Mae Arbor yn darparu amrywiaeth o integreiddiadau API trydydd parti, sy’n disgrifio eu statws a’u math. Gall defnyddwyr ganfod sut i gysylltu â phartneriaid a deall y gwahaniaethau rhwng integreiddiadau un- a dwy-ffordd, yn ogystal â darllen ac ysgrifennu caniatadau. Os oes ymholiadau am integreiddiadau penodol, cynghorir defnyddwyr i gysylltu â’r cwmnïau trydydd parti’n uniongyrchol.
Gall Arbor integreiddio â nifer fawr o raglenni trydydd parti, ac mae ein hintegreiddiadau cyfredol wedi eu rhestru isod.
Byddem yn argymell cysylltu â’r cwmni trydydd parti’n uniongyrchol os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch beth mae eu hintegreiddiad ag Arbor yn ei ganiatáu o fewn eu meddalwedd.
Allwedd i’r Mathau o Statws Integreiddio
Gweithredol: Mae o leiaf un ysgol Arbor yn defnyddio’r integreiddiad yma’n ymarferol.
Integredig: Mae gan y partner integreiddiad ag Arbor (trwy Ddarparydd Data o bosibl), ond ni allwn gadarnhau a yw’r integreiddiad yn weithredol ar hyn o bryd ai peidio.
Ar y gweill: Mae Arbor neu’r partner wrthi’n gweithio ar ddatblygu integreiddiad.
Yn yr Arfaeth: Rydyn ni’n bwriadu gweithio ar integreiddiad gyda’r partner yma yn rhan o’n gwaith Cynhyrchu Arfaethedig.
Dan drafodaeth: Rydyn ni wrthi’n siarad â’r cwmni am y posibilrwydd o integreiddio.
Wedi cysylltu - Dim cynlluniau i integreiddio: Rydyn ni wedi cysylltu â’r cwmni ac maen nhw wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau ganddynt i integreiddio ag Arbor ar hyn o bryd.
Allwedd i Fathau o Integreiddiad
API: Mae gennym gysylltiad API uniongyrchol â’r partner.
Nodwedd MIS: Mae gennym nodwedd bwrpasol o fewn Arbor sy’n caniatáu i ddata gael ei rannu â’r partner (gallai hyn ofyn am allforio â llaw).
Cysoni trwy 'x' e.e. Cysoni trwy Wonde neu Groupcall: Y trydydd parti a enwir sy’n darparu ein cysylltiad â’r partner hwn.
Cysoni trwy Ddarparydd Data: Mae cysylltiad gennym â’r partner, ond bydd angen i chi gadarnhau â nhw pa drydydd parti yn union y maen nhw’n ei ddefnyddio i godi data o Arbor.
CRW: Bydd angen i chi greu Adroddiad Pwrpasol yn Arbor i allforio data er mwyn ei fewnforio i feddalwedd y partner.
Allforio CTF: Bydd angen i chi allforio ffeil CTF o Arbor i fewnforio data myfyrwyr i feddalwedd y partner.
Beth yw ystyr Un-ffordd neu Dwy-ffordd?
Mae integreiddiad un-ffordd yn caniatáu ar gyfer symud data i un cyfeiriad yn unig. Bydd y partner integredig yn codi’r data o Arbor – ond ni fydd y rhaglen trydydd parti yn cyflwyno unrhyw wybodaeth i Arbor. Integreiddiadau un-ffordd yw’r holl integreiddiadau sy’n cael eu cysoni gan Assembly, Groupcall a Wonde.
Mae integreiddiad dwyffordd yn caniatáu i ddata lifo i’r ddau gyfeiriad - o Arbor i’r trydydd parti, ac i mewn i Arbor o’r rhaglen trydydd parti. Cewch weld manylion yr union fersiwn (diweddariad) a/neu ddileu mynediad y rhaglen o dan sylw i’ch data Arbor cyn cymeradwyo’r integreiddiad.
Beth yw ystyr Darllen neu Ysgrifennu?
Wrth drefnu integreiddiad, fe welwch a yw’r rhaglen am ‘ddarllen’ neu ‘ysgrifennu’ data.
Mae integreiddiad darllen yn golygu bod y rhaglen trydydd parti yn codi gwybodaeth o Arbor i’w defnyddio yn ei meddalwedd:
- Y rhaglen trydydd parti sy’n dewis pa wybodaeth i’w thynnu o Arbor.
- Y rhaglen trydydd parti fydd yn gwneud unrhyw newidiadau i’r wybodaeth sy’n cael ei darllen - cysylltwch â nhw os ydych chi’n ansicr pa wybodaeth sy’n cael ei chodi.
- Os oes gan raglen integreiddiad darllen, ni chaiff unrhyw wybodaeth ei golygu yn Arbor.
Mae integreiddiad ysgrifennu’n golygu bod rhaglen trydydd parti yn gallu golygu data yn Arbor (fel Inventry neu Edval):
- Caiff newidiadau eu gwneud yn y rhaglen trydydd parti a’u gwthio i mewn i Arbor.
- Arbor fydd wedi datblygu’r integreiddiad ysgrifennu o fewn y rhaglen trydydd parti - os ydych am newid pa wybodaeth sy’n cael ei hysgrifennu nôl i Arbor, cysylltwch â’r rhaglen trydydd parti. Byddan nhw’n cysylltu â ni os oes angen cyflawni newidiadau.
Ar gyfer y ddau fath o integreiddiad, y rhaglen trydydd parti sy’n pennu amledd y cysoni - cysylltwch â nhw i holi pa mor aml mae’r data’n cael ei gysoni.
Sut mae mynd ati i gysylltu â chwmni/partner ar eich rhestr?
Os ydych am integreiddio eich safle Arbor â chwmni/partner ag Integreiddiad Math API neu Cysoni trwy…, dylech gysylltu â’r cwmni’n gyntaf i roi gwybod iddynt eich bod chi’n defnyddio Arbor a’ch bod am drefnu’r integreiddiad. Wedyn gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr erthygl hon i gyflawni’r broses trefnu.
Pam na allaf i weld enw cwmni ar eich rhestr?
Os nad yw cwmni’n ymddangos ar y rhestr isod, nid oes cysylltiad wedi bod â nhw ynghylch trefnu integreiddiad. Os ydych chi am i gwmni neu raglen integreiddio â ni, ond nad ydynt i’w gweld ar y rhestr, cyfeiriwch nhw at adran Sut gallwn ni sefydlu ein Hintegreiddiad API ein hunain ag Arbor? yn yr erthygl hon: Cwestiynau cyffredin am drefnu integreiddiadau.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.