Fy Hafan - eich dangosfwrdd Arbor personol

Mae’r erthygl yma’n esbonio sut i ddefnyddio Fy Hafan, eich dangosfwrdd Arbor personol. Fe’i dyluniwyd ar gyfer athrawon a staff bugeiliol, ac mae’n cynnig trosolwg cyflym o’ch dosbarthiadau, ynghyd â phresenoldeb, ymddygiad a chynnydd disgyblion.
 

Sut mae cyrchu Fy Hafan?

I gyrchu Fy Hafan, bydd angen caniatâd Dangosfwrdd: Staff arnoch. Mae hyn fel arfer yn gynwysedig yn Rôl Busnes aelod o staff. Os na allwch ei gyrchu, cysylltwch â’ch tîm gweinyddol i ofyn am caniatâd yma. Bydd gosodiad y dangosfwrdd a’r wybodaeth sydd ynddo’n amrywio yn dibynnu ar eich rôl.
 

Nodweddion Allweddol i’r Holl Staff

Beth bynnag yw’ch rôl, bydd Fy Hafan yn dangos:

  • Cyhoeddiadau’r Ysgol: Cyhoeddiadau pwysig ar y brig.
  • Ffefrynnau: Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd cyrchu’r tudalennau a’r gweithredoedd rydych chi’n eu defnyddio’n aml (e.e. ‘Cofnodi presenoldeb’, ‘Anfon neges e-bost’). Gallwch bersonoli’ch dangosfwrdd trwy ychwanegu ac ailenwi’r rhain.
  • Ystadegau’r Ysgol: Gweld ac addasu data am berfformiad yr ysgol gyfan (Presenoldeb, Ymddygiad neu Gyrhaeddiad) Gallwch gymharu perfformiad eich ysgol ag ysgolion Arbor eraill hefyd gan ddefnyddio data Cyfartaledd Cenedlaethol Arbor a Chanradd Cenedlaethol Arbor.

Dyma esiampl o’r hyn y byddai’r Pennaeth (rhywun nad yw’n staff addysgu neu fugeiliol) yn ei weld.


 

Nodweddion ychwanegol ar gyfer staff Addysgu a bugeiliol

Os ydych chi’n diwtor dosbarth, arweinydd academaidd, pennaeth blwyddyn, staff arwain ar gyfer ymyriadau, neu’n bennaeth adran, fe welwch hefyd:

  • Fy Myfyrwyr - golwg wedi’i phersonoli o gynnydd myfyrwyr. Gallwch chwilio am dueddiadau, hidlo fesul grŵp allweddol (e.e. Bechgyn Blwyddyn 5 sy’n cael Prydau Ysgol am Ddim, merched ac AAA y mae’r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt) neu newid i’r tab “Ysgol Gyfan” am drosolwg cyffredinol.
  • Rhestr Tasgau - Rhestr awtomatig o dasgau brys fel:
    • Cofrestrau anghyflawn
    • Digwyddiadau ymddygiad heb eu datrys
    • Casgliadau anghyflawn o ddata asesu
    • Ceisiadau i gyflenwi
    • Newidiadau i’w prosesu ar gofnodion myfyrwyr (ar gyfer staff perthnasol)
    • Proffiliau dyblyg a amlygwyd (ar gyfer staff perthnasol)
  • Hysbysiadau - Hysbysiadau ar gyfer nodiadau meddygol neu fugeiliol newydd, newidiadau i grwpiau myfyrwyr, cosbau a phen-blwyddi.

Mae athrawon neu bobl â chyfrifoldebau bugeiliol yn cynnwys unrhyw un sy’n:

  • Tiwtor dosbarth, Arweinydd academaidd, neu’n athro/athrawes dosbarth (rhaid aseinio hyn i’r dosbarth, nid dim ond i amserau ar yr amserlen)
  • Pennaeth blwyddyn neu lys (rhaid aseinio hyn yn yr adran Myfyrwyr > Cofrestriadau nid dim ond fod â Rôl Busnes)
  • Aelod arweiniol o staff ar gyfer ymyriad (rhaid aseinio hyn i’r ymyriad, nid dim ond i amserau ar yr amserlen)
  • Athro neu athrawes grŵp addysgu
  • Pennaeth neu Ddirprwy Bennaeth Adran neu Gyfadran

Dyma enghraifft o’r hyn y byddai staff addysgu’n ei weld. Gallwch ddefnyddio’r adrannau isod i gofnodi rhagor o wybodaeth am bob maes.


 

Rhestr o nodweddion

Cliciwch isod i weld beth y gallwch ei wneud ym mhob adran.
 

1. Dewislenni brig a linciau i rannau eraill o’r safle

Mae’r bar ar frig eich tudalen yn cynnwys dewislenni a fydd yn eich galluogi chi i gyrraedd gwahanol rannau o Arbor. Yma mae canllaw cyflawn i ffeindio’ch ffodd o gwmpas y safle: Sut i ffeindio’ch ffordd o gwmpas Arbor
 


 

2. Y bar chwilio

Gallwch chwilio am Fyfyrwyr, Gwarcheidwaid a Staff yn ogystal â chyrsiau a ffurflenni cofrestru yn Arbor gan ddefnyddio’r Blwch Chwilio. Mae popeth y gallwch chwilio amdano i’w gweld yma: Defnyddio Teclyn Chwilio Cyffredinol Arbor


 

3. Ffefrynnau

Mae’r ddewislen Ffefrynnau yn eich galluogi chi i bersonoli’ch hafan Arbor. Gallwch osod nodau tudalen ar y tudalennau rydych chi’n eu defnyddio amlaf fel y gallwch eu cyrchu’n gyflym ac yn hwylus bob dydd. A gallwch ailenwi’r tudalennau hyn i’w gwneud nhw’n fwy perthnasol i chi hefyd.

Mae’r manylion llawn yma: Addasu Fferfynnau ar Fy Hafan
 

Screenshot 2024-03-25 at 14.50.14.png
 

4. Fy Nghalendr

Yma fe welwch chi unrhyw wersi, clybiau, teithiau, ymyriadau, cosbau, digwyddiadau a chyfarfodydd sydd ar y gweill - unrhyw sesiwn y disgwylir i chi ei mynychu neu ei harwain. Cliciwch Fy Nghalendr i weld eich calendr cyflawn, neu cliciwch ar y digwyddiad i agor dangosfwrdd y sesiwn, fel dangosfwrdd gwers i gofnodi presenoldeb y dosbarth.
 

my_calendar.png
 

5. Tasgau

Yma, bydd athrawon yn gweld unrhyw gofrestrau sy’n anghyflawn ar gyfer eich dosbarthiadau. Bydd y rhain yn ymddangos ar frig y sgrin bob tro.

O dan y rhain, fe welwch chi (gyda’r mwyaf newydd ar y brig):

Screenshot_2020-11-13_at_13.26.00.png
 

Os oes caniatâd gennych i weld y dudalen Ysgol > Data > Dangosfwrdd Ansawdd Data > Newid Cofnodion Myfyrwyr > I’w Prosesu ac mae eich ysgol yn defnyddio’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni, cewch weld pan fo newid newydd i gofnod myfyriwr i’w brosesu, a chlicio i gymeradwyo neu wrthod y newid.

Os yw’r system wedi canfod proffil dyblyg, gall pawb â chaniatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu weld hyn yn eu rhestr tasgau. Gallwch glicio ar y cofnod dyblyg i’w ddileu neu i gyfuno’r ddau ar y dangosfwrdd Ansawdd Data.

Ni allwch greu eich tasgau eich hun am fod y rhain yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig.

record_changes_and_duplicates.png
 

Cliciwch ar frig yr adran i weld eich holl Dasgau.

Screenshot_2023-04-25_at_08.49.59.png
 

Gallwch glicio ar unrhyw eitem i fynd i’r dudalen lle gallwch gyflawni’r dasg.

Screenshot_2023-04-25_at_08.50.17.png
 

Bydd angen i chi gyflawni pob un i glirio’ch rhestr tasgau. Os ydych chi wedi gweithio trwy eich rhestr tasgau, fe welwch chi hyn.

to_do_list_all_done.png
 

6. Hysbysiadau

Yma fe welwch chi hysbysiad pan fo data newydd yn cael ei gofnodi ar gyfer eich myfyrwyr, neu os ydyn nhw’n dathlu pen-blwydd heddiw, Bydd yr hysbysiad mwyaf newydd ar y brig.

Am fanylion pellach, darllenwch ein herthygl: Hysbysiadau ar eich hafan

Screenshot_2022-02-14_at_12.52.05.png
 

7. Cyhoeddiadau’r Ysgol

Gallwch weld unrhyw gyhoeddiadau cyfredol ar gyfer staff yr ysgol. Ni fydd y rhain i’w gweld ar y Porth Rhieni na’r Porth Myfyrwyr os ydych chi’n defnyddio’r rhain hefyd.

Os nad yw’r neges gyflawn i’w gweld, cliciwch i ddarllen y cyhoeddiad cyfan.

school_notices.png
 

Os oes gennych chi ganiatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu, gallwch glicio ar Cyhoeddiadau’r Ysgol i’w golygu neu i ychwanegu rhagor. Gallwch gyrraedd y dudalen hon o Ysgol > Gohebiaeth > Cyhoeddiadau hefyd.

Am fanylion pellach, darllenwch ein herthygl: Cyhoeddiadau’r Ysgol ar eich tudalen hafan

edit_or_add_more_notices.png
 

8. Dangosyddion perfformiad allweddol (DPA)

Bydd DPA ar gyfer yr holl fyfyrwyr sydd ar gofrestr eich ysgol ar gael i chi eu gweld. I gael yr holl fanylion am sut mae’r rhain yn gweithio ac a oes modd eu golygu, darllenwch ein canllawiau yma: Sut mae’r DPA ar Fy Hafan yn gweithio?

 

Os ydych chi’n athro/athrawes neu os oes cyfrifoldebau bugeiliol gennych, e.e. fel pennaeth llys, cewch weld y DPA ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n gysylltiedig â chi - cliciwch ar y tabiau i symud rhwng y ddau.

Ar y tab Fy Myfyrwyr, bydd y DPA yn dangos y myfyrwyr rydych chi’n gysylltiedig â nhw yn unig, felly bydd y ffigurau cofrestru yn is o lawer na ffigurau cyffredinol yr ysgol fel rheol.
 

my_students_or_whole_school.png
 

Gallwch ddewis pa DPA i’w harddangos gan ddefnyddio’r ddewislen Gweld.

Mae’r holl opsiynau hidlo yn rhai ‘gludiog’ felly ar ôl i chi eu gosod byddan nhw'r un fath bob tro y byddwch chi’n dychwelyd at eich Dangosfwrdd neu’n mewngofnodi nes i chi ddewis eu newid. Os ydych chi’n dewis peidio â dangos set o DPA, bydd y rhain ynghudd wrth fewngofnodi’r tro nesaf.

 

I edrych ar grŵp penodol o fyfyrwyr (e.e. cwrs, dosbarth neu ymyriad penodol) cliciwch ar y cwymplenni hidlo i ddewis eich grŵp.

my_student_groups.png
 

Mae’r hidlwr yma’n gweithredu fel hidlydd ‘neu’, felly yn yr esiampl yma, bydd fy DPA yn cynnwys unrhyw fyfyrwyr sydd yn 7Pe/1 neu yn 8Pe/2.

student_groups_select.png
 

Trwy ddefnyddio’r ail hidlydd, gallwch hidlo eich DPA i edrych ar fyfyrwyr sy’n disgyn i ddemograffig penodol hefyd (e.e. rhyw, Saesneg fel Iaith Ychwanegol neu AAA),. Cliciwch ar yr ail gwymplen a dewiswch eich nodweddion demograffig - gallwch ddewis hyd at 2.

Mae’r hidlydd yma’n gweithredu fel hidlydd ‘a’ felly yn yr esiampl yma, bydd fy DPA yn cynnwys unrhyw fyfyrwyr y mae’r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt ac sy’n wrywaidd.

Screenshot_2022-11-18_at_14.41.57.png
 

Gallwch ddefnyddio’r ddau hidlydd gyda’i gilydd i chwilio’r DPA am nodweddion demograffig penodedig mewn unrhyw grŵp penodol o fyfyrwyr. Yn yr esiampl yma, gallaf i weld unrhyw un yn llys Acklam sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a Phremiwm Disgyblion.

student_group_and_demographics_combined.png

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
141 allan o 264 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.