I farcio dau fyfyriwr fel brodyr a/neu chwiorydd, rhaid eu cysylltu â’r un gwarcheidwad. Mae hyn yn dweud wrth y system eu bod nhw’n perthyn, am ei fod yn pennu’r berthynas rhyngddynt yn awtomatig. Rhaid i’r ddau fod yn gysylltiedig â’r gwarcheidwad trwy berthynas Mam neu Dad Naturiol, Mam Fabwysiadol neu Dad Mabwysiadol, Llysfam neu Lysdad, neu Riant Mabwysiadol.
Caniatâd
Bydd angen caniatâd Proffil myfyriwr: Gwarcheidwaid: Gweinyddu Pob Myfyriwr/Fy Myfyrwyr arnoch i gysylltu myfyrwyr a gwarcheidwaid. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Y Prif Warcheidwad
Ni fydd y myfyriwr yn ymddangos yn y porth rhieni os nad yw’r rhiant wedi ei nodi fel prif warcheidwad ar safle’r ysgol. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu dynodi’n brif warcheidwad cyn cysylltu â Chymorth Arbor. I wirio a ydyn nhw’n brif warcheidwad ai peidio, cyfeiriwch at y canllaw Aseinio Statws Prif Warcheidwad neu Warcheidwad Cyfreithiol.
Sut i gysylltu myfyrwyr a gwarcheidwaid
Daw dau fyfyriwr yn gysylltiedig fel brodyr a chwiorydd yn awtomatig yn Arbor os ydyn nhw’n bodloni’r amodau canlynol:
- Mae gan y naill a’r llall broffil
- Mae gan y naill a’r llall yr un gwarcheidwad (nid oes angen i’r gwarcheidwad yma fod yn Warcheidwad Cyfreithiol neu’n Brif Warcheidwad)
- Mae gan naill a’r llall un o’r perthnasau canlynol â’r gwarcheidwad:
- Mam neu Dad Naturiol neu Fabwysiadol
- Llysfam neu Lysdad
- Rhiant Mabwysiadol
I gysylltu’r ddau, gwnewch yn siŵr bod yr holl amodau hyn wedi eu bodloni gan ddilyn y camau isod.
Cam 1 - Adiwch y myfyrwyr
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi creu’r holl broffiliau myfyrwyr rydych chi am eu cysylltu â’i gilydd.
Yn y blwch chwilio, teipiwch enw pob plentyn a phwyso Enter ar eich bysellfwrdd (mae hyn yn sicrhau eich bod chi’n gweld yr holl ganlyniadau, nid dim ond y myfyrwyr sydd ar y gofrestr) i wneud yn siŵr eu bod nhw’n ymddangos.
Os oes angen adio myfyriwr newydd am nad oes un o’r plant neu’r ddau ohonynt yn ymddangos, cliciwch yma i weld sut i fynd ati.
Nodwch eu manylion er mwyn sicrhau eich bod chi’n cysylltu’r myfyrwyr a’r gwarcheidwaid cywir yn nes ymlaen.
Cam 2 - Adiwch y gwarcheidwad at un myfyriwr
Os yw’r gwarcheidwad yn bodoli eisoes, teipiwch enw’r gwarcheidwad rydych chi am gysylltu’r ddau fyfyriwr â nhw yn y blwch chwilio a phwyso Enter ar eich bysellfwrdd er mwyn gwirio a ydyn nhw’n bodoli yn Arbor eisoes.
Os ydyn nhw’n bodoli eisoes, ewch ymlaen i gam 3.
Os nad yw’r gwarcheidwad yn bodoli eisoes, ewch i broffil y myfyriwr cyntaf a sgroliwch i lawr i’r adran ‘”Teulu, Gwarcheidwaid, a Phobl Gyswllt”. Cliciwch +Adio.
Adiwch eu manylion, wedyn cliciwch i adio’r gwarcheidwad. Gwnewch yn siŵr bod y berthynas â’r gwarcheidwad wedi ei osod fel ‘Mam/Tad Naturiol’ neu ‘Fabwysiadol’, ‘Llysfam neu Lysdad’, neu Riant Mabwysiadol.
Cam 3 - Adiwch y myfyriwr arall at y gwarcheidwad
Yn y blwch chwilio, chwiliwch am enw’r gwarcheidwad a chliciwch arno (os na welwch chi’r gwarcheidwad, pwyswch Enter ar eich bysellfwrdd i weld yr holl ganlyniadau).
Yn yr adran Myfyrwyr Cysylltiedig ar eu proffil, efallai y gwelwch chi fod myfyriwr yn gysylltiedig â nhw’n barod. Gallwch glicio +Adio i gysylltu un arall.
Yn y blwch llithro, ychwanegwch fanylion y berthynas â’r myfyriwr newydd, wedyn cliciwch ‘Cysylltu Myfyriwr’.
Gwnewch yn siŵr bod y berthynas â’r gwarcheidwad wedi ei osod fel Mam/Tad Naturiol neu Fabwysiadol, ‘Llysfam neu Lysdad’, neu Riant Mabwysiadol.
Bydd hyn yn cysylltu’r ddau fyfyriwr fel brodyr a/neu chwiorydd yn y cefndir.
Cam 4 - Tynnwch unrhyw gofnodion dyblyg
Os oedd un proffil gwarcheidwad yn gysylltiedig â phob myfyriwr unigol gennych chi’n wreiddiol, bydd angen i chi ddileu’r cofnod dyblyg. Dim ond un proffil ddylai fod gan Warcheidwaid er mwyn atal problemau mewngofnodi.
Gallwch weld sut i ddileu cofnodion dyblyg yma: Datrys cofnodion dyblyg neu ddileu proffiliau gwarcheidwaid
Brodyr a chwiorydd maeth
Er mwyn i ddau fyfyriwr gael eu hystyried yn frodyr a/neu chwiorydd, rhaid i’r ddau fod yn gysylltiedig â’r un gwarcheidwad fel Mam neu Dad Naturiol neu Fabwysiadol, Llysfam neu Lysdad, neu Riant Mabwysiadol.
I frodyr a chwiorydd â rhieni maeth neu brif warcheidwaid nad ydynt yn rhieni biolegol iddynt, ni fydd y myfyrwyr yn dangos fel brodyr a/neu chwiorydd cysylltiedig yn awtomatig.
Gallwch greu ‘ffug-broffil’ ar gyfer rhiant a fydd yn cysylltu’r ddau.
Nid rhiant go iawn yw’r ffug-broffil yma; mae’n bodoli at ddibenion cysylltu’r myfyrwyr yn unig. Pethau i’w hystyried:
- Gallech roi enw i’r proffil sy’n dangos yn glir taw ffug-broffil yw hi (er enghraifft: enw cyntaf Cysylltu, cyfenw Perthnasau)
- Gallwch adael y proffil mor wag ac y dymunwch chi (nid oes angen cofnodi manylion cyswllt er enghraifft)
- Nid oes angen pennu’r ffug-broffil fel prif warcheidwad neu warcheidwad cyfreithiol
Dadgysylltu brodyr a chwiorydd
Am fod myfyrwyr yn cael eu cysylltu trwy fod ag un neu ragor o rieni’n gyffredin, er mwyn dadgysylltu’r myfyrwyr fel brodyr a chwiorydd, bydd angen dileu’r cysylltiadau hyn. Bydd dileu’r cysylltiadau â’r rhiant neu’r gwarcheidwad yn atal y cysylltiad rhwng y myfyrwyr rhag ymddangos.
I ddileu cysylltiad rhwng myfyriwr a gwarcheidwad, ewch i broffil y myfyriwr a chlicio ar y gwarcheidwad yn yr adran Teulu, Gwarcheidwaid a Phobl Gyswllt.
Yn y blwch llithro, cliciwch ar y botwm Golygu.
Cliciwch ar y botwm llwyd ‘Dileu’r Berthynas’.
Os yw’r gwarcheidwad wedi ei gysylltu ag un myfyriwr yn unig ar hyn o bryd, fe welwch chi flwch ticio i Ddileu manylion y Gwarcheidwad o Arbor yn barhaol.
- Bydd dewis yr opsiwn yma’n dileu proffil y gwarcheidwad yn barhaol. Awgrym: Ni ellir gwrthdroi hyn.
- Trwy beidio â rhoi tic yn y blwch yma, y cyfan y byddwch yn ei wneud yw dadgysylltu’r gwarcheidwad wrth y myfyriwr. Gallwch ddod o hyd i’r gwarcheidwad yma a’i ddileu wedyn os oes angen: Gweler gwarcheidwaid heb unrhyw fyfyrwyr cysylltiedig.
Cliciwch ar Ddileu perthynas â gwarcheidwad.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.