáu’r swyddogaeth hon yn y Porth Myfyrwyr ar hyn o bryd.

Yn cael trafferth defnyddio’r Porth Myfyrwyr? Gall Arbor ond gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion, felly os ydych chi’n cael trafferth, cysylltwch â swyddfa eich ysgol. Bydd eich ysgol yn gallu eich helpu gyda mwyafrif y cwestiynau a allai fod gennych, ac os na, bydd yn cysylltu â’n tîm cymorth i gael cymorth

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
54 allan o 238 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.