Canllaw i Gyfrifiad CES

Mae’r canllaw yn esbonio sut i baratoi, cynhyrchu, gwirio a chyflwyno Cyfrifiad CES yn Arbor: cwblhau’r data coll, datrys gwallau, adolygu niferoedd a manylion ysgol, staff a myfyrwyr, lawrlwytho’r ffeil CSV, a’i lanlwytho i wefan CES.
 

Paratoi ar gyfer y cyfrifiad

Beth yw’r cyfrifiad CES?

Rhaid i bob ysgol Gatholig yng Nghymru a Lloegr gyflawni a chyflwyno Cyfrifiad Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig (CES) bob blwyddyn.

  • Mae canllawiau pellach ar y Cyfrifiad i’w cael ar wefan CES.
  • I gael atebion i Gwestiynau Cyffredin am Gyfrifiad CES, cliciwch yma.

Am bythefnos cyn dyddiad y Cyfrifiad, bydd Arbor yn eich galluogi i gyflawni’r hyn mae’n ei alw yn ‘ymarfer paratoi’. Mae hyn yn caniatáu i chi gynhyrchu ffug-Gyfrifiad a gweithio trwyddo gan glirio’r gwallau a llenwi’r bylchau yn y data a gesglir. Gellir cynhyrchu’r Cyfrifiad a’r ymarferion paratoi cynifer o weithiau ag y dymunwch chi. Wrth redeg eich Cyfrifiad, bydd Arbor yn allbynnu data fel petai hi’n ddiwrnod Cyfrifiad go iawn.

Oni bai bod eich awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddiadau penodol i chi, nid oes angen i chi gyflwyno’r Cyfrifiad ar ddiwrnod y cyfrifiad. Mae’r CES yn pennu dyddiad cau ar gyfer y Cyfrifiad, a bydd hwn i’w weld ar dudalen eich Cyfrifiad.
 

Cyflawni eich cyfrifiad

I fynd i dudalen eich Cyfrifiad ar Arbor, ewch i Ysgol > Data > Allforio > Ffurflenni Data. Yma fe ffeindiwch chi restr o’r gwahanol gyfrifiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yn hyn.

Os ydych chi wedi ymuno ag Arbor yn ddiweddar, a hwn yw’ch tro cyntaf yn defnyddio ein hardal Cyfrifiadau, fe welwch restr o’r holl ddyddiadau cyflwyno Cyfrifiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd, ond ni fydd y rhain yn cynnwys unrhyw ddata am y ffurflenni Cyfrifiad sy’n ymwneud â’ch ysgol.

Y dyddiad ar ochr chwith y dudalen yw diwrnod swyddogol y cyfrifiad, a’r dyddiad mewn llythrennau italig ar ochr dde’r sgrin yw’r dyddiad cau i gyflwyno ymatebion.
 

Cwblhau’r archwiliad data

Bydd angen i chi ddatrys rhai o’r gwallau y bydd yr Adran Addysg yn tynnu sylw atynt ar dudalen eich Cyfrifiad cyn cynhyrchu Ymarfer Paratoi.

Screenshot_2022-11-30_at_09.46.38.png
 

  • I ysgolion Saesneg: Ar dudalen y trosolwg, bydd angen i chi gofnodi gwybodaeth ychwanegol cyn cynhyrchu Ymarfer Paratoi. Llenwch y meysydd a ddangosir mewn oren.
  • I ysgolion Cymraeg: Ar y dudalen Data Staff Ychwanegol yn y ddewislen ar y chwith, bydd angen i chi gofnodi gwybodaeth ychwanegol mynd ati i gynhyrchu Ymarfer Paratoi. Llenwch y meysydd a ddangosir mewn oren.

Ar ôl llenwi’r meysydd hyn, cewch fwrw ymlaen â chynhyrchu’r Cyfrifiad.

Screenshot_2022-11-30_at_09.47.04.png

Screenshot_2022-11-30_at_09.47.45.png

Screenshot_2022-11-30_at_09.48.19.png
 

Cliciwch ar bob adran i nodi’r wybodaeth angenrheidiol a chlicio Cadw Newidiadau.

Screenshot_2022-11-30_at_09.49.58.png

Screenshot_2022-11-30_at_09.50.21.png
 

Ar ôl datrys yr holl broblemau, bydd botwm yn ymddangos ar dudalen eich Cyfrifiad a fydd yn eich galluogi i gynhyrchu eich ymarfer paratoi.

Screenshot_2022-11-30_at_09.51.10.png
 

Dylid nodi, os nad yw hi’n amser dechrau’r ymarfer paratoi eto, ni fydd y botwm yn ymddangos a bydd angen i chi aros tan ddechrau cyfnod yr ymarfer paratoi.

Screenshot_2022-12-19_at_09.21.53.png
 

Cynhyrchu Ymarfer Paratoi

Cewch gynhyrchu eich ymarfer paratoi o’r un dudalen, neu ddychwelyd i’r dudalen hon o Ysgol > Data > Allforio > Ffurflenni Data. Dewiswch y Cyfrifiad CES a chliciwch y botwm Cynhyrchu Ymarfer Paratoi.

Ar ôl cynhyrchu’r Ymarfer Paratoi, bydd y system yn mynd â chi i dudalen y trosolwg yn awtomatig. Bydd hyn yn edrych fel Cyfrifiad go iawn. Cewch ddilysu’r wybodaeth a datrys gwallau yn union fel petai’n Cynhyrchu Cyfrifiad go iawn.

Screenshot_2022-11-30_at_09.51.10.png
 

Cynhyrchu’r Cyfrifiad ar ddiwrnod y Cyfrifiad neu’n ddiweddarach.

Cewch gynhyrchu eich Cyfrifiad o’r un dudalen Trosolwg o’r Cyfrifiad rydych chi wedi bod yn ei ddefnyddio i gynhyrchu eich Ymarferion Paratoi - Ysgol > Data > Allforio > Ffurflenni Data > Dewis Cyfrifiad.

Os ydych chi wedi creu Ymarfer Paratoi o’r blaen, bydd y system yn mynd â chi i dudalen trosolwg ffurflenni Cyfrifiad CES wrth glicio ar y botwm Cynhyrchu Cyfrifiad. Bydd y sgrin yn rhoi manylion am y Cyfrifiad ac yn dweud wrthych ei fod yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd.

Screenshot_2022-12-19_at_12.43.04.png
 

Ar ôl cynhyrchu’r Cyfrifiad, cewch hysbysiad yn y swigen siarad yng nghornel uchaf eich sgrin ar y dde i roi gwybod i chi fod y broses o gynhyrchu’r Cyfrifiad wedi ei gwblhau. Cliciwch ar yr hysbysiad i fynd i’r cyfrifiad.

Screenshot_2022-11-30_at_10.01.56.png
 

Sgroliwch i lawr i’r Cyfrifiad diweddaraf a gynhyrchwyd a chliciwch arno.

Screenshot_2022-11-30_at_10.04.21.png

Screenshot_2022-12-19_at_12.43.49.png
 

Datrys eich gwallau

Ar ôl cynhyrchu eich Cyfrifiad neu’ch Ymarfer Paratoi, fe welwch chi wallau ac ymholiadau y mae angen eu datrys.

Bydd y gwallau’n aros ar y rhestr nes i chi adnewyddu’r Cyfrifiad. Dim ond ar ôl adnewyddu’n llwyddiannus y bydd y gwallau’n clirio. Rydyn ni’n argymell nad ydych chi’n adnewyddu’r Cyfrifiad ar ôl cywiro pob gwall unigol am y byddai aros am bob adnewyddiad yn cymryd amser hir - yn hytrach, dylech ddatrys eich gwallau fesul swp.

Screenshot_2022-12-19_at_12.44.07.png
 

Cliciwch ar y gwall i adio’r wybodaeth angenrheidiol.

Screenshot_2022-11-30_at_10.13.01.png
 

Os oes angen adio statysau CCRS coll at eich staff, ewch i’w proffil staff. Yn yr adran Cymwysterau a Gwiriadau, cliciwch +Adio, dewiswch Cymhwyster Personol a nodwch ‘ccrs’ yn y maes Enw’r Cymhwyster. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cyfrifiad yn cofnodi bod gan y staff statws CCRS.

Screenshot_2022-11-30_at_10.14.18.png
 

Adolygu eich data

  • I ysgolion Saesneg: Adolygwch eich data o’r tabiau Manylion yr Ysgol, Manylion y Staff a Manylion y Myfyriwr ar y dudalen Cyfrifiad a Gynhyrchwyd. I fynd i’r dudalen hon, ewch i Ysgol > Data > Allforio > Ffurflenni Data, cliciwch ar Cyfrifiad CES wedyn ar y cyfrifiad a gynhyrchwyd o dan Hanes Cynhyrchu Cyfrifiadau.
  • I ysgolion Cymraeg: Adolygwch eich data o’r tudalennau Manylion yr Ysgol, Manylion y Staff a Manylion y Myfyriwr o’r ddewislen ar ochr chwith eich Trosolwg o’r Cyfrifiad.
     

Gwybodaeth goll

Adolygwch y wybodaeth sy’n gynwysedig yn y Cyfrifiad CES trwy glicio ar bob tab.

Bydd unrhyw eitemau coll wedi eu hamlygu ar y tabl mewn lliw oren.

I adio’r wybodaeth goll, cliciwch ar y rhes a bydd blwch llithro’n ymddangos.

Screenshot_2022-12-19_at_12.46.32.png
 

Adolygu niferoedd

Bydd Arbor yn cyfrifo rhywfaint o’r wybodaeth ar y ffurflen. Yn y tablau sy’n dangos y data yma, cewch adolygu’r cyfrifiadau yma.

Screenshot_2022-12-19_at_12.47.21.png
 

Cliciwch ar eitem yn y tabl i weld pa ddisgyblion/aelodau staff a gyrifiwyd. Gallwch glicio i mewn i broffil person i ddiwygio’r wybodaeth yma.

Screenshot_2022-11-30_at_10.26.17.png
 

Mewn rhai achosion, bydd modd diwygio’r wybodaeth yma’n dorfol trwy glicio Diwygio yn dorfol. Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen lle cewch ddefnyddio’r blychau ticio ar yr ochr a’r botwm Gweithred torfol i gwblhau’r gweithredoedd yn dorfol.

Screenshot_2022-11-30_at_10.27.35.png
 

Awgrym: Ni fydd y newidiadau a gedwir yn ymddangos yn y cyfrifiad ar unwaith, bydd angen clicio ar y botwm Adnewyddu’r Cyfrifiad i weld unrhyw newidiadau a wnaed. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n datrys gwallau niferus cyn adnewyddu eich Cyfrifiad fel nad ydych chi’n gwastraffu amser yn aros iddo adnewyddu drosodd a thro.
 

Lawrlwytho eich Crynodeb PDF o’r Cyfrifiad

Cliciwch ar y botwm Lawrlwytho Cyfrifiad Arbor.

Screenshot_2022-12-19_at_12.47.51.png
 

Bydd hyn yn lawrlwytho ffeil PDF i chi ei adolygu.

Screenshot_2022-11-30_at_10.30.25.png
 

Cyflwyno’r cyfrifiad

Ar ôl gwirio’r holl wybodaeth yn eich cyfrifiad CES, gallwch lawrlwytho’r ffeil ymateb trwy glicio ar y botwm Lawrlwytho’r Cyfrifiad ar dudalen y trosolwg o ymatebion i’r cyfrifiad.

Screenshot_2022-11-30_at_10.31.20.png
 

Wrth lawrlwytho’r Cyfrifiad, caiff ei gadw ar eich cyfrifiadur mewn fformat CSV yn awtomatig. Ni allwn eich cynghori ynghylch ymhle bydd y ffeil wedi cadw, am y bydd hynny’n dibynnu ar gyfluniad eich cyfrifiadur. Ond y lle mwyaf tebygol i gadw’r ffeil yn ddiofyn yw eich ffolder Lawrlwythiadau.

Peidiwch ag agor y ffeil!

Ar ôl lawrlwytho’r Cyfrifiad allan o Arbor, eich cyfrifoldeb chi yw ei lanlwytho i wefan CES yma. Nodwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i lanlwytho’ch ffeil.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
0 allan o 0 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.