Offeryn personol yw Fy Nghalendr i dracio cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r ysgol, gan ganiatáu i ddefnyddwyr weld a rheoli eu hamserlenni. Mae’r cod lliw yn ei gwneud hi’n hawdd gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o ddigwyddiadau, ac er na all defnyddwyr newid y lliwiau hyn, gallant gysylltu eu Calendr Arbor â chalendrau allanol fel Google Calendar ac Outlook. Mae’r erthygl hon yn edrych ar ddigwyddiadau sy’n gorgyffwrdd a chanllawiau i gysylltu calendrau hefyd.
Beth yw Fy Nghalendr?
Mae Fy Nghalendr yn ffordd i chi gadw trac ar eich cyfarfodydd a’ch digwyddiadau sy’n ymwneud â’r ysgol, Mae’n caniatáu i chi weld beth sydd ar y gweill ar y diwrnod hwnnw, adio digwyddiadau pellach, a threfnu cyfarfodydd â phobl eraill. Ewch i Fy Eitemau > Fy Nghalendr, neu cliciwch ar y teclyn Calendr ar eich hafan.
Fe welwch chi’r wythnos hon yn ddiofyn, ond gallwch newid yr wythnos gan ddefnyddio’r botymau saeth. Gallwch symud rhwng golwg fesul diwrnod, wythnos neu fis trwy ddefnyddio’r botymau ar y dde. I neidio nôl i’r wythnos hon, defnyddiwch y botwm Heddiw.
Mae’r calendr yn dangos heddiw trwy dywyllu colofn y diwrnod yn y golwg 5 niwrnod a’r gell berthnasol yn y golwg fesul mis. Mae hi’n hawdd ffeindio heddiw ar gipolwg felly.
Gallwch hofran dros ddigwyddiad i weld rhagor o fanylion, neu glicio ar ddigwyddiad yn eich calendr i neidio i’r trosolwg o’r digwyddiad.
Gallwch weld sut i greu rhagor o ddigwyddiadau yma: Creu a rheoli digwyddiadau
Bydd aelodau o staff sy’n cael ei haseinio i gyflenwi mewn gwers yn gweld y wers yna yn eu calendr. Trwy glicio ar y wers, bydd Dangosfwrdd y Wers yn ymddangos er mwyn iddyn nhw gymryd y gofrestr.
Beth yw ystyr y cod lliw?
Mae Fy Nghalendr yn defnyddio cod lliw ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau:
- Gwyrdd Tywyll: Gwersi dosbarth (gan gynnwys gwersi cyflenwi)
- Gwyrdd Golau: Digwyddiadau Brys
- Melyn Golau: Digwyddiadau Allgwricwlaidd
- Oren: Unrhyw ddigwyddiadau eraill (Egwyl, Clwb, Cyffredinol, Cyfarfod, Noson Rieni, Gêm Chwaraeon)
Wrth newid y math o ddigwyddiad, bydd lliw’r slot ar eich calendr yn diweddaru i gyd-fynd â’r categori newydd.
A allwn ni newid y cod lliw?
Ni allwch chi newid y lliwiau yn y calendr.
Pam mae’r digwyddiadau’n edrych fel pe baen nhw’n gorgyffwrdd yn fy nghalendr?
Mae yna sawl rheswm pam fod digwyddiadau’n edrych fel pe baen nhw’n gorgyffwrdd â digwyddiad arall - mae rhagor o fanylion yma: Slotiau sy’n gorgyffwrdd ar galendrau
Sut mae mynd ati i gysylltu fy Nghalendr Arbor â chalendr allanol?
Gallwch adio eich digwyddiadau personol o’r Calendr Arbor at raglenni a systemau calendr eraill. Mae hynny’n golygu y bydd unrhyw ddigwyddiadau o’ch calendr Arbor yn ymddangos yn eich calendr allanol, ond cofiwch na fydd Arbor yn adlewyrchu unrhyw newidiadau a wnewch ar eich calendr allanol.
Dim ond Calendrau Staff y gellir eu hallforio. Nid yw’r nodwedd yma ar gael ar gyfer Calendrau Myfyrwyr. I allforio Calendrau Staff gan ddefnyddio’r nodwedd yma, rhaid defnyddio Ffrwd Fyw.
Ewch i Fy Eitemau > Fy Nghalendr > Ffrwd Fyw Copïwch yr URL hir ac ewch i raglen eich calendr allanol.
Google Calendar
Cliciwch i adio calendr arall a dewiswch yr opsiwn ‘From URL’.
Copïwch yr URL a’i ludo yn y blwch, wedyn cliciwch Adio Calendr.
Wedyn bydd eich digwyddiadau Arbor yn ymddangos yn eich Google Calendar allanol. Dylid nodi bod Google yn diweddaru unwaith bob 24 awr, felly mae’n bosibl na welwch chi’r digwyddiadau ar unwaith.
Office365 neu Outlook
Ewch i’ch calendr Outlook a dewis Import Calendar (Add yn yr ap) a dewis From Web. (From Internet yn yr ap).
Yn Link to the calendar, gludwch y linc a gopïwyd o Arbor. Adiwch enw calendr, wedyn clicio Import (Ok yn yr ap).
A allwn ni gysylltu holl Galendrau Arbor staff â chalendrau allanol yn dorfol?
Gallwch gyfuno’r holl Galendrau Arbor ag Outlook gan ddefnyddio SalamanderSoft. Cysylltwch â SalamanderSoft i holi am y camau nesaf i wneud hyn.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.