Tablau ar draws yr MIS

Mae ein tablau’n cynnig taenlen bwerus â nodweddion hwylus fel chwilio, modd sgrin lawn, a hidlo a newid maint colofnau.

Rydyn ni’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella, felly os oes unrhyw adborth gennych, croeso i chi ei rannu yma: Tablau gwell yn Arbor
 

Gweithredoedd torfol

Gellir defnyddio’r botwm Gweithredoedd torfol ar gyfer golygu torfol, ac i gymryd camau pellach hefyd! Gallwch weld y manylion llawn am ddefnyddio’r nodwedd hon yn y fan yma: Sut a beth y gallaf ei ddiweddaru gan ddefnyddio gweithredoedd torfol?

Ar ôl dewis y celloedd (golygadwy) i’w diweddaru, cliciwch y botwm Gweithred torfol i newid gwerthoedd y celloedd yn dorfol.


 

I gymryd camau pellach, ticiwch y blychau wrth enwau’r myfyrwyr wedyn cliciwch y botwm Gweithred Torfol i gymryd camau pellach neu ddilynol, fel anfon neges.

tick
 

Lawrlwytho a dadansoddi

Dadansoddi data i chi

Cewch ffigurau cyfanredol cywir o’r tabl, heb orfod eu hallforio a’u cyfrifo! Dewiswch y celloedd trwy:

  • ddefnyddio’r botwm shift i ddewis meysydd ar ffurf petryal
  • clicio ar faes a’i lusgo nes bod pob un wedi ei ddewis
  • dal y botwm rheoli a dewis y gwerthoedd rydych chi am eu dadansoddi

Ar waelod y tabl, fe welwch chi’r bar statws a fydd yn dangos Cyfartaledd, Cyfrifiad, Gwerth isaf, Gwerth uchaf a Swm yr holl gelloedd a ddewiswyd!

Awgrymiadau:

  • Dim ond y Cyfrifiad y bydd celloedd an-rifol ac amser/dyddiad yn ei ddangos
  • Ni fydd y bar statws yn ymddangos os ydych chi wedi dewis cell â chwymplen.
  • Gallwch gopïo a gludo gwerthoedd y bar statws.

example
 

Creu siartiau a graffiau yn Arbor

Mae ein nodwedd Troi Tabl yn Siart yn rhoi’r gallu i chi greu delweddau data o’r data rhifol yn eich tablau. Mae rhagor o fanylion yma: Creu, lawrlwytho ac argraffu siartiau a graffiau o ddata Arbor

example table chart.png
 

Lawrlwytho tablau yn Excel, PDF, CSV, a fformatau eraill

Os oes angen i chi lawrlwytho eich data i wahanol fformatau fel Word neu PDF, cliciwch y botwm Lawrlwytho ar frig y tabl. Gallwch weld rhagor am ddefnyddio’r nodwedd hon yn y fan yma: Lawrlwytho ffeiliau o Arbor.

Screenshot_2022-06-06_at_15.54.40.png
 

Awgrym: Gallwch addasu rhai meysydd ychwanegol i greu allbwn wrth greu lawrlwythiadau Excel neu Ffrwd Fyw: Addasu’r lawrlwythiad gyda Chodau Unigryw Myfyrwyr

Screenshot 2023-08-08 at 09.33.12.png
 

Newid trefn a maint

Cliciwch ar benawdau’r colofnau i’w trefnu o’r uchaf i’r isaf neu yn nhrefn yr wyddor.

Screenshot_2022-07-14_at_10.09.03.png
 

Wrth newid trefn colofn, os daliwch y botwm Shift i lawr a chlicio ar bennawd colofn arall, bydd hynny’n newid trefn sawl colofn. Awgrym: Os oes sawl tudalen yn eich tabl, bydd hyn yn gweithio ar y dudalen rydych chi arni ar y pryd yn unig.

Screenshot_2023-03-30_at_10.01.42.png
 

Cliciwch a llusgwch y llinell rhwng penawdau dwy golofn i newid maint y golofn. Gallwch lusgo a gollwng eich colofnau i unrhyw drefn sy’n gweithio i chi, a byddwn ni’n eu cofio nhw pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r dudalen eto.

Dylid nodi na chewch newid trefn rhesi - byddai angen allforio neu Ffrydio’ch tabl i wneud hynny.

Screenshot_2022-07-14_at_10.14.42.png
 

Newid uchder y tabl

Gallwch ymestyn uchder tabl i hyd at 480px i ffitio ar y mwyafrif o sgriniau.

Cliciwch y botwm Ehangu tabl i naill ai:

  • ehangu’r tabl i lenwi’r ffenestr. Awgrym: Gallwch chwyddo allan ar eich porwr a gwneud hyn drosodd a thro.
  • ehangu’r tabl i 600px, os yw’r tabl eisoes yn eistedd ar waelod y dudalen ac na allwch chi sgrolio.

Caiff hyn ei gadw fesul defnyddiwr, fesul tabl.

Screenshot
 

Cliciwch Ailosod y tabl i ddychwelyd i uchder tabl o 480px.

Screenshot
 

Os nad oes unrhyw ddata o gwbl ar dabl, neu os nad oes digon o ddata i lenwi’r dudalen i gyd, ni fydd modd gweld y botwm, a bydd uchder y tabl yn 208px.

Screenshot
 

Y botymau opsiwn ar y brig

Defnyddiwch y saethau i ddadwneud neu ail-wneud y cam diwethaf a gyflawnwyd.

Awgrym: Gallwch ddefnyddio eich botymau cad (ctrl ar Mac) + Z i ddadwneud cofnod data.

undo_redo.png
 

Cewch ddewis a ydych am guddio unrhyw golofnau gan ddefnyddio’r nodwedd Cuddio colofnau - yn syml, tynnwch y tic o’r blwch ac ni fydd y golofn yn ymddangos mwyach. Awgrym: Gallwch glicio a llusgo colofn oddi ar y sgrin i’w chuddio hefyd!

Screenshot_2022-07-14_at_09.38.59.png
 

Cliciwch y botwm Blychau cyngor i guddio neu ddatguddio’r blychau cyngor sy’n dangos rhagor o wybodaeth wrth hofran uwchben unrhyw faes.

Screenshot_2022-07-14_at_09.40.14.png
 

Defnyddiwch y botwm cogyn i:

  • newid maint eich bylchau a’ch testun - os yw’r uchder yn llai na 700px, bydd yn addasu ei uchder yn ddiofyn i gyd-fynd â chynnwys y tabl, ac os yw’n fwy na 700px, bydd uchder y tabl yn aros yn 700px, a bydd yn sgrolio’n fewnol.
  • ailosod gosodiadau eich tabl
  • analluogi lliwiau yn y celloedd
  • galluogi ffiniau colofnau fertigol yn eich tabl

Awgrym: Ni fydd hyn yn newid unrhyw ddata yn y tabl, dim ond sut mae’r tabl yn ymddangos. Mae hyn yn cael ei gadw fesul defnyddiwr fesul tabl hefyd, felly bydd angen ei alluogi ar eich hoff dablau.

Screenshot 2023-11-07 at 13.21.47.png
 

Defnyddiwch yr ehangydd i ddangos golwg sgrin lawn o’ch tabl.

full_screen.png
 

Chwilio, trefnu a hidlo’ch tabl

Defnyddiwch y bar chwilio i ddod o hyd i ddarnau penodol o ddata yn y tabl, fel chwilio am enw myfyriwr.

Screenshot_2022-07-14_at_10.00.54.png
 

Cliciwch yr eicon hidlo i ddewis pa wybodaeth i’w chynnwys yn eich tabl.


 

Cliciwch yr eicon â thri dot i ddewis y colofnau i’w pinio ac ymhle, ac i awtofeintio’r golofn a ddewiswyd neu’r holl golonau yn y tabl hefyd.


 

Gallwch weld nifer y canlyniadau neu resi ar waelod y tabl bob tro.

  • Wrth hidlo, byddwn ni’n dweud wrthych chi sawl un sydd wedi cael eu hidlo allan.
  • Os oes sawl tudalen i’r tabl, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi sut mae’r hidlydd wedi gweithio.

Screenshot_2023-05-05_at_10.19.38.png

Screenshot_2023-05-05_at_10.18.03.png

Screenshot
 

Nid oes angen dileu’r testun trwy ddileu am yn ôl i glirio’ch hidlyddion. Yn syml, cliciwch y botwm Ailosod i dynnu unrhyw hidlyddion.

Screenshot_2023-04-18_at_16.53.37.png
 

Gwahanol ffyrdd o gofnodi eich data

Awgrym: Dim ond y meysydd golygadwy y gallwch eu llenwi (y meysydd â saeth neu eicon pensil).

Llenwch y maes trwy deipio a gwasgu enter er mwyn symud i’r gell nesaf i lawr. Neu gallwch glicio ar eicon y pensil os ydych am ddefnyddio’ch llygoden.

Screenshot_2022-08-04_at_09.31.29.png
 

Cliciwch gornel isaf maes ar y dde a’i lusgo i lawr i lenwi celloedd torfol.

Screenshot_2022-12-08_at_12.55.12.png
 

Gallwch gopïo neu dorri torrwch a gludo o unrhyw ffynhonnell ar draws nifer o feysydd.

  • I gopïo, dewiswch y meysydd a’u llusgo nes eich bod wedi eu dewis nhw i gyd, wedyn defnyddiwch Ctrl+C (Windows) neu Cmd + C (Mac).
  • I dorri (copïo a dileu), dewiswch y meysydd a’u llusgo nes eich bod wedi eu dewis nhw i gyd, wedyn defnyddiwch Ctrl+X (Windows) neu Cmd + X (Mac).
  • I ddileu, dewiswch y meysydd a’u llusgo nes eich bod wedi eu dewis nhw i gyd, wedyn defnyddiwch y botwm dileu neu ddileu am yn ôl.
  • I ludo, dewiswch y meysydd a’u llusgo nes eich bod wedi eu dewis nhw i gyd, wedyn defnyddiwch Ctrl+V (Windows) neu Cmd = V (Mac).

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gytuno i rannu data o’ch Clipfwrdd ag Arbor trwy glicio Caniatáu yn y ffenestr naid.

agree_to_data_sharing.png
 

Os nodir gwerth annilys, ni chaiff y gwerth ei gadw, a chaiff y maes ei ailosod yn wag.

Os gludwch chi werth annilys, caiff y wybodaeth ei dal gan y golygydd. Bydd yn tynnu sylw at y gwerth annilys trwy ei droi’n goch, ac chaiff y data ei anfon at feysydd eraill yn Arbor nes i chi ei gywiro.

Screenshot_2022-08-04_at_09.33.19.png
 

Os ceisiwch chi symud i dudalen arall yn Arbor, byddwn ni’n gofyn i chi a ydych chi am barhau i olygu, neu am lywio i ffwrdd a dileu’r data annilys.

Screenshot_2023-03-01_at_12.14.05.png
 

Os byddwch chi’n adnewyddu’r dudalen, yn cau eich ffenestr neu’ch tab, neu’n gadael Arbor, ni chaiff y gwerth annilys ei gadw. Cewch neges naid i ofyn i chi gadarnhau a ydych am adael y dudalen o hyd.

Screenshot_2023-04-12_at_15.47.45.png
 

Mae rhai tablau’n gofyn eich bod chi’n pwyso cadw neu anfon i storio’r data a fewnbynnwyd. Yn achos y tablau hyn, byddwn ni’n eich rhybuddio os ydych chi’n ceisio llywio i ffwrdd heb gadw eich newidiadau.

Screenshot_2023-04-05_at_10.39.06.png
 

Tablau mewn blychau llithro

Mewn blychau llithro lle gallwch ychwanegu rhesi ychwanegol, mae’r tablau yn llai er mwyn arbed lle, ac nid ydynt yn dangos yr opsiynau canlynol:

  • bar chwilio
  • cuddio colofnau
  • lawrlwytho
  • newid trefn colofnau

Screenshot_2022-09-27_at_11.50.14.png
 

Os ceisiwch chi gadw’r tabl â data annilys (fel dyddiad mewn fformat annilys) byddwn ni’n rhoi gwybod i chi fod angen ei gywiro.

Awgrym: Fe welwch chi negeseuon fel hyn ar dablau sy’n seiliedig ar ffurflenni, nid mewn blychau llithro (unrhyw un sydd ddim yn cadw’n awtomatig ond sydd â botwm cadw/anfon).

example_error_pop_up.png

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
11 allan o 25 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.