Trefnu a rheoli integreiddiadau API trydydd parti yn Arbor

Beth yw API?

Dull y mae trydydd partïon yn ei ddefnyddio i integreiddio ag Arbor a chyrchu gwybodaeth yw API. Integreiddiad unffordd fydd y rhain yn bennaf (sy’n bwydo data o Arbor i’r trydydd parti) ond mae yna rhai sy’n gweithio’r ddwy ffordd (sy’n golygu y bydd gwybodaeth sy’n cael ei diweddaru mewn un system yn diweddaru’n awtomatig yn y llall).

Gallwch gysylltu eich API a nifer o wahanol trydydd partïon, gan gynnwys: Wonde, Groupcall, ParentPay, CPOMS, LGFL, OTrack, Cunninghams, Classcharts, Studybugs, Scopay, a sawl un arall. Mae rhestr o’r holl drydydd partïon rydyn ni’n gweithio gyda nhw yma!

Bydd ein dull ni o gysylltu ag apiau trydydd parti yn eich galluogi chi i reoli’r apiau sy’n gallu cyrchu eich data. Gallwch archwilio pa ddata mae pob ap yn ei ddefnyddio a beth y gall ei wneud â’r data yma.

Os nad ydych chi’n fodlon ar y data y mae ap yn gofyn amdano, neu os ydych am ddysgu rhagor ynghylch sut a pham y mae’r data’n cael ei ddefnyddio, cysylltwch â chwmni’r ap o dan sylw yn uniongyrchol.
 

Caniatâd

Er mwyn rheoli linciau API, gan gynnwys rheoli gosodiadau Mewngofnodi Sengl (SSO), rheoli defnyddwyr MIS a gweld hanes mewngofnodi defnyddiwr, bydd angen caniatâd

  • Ysgol: Cyfrifon Defnyddwyr: Gweinyddu ar MIS yr Ysgol arnoch - os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i’ch tîm gweinyddu rhoi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
  • Caniatâd Manylion y Defnyddiwr: Rheoli Pob Defnyddiwr ar MIS y MAT - os nad oes caniatâd o’r fath gennych, bydd angen i rywun aseinio Rôl Busnes newydd i chi sy’n cynnwys y caniatâd yma.

Cyn trefnu’r integreiddiadau

Mae proses Arbor ar gyfer cysylltu ag apiau’n gofyn eich bod chi’n cysylltu â chwmni’r ap yn uniongyrchol cyn y gellir cyflawni unrhyw integreiddio, dim ots a yw’r ap yn un o’n partneriaid cyfredol ai peidio. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran isod dan y teitl Cysylltu ag ap newydd.

Sut i fynd ati

 

 

Apiau y gallwch gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r broses hon

Mae rhestr o’n Partneriaid Integredig cyfredol ar y dudalen hon.
 

Cysylltu ag ap newydd

Os yw’r ap yn perthyn i un o’n partneriaid (gweler y rhestr), cysylltwch â chwmni’r ap i fynegi eich diddordeb mewn cydweithio. Byddan nhw’n ymdrin â threfnu’r cysylltiad.

Os nad yw’r ap yn bartner neu os ydych chi’n ansicr, rhannwch enw’r ap â ni a chysylltwch â’r cwmni i fynegi eich diddordeb. Byddwn ni’n cadarnhau a yw’r ap yn bartner ai peidio, a gallwn ofyn i chi pam eich bod am gysylltu. Os penderfynwn ni barhau, byddwn ni’n cydlynu hynny â chwmni’r ap. Dylent ddilyn y cyfarwyddiadau hyn: Sut mae mynd ati i drefnu ein Hintegreiddiad API ein hunain ag Arbor?

Dylid nodi y gallai gymryd amser i sefydlu cysylltiad newydd am fod angen i’r ap ddatblygu ei integreiddiad yn gyntaf.
 

Cymeradwyo cysylltiadau trydydd parti

Ar ôl i gwmni’r ap gysylltu â’ch safle Arbor, cewch hysbysiad am gais arfaethedig yn Arbor. Ewch i System > Apiau Partneriaid (Defnyddwyr API) ar safle MIS ysgol, neu System > Apiau Partneriaid (Defnyddwyr API) ar safle MIS MAT i gymeradwyo’r cais am i gyrchu’r data.

Am bob ap trydydd parti sy’n gysylltiedig â’ch data, gallwch:

  • Weld manylion cyrchu’r data.
  • Cydsynio i’r ap gyrchu data.
  • Gwrthod yr ap i’w atal rhag cyrchu’r data.

Mae esboniad o’r termau allweddol ar waelod y dudalen.

I weld ap sy’n ceisio cysylltu â chi, dewiswch Ceisiadau arfaethedig o’r ddewislen ar y chwith.

Screenshot_2022-12-01_at_14.08.30.png
 

Cliciwch y rhes sy’n cynnwys yr ap o dan sylw, ac fe welwch flwch llithro sy’n dangos y mathau o ganiatâd sy’n cael eu ceisio.

Screenshot_2022-12-01_at_14.12.14.png
 

Yn yr esiampl yma, mae ap yn gofyn am gael gweld a diweddaru’r holl ddata am ‘gyfeiriadau e-bost’ am fod ticiau yn y blychau Darllen, Ysgrifennu a Diweddaru. Fodd bynnag, ni all ddileu’r data, sydd wedi ei ddynodi gan groes islaw Dileu. Mae hynny’n golygu na all yr ap ddileu unrhyw gyfeiriadau e-bost sydd eisoes yn Arbor.

  • Os ydych chi’n fodlon ar yr hawliau mynediad y mae’r ap yn eu ceisio, gallwch gadarnhau mynediad i’r ap 3ydd parti trwy glicio Cydsynio.
  • Os nad ydych am i ap gyrchu’r data, cliciwch Gwrthod.
  • Os ydych am ohirio’r penderfyniad, cliciwch Canslo.

Awgrym: Gallwch lawrlwytho rhestr sy’n cynnwys yr holl ddata y mae’r ap yn ei ddefnyddio neu wedi gofyn am ei ddefnyddio. Mae hyn yn ddefnyddiol os yw rhieni am wybod pa wybodaeth am eu plant sydd ar gael i bartneriaid!
 

Opsiwn Cysylltu Amgen

Gall rhai apiau trydydd parti sy’n gysylltiedig ag Arbor (e.e. Hodder, Groupcall) ddarparu dull amgen o integreiddio â’ch safle MIS, gan ddileu’r angen am geisiadau cydsynio.

Yn hytrach, cewch linc gan ddatblygwyr yr ap i nodi eich manylion Arbor (e-bost a chyfrinair).

Dylid nodi bod angen bodloni gofynion penodol i ddefnyddio’r dull yma; fel arall bydd gwall yn ymddangos. Gweler yr adran ar y neges gwall Manylion Annilys yn ein Cwestiynau Cyffredin yma.
 

alternative_connection_option.png
 

Ar ôl awdurdodi, cewch wirio pa ddata y bydd yr Ap yn gallu ei gyrchu, a chydsynio i hyn. Wedyn cewch eich cysylltu â’r ap, a bydd yr ap yn ymddangos fel Ap cymeradwy ar y dudalen Apiau Cymeradwy.

Os oes angen i chi wrthod y cysylltiad unrhyw bryd, dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr adran isod.
 

Rheoli cysylltiadau sy’n bodoli eisoes

Os ydych am dynnu cydsyniad yn ôl, neu os nad ydych chi’n defnyddio ap mwyach, gallwch wrthod ap. Bydd hyn yn atal yr ap rhag defnyddio a chyrchu eich data ar unwaith. I wneud hyn:

  1. Cliciwch y tab Apiau Cymeradwy
  2. Dewiswch enw’r ap
  3. Cliciwch y botwm Gwrthod

Bydd yr ap yn symud i’ch rhestr Apiau a Wrthodwyd.

Gallwch ganiatáu mynediad i ap a wrthodwyd o’r blaen hefyd. Bydd hyn yn caniatáu i’r ap ddefnyddio a chyrchu eich data ar unwaith. I wneud hyn:

  1. Cliciwch y tab Apiau a Wrthodwyd
  2. Dewiswch enw’r ap
  3. Cliciwch y botwm Cydsynio

Wedyn bydd yr ap yn symud i’ch rhestr o Apiau Cymeradwy.
 

Diffiniadau Allweddol

Math o ddata - Y grŵp o ddata y gall yr ap ei gyrchu e.e. os yw ap yn gallu cyrchu’r endid ‘staff’, gallai hynny gynnwys enwau staff, manylion contractau, amserlenni ac ati.

Meysydd penodol - Pa ddarnau penodol o ddata y bydd yr ap yn gallu eu cyrchu e.e. gall gyrchu’r holl ddata am staff, neu presenoldeb staff yn unig efallai.

Darllen - Gall ap gyrchu’r data yma e.e. gall ap amserlennu weld beth yw gwers nesaf aelod o staff.

Ysgrifennu - Gall ap greu’r data yma e.e. gall ap adio aelodau newydd o staff.

Diweddaru - Gall ap olygu data e.e. gellir defnyddio’r ap i ddiweddaru manylion staff.

Dileu - Gall ap ddileu data e.e. gall ap dileu aelod o staff.
 

Awgrymiadau ar gyfer rheoli eich APIs

 

Os ydych chi’n defnyddio cynnyrch middleware

Os, er enghraifft, ydych chi’n defnyddio Wonde, Groupcall neu Salamander Soft, bydd angen i chi fod wedi gosod Pwnc ar gyfer eich cyrsiau. Os nad ydych chi wedi trefnu’r rhain, gallwch wneud hyn trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn. Trefnu pynciau cwrs yn dorfol
 

Os ydych chi’n defnyddio Hodder

Os ydych chi’n defnyddio Hodder, rhaid defnyddio’r enw byr am ddosbarthiadau cofrestru. Os oes angen i chi adio neu ddiweddaru’r rhain, gallwch wneud hyn trwy fynd i Ysgol > Rhaglenni > Cyrsiau wedyn Dosbarthiadau Cofrestru yn y ddewislen ar y chwith. Gallwch glicio i mewn i’r dosbarth cofrestru ac wedyn i mewn i’r maes enw byr i adio neu ddiweddaru’r enw byr.
 

Cwestiynau Cyffredin

A gawn ni sefydlu cysylltiad gan ddefnyddio ein cyfrif MAT MIS?

Cewch! Er mwyn gwneud hyn, bydd angen:

  1. Caniatâd Manylion Defnyddwyr: Rheoli Pob Defnyddiwr arnoch ar eich proffil MIS MAT
  2. Mewngofnodi i MIS yr ysgol o MIS y MAT i gydsynio i’r cysylltiadau
  3. Derbyn yr Amodau a Thelerau wrth fewngofnodi i safle pob ysgol

Dylid nodi, os ydych chi’n defnyddio’r dull amgen o gysylltu, bydd yna ofynion ychwanegol penodol, neu bydd neges gwall yn ymddangos. Gweler ein Cwestiynau Cyffredin yma ar ragor o fanylion.
 

Gweld neges gwall Nid yw’r Rhaglen yn Fyw

Darllenwch ein canllawiau yma: Gweld neges gwall Nid yw’r Rhaglen yn Fyw wrth drefnu integreiddiadau API
 

Gweld neges gwall Manylion Annilys

Gweler ein canllawiau yn y Cwestiwn Cyffredin yma.
 

Pryd bydd y cysoni’n dechrau?

Os ydych am wybod pryd y bydd y cysoni â’r trydydd parti yn dechrau, yn enwedig wrth edrych ymlaen at flwyddyn academaidd newydd, cysylltwch â’r trydydd parti’n uniongyrchol. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori chi ar eu cysoniad cyntaf a beth sydd ei angen gennych chi.
 

Beth ddylen ni ei wneud os nad yw’r integreiddiad yn gweithio?

Os ydych chi’n cael trafferth cysoni, yn gyntaf, gwiriwch fod y wybodaeth angenrheidiol yn Arbor - gallai hynny fod yn enwau byr ar gyfer ffurflenni, ffurflenni sy’n gysylltiedig â grŵp blwyddyn. Os yw’r wybodaeth ar goll yn Arbor, bydd angen ei diweddaru fel y gall barhau.

Os yw’r wybodaeth yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau yma: Sut i ddatrys problemau neu riportio problemau wrth integreiddio API 3ydd parti
 

A gawn ni newid caniatadau’r ap?

I weld pa ddata y bydd eich cysylltiad API yn ei weld, gallwch fynd i System > Apiau Partneriaid (Defnyddwyr API) > Apiau Cymeradwy wedyn clicio ar Enw’r Ap.

Rhaid i’r ap trydydd parti wneud unrhyw newidiadau i’r wybodaeth sy’n cael ei darllen - cysylltwch â nhw os ydych chi’n ansicr pa wybodaeth sy’n cael ei chodi. Os yw’r rhaglen trydydd parti’n integreiddio trwy ddarparydd data, e.e. Groupcall neu Wonde, cysylltwch â nhw.

Ni ellir teilwra gosodiadau caniatâd ar gyfer ysgolion neu MATs unigol, a byddant yn berthnasol i bob integreiddiad yn Arbor.
 

Oes modd cydsynio i integreiddiad wrth fudo i Arbor?

Os ydych chi’n ysgol uwchradd, byddwch chi’n cyflawni ffug-rediad data i wirio’ch data. Cewch gydsynio i integreiddiad wrth ddefnyddio’ch ffug safle, a chaiff yr integreiddiad ei gymeradwyo o hyd ar ôl clirio eich safle a’i fudo eto.

Fodd bynnag, nid ydym yn argymell gwneud hyn. Mae hynny am y bydd manylion adnabod Arbor (e.e. manylion adnabod myfyrwyr a staff) yn newid rhwng y ffug safle a’r safle byw.

Os ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, cysylltwch â’ch holl ddarparwyr trydydd parti i roi gwybod iddynt fel y gallan nhw ddefnyddio’r manylion adnabod cywir pan fydd gennych chi’ch safle terfynol.
 

Sut mae integreiddiadau â Darparwyr Data fel Wonde a Groupcall yn gweithio?

Mae gan Wonde, Groupcall a darparwyr data eraill integreiddiadau Darllen gydag API Arbor (ni allant gael integreiddiadau Ysgrifennu) fel y gallant gyrchu amrywiaeth eang o ddata.

Maen nhw’n tynnu data o Arbor mewn fformat sy’n cyd-fynd â’r data y maen nhw’n ei dynnu o systemau MIS eraill, sy’n golygu bod rhaglenni trydydd parti yn gallu adeiladu integreiddiad API generig. Wedyn, mae’r data sydd ei angen ar y rhaglen trydydd parti yn cael ei dynnu o Wonde neu Groupcall, ac ar ôl i chi ei awdurdodi, gall y trydydd partïon gyrchu’r data yma oddi mewn i Wonde neu Groupcall.

Bydd angen i unrhyw newidiadau i’r wybodaeth sy’n cael ei darllen gael eu cyflawni gan Groupcall, Wonde ac ati, felly dylech gysylltu â nhw am fanylion yn hynny o beth.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
5 allan o 7 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.