Mae’r erthygl yma’n esbonio sut i ddefnyddio Fy Hafan, eich dangosfwrdd Arbor personol. Fe’i dyluniwyd ar gyfer athrawon a staff bugeiliol, ac mae’n cynnig trosolwg cyflym o’ch dosbarthiadau, ynghyd â phresenoldeb, ymddygiad a chynnydd disgyblion.
Sut mae cyrchu Fy Hafan?
I gyrchu Fy Hafan, bydd angen caniatâd Dangosfwrdd: Staff arnoch. Mae hyn fel arfer yn gynwysedig yn Rôl Busnes aelod o staff. Os na allwch ei gyrchu, cysylltwch â’ch tîm gweinyddol i ofyn am caniatâd yma. Bydd gosodiad y dangosfwrdd a’r wybodaeth sydd ynddo’n amrywio yn dibynnu ar eich rôl.
Nodweddion Allweddol i’r Holl Staff
Beth bynnag yw’ch rôl, bydd Fy Hafan yn dangos:
- Cyhoeddiadau’r Ysgol: Cyhoeddiadau pwysig ar y brig.
- Ffefrynnau: Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd cyrchu’r tudalennau a’r gweithredoedd rydych chi’n eu defnyddio’n aml (e.e. ‘Cofnodi presenoldeb’, ‘Anfon neges e-bost’). Gallwch bersonoli’ch dangosfwrdd trwy ychwanegu ac ailenwi’r rhain.
- Ystadegau’r Ysgol: Gweld ac addasu data am berfformiad yr ysgol gyfan (Presenoldeb, Ymddygiad neu Gyrhaeddiad) Gallwch gymharu perfformiad eich ysgol ag ysgolion Arbor eraill hefyd gan ddefnyddio data Cyfartaledd Cenedlaethol Arbor a Chanradd Cenedlaethol Arbor.
Dyma esiampl o’r hyn y byddai’r Pennaeth (rhywun nad yw’n staff addysgu neu fugeiliol) yn ei weld.
Nodweddion ychwanegol ar gyfer staff Addysgu a bugeiliol
Os ydych chi’n diwtor dosbarth, arweinydd academaidd, pennaeth blwyddyn, staff arwain ar gyfer ymyriadau, neu’n bennaeth adran, fe welwch hefyd:
- Fy Myfyrwyr - golwg wedi’i phersonoli o gynnydd myfyrwyr. Gallwch chwilio am dueddiadau, hidlo fesul grŵp allweddol (e.e. Bechgyn Blwyddyn 5 sy’n cael Prydau Ysgol am Ddim, merched ac AAA y mae’r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt) neu newid i’r tab “Ysgol Gyfan” am drosolwg cyffredinol.
-
Rhestr Tasgau - Rhestr awtomatig o dasgau brys fel:
- Cofrestrau anghyflawn
- Digwyddiadau ymddygiad heb eu datrys
- Casgliadau anghyflawn o ddata asesu
- Ceisiadau i gyflenwi
- Newidiadau i’w prosesu ar gofnodion myfyrwyr (ar gyfer staff perthnasol)
- Proffiliau dyblyg a amlygwyd (ar gyfer staff perthnasol)
- Hysbysiadau - Hysbysiadau ar gyfer nodiadau meddygol neu fugeiliol newydd, newidiadau i grwpiau myfyrwyr, cosbau a phen-blwyddi.
Mae athrawon neu bobl â chyfrifoldebau bugeiliol yn cynnwys unrhyw un sy’n:
- Tiwtor dosbarth, Arweinydd academaidd, neu’n athro/athrawes dosbarth (rhaid aseinio hyn i’r dosbarth, nid dim ond i amserau ar yr amserlen)
- Pennaeth blwyddyn neu lys (rhaid aseinio hyn yn yr adran Myfyrwyr > Cofrestriadau nid dim ond fod â Rôl Busnes)
- Aelod arweiniol o staff ar gyfer ymyriad (rhaid aseinio hyn i’r ymyriad, nid dim ond i amserau ar yr amserlen)
- Athro neu athrawes grŵp addysgu
- Pennaeth neu Ddirprwy Bennaeth Adran neu Gyfadran
Dyma enghraifft o’r hyn y byddai staff addysgu’n ei weld. Gallwch ddefnyddio’r adrannau isod i gofnodi rhagor o wybodaeth am bob maes.
Rhestr o nodweddion
Cliciwch isod i weld beth y gallwch ei wneud ym mhob adran.
1. Dewislenni brig a linciau i rannau eraill o’r safle
Mae’r bar ar frig eich tudalen yn cynnwys dewislenni a fydd yn eich galluogi chi i gyrraedd gwahanol rannau o Arbor. Yma mae canllaw cyflawn i ffeindio’ch ffodd o gwmpas y safle: Sut i ffeindio’ch ffordd o gwmpas Arbor
2. Y bar chwilio
Gallwch chwilio am Fyfyrwyr, Gwarcheidwaid a Staff yn ogystal â chyrsiau a ffurflenni cofrestru yn Arbor gan ddefnyddio’r Blwch Chwilio. Mae popeth y gallwch chwilio amdano i’w gweld yma: Defnyddio Teclyn Chwilio Cyffredinol Arbor
3. Ffefrynnau
Mae’r ddewislen Ffefrynnau yn eich galluogi chi i bersonoli’ch hafan Arbor. Gallwch osod nodau tudalen ar y tudalennau rydych chi’n eu defnyddio amlaf fel y gallwch eu cyrchu’n gyflym ac yn hwylus bob dydd. A gallwch ailenwi’r tudalennau hyn i’w gwneud nhw’n fwy perthnasol i chi hefyd.
Mae’r manylion llawn yma: Addasu Fferfynnau ar Fy Hafan
4. Fy Nghalendr
Yma fe welwch chi unrhyw wersi, clybiau, teithiau, ymyriadau, cosbau, digwyddiadau a chyfarfodydd sydd ar y gweill - unrhyw sesiwn y disgwylir i chi ei mynychu neu ei harwain. Cliciwch Fy Nghalendr i weld eich calendr cyflawn, neu cliciwch ar y digwyddiad i agor dangosfwrdd y sesiwn, fel dangosfwrdd gwers i gofnodi presenoldeb y dosbarth.
5. Tasgau
Yma, bydd athrawon yn gweld unrhyw gofrestrau sy’n anghyflawn ar gyfer eich dosbarthiadau. Bydd y rhain yn ymddangos ar frig y sgrin bob tro.
O dan y rhain, fe welwch chi (gyda’r mwyaf newydd ar y brig):
- digwyddiadau ymddygiad a aseiniwyd i chi eu datrys
- casgliadau anghyflawn o ddata asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
- ceisiadau i gyflenwi
- cosbau sydd wedi darfod: Rhestr Tasgau ar gyfer cosbau sydd wedi darfod o flwyddyn academaidd flaenorol
- cofnodion dyblyg a allai achosi problemau mewngofnodi: Problemau mewngofnodi yn fy rhestr Tasgau ar Fy Hafan
Os oes caniatâd gennych i weld y dudalen Ysgol > Data > Dangosfwrdd Ansawdd Data > Newid Cofnodion Myfyrwyr > I’w Prosesu ac mae eich ysgol yn defnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni, cewch weld pan fo newid newydd i gofnod myfyriwr i’w brosesu, a chlicio i gymeradwyo neu wrthod y newid.
Os yw’r system wedi canfod proffil dyblyg, gall pawb â chaniatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu weld hyn yn eu rhestr tasgau. Gallwch glicio ar y cofnod dyblyg i’w ddileu neu i gyfuno’r ddau ar y dangosfwrdd Ansawdd Data.
Ni allwch greu eich tasgau eich hun am fod y rhain yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig.
Cliciwch ar frig yr adran i weld eich holl Dasgau.
Gallwch glicio ar unrhyw eitem i fynd i’r dudalen lle gallwch gyflawni’r dasg.
Bydd angen i chi gyflawni pob un i glirio’ch rhestr tasgau. Os ydych chi wedi gweithio trwy eich rhestr tasgau, fe welwch chi hyn.
6. Hysbysiadau
Yma fe welwch chi hysbysiad pan fo data newydd yn cael ei gofnodi ar gyfer eich myfyrwyr, neu os ydyn nhw’n dathlu pen-blwydd heddiw, Bydd yr hysbysiad mwyaf newydd ar y brig.
Am fanylion pellach, darllenwch ein herthygl: Hysbysiadau ar eich hafan
7. Cyhoeddiadau’r Ysgol
Gallwch weld unrhyw gyhoeddiadau cyfredol ar gyfer staff yr ysgol. Ni fydd y rhain i’w gweld ar y Porth Rhieni na’r Porth Myfyrwyr os ydych chi’n defnyddio’r rhain hefyd.
Os nad yw’r neges gyflawn i’w gweld, cliciwch i ddarllen y cyhoeddiad cyfan.
Os oes gennych chi ganiatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu, gallwch glicio ar Cyhoeddiadau’r Ysgol i’w golygu neu i ychwanegu rhagor. Gallwch gyrraedd y dudalen hon o Ysgol > Gohebiaeth > Cyhoeddiadau hefyd.
Am fanylion pellach, darllenwch ein herthygl: Cyhoeddiadau’r Ysgol ar eich tudalen hafan
8. Dangosyddion perfformiad allweddol (DPA)
Bydd DPA ar gyfer yr holl fyfyrwyr sydd ar gofrestr eich ysgol ar gael i chi eu gweld. I gael yr holl fanylion am sut mae’r rhain yn gweithio ac a oes modd eu golygu, darllenwch ein canllawiau yma: Sut mae’r DPA ar Fy Hafan yn gweithio?
Os ydych chi’n athro/athrawes neu os oes cyfrifoldebau bugeiliol gennych, e.e. fel pennaeth llys, cewch weld y DPA ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n gysylltiedig â chi - cliciwch ar y tabiau i symud rhwng y ddau.
Ar y tab Fy Myfyrwyr, bydd y DPA yn dangos y myfyrwyr rydych chi’n gysylltiedig â nhw yn unig, felly bydd y ffigurau cofrestru yn is o lawer na ffigurau cyffredinol yr ysgol fel rheol.
Gallwch ddewis pa DPA i’w harddangos gan ddefnyddio’r ddewislen Gweld.
Mae’r holl opsiynau hidlo yn rhai ‘gludiog’ felly ar ôl i chi eu gosod byddan nhw'r un fath bob tro y byddwch chi’n dychwelyd at eich Dangosfwrdd neu’n mewngofnodi nes i chi ddewis eu newid. Os ydych chi’n dewis peidio â dangos set o DPA, bydd y rhain ynghudd wrth fewngofnodi’r tro nesaf.
I edrych ar grŵp penodol o fyfyrwyr (e.e. cwrs, dosbarth neu ymyriad penodol) cliciwch ar y cwymplenni hidlo i ddewis eich grŵp.
Mae’r hidlwr yma’n gweithredu fel hidlydd ‘neu’, felly yn yr esiampl yma, bydd fy DPA yn cynnwys unrhyw fyfyrwyr sydd yn 7Pe/1 neu yn 8Pe/2.
Trwy ddefnyddio’r ail hidlydd, gallwch hidlo eich DPA i edrych ar fyfyrwyr sy’n disgyn i ddemograffig penodol hefyd (e.e. rhyw, Saesneg fel Iaith Ychwanegol neu AAA),. Cliciwch ar yr ail gwymplen a dewiswch eich nodweddion demograffig - gallwch ddewis hyd at 2.
Mae’r hidlydd yma’n gweithredu fel hidlydd ‘a’ felly yn yr esiampl yma, bydd fy DPA yn cynnwys unrhyw fyfyrwyr y mae’r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt ac sy’n wrywaidd.
Gallwch ddefnyddio’r ddau hidlydd gyda’i gilydd i chwilio’r DPA am nodweddion demograffig penodedig mewn unrhyw grŵp penodol o fyfyrwyr. Yn yr esiampl yma, gallaf i weld unrhyw un yn llys Acklam sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a Phremiwm Disgyblion.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.