Rheoli Gosodiadau a chynlluniau eistedd yn Fy Ystafell Ddosbarth

Mae Fy Ystafell Ddosbarth yn caniatáu i chi weld data cyrhaeddiad, presenoldeb ac ymddygiad ar gyfer eich dosbarth yn uniongyrchol ar eich cynllun eistedd. I’ch galluogi i wneud hyn, bydd angen creu trefn gosod ar gyfer eich ystafell ddosbarth (ymhle mae’r seddi) a chynllun eistedd (ymhle mae’r myfyrwyr yn eistedd).

Gallwch greu mwy nag un drefn gosod, sy’n eich galluogi i newid y trefniadau eistedd eich dosbarth. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n newid trefn gosod eich dosbarth yn ystod y wers.
 

Caniatâd

  • I gychwyn arni gyda Fy Nosbarth, bydd angen i chi fod â chaniatâd Rheoli Ystafell Ddosbarth: Gweinyddu Fy/Pob Trefn Eistedd ar eich proffil Arbor.

Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau yma.
 

Y dudalen Gosodiad yr Ystafell Ddosbarth

Mae’r dudalen gosodiad yr ystafell ddosbarth yn eich galluogi i weld gosodiad y seddi yn eich dosbarth. Gallwch greu mwy nag un gosodiad, sy’n eich galluogi i newid y trefniadau eistedd eich dosbarth. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n newid gosodiad eich ystafell ddosbarth yn ystod y wers.

Gall aelodau eraill o staff sy’n addysgu yn yr un ystafell ddefnyddio eich gosodiadau. Os yw athro/athrawes arall am olygu eich gosodiad, bydd angen iddynt greu copi a golygu’r copi newydd.

Mae’r ddewislen ar ochr dde tudalen gosodiad yr ystafell ddosbarth yn eich galluogi i:

  • Ddewis gosodiad ystafell
  • Creu gosodiad ystafell newydd
  • Llusgo seddi i’w lle

Mae’r ddewislen gyntaf yn eich galluogi i ddewis ystafell arall. Y dewis diofyn fydd eich ystafell gyfredol.
 

 

Sut mae cyrraedd y dudalen Gosodiad?

Wrth agor Fy Ystafell Ddosbarth ar gyfer eich gwers (gallwch weld sut i gyrraedd Fy Ystafell Ddosbarth yma):

  • Os nad oes neb arall yn eich ysgol wedi creu gosodiad dosbarth ar gyfer yr ystafell o dan sylw, bydd angen i chi greu gosodiad a chynllun eistedd, felly bydd Arbor yn mynd â chi i’r Dudalen Gosodiadau yn awtomatig.
     
  • Os crëwyd gosodiad ystafell ar gyfer yr ystafell yn barod, cewch ddefnyddio’r gosodiad cyfredol a chreu cynllun eistedd.

    Neu, gallwch greu eich gosodiad eich hun trwy glicio’r tri dot fertigol, wedyn dewis Golygu gosodiad yr ystafell.

 

Agor Fy Ystafell Ddosbarth ar gyfer ystafell am y tro cyntaf

Wrth agor Fy Ystafell Ddosbarth am y tro cyntaf ar gyfer eich gwers, os nad oes neb arall yn eich ysgol wedi creu gosodiad ar gyfer yr ystafell ddosbarth o dan sylw yn barod, bydd gofyn i chi greu gosodiad ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Screenshot_2021-06-22_at_11.49.34.png
 

Cliciwch y botwm Iawn gwyrdd i greu gosodiad ar gyfer yr ystafell.

 

Cliciwch y botwm Creu gosodiad ystafell newydd i ddechrau adio gosodiad newydd.

 

Bydd clicio ar y sgwâr Adio Sedd yn glynu sedd wrth gyrchwr eich llygoden. Penderfynwch ble rydych am osod y sedd gyntaf ar y dudalen, wedyn cliciwch eto i’w gosod yn ei lle.

I ddileu sedd, cliciwch y groes yng nghornel uchaf y sedd ar y dde.

Pan fyddwch chi’n fodlon ar y gosodiad, ac wedi ei enwi, cliciwch Cadw gosodiad newydd.

 

I ddileu gosodiad, cliciwch Dileu Gosodiad

 

Cliciwch y botwm Golygu cynllun eistedd yng nghornel uchaf y sgrin ar y dde i greu eich cynllun eistedd.

 

Defnyddio gosodiad ystafell sy’n bodoli eisoes

Os oes gosodiad ystafell eisoes yn bodoli ar gyfer yr ystafell, bydd Arbor yn mynd â chi i’r brif dudalen Fy Ystafell Ddosbarth. Yn yr esiampl yma, fe welwch chi fod rhywun eisoes wedi creu gosodiad ar gyfer yr ystafell. Byddai angen felly i mi greu cynllun eistedd ar gyfer fy nosbarth.

 

Cliciwch y tri dot fertigol yng nghornel uchaf y dudalen ar y dde. Wedyn gallwch greu cynllun eistedd gan ddefnyddio’r gosodiad yma, neu glicio Golygu Gosodiad yr Ystafell i adio gosodiad newydd.

 

Defnyddio llwybrau byr y bysellfwrdd a gosodiadau parhaus

I adio nifer o seddi’n gyflym, defnyddiwch y blwch ticio i alluogi Gosod seddi parhaus. Pan fo hyn wedi ei alluogi, nid oes angen i chi glicio Adio Sedd bob tro rydych chi am osod sedd. Yn hytrach, ar ôl clicio adio sedd, bob tro y byddwch chi’n clicio’r sgrin, bydd yn gosod sedd nes i chi glicio Clicio ar y grid i osod sedd.

 

Gallwch ddefnyddio’r llwybrau byr canlynol i osod seddi’n gynt hefyd.

  • A - Adio sedd - bydd hyn yn glynu sedd wrth eich cyrchwr (fel petaech wedi clicio’r botwm Adio Sedd ar y dde). Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio i’w adio at y gosodiad.
  • C - Canslo’r sedd gyfredol. Bydd hyn yn tynnu’r sedd oddi ar eich cyrchwr (fel clicio Clicio ar y grid i osod sedd ar y dde).
  • Bylchwr – Toglo seddi parhaus.
     

Creu cynllun eistedd ar gyfer eich dosbarth

Noder: Nid yw’n bosibl dyrannu seddi ar hap yn awtomatig yn eich cynllun eistedd.

Cliciwch ar y tri dot fertigol yng nghornel uchaf eich tudalen ar y dde a chlicio Golygu’r cynllun eistedd.

 

Bydd rhestr o’r enwau myfyrwyr yn ymddangos ar y dde. O’r rhestr honno, dewiswch y myfyriwr rydych am ei osod yn y sedd (1).

Wedyn cliciwch ar y sedd yn y gosodiad lle’r ydych am iddynt eistedd (2).

 

Os ydych am symud y myfyriwr i sedd wahanol, cliciwch arnyn nhw yn y cynllun i’w tynnu o’r sedd. Wedyn, cliciwch ar eu henw ar y dde a chlicio sedd wahanol i’w hadio nhw iddi. Dylid nodi nad yw’n bosibl tynnu pob myfyriwr yr un pryd a dechrau o’r dechrau.

I gadw eich newidiadau, adiwch enw, wedyn cliciwch y botwm Cadw’r Cynllun.

 

I ddychwelyd i brif dudalen Fy Ystafell Ddosbarth, cliciwch ar y botwm Ewch i Fy Ystafell Ddosbarth.

Screenshot_2021-06-22_at_12.10.08.png
 

Gallwch greu sawl cynllun eistedd mewn un gosodiad. Cliciwch ar y tri dot fertigol yng nghornel uchaf eich tudalen ar y dde a chliciwch Golygu’r cynllun eistedd.

Cliciwch y botwm Creu trefn eistedd newydd. Gwnewch yn siŵr bod gan bob un enw gwahanol fel eich bod chi’n gallu gwahaniaethu rhyngddyn nhw.

Screenshot_2021-06-22_at_12.11.52.png
 

Os newidiwch chi osodiad eich dosbarth yng nghanol gwers, er enghraifft, mewn gwers ddrama lle’r ydych chi’n gweithio mewn cylch wedyn yn unigol, gallwch newid y gosodiad - trwy glicio ar y gwymplen.

Gallwch symud rhwng cynlluniau eistedd yn ystod y wers o’r dudalen Fy Ystafell Ddosbarth – dim ond trwy glicio ar y tri dot fertigol.

Beth yw’r cam nesaf?

Ar ôl trefnu eich ystafell ddosbarth, gallwch dechrau defnyddio hyn i gofnodi presenoldeb, cofnodi ymddygiad a gweld cyrhaeddiad mewn un lle.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
17 allan o 69 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.