Mae’r erthygl hon yn cynnig cyflwyniad i reoli taliadau yn Arbor, gan amlinellu’r camau y gall ysgolion eu cymryd i drefnu a defnyddio’r nodweddion talu yn effeithiol. Mae’n trafod dechrau trefnu taliadau â cherdyn, rheoli taliadau ar gyfer clybiau, teithiau a phrydau bwyd, yn ogystal â’r mesurau diogelwch sy’n gweithredu ar gyfer trafodion ar lein. Yn ogystal, mae’n esbonio’r gwahanol becynnau sydd ar gael, a sut i uwchraddio i gael rhagor o nodweddion.
Y canllaw hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o bedwar. Dyma’r canllawiau sydd yn y gyfres hon:
- Cyflwyniad i Daliadau yn Arbor
- Trefnu’r ardal Taliadau er mwyn galluogi taliadau ar gyfer Siop yr Ysgol, Clybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd
- Hwb - Manteisio i’r eithaf ar Daliadau yn Arbor
- Y gosodiadau a argymhellir wrth drefnu taliadau
Awgrym: Ansicr ble i ddechrau gyda thaliadau yn Arbor, neu angen cymorth i drefnu taliadau? Rhowch gynnig ar ein Canllaw i Gymorth gyda Thaliadau yn yr Ap!
Pa nodweddion sydd wedi eu cynnwys yn fy mhecyn?
Mae gennym bob math o wahanol nodweddion y gallwch eu defnyddio i reoli taliadau yn rhan o’ch MIS. Ehangwch yr adran isod i edrych ar y tabl a gweld grid o’r prif nodweddion sy’n gynwysedig ym mhob pecyn sylfaenol. Oddi tano, mae yna restr o’r pecynnau a’r nodweddion talu sy’n gynwysedig gyda phob un.
Awgrym: Efallai eich bod chi wedi clywed am Payments Plus. Dyna’r enw am y pecyn cyflawn o’r cynhyrchion yma.
- Siop yr Ysgol
- Bwydlenni Cylchol a’r Porth Rhieni/Dewis Prydau trwy’r Ap
- Talu ag Apple Pay neu Google Pay
I ddysgu sut i uwchraddio eich pecyn, cysylltwch â customersales@arbor-education.com
| Nodwedd | Core | Comms | Perform | Gofynion eraill |
| Trefnu Clybiau a Theithiau | ✓ | ✓ | ✓ | |
| Cyfleuster i rieni gofrestru a thalu am glybiau a theithiau | ✓ | ✓ | Rhaid cynnau’r Porth Rhieni a’r Ap. | |
| Trefnu Prydau Bwyd | Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig. | ✓ | ||
| Taliadau am Brydau Bwyd gan Fyfyrwyr a Staff | Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig | ✓ | ||
| Arlwyaeth heb arian parod | Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig | ✓ | Rhaid trefnu Integreiddio. | |
| Cofrestru taliadau arian parod, â siec neu drosglwyddiad banc | Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig | ✓ | ||
| Prosesu ad-daliadau a chofnodi anfonebau | Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig | ✓ | ||
| Cyfleuster i rieni dalu am brydau bwyd a chyfrifon ychwanegu arian eraill â cherdyn, ac i chi i gofnodi taliadau ac ad-daliadau | Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig | ✓ | Rhaid i chi fod wedi trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. | |
| Bwydlenni Cylchol a Dewis Prydau Bwyd trwy’r Porth Rhieni/Ap | Ein pecyn Perform diweddaraf yn unig | Rhaid i chi fod wedi trefnu Bwydlenni Cylchol ar eich safle, rhaid cynnau’r Porth Rhieni a’r Ap. | ||
| Siop yr Ysgol | Ein pecyn Perform diweddaraf yn unig | Rhaid i chi fod wedi trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. | ||
| Talu ag Apple Pay neu Google Pay | Ein pecyn Perform diweddaraf yn unig | Rhaid i chi fod wedi trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. |
Nodweddion Core:
Trefnu Clybiau a Theithiau Yn y pecynnau Core, Comms a Perform.
Nodweddion Comms:
Gall rhieni gofrestru a thalu am glybiau a theithiau: Rhaid cynnau’r Porth Rhieni a’r Ap.
Trefnu Prydau Bwyd: Yn y pecyn Comms diweddaraf yn unig, a Perform.
Taliadau am Brydau Bwyd gan Fyfyrwyr a Staff: Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.
Arlwyaeth heb arian parod: Bydd angen integreiddio i drefnu hyn. Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.
Cofnodi taliadau arian parod, â siec neu drosglwyddiad banc: Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.
Prosesu ad-daliadau a chofnodi anfonebau: Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.
Cyfleuster i rieni dalu am brydau bwyd a chyfrifon ychwanegu arian eraill â cherdyn, ac i chi gofnodi taliadau ac ad-daliadau. Rhaid trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.
Nodweddion Perform:
Bwydlenni Cylchol a Dewis Prydau bwyd yn y Porth Rhieni/App: Mae angen trefnu Bwydlenni Cylchol ar eich safle, a galluogi’r Porth Rhieni a’r Ap. Yn y pecyn Perform diweddaraf yn unig.
Siop yr Ysgol: Rhaid trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. Yn y pecyn Perform diweddaraf yn unig.
Talu ag Apple Pay neu Google Pay: Rhaid trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. Yn y pecyn Perform diweddaraf yn unig.
Sut mae taliadau’n gweithio yn Arbor?
Gallwch drefnu, gwneud a rheoli taliadau, adroddiadau ac anfonebau yn MIS Arbor, gan arbed amser a fyddai’n cael ei dreulio’n cynnal ac yn defnyddio nifer o wahanol systemau fel arall.
Mae’r ffyrdd o ddefnyddio a sefydlu taliadau yn Arbor yn ymrannu’n ddau brif fath:
- Trefniadau sy’n cynnwys talu â charden - Mae hyn yn caniatáu i rieni dalu trwy’r Ap Rhieni a’r Porth Rhieni. Gallwch reoli taliadau â llaw hefyd gan ddefnyddio arian parod, siec neu drosglwyddiad banc.
- Trefniadau heb daliadau â cherdyn - Gan ddefnyddio’r dull yma, gallwch gofnodi taliadau a wneir ag arian parod, siec neu drosglwyddiad banc â llaw yn unig.
Noder: Mae swyddogaethau taliadau â cherdyn Arbor ar gael i ysgolion:
- sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig, heb gynnwys Ynys Manaw
- sydd â chyfrif banc sy’n derbyn taliadau trwy BACS neu ddebyd uniongyrchol
-
sydd ag unrhyw un o’n pecynnau Perform, neu ein pecyn Comms diweddaraf. Ni fydd pecynnau eraill Arbor yn cynnig y nodwedd hon yn ddiofyn. Am uwchraddio neu ganfod pa becyn sydd gennych? Cysylltwch â’ch Rheolwr Partneriaeth.
Dewis peidio â defnyddio Taliadau â Cherdyn
Am mai swyddogaeth taliadau â cherdyn Arbor yw’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol a syml, rydyn ni’n argymell bod ysgolion yn ei ystyried.
Os ydych chi’n sicr nad ydych am ddefnyddio Arbor i reoli taliadau â cherdyn, gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf ar eich siwrnai: Adeiladu - Trefnu’r maes Taliadau i alluogi taliadau ar gyfer Siop yr Ysgol, Clybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd. Gallwch hepgor yr adran ar sefydlu taliadau â cherdyn a neidio’n syth i’r adran Sefydlu Clybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd.
Defnyddio Taliadau â Cherdyn
Trwy sefydlu taliadau â cherdyn, gallwch dalu allan i nifer o gyfrifon banc a gweld dadansoddiad manwl o bob taliad, oll gyda ffi trafod ostyngol o 1.275% + TAW (sy’n rhatach na’r rhan fwyaf o ddarparwyr).
Ar ôl trefnu taliadau, gallwch symud ymlaen i drefnu eich:
- Teithiau - Digwyddiadau untro lle mae’r myfyrwyr oddi ar safle’r ysgol.
- Clybiau Safonol - Gweithgareddau sy’n digwydd drosodd a thro i fyfyrwyr
- Gofal Cofleidiol - Clybiau Brecwast neu Ar ôl Ysgol sy’n gallu cynnwys pryd bwyd
- Prydau Bwyd – Bydd Gwarcheidwaid yn ychwanegu at y cyfrif prydau bwyd, sy’n gallu cael ei anfonebu am gost pryd bwyd y myfyriwr yn awtomatig pob dydd
- Siop yr Ysgol - Eitemau Gwisg Ysgol neu o’r Siop Byrbrydiau
Byddwn ni’n dangos i chi sut i drefnu taliadau â cherdyn, wedyn sut i bennu at ba ddibenion y caiff taliadau â cherdyn eu defnyddio yn y cam nesaf: Adeiladu – Trefnu’r maes Taliadau er mwyn galluogi taliadau i Siop yr Ysgol, am Glybiau, Teithiau ac am Brydau Bwyd’
Sut mae taliadau’n cael eu gwneud?
Gan staff yr ysgol
O fewn eich MIS, gallwch gofnodi taliadau arian parod neu â siec am Glybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd. Gallwch gofnodi taliadau ar gyfer Cyfrifon Cwsmeriaid myfyrwyr unigol neu aelodau unigol o staff hefyd trwy fynd i’r adran Taliadau ar ochr chwith eu proffiliau.
Gallwch gymryd taliadau â cherdyn am Brydau Bwyd a Chyfrifon Cwsmeriaid eraill (sydd wedi galluogi taliadau â cherdyn) lle bynnag y gwelwch chi’r botwm 'Talu â cherdyn/Ychwanegu arian â cherdyn' hefyd. Nid yw’n bosibl gwneud taliadau â cherdyn ar gyfer Clybiau a Theithiau trwy Arbor fel gweinyddwr - byddai angen i chi Fewngofnodi fel gwarcheidwad a gwneud y taliad â cherdyn fel petaech yn warcheidwad yn lle.
Gan rieni a gwarcheidwaid
Os ydych chi wedi trefnu Taliadau â Cherdyn, gall rhieni a gwarcheidwaid dalu o fewn y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni hefyd. Cliciwch ar y linciau isod i weld esiamplau o sut mae hyn yn edrych i warcheidwaid:
Gallwch adio rhagor o opsiynau talu trwy sefydlu Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid. Cyfrifon rhagdalu yw’r rhain, sy’n golygu y gall staff r ysgol neu rieni a gwarcheidwaid ychwanegu at y balans ar y cyfrif hwn ar gyfer myfyrwyr a/neu staff - yn debyg i Brydau Bwyd - wedyn gallwch anfonebu y cyfrifon hyn â llaw i’ch helpu chi i reoli balans y cyfrifon a chodi tâl am eitemau.
A yw taliadau yn Arbor yn ddiogel?
Mae Arbor yn cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer dilysu taliadau ar lein, sef Dilysu Cwsmeriaid yn Gadarn (SCA), a gyflwynwyd i wella diogelwch. Wrth wneud taliad ar lein, mae SCA yn gofyn eich bod chi’n dilysu eich bod chi pwy rydych chi’n dweud yr ydych chi. Yn Arbor, mae hynny’n golygu y bydd angen i ddefnyddwyr neu rieni gwblhau cam ychwanegol i ddilysu trafodion wrth wneud taliad trwy MIS Arbor, y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.
Wrth wneud taliad a nodi manylion y cerdyn (mae Arbor yn derbyn taliadau â Visa a Mastercard yn unig), mae’n bosibl y bydd angen i chi Ddilysu’ch Taliad â Cherdyn.
Ein darparydd taliadau
Rydyn ni’n defnyddio Stripe i gyflawni taliadau â cherdyn, ond o fewn Arbor. Mae trefnu taliadau yn Arbor yn creu Cyfrif Stripe Connected ar gyfer eich ysgol.
Mae Stripe yn cymryd preifatrwydd a diogelwch o ddifri calon. Darllenwch Polisi Preifatrwydd Stripe ar eu gwefan i gael esboniad am sut ac at ba ddibenion y maent yn casglu, yn defnyddio, yn cadw, yn datgelu ac yn diogelu unrhyw ddata personol a ddarperir gan Arbor.
Mae nodweddion diogelwch Stripe yn cynnwys:
- Darparwr Gwasanaethau PCI Lefel 1 - y radd uchaf o ddiogelwch ar gyfer prosesu taliadau.
- Mae gan unrhyw drafodion a wneir trwy Stripe amddiffyniad SSL (Secure Socket Layer). Caiff yr holl wybodaeth yn cael ei hanfon yn ddiogel wrth brosesu’r taliad.
- Mae rhifau cardiau credyd yn cael eu hamgryptio, sy’n sicrhau diogelwch.
All-daliadau ac ad-daliadau
Awgrym: Dim ond os ydych chi wedi trefnu derbyn taliadau â cherdyn y gellir gwneud all-daliadau; fel arall, rhaid ymdrin ag arian parod y tu allan i Arbor.
Ni fydd taliadau a wneir i Arbor yn cael eu talu’n syth i’ch cyfrif banc.
Mae Arbor yn talu’r arian a gesglir o daliadau â cherdyn i gyfrifon banc yn wythnosol, bob dydd Llun (o’r dydd Sul blaenorol i ddiwedd dydd Sadwrn). Er enghraifft, yn achos y pedwar taliad yma:
- Dydd Sul, 1 Mawrth - yn mynd i’r cyfrif banc dydd Llun, 9 Mawrth
- Dydd Mercher, 4 Mawrth - yn mynd i’r cyfrif banc dydd Llun, 9 Mawrth
- Dydd Sadwrn, 7 Mawrth - yn mynd i’r cyfrif banc dydd Llun, 9 Mawrth
- Dydd Sul, 8 Mawrth – ni fydd hyn yn cael ei dalu tan y dydd Llun canlynol.
Weithiau, ni fydd yr arian o’r trafodion â cherdyn yn barod ar gyfer yr all-daliad a amserlennwyd, ac os felly, cânt eu gohirio tan y dydd Llun canlynol. Yn ogystal, gall trosglwyddiadau i gyfrifon banc gymryd hyd at dri diwrnod busnes i’w prosesu trwy Stripe. Am hynny, ni allwn warantu y bydd yr arian yn ymddangos mewn cyfrifon banc ar ddydd Llun y taliad. Mewn ambell i achos prin, gallai gymryd tan y dydd Iau canlynol i’r cyllid fod ar gael.
Bydd ad-daliadau’n effeithio ar swm yr all-daliad, sy’n cael ei gyfrifo trwy dynnu cyfanswm yr ad-daliadau o gyfanswm nifer y trafodion â cherdyn a gafwyd yn ystod cyfnod yr all-daliad.
Gweminar Cyflwyno
Am gael rhagor o wybodaeth ond wedi cael llond bol ar ddarllen? Gwyliwch ein gweminar ar drefnu a rheoli taliadau yn Arbor isod. Defnyddiwch yr amsernodau o dan y fideo i neidio i’r adrannau sydd o’r diddordeb mwyaf i chi.
Amsernodau:
- 00:00 - Gwybodaeth allweddol ar ffioedd a’n darparydd taliadau
- 02:30 - Y wybodaeth fydd ei hangen arnoch i drefnu taliadau
- 05:00 - Trefnu taliadau â cherdyn
- 08:00 - Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid
- 10:40 - Rheoli taliadau ar broffil y myfyriwr
- 16:30 - Clybiau
- 22:00 - Teithiau
- 27:30 - Taliadau ar y Porth Rhieni
- 34:30 - Adroddiadau ar daliadau
- 37:00 - Negeseuon atgoffa i ychwanegu arian
- 38:00 - Adroddiadau ar yr holl daliadau
Beth sydd nesaf?
Dyma ddiwedd y canllaw cyntaf yn y gyfres. Nawr eich bod chi wedi cael cyflwyniad i nodweddion talu Arbor, y cam nesaf yw dechrau meddwl am fynd ati i adeiladu eich trefniadau talu:
Ydych chi’n cynnig hyfforddiant?
Gall ein harbenigwyr Addysgu Cwsmeriaid gynnig cyngor trylwyr ar sut i ddefnyddio’r meysydd a drafodir yn y gyfres hon, a meysydd eraill yn Arbor. Yn dibynnu ar y maes, mae yna sesiynau Sylfaen, ymgynghoriadau mwy manwl neu sesiynau pwrpasol.
I drafod beth fyddai’n gweithio orau at anghenion eich ysgol chi, cysylltwch â customersales@arbor-education.com
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.