Canllawiau Arbor i Gwsmeriaid ar Gydymffurfio â Diogelu Data

Mae’r Canllawiau ar Gydymffurfio â gofynion Diogelu Data yn amlinellu sut mae Arbor yn dilyn egwyddorion GDPR, ac yn disgrifio’r mesurau diogelwch, yr arferion rheoli data a’r offer cydymffurfiaeth sydd ar gael i ysgolion. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd ‘preifatrwydd trwy ddyluniad’ ac yn darparu gwybodaeth am storio data, rheoli mynediad, ac integreiddiadau trydydd parti er mwyn sicrhau bod data personol yn cael ei amddiffyn a’i reoli’n effeithiol.

Mae GDPR yn troi’r egwyddor ‘preifatrwydd trwy ddyluniad’ yn gyfraith, sy’n golygu y dylai nodweddion sy’n gwella preifatrwydd fod yn rhan annatod o sut mae system yn cael ei hadeiladu. Rydyn ni’n dilyn yr egwyddor hon yn Arbor.

Mae’r erthygl hon yn esbonio ein polisïau o ran diogelu data ar gyfer ein holl gynhyrchion, gan gynnwys ein nodweddion, egwyddorion a phrosesau diogelwch. Bydd yn ateb unrhyw bryderon sydd gennych, dim ots a ydych chi’n bennaeth, yn arweinydd MAT neu’n Swyddog Diogelu Data.

  • I weld trosolwg o sut rydyn ni’n diogelu eich data, ewch i’n gwefan.
  • Mae gennym ni dempled Asesu Effaith Diogelu Data (DPIA)(DPIA) yma i’ch cynorthwyo chi os penderfynwch chi gyflawni DPIA mewn perthynas â defnyddio’ch MIS: Templed DPIA
     

Trosolwg

Mae Arbor yn cydymffurfio’n llwyr â gofynion y GDPR, gan diogelu’r data rydym ni’n ei storio â System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth gynhwysfawr y mae’r Sefydliad Safoni Ryngwladol (ISO) yn ei harchwilio’n flynyddol. Mae’r system hon yn cael ei llywodraethu gan ein Pwyllgor Rheoli Diogelwch Gwybodaeth, sy’n cynnwys uwch reolwyr ar draws amryw o feysydd o’r busnes.

  • Mae diogelwch ffisegol yn cael ei gynnal trwy gyflawni asesiadau risg a rheoli mynediad yn holl swyddfeydd Arbor. Mae mynediad i leoliadau Arbor yn cael ei gyfyngu trwy ddefnyddio allweddi diogel, CCTV, personél diogelwch 24/7 a mynedfeydd diogel.
  • Mae diogelwch digidol yn cael ei gynnal nid yn unig trwy hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer ein staff a gwyliadwriaeth bersonol, ond hefyd trwy nifer o gamau diogelu digidol. Mae ein holl systemau busnes yn gofyn am ddilysu deublyg. Cedwir data ar system ganolog Arbor yn hytrach nag unrhyw ddyfais unigol, felly gall ysgolion ganiatáu a diddymu caniatâd i wahanol ddefnyddwyr.

Mae gan MIS Arbor nifer o offer i’ch helpu chi i gynnal cydymffurfiaeth eich ysgol â’r GDPR.

  • Dangosfyrddau ansawdd data sy’n helpu i gadw data personol yn gywir.
  • Gallwch roi trefniadau cylchdroi cyfrineiriau mewn grym ar gyfer eich staff, a gall penaethiaid a gweinyddwyr systemau weld hanes mewngofnodi er mwyn rheoli mynediad.
  • Caniatâd manwl yn seiliedig ar rolau, er enghraifft fel na all unigolyn sy’n gallu gweld statws amddiffyn plant myfyriwr weld na golygu dogfennau sy’n ymwneud â’r statws yna o reidrwydd.
  • Gellir rhoi trefniadau dilysu deublyg mewn grym ar gyfer eich staff ar gais, yn ogystal â threfniadau sy’n eu gorfodi i newid eu cyfrineiriau’n rheolaidd (nid yw hyn ar gael ar gyfer y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni): Dilysu deublyg
  • Swyddogaeth Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun, fel bod modd lawrlwytho gwybodaeth am destun data (boed yn aelod o staff, myfyriwr neu warcheidwaid) ag un clic: Lawrlwytho Proffiliau

Mae Dangosfyrddau Cadw Data ar gyfer cofnodion personol yn tynnu sylw at gofnodion sydd wedi mynd heibio i’r amserlenni ar gyfer cadw data fel y gellir eu dileu yn dorfol. Rheoli cadw data ar gyfer data eich MIS
 

Ein hardystiadau

Mae gennym ardystiadau ar gyfer:

  • ISO 9001 – Y safon aur ryngwladol ar gyfer Systemau Rheoli Ansawdd. Mae’n helpu sefydliadau i sicrhau bod eu prosesau’n cydymffurfio â’r safonau trylwyr ar gyfer sicrhau ansawdd, a’u bod yn fesuradwy o effeithiol. Rhaid cael archwiliad llwyddiannus bob blwyddyn er mwyn cynnal yr ardystiad. Rhif y dystysgrif 411702023.
  • ISO 27001 - Y safon ryngwladol ar gyfer Systemau Rheoli Diogelwch Gwybodaeth. Mae’n cynnwys nifer fawr o fesurau rheoli y mae’n rhaid i sefydliad eu rhoi ar waith, gan ystyried popeth o sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin i ddiogelwch ffisegol y lleoliadau lle mae’r wybodaeth yn cael ei storio neu ei phrosesu. Er mwyn cynnal ardystiad, rhaid cael archwiliad annibynnol llwyddiannus bob blwyddyn. Rhif y dystysgrif 343312020.
  • Mae gan ddarparydd seilwaith ein prif gyfrifiadur, Amazon Web Services, ardystiad ISO 27001, ISO 27017 ac ISO 27018 hefyd.
  • Cyber Essentials - Cynllun effeithiol wedi ei gynnal gan y Llywodraeth yw Cyber Essentials. Mae’n helpu i amddiffyn sefydliadau, bach a mawr, rhag pob math o seiber-ymosodiau cyffredin. Rhif y dystysgrif 8bac4635-7801-4d04-9fbd-8b2708bbc524.
  • Rydyn ni ar restr cyflenwyr cwmwl yr Adran Addysg, a’r rhestr G-Cloud o gyflenwyr cwmwl cymeradwy.
  • Gallwch ddod o hyd i’n tystysgrifau trwy glicio’r linciau ar waelod yr erthygl hon. Mae’r ardystiadau hyn yn golygu bod ein dulliau o reoli diogelwch yn cael eu harchwilio i’r safonau rhyngwladol uchaf bob blwyddyn.
     

Storio data a’n partneriaid

Sut ydyn ni’n storio data?

Mae MIS Arbor yn cael ei gynnal yn llwyr ar y cwmwl ar brif gyfrifiaduron Amazon Web Services UK. Mae’r holl ddata personol yn cael ei storio’n ffisegol yn y DU. Mae storfeydd wrth gefn yn cael eu storio yn y DU hefyd.

Cedwir ein saernïaeth i gyd mewn rhwydwaith breifat â wal dân er mwyn atal mynediad allanol a chynyddu diogelwch. Mae MIS yr ysgol yn gweithredu model cronfa ddata un tenant - sy’n golygu bod y data yma’n cael ei gadw ar wahân i gwsmeriaid eraill yn ein cronfa ddata a’n haenau parhad. Mae mynegiadau’n cael eu hailgylchu’n ddyddiol er mwyn lleihau’r perygl o fygythiadau parhaus, ac mae’r holl brif gyfrifiaduron yn cael eu diweddaru’n rheolaidd â’r patsys diogelwch diweddaraf. Rydyn ni’n defnyddio dulliau amgryptio safonol y diwydiant ar gyfer trosglwyddo data a data disymud gan ddefnyddio’r algorithm AES-256.
 

A yw gweddill ein cadwyn gyflenwi’n ddiogel?

Mae Arbor yn cadw contractau cefn wrth gefn gyda’n his-gontractwyr fel bod yr holl bolisïau a chyfrifoldebau o ran diogelu data yn llifo i lawr iddynt, sy’n golygu bod holl ddata ysgolion yn cael ei gadw’n ddiogel. Mae’r safonau yma’n cael eu hadnewyddu bob blwyddyn, gan gadw’r amddiffyniad yn gyfredol.

Peirianwyr sy’n gweithio yn Arbor Education Partners d.o.o, is-gwmni sy’n llwyr eiddo i Arbor Education Partners Group Ltd, sy’n cynnal seilwaith ein prif gyfrifiadur. Maen nhw’n dilyn yr un gweithdrefnau diogelwch sy’n cydymffurfio â’r GDPR â’n staff canolog, a holl ofynion diogelwch ein prif gyfrifiadur hefyd. Mae angen allweddi cryptograffig diogel ar ein peirianwyr i gyrchu’r prif gyfrifiaduron o bell, ac mae’r rhain yn unigryw i bob peiriannydd.
 

Beth yw ein polisi ar gyfer apiau trydydd parti?

Gall Arbor gymryd lle llawer o’r rhaglenni trydydd parti y mae ysgolion yn eu defnyddio ochr yn ochr â’u MIS etifeddol, ond rydyn ni’n croesawu integreiddiad gan eich proseswyr eraill trwy ein RESTful API agored. Ar ôl archwilio eich apiau am gydymffurfiaeth, gallant wneud cais i fod yn bartner cymeradwy i Arbor.

Ni fydd neb yn gallu cyrchu data eich ysgol sydd wedi ei storio ar Arbor heb ganiatâd ysgrifenedig penodol eich ysgol.

Mae rhestr o sefydliadau trydydd parti sydd eisoes wedi eu cymeradwyo yma: Integreiddiadau API Trydydd Parti Arbor. Gallwch gael grant neu wrthod mynediad i’r partneriaid rydych chi’n eu defnyddio, a diddymu eu mynediad unrhyw bryd. Rhaid i’n holl bartneriaid brofi eu cydymffurfiaeth eu hunain â’r GDPR, ac yn benodol y model caniatâd trylwyr sydd ond yn cynnig mynediad at ddata i’r rhai sydd ei angen.

Cyfrifoldeb y partner yw cynnal ansawdd eu hintegreiddiad ag Arbor wedyn. Os ydyn ni’n ymchwilio i broblem ar eich rhan, ac yn credu eu bod yn broblem ar un o’ch prosesyddion integredig mewn gwirionedd, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl fel y gallwch godi’r mater gyda nhw yn uniongyrchol.
 

Ein His-broseswyr Awdurdodedig

Gwasanaeth/ gwerthwr Trydydd Parti Pwrpas Perthynas Lleoliad Prosesu
AC PM LLC (yn masnachu fel Postmark) Dosbarthwr dibynadwy e-byst system awtomatig i ddefnyddwyr Arbor Workflows Cyflenwr UDA
AWS Amazon Prif Gyfrifiaduron / Argaeledd Uchel Cyflenwr DU
Atlassian Tocynnu a thracio problemau Cyflenwr DU / AEE
Bubble Group, Inc. Offeryn rhaglennu gweledol a phlatfform cwmwl ar gyfer Arbor Workflows Cyflenwr UDA
DataDog Cofnodi ac Arsylwi Cyflenwr UDA
Docraptor Cynhyrchu PDFs Cyflenwr UDA
Entrust Hyfforddi cwsmeriaid a chyflwyno cwsmeriaid Is-gontractwr DU
Fivetran Cynorthwyo’r storfeydd mewnol a dadansoddi Cyflenwr DU
Gainsight (Ce) Platfform hyfforddiant ac addysg Cyflenwr DU
Gainsight (Cs) Cyflwyno, iechyd cwsmeriaid a newyddlenni Cyflenwr DU
Gainsight (Px) Defnyddio a dadansoddi cynnyrch Cyflenwr DU
Google Cloud Geogodio Cyflenwr DU
Google Gemini Offeryn defnyddiwr model iaith mawr (LLM) Cyflenwr DU / AEE
Herts for Learning Hyfforddi cwsmeriaid a chyflwyno cwsmeriaid Is-gontractwr DU
Kickbox Dilysu cyfeiriadau e-bost Cyflenwr DU / AEE / UDA
Loqate Dilysu cyfeiriadau post Cyflenwr DU
Microsoft Azure Gwasanaethau Hunaniaeth a Deallusrwydd Artiffisial Cyflenwr DU
OnePilot Cymorth i Gwsmeriaid Is-gontractwr DU
PDFMonkey Cynhyrchu PDFs awtomatig ar gyfer Arbor Workflows Cyflenwr AEE (Ffrainc ac Iwerddon)
Philo Labs (yn masnachu fel ‘Birdie’) Recordio sgriniau i gynorthwyo tîm cymorth Arbor Cyflenwr AEE
SBS (School Business Services) Hyfforddi cwsmeriaid a chyflwyno cwsmeriaid Is-gontractwr DU
Salesforce Gwybodaeth am werthiannau i gwsmeriaid Cyflenwr DU / AEE
Schools ICT Hyfforddi cwsmeriaid a chyflwyno cwsmeriaid Is-gontractwr DU
Sentry Cofnodi Cyflenwr DU / AEE
Services 4 Schools Hyfforddi cwsmeriaid a chyflwyno cwsmeriaid Is-gontractwr DU
Snowflake Offeryn darparydd Storio, Dadansoddeg a Model Iaith Mawr (LLM) Cyflenwr DU / AEE / UDA
Cyngor Sir Gwlad yr Haf Hyfforddi cwsmeriaid a chyflwyno cwsmeriaid Is-gontractwr DU
Stripe Prosesu taliadau Cyflenwr DU / AEE / UDA
Supabase, Inc Gwasanaethau cronfeydd data ac offer mewn perthynas â datblygu Arbor ac Arbor Workflows Cyflenwr DU
Twilio Sendgrid Darparydd e-bost Cyflenwr UDA
Vonage Darparydd SMS Cyflenwr DU / AEE / UDA
Zendesk Gwasanaethau cymorth i gwsmeriaid Cyflenwr DU / AEE / UDA
Statuspal Monitro statws platfformau Cyflenwr DU / AEE / UDA
OpenAI Offeryn defnyddiwr model iaith mawr (LLM) Cyflenwr UDA

 

Staff Arbor

Amcan ein polisi mynediad, ar gyfer ysgolion a’n staff ein hunain, yw bod pob defnyddiwr ond yn cael caniatâd i gyrchu lefel y data sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith, a hynny ond am gyhyd ag y bo’i angen arnynt. Mae’r holl bolisïau hyn yn cael eu harchwilio yn rhan o’n hardystiad ISO 27001 hefyd.

  • Polisi Rheoli Mynediad Arbor - Nid yw ein Polisi Rheoli Mynediad yn caniatáu mynediad i unrhyw systemau oni bai bod angen busnes sy’n cyfiawnhau hynny. Mae gan bob system berchennog busnes a pholisi sy’n llywodraethu pwy gaiff fynediad a pha gyfiawnhad sydd yna dros roi mynediad blaenoriaeth i ddefnyddiwr.
  • Archwilio a hyfforddi ein staff - Mae ein holl staff a chontractwyr yn cael archwiliad DBS, ac mae angen dau eirda ar weithiwr cyn y gallant ddechrau gwaith gyda ni. Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant diogelu data ac ymwybyddiaeth am ddiogelwch gwybodaeth yn rhan o’u cyflwyniad, wedyn hyfforddiant atgoffa blynyddol sy’n cael ei ategu gan ein rhaglen o hyfforddiant proffesiynol sy’n cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth am ddiogelwch rheolaidd. Mae gan yr holl staff sy’n ymwneud â rheoli diogelwch gwybodaeth brofiad sylweddol o’r diwydiant, a hyfforddiant ffurfiol ar y sgiliau sydd eu hangen.
  • Diddymu Caniatâd – Pan fydd gweithwyr yn gadael Arbor, caiff eu mynediad at yr holl systemau busnes ei ddiddymu yn rhan o’r broses ymadael. Rydyn ni’n cyflawni archwiliadau rheoli mynediad lled-flynyddol ar bob system busnes, ac mae mynediad y defnyddwyr hynny â chaniatâd Lefel perchennog busnes neu weinyddwr yn cael ei adolygu bob chwarter.
     

Rheoli data ar yr MIS

Cydymffurfio â Cheisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun

Bydd Arbor yn gwneud pob ymdrech resymol i’ch helpu chi i gael beth sydd ei angen arnoch gan ein system, mae hyn yn cynnwys eich helpu chi i gydymffurfio â Cheisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun mewn ffordd ddiogel.

Yn wahanol i rai systemau MIS etifeddol sy’n cadw gwahanol fathau o ddata mewn amrywiaeth o wahanol fannau ar draws eich ysgol, gall Arbor ddangos yr holl wybodaeth y mae gennych ganiatâd i’w chyrchu am fyfyriwr, aelod o staff neu warcheidwad o’u tudalen proffil yn uniongyrchol: Ffeil Cais am Wybodaeth, Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR) neu Gais Rhyddid Gwybodaeth.

Gallwch hyd yn oed ddileu’r holl wybodaeth am staff o’r lawrlwythiad gan ddefnyddio un blwch ticio er mwyn amddiffyn testunau eraill eich data mewn perthynas â cais.
 

Sut gellir dileu data o Arbor?

Gall ysgolion defnyddio ein dangosfwrdd Cadw Data Myfyrwyr a Staff i’w cynorthwyo i gydymffurfio â’u cyfrifoldeb i ddileu data diangen o dan y GDPR.

Darllenwch ein canllawiau llawn ar ddefnyddio’r nodwedd yma, a beth i’w wneud os nad yw’r cyfnod gofynnol ar gyfer ei gadw wedi dod i ben eto: Rheoli cadw data ar gyfer data eich MIS 
 

A allwn ni gadw copi wrth gefn o’r data rhag ofn ei fod yn cael ei ddileu?

Bydd Arbor yn gallu adfer y system i unrhyw bwynt yn y 30 diwrnod diwethaf os oes data’n cael ei ddileu trwy ddamwain, rhag ofn eich bod chi’n dileu rhywbeth ac yn methu â’i gywiro gan ddefnyddio ein hoffer golygu pwrpasol.

Codir tâl am hyn os yw’r broblem wedi codi oherwydd camgymeriad ar ochr y defnyddiwr neu ddiffyg diwydrwydd dyledus ar ochr yr ysgol. Cysylltwch â ni os oes angen i chi wneud cais am hyn, neu i gael rhagor o fanylion am y taliadau.

Fodd bynnag, mae achosion fel hyn yn brin iawn diolch i’n rhybuddion pwrpasol rhag dileu data.
 

Beth os ydyn ni am adael Arbor?

Os ydych chi am derfynu eich contract gydag Arbor ar ddiwedd Cyfnod eich Trwydded, a’ch bod wedi rhoi’r 90 diwrnod o rybudd ysgrifenedig sy’n ofynnol i beidio ag adnewyddu’r Gwasanaeth, bydd cyfnod o 30 diwrnod gennych ar ôl terfynu i ni allforio eich data i MIS newydd.

Gallwn ddarparu eich data fel cronfa ddata ategol gyflawn, naill ai:

  • gan ddefnyddio ein RESTful API agored
  • trwy godi data gan ddefnyddio cronfa ddata MYSQL
  • yn uniongyrchol i chi mewn fformat ffeil CTF safonol
  • yn uniongyrchol i chi mewn ffeil CSV

Caiff eich holl ddata ei ddileu yn llwyr o’n prif gyfrifiaduron 30 diwrnod ar ôl dyddiad terfynu eich contract.
 

Diogelwch a chyrchu data ar yr MIS

Rheoli mynediad

Un o’r ffyrdd mwyaf pwerus y mae Arbor yn amddiffyn data eich ysgol yw trwy gynnig mynediad yn seiliedig ar ganiatâd penodol. Mae gan bob defnyddiwr lefel o ganiatâd sy’n cael ei gynllunio ar y cyd â chi adeg cyflwyno Arbor, sy’n sicrhau bod pob defnyddiwr ond yn cael gweld y data sy’n berthnasol i’w rôl.

Mae hyn yn ddefnyddiol am fod GDPR yn mynnu eich bod ond yn gadael i bobl gyrchu data sy’n angenrheidiol ar gyfer eu swydd, a dim ond am gyhyd ag y bo angen.

Er enghraifft, rhaid i chi roi’r gallu i’ch tîm bugeiliol weld a golygu data diogelu plant, gall tiwtor dosbarth y plentyn weld y wybodaeth yn unig, ac ni all athro/athrawes sydd byth yn gweithio gyda’r disgybl gyrchu’r wybodaeth o gwbl.

Mae’r mathau yma o ganiatâd yn seiliedig ar rôl wedi eu hymgorffori i bob nodwedd o Arbor, a gall yr ysgol eu cyflwyno neu eu diddymu ar sail ad hoc, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi gydymffurfio â GDPR heb darfu ar lif eich gwaith.
 

Gweld beth sydd wedi cael ei gyrchu neu ei newid

Am fod Arbor yn seiliedig ar ddata byw, sy’n cael ei gofnodi gan yr ysgol mewn amser real, mae hi bob amser mor gyflawn a chywir ag y mae’r ysgol am iddo fod.

Ni fydd Arbor yn golygu eich data oni bai ein bod wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny, fel wrth fudo data o MIS blaenorol.

  • Cewch adolygu a chwilio data myfyrwyr a staff ar ein dangosfyrddau a’n tudalennau proffil, a’i olygu pryd bynnag y bo angen. Bydd hyn yn newid y data ar draws y system i gyd yn y fan a’r lle.
  • Gallwch gadw eich hen bolisïau ynghylch pa mor aml rydych chi’n diweddaru data personol, a rhannu’r cyfrifoldeb trwy roi caniatâd gweinyddu i wahanol ddefnyddwyr.

Bydd arweinydd yr ysgol neu’r MAT yn gallu cyrchu dangosfwrdd sy’n dangos pryd y mae pob defnyddiwr wedi mewngofnodi i’r system, gan gynnwys gweinyddwyr Arbor ei hun: Gweld pryd mae defnyddwyr yn mewngofnodi

Gall staff gyrchu archwiliadau o ddata presenoldeb ac asesu hefyd. Gallwn ni ddarparu archwiliad cyflawn o weithredoedd defnyddwyr unigol ar eich system ar gais hefyd, ond dylid nodi y gellir codi tâl am hyn. 
 

Mewngofnodi

Mae gan bob defnyddiwr gyfrinair diogel ac unigryw, ac rydyn ni’n cynnig nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol, gan gynnwys:

Mewn MIS cwmwl fel Arbor, nid yw data’n cael ei storio ar unrhyw ddyfais, ac mae system Arbor yn allgofnodi’n awtomatig ar ôl cyfnod o fod yn segur.

Mae hynny’n golygu, hyd yn oed os oes tor-ddiogelwch ffisegol yn eich ysgol, mae’r data sy’n cael ei storio gyda ni’n llai tebygol o gael ei gyfaddawdu. Trwy gyrchu’r cwmwl gan ddefnyddio manylion mewngofnodi staff, y Porth Rhieni neu’r Porth Myfyrwyr, ni fydd angen i ddefnyddwyr argraffu neu e-bostio data personol, ac mae hynny eto’n lleihau’r risg iddo fynd i’r dwylo anghywir.
 

Problemau, tor-ddiogelwch ac argyfyngau

A allwn ni adfer systemau mewn argyfwng?

Mae Arbor yn cynnal Cynllun Parhad Busnes cyflawn sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd gan ein Pwyllgor Rheoli Diogelwch Gwybodaeth. Yn achos trafferthion ffisegol fel tân neu lifogydd, mae ein systemau cwmwl yn caniatáu ar gyfer newid yn gyflym i ganolfan ddata arall yn y DU er mwyn atal toriadau.

Mae ein tîm Devops yn cynnal cynlluniau parhad yn achos diffyg. Mae cyfluniad y prif gyfrifiadur yn cael ei storio ar ffurf cod, a gallwn sefydlu set gyflawn newydd o seilwaith prif gyfrifiaduron yn gyflym.

Gwneir copïau cipolwg wrth gefn pob dydd, a chedwir copïau wrth gefn o bwynt mewn amser hefyd, sy’n golygu ein bod ni’n gallu adfer y system i unrhyw bwynt yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. Mae ein gweithdrefn adfer copïau wrth gefn a gweddill y polisïau hyn yn cael eu harchwilio’n rheolaidd.
 

Clustnodi risgiau a gwendidau

Mae ein tîm Devops yn monitro am wendidau newydd. Mae unrhyw beryglon newydd yr ystyrir eu bod yn risg uchel yn cael eu hasesu gan ein rheolwyr peirianneg, ac mae cynllun ymateb yn cael ei lunio ar sail hynny.

Mae holl systemau gweithredu’r prif gyfrifiadur yn cael eu patsio’n awtomatig bob nos gan ddefnyddio’r atebion diogelwch diweddaraf. Mae pob llyfrgell feddalwedd yn cael eu huwchraddio i’r fersiwn ddiweddaraf, gan ymgorffori cywiriadau diogelwch, bob tro y mae copi newydd o’n meddalwedd yn cael ei ryddhau (mae hyn yn digwydd o leiaf unwaith ym mhob diwrnod gwaith). Mae pwyllgor diogelwch mewnol yn asesu ein meddalwedd a’n seilwaith am wendidau posibl bob mis, ac yn cynllunio cywiriadau ar gyfer unrhyw wendidau sy’n codi. Cyflawnir profion hacio allanol bob blwyddyn hefyd.
 

Tor-ddiogelwch data a gwallau

Mae’r holl brif gyfrifiaduron yn cael eu monitro am fetrigau allweddol safonol (CPU, cof, llwyth y rhwydwaith, ceisiadau). Mae’r metrigau hyn yn cael eu casglu mewn prif gyfrifiadur monitro canolog, ac mae’r holl gofnodion yn cael eu casglu ar system gofnodi ganolog. Mae’r rheolau sbarduno rhybuddion yn cael eu diffinio ar y metrigau a’r cofnodion er mwyn hysbysu ein tîm Devops am unrhyw broblemau a gweithgarwch anarferol posibl yn rhagweithiol. Mae’r tîm yn ymchwilio i’r hysbysiadau hyn cyn pen ychydig oriau ac yn eu datrys.

Mae’r holl wallau o fewn y rhaglen, gan gynnwys y rhai y mae ysgolion yn eu codi, yn cael eu casglu mewn system casglu gwallau ganolog. Dyrennir peiriannydd i bob gwall, sy’n ceisio ei atgynhyrchu, ac os oes angen, yn datrys y broblem cyn pen 1 diwrnod gwaith.

  • Byddwn ni’n ceisio eich hysbysu cyn gynted ag y bydd tor-ddiogelwch data sy’n effeithio ar eich data yn dod i’n sylw (yn unol â’n Contract gyda chi).
  • Os ydych chi’n poeni am dor-ddiogelwch data posibl, cysylltwch â ni ar unwaith gan ddyfynnu’r cod: 1009. Byddwn ni’n cyflawni ymchwiliad trylwyr. E-bostiwch ein Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@arbor-education.com.

Rydyn ni’n hysbysu ein Prif Swyddog Technegol am bob digwyddiad sy’n codi, wedyn nhw sy’n gyfrifol am gydlynu ein timau technegol, gan gasglu tystiolaeth, asesu’r digwyddiad a rheoli’r cynllun ymateb. Byddwn ni’n dilyn yr holl weithdrefnau cyfathrebu, caiff y digwyddiad ei gofnodi, a byddwn ni’n cymryd camau cywiro i liniaru’r risg at y dyfodol. Mae ein Cynllun Ymateb i Ddigwyddiadau Diogelwch yn cael ei archwilio yn rhan o’n hardystiad ISO 27001.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
29 allan o 35 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.