Mae’r erthygl yma’n cynnig camau i ddatrys problemau mewngofnodi myfyrwyr, gan gynnwys y drefn ar gyfer ailosod cyfrineiriau, y mathau o ganiatâd sydd ei angen ar weinyddwyr, a sicrhau bod y porwr yn cydweddu ag Arbor. Mae’n cynnig cyngor hefyd ar gasglu gwybodaeth gan rieni a phrofi mewngofnodi fel myfyriwr er mwyn gwneud diagnosis gwell.
Os oes cyfeiriadau e-bost gan y myfyrwyr, dilynwch y broses yma i anfon neu ail-anfon manylion mewngofnodi at fyfyrwyr, neu i anfon e-bost i ailosod cyfrinair atynt.
Os nad oes cyfeiriadau e-bost gan fyfyrwyr eich ysgol, bydd angen i chi newid eu cyfrineiriau yn adran Manylion y Defnyddiwr eu proffiliau myfyrwyr.
Caniatâd
Bydd angen caniatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu neu Ysgol: Cyfrifon Defnyddwyr: Gweinyddu arnoch i ailosod cyfrineiriau a rheoli mynediad defnyddwyr ar gyfer myfyrwyr. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Gall myfyrwyr newid eu cyfrinair ar ôl mewngofnodi trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Os nad yw myfyrwyr yn gallu cyrchu’r Ap Myfyrwyr.
Ydyn nhw’n defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’r ap?
Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r ap ar gael trwy’r App Store (dyfeisiau Apple) neu’r Play Store (dyfeisiau Android). Os nad yw’r myfyrwyr yn gallu defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’r ap, mae’n bosibl na fyddan nhw’n gallu mewngofnodi.
Os nad oes ganddyn nhw’r fersiwn ddiweddaraf o’r ap, gofynnwch iddyn nhw roi cynnig ar ddiweddaru’r ap, yn arbennig os yw eu manylion yn gweithio wrth fewngofnodi trwy’r wefan (y Porth Myfyrwyr).
Os yw’r myfyrwyr yn ansicr, gofynnwch iddyn nhw a yw eu dyfais yn gallu cymryd y fersiwn ddiweddaraf ar sail y math a’r model o ffôn sydd ganddyn nhw e.e. iPhone SE.
Gofynnwch hefyd am sgrinlun neu recordiad o’r sgrin sy’n dangos y problemau maen nhw’n eu cael. Ar iPhone SE, gallwch alluogi hyn ar y panel rheoli trwy fynd i Gosodiadau > Canolfan Rheoli > Addasu Rheolaeth
A ydyn nhw’n mewngofnodi gan ddefnyddio eu Cyfeiriad e-bost?
Dim ond gan ddefnyddio Cyfeiriad e-bost y gallwch fynd i mewn i’r Ap Myfyrwyr nid Enw Defnyddiwr (fel y gallwch gyda’r Porth Myfyrwyr). Os yw’r myfyriwr yn ceisio defnyddio Enw Defnyddiwr byddan nhw’n gweld y neges “Rhaid defnyddio cyfeiriad e-bost dilys”.
Os nad ydyn nhw’n gwybod beth yw eu cyfeiriad e-bost ar gyfer safle’r ysgol, gallwch naill ai cadarnhau hyn trwy fynd i adran Manylion Defnyddiwr eu proffil myfyriwr a gwirio a oes cyfeiriad e-bost wedi ei restru wrth Enw defnyddiwr ar ffurf e-bost, neu trwy ail-anfon y manylion mewngofnodi atynt gan ddilyn y canllawiau hyn.
- Os nad oes enw defnyddiwr ar ffurf e-bost wedi ei restru ar gyfer y myfyriwr bydd angen adio un iddyn nhw.
- Os oes cyfeiriad e-bost ar broffil y myfyriwr, ond nad oes cyfeiriad e-bost wedi ei restru wrth ymyl Enw Defnyddiwr ar ffurf e-bost, ceisiwch ddileu’r cyfeiriad e-bost yn yr Adran Manylion y Myfyriwr a’i adio eto.
Os nad yw’r myfyriwr yn gallu cyrchu’r Porth Myfyrwyr
Pa borwr ydyn nhw’n defnyddio?
Ydyn nhw’n defnyddio Google Chrome neu un o’r porwyr eraill a gefnogir ar gyfrifiadur desg neu liniadur? Os na, gofynnwch iddyn nhw roi cynnig ar borwr gwahanol.
Ydyn nhw’n defnyddio tudalen mewngofnodi bwrpasol yr ysgol?
Os oes gan fyfyrwyr nifer o gyfrifon defnyddwyr ar draws gwahanol ysgolion Arbor sy’n defnyddio’r un cyfeiriad e-bost i fewngofnodi, mae hynny’n gallu achosi problemau mewngofnodi wrth ddefnyddio tudalen mewngofnodi gyffredinol Arbor (https://login.arbor.sc/) yn hytrach na thudalen bwrpasol yr ysgol.
Felly, gofynnwch i’r myfyrwyr roi cynnig arni gan ddefnyddio URL bwrpasol yr ysgol. Chwiliwch am linc unigryw eich ysgol yn eich bar chwilio wrth fewngofnodi i unrhyw dudalen Arbor. Mae rhagor am hyn yma: Pa dudalen URL ddylai defnyddwyr ei defnyddio i fewngofnodi?
Os nad yw’r myfyrwyr yn gallu cyrchu’r Porth na’r Ap
Ailosodwch y cyfrinair
Os nad ydyn nhw’n gallu mewngofnodi i’r Porth Myfyrwyr na’r Ap Myfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw ddilyn y broses i ailosod y cyfrinair yn gyntaf, neu newidiwch y cyfrinair iddyn nhw â llaw a gofyn iddyn nhw roi cynnig arni gyda’r cyfrinair newydd yma.
Os dewiswch chi’r ail opsiwn, cofiwch rannu’r cyfrinair newydd â’r myfyriwr yn ddiogel, a gofynnwch iddyn nhw newid eu cyfrinair ar ôl mewngofnodi i’r Porth neu’r Ap am resymau diogelwch.
Gwiriwch y cyfeiriadau e-bost a/neu’r enwau defnyddwyr am wallau
Mae hi’n hawdd tybio bod neges am enw defnyddiwr neu gyfrinair yn anghywir am fod y cyfrinair yn anghywir; ond gall enw defnyddiwr anghywir sbarduno’r neges yma hefyd.
Os nad ydych chi’n siŵr beth yw eu cyfeiriad e-bost neu enw defnyddiwr ar gyfer Arbor, gallwch gadarnhau hyn nhw trwy fynd i adran Manylion Defnyddiwr eu proffil myfyrwyr.
Os ffeindiwch chi wall, defnyddiwch y botwm Newid Enw Defnyddiwr i newid yr enw defnyddiwr gwallus nad yw’n gyfeiriad e-bost ar gyfer y myfyriwr, neu golygwch y cyfeiriad e-bost yn adran Manylion Cyswllt y Myfyriwr eu proffil.
Gwiriwch a oes yna gyfeiriadau e-bost dyblyg
Os yw’r myfyriwr yn parhau i weld “Cyfeiriad e-bost neu gyfrinair anghywir” ar ôl ailosod y cyfrinair a gwirio’r cyfeiriad e-bost am wallau sillafu, chwiliwch eto i wneud yn siŵr nad oes unrhyw fyfyrwyr/proffiliau eraill â’r un cyfeiriad e-bost. Os oes e, gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad e-bost a restrwyd ar gyfrif y myfyriwr yn unigryw trwy ddatrys dyblygu.
Awgrym: Os cliciwch chi ar Manylion y Defnyddiwr ar broffil y myfyriwr, bydd hyn yn dangos rhybudd Problemau mewngofnodi mewn coch y gallwch glicio arno os ffeindiwyd cyfeiriad e-bost dyblyg. Cliciwch ar y linc yn y neges gwall i weld y cyfrifon eraill sy’n rhannu’r un cyfeiriad e-bost.
Gwirio cofrestriadau
Rhaid i’r myfyrwyr fod ar gofrestr yr ysgol i fewngofnodi. Os nad ydyn nhw’n gallu mewngofnodi o hyd, mae’n bosibl nad ydynt ar y gofrestr - gallwch ddilysu hyn adran Cofrestru eu proffil myfyrwyr. Os nad yw’r myfyriwr ar y gofrestr, ond y dylen nhw fod, adiwch y cofrestriad.
Mewngofnodwch fel y myfyriwr
Gallwch roi cynnig ar mewngofnodi fel myfyriwr hefyd i weld beth maen nhw’n ei weld er mwyn ceisio datrys y broblem os nad ydyn nhw wedi rhoi digon o wybodaeth i chi, ac er mwyn sicrhau eto ei bod nhw’n gallu mynd i mewn i’r Porth/Ap ar ôl i’r cyfrinair a’r enw defnyddiwr gael eu derbyn.
Os gwelwch chi neges “Nid yw eich ysgol wedi galluogi’r Porth Myfyrwyr” wrth fewngofnodi fel myfyriwr, gwnewch yn siŵr eto eich bod chi wedi galluogi’r Porth a’r Ap yn llwyddiannus o dan Myfyrwyr > Porth Myfyrwyr > Gosodiadau’r Porth Myfyrwyr. Mae rhagor o wybodaeth am y gosodiadau hyn yma: Galluogi’r Porth Myfyrwyr
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.