Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd Cam 3 - Grwpiau Blwyddyn a Dosbarthiadau Cofrestru

Screenshot_2023-02-14_at_09.35.30.png
 

Y cam nesaf yw trefnu eich Grwpiau Blwyddyn a’ch Dosbarthiadau Cofrestru ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rhaid cyflawni’r cam yma, ond gallwch ddychwelyd ato ar ôl ei gwblhau i wneud diwygiadau pellach.

Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?

Mae’r cam yma’n cymryd o leiaf 1 awr i ysgolion fel arfer. Rydyn ni’n argymell neilltuo prynhawn i gwblhau’r cam yma, am ei bod hi’n gallu cymryd amser i aseinio staff, symud myfyrwyr o gwmpas a delio ag unrhyw gofrestriadau coll.

Caniatâd

  • Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu – i gyrchu Trefnu’r Flwyddyn Ysgol Newydd

Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
 

1. Copïo grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau cofrestru

Ewch i Ysgol > Strwythur yr Ysgol > Trefnu’r Flwyddyn Ysgol a chlicio ar gam 3.

Screenshot_2023-02-14_at_10.00.02.png
 

Cofiwch y bydd eich dyrchafiadau’n gweithio’n seiliedig ar eich dewisiadau yn y fan yma, ac ni chânt eu diweddaru os byddwch chi’n symud myfyrwyr rhwng dosbarthiadau cofrestru. Er enghraifft, os byddwch chi’n dyrchafu 7A i 8A, ac yn symud disgybl i 7B wedyn, bydd y disgybl yn cael ei ddyrchafu i 8A o hyd. Mae’r adran hon ar gyfer dyrchafu enwau’r grwpiau ysgol a’r dosbarthiadau cofrestru yn unig.

Ar ôl cwblhau’r cam yma, bydd Prif Warcheidwaid eich ymgeiswyr yn gallu mewngofnodi i’r Porth Rhieni (os ydych chi wedi caniatáu hyn) i weld a diweddaru manylion eu plentyn ar ôl i chi anfon e-bost croeso atynt.

Screenshot_2023-02-14_at_10.07.36.png

Screenshot_2023-02-14_at_10.07.54.png
 

Yn gyntaf, dewiswch pa grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau cofrestru i’w copïo i’r flwyddyn nesaf trwy glicio ar y maes cyntaf.

Awgrym: Peidiwch â phoeni os bydd enwau gwahanol gan eich dosbarthiadau cofrestru’r flwyddyn nesaf. Copïwch nifer y dosbarthiadau cofrestru sydd eu hangen arnoch, a gallwch newid yr enwau wedyn - gallwch weld sut i wneud hyn yma: Newid dosbarth cofrestru a chofrestru’r enw

Tynnwch y ticiau sydd wrth ymyl unrhyw grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau cofrestru nad ydych am eu copïo draw, wedyn cliciwch Copïo Grwpiau Blwyddyn. Os byddwch chi’n dileu’r tic wrth ymyl grŵp blwyddyn ond yn gadael tic wrth ymyl dosbarth cofrestru yn y grŵp blwyddyn, caiff y dosbarth cofrestru ei gopïo, ond ni fydd yn gysylltiedig â grŵp blwyddyn.

Screenshot_2023-02-14_at_10.11.26.png
 

Gallwch ddewis a ydych am gopïo dosbarthiadau cofrestru nad ydynt yn gysylltiedig â grŵp blwyddyn hefyd.

Screenshot_2023-02-14_at_10.11.40.png
 

Golygu ffurflenni cofrestru

Cliciwch ar ddosbarth cofrestru i’w gysylltu â grŵp blwyddyn.

Screenshot_2023-02-14_at_10.16.32.png
 

Yn yr esiampl yma, rydw i wedi clicio ar ddosbarthiadau cofrestru Blwyddyn 10 am nad oedden nhw’n gysylltiedig â grŵp blwyddyn adeg eu copïo.

Gallwch gysylltu nifer o grwpiau blwyddyn â dosbarth cofrestru, er enghraifft, wrth gofrestru eich holl ddisgyblion meithrin gyda’i gilydd.

Screenshot_2023-02-14_at_10.17.46.png
 

Adio mwy o Grwpiau Blwyddyn neu Ddosbarthiadau Cofrestru

Gallwch adio rhagor o Grwpiau Blwyddyn neu Ddosbarthiadau Cofrestru os oes angen trwy glicio +Adio. Gallwch wneud hyn o Myfyrwyr > Cofrestru.

Screenshot_2023-02-14_at_10.21.04.png
 

2. Aseinio tiwtoriaid i grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau cofrestru

Cliciwch y maes Aseinio Tiwtoriaid i ddewis yr aelodau o staff yr hoffech eu haseinio fel penaethiaid blwyddyn ac athrawon cofrestru. Bydd Arbor yn rhag-lenwi’r meysydd hyn ar sail eich trefniant eleni.

  • Gallwch ddiwygio’r rhain os dymunwch chi trwy glicio’r botwm X wrth ymyl yr enw ac ychwanegu enw newydd o’r rhestr (os oes proffil staff wedi ei greu ar eu cyfer nhw’n barod).
  • Ar ôl dewis eich tiwtoriaid, cliciwch y botwm gwyrdd Aseinio Tiwtoriaid.

Os ydych chi’n gwybod y bydd yna newidiadau staffio, ond ddim yn gwybod pwy fydd yn addysgu pob dosbarth, gallwch aseinio’r staff rydych chi’n gwybod fydd yn diwtoriaid cofrestru, a gadael y dosbarthiadau cofrestru sydd heb diwtor wedi ei gadarnhau eto’n wag. Bydd angen i chi aseinio’r tiwtoriaid o dudalen y dosbarth pan fyddwch chi’n gwybod pwy ydyn nhw, cliciwch yma i weld sut: Newid athrawon

Screenshot_2023-02-14_at_10.29.10.png
 

Os ydych chi wedi gadael dosbarth cofrestru heb diwtor, fe welwch chi neges sy’n dweud nad oes tiwtoriaid wedi eu haseinio i rai grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau cofrestru.

Cofiwch y bydd angen nodi’r manylion pan fydd y wybodaeth ar gael. Cliciwch yma i weld sut: Newid athrawon

Screenshot_2023-02-14_at_10.32.17.png
 

Adio neu olygu tiwtoriaid cofrestru

Cliciwch ar y dosbarth cofrestru i newid neu adio athrawon fel Tiwtoriaid Cofrestru, neu i gysylltu grŵp blwyddyn.

Noder: Os ydych chi am newid athrawon ar ôl cwblhau Cam 6 Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd, bydd angen adio’r tiwtor at y cofrestrau hefyd gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau hyn: Newid athrawon

Screenshot_2023-02-14_at_10.16.32.png
 

Adio neu olygu pennaeth blwyddyn

Cliciwch ar grŵp blwyddyn i adio Pennaeth Blwyddyn.

Screenshot_2023-02-14_at_10.19.52.png

Screenshot_2023-02-14_at_10.20.11.png
 

3. Dyrchafu myfyrwyr grŵp blwyddyn

Y cam nesaf yw Dyrchafu Myfyrwyr Grŵp Blwyddyn trwy glicio ar y maes nesaf yma.

Dewiswch pa grwpiau blwyddyn i ddyrchafu myfyrwyr iddynt. Er enghraifft, isod fe welwch chi y bydd yr holl fyfyrwyr Blwyddyn 10 yn symud i Flwyddyn 11.

  • Os na fydd yr holl fyfyrwyr yn symud i fyny (fel yn achos y feithrinfa), dyrchafwch y flwyddyn gyfan. Wedyn, gallwch symud yr holl fyfyrwyr a fydd yn aros yn y feithrinfa nôl yn y cam ‘diwygio’ sy’n dod nesaf.
  • Os byddwch chi’n gwahanu dosbarthiadau, dyrchafwch y flwyddyn gyfan. Gallwch symud y myfyrwyr a fydd mewn dosbarth gwahanol yn y cam ‘diwygio’ wedyn.

Fe welwch chi nad yw eich blwyddyn ysgol uchaf yn cael ei dyrchafu’n awtomatig. Gallwch adael y maes yna’n wag wedyn clicio Dyrchafu.

Screenshot_2023-02-15_at_09.07.46.png
 

Wrth ddyrchafu eich grwpiau blwyddyn yn Arbor, byddwch chi o leiaf un yn brin bob tro.

Screenshot_2023-02-15_at_09.08.26.png
 

4. Cofrestru Ymgeiswyr

Llysoedd ac Ymgeiswyr

Mae’n bosibl y byddwch am greu eich llysoedd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf cyn cofrestru eich ymgeiswyr, fel y gallwch eu dyrannu i’r grwpiau perthnasol yn gynt.

  • Gallwch gwblhau Cam 5 - Llysoedd, wedyn dychwelyd i’r cam yma i gofrestru eich ymgeiswyr fesul grwpiau blwyddyn, dosbarthiadau cofrestru a llysoedd.
  • Neu, gallwch aseinio myfyrwyr i lysoedd ar y diwedd gan ddefnyddio Adolygu a gwirio.


Yn y cam yma, cewch gofrestru eich Ymgeiswyr yn Ddosbarthiadau Cofrestru a grwpiau blwyddyn, am fod y rhain bellach yn eu lle.

Os nad ydych wedi ychwanegu eich ymgeiswyr at Arbor ac wedi gorffen eu prosesu eto, ni chewch eu cofrestru eto. Wrth glicio ar opsiwn 4. Cofrestru Ymgeiswyr, fe welwch chi’r neges isod.

Gallwch ddefnyddio un o’n 3 dull (a ddangosir yn yr erthygl hon) i adio’r myfyrwyr hyn at eich safle, wedyn creu a derbyn cynigion ar gyfer yr ymgeiswyr rydych chi’n disgwyl iddynt ddechrau ym mis Medi - mae’r erthygl hon yn esbonio’r broses: Ymgeiswyr a derbyniadau - Adio, cofrestru ac anfon gohebiaeth

Screenshot_2023-02-15_at_09.12.56.png
 

Ar ôl cwblhau camau 2-5 o’r erthygl uchod, cewch gofrestru eich Ymgeiswyr i’r grwpiau blwyddyn a’r dosbarthiadau cofrestru cywir. Cliciwch y botwm Rheoli Ymgeiswyr neu ewch i Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Ymgeiswyr > Dewis tymor derbyn > Ymgeiswyr a dewis y tymor derbyn.

Screenshot_2023-02-15_at_09.37.11.png
 

Gwnewch yn siŵr bod gan yr holl fyfyrwyr rydych chi am eu cofrestru Statws Cynnig wedi’i Dderbyn.

Screenshot_2023-02-15_at_09.39.20.png

enroling_applicants.png
 

  1. Ticiwch y myfyrwyr sydd wedi derbyn eu cynnig.
  2. Cliciwch y botwm Gweithred torfol i’w haseinio i grŵp blwyddyn.
  3. Gwnewch yr un peth eto i’w haseinio i ddosbarth cofrestru.

Wrth aseinio ymgeiswyr i ddosbarth cofrestru, cânt eu haseinio i grŵp blwyddyn yn awtomatig hefyd, a gallai hynny wrthdroi grŵp blwyddyn a gofnodwyd eisoes. Os yw’r dosbarth cofrestru’n gysylltiedig â sawl grŵp blwyddyn, bydd y system yn dewis yr un cyntaf a sefydlwyd.

Rydyn ni’n argymell sicrhau bod myfyrwyr wedi cael eu haseinio i’r grŵp blwyddyn cywir cyn eu cofrestru. Os na, gallwch ailadrodd yr opsiwn Aseinio ymgeiswyr i grŵp blwyddyn er mwyn eu hadio nôl i mewn i’r grŵp blwyddyn cywir.

Yn olaf, cliciwch Cofrestru’r disgyblion. Bydd hynny’n cofrestru’r myfyrwyr yn yr adran Ymgeiswyr.

Screenshot_2023-02-15_at_09.40.46.png
 

O dan Trefniant Blwyddyn Ysgol Newydd, dylai’r adran 4. Cofrestru Ymgeiswyr fod wedi ei farcio wedi ei gwblhau erbyn hyn.

Screenshot_2023-02-15_at_09.41.45.png
 

Os oes unrhyw ymgeiswyr eraill sydd wedi derbyn lle, ond heb eu cofrestru eto, cliciwch ar opsiwn 4. Cofrestru Ymgeiswyr yng Ngham 2 o Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd i gofrestru’r ymgeiswyr hyn.

Dylid nodi na fydd hyn yn eu cofrestru’n awtomatig mewn Blwyddyn Ysgol a dosbarth Cofrestru. Os nad ydych chi wedi gwneud hyn ar gyfer y myfyrwyr yma, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau uchod yn gyntaf.

Screenshot_2023-02-15_at_09.42.25.png
 

5. Adolygu a diwygio’r cofrestriadau grwpiau blwyddyn

Y cam nesaf yw cyflawni unrhyw newidiadau i’r grŵp blwyddyn y mae myfyriwr wedi cael ei ddyrchafu iddi’n awtomatig os oes angen. Cam opsiynol yw hwn.

Screenshot_2023-02-15_at_15.16.15.png
 

Cliciwch ar enw myfyriwr i olygu’r cofrestriad, neu dewiswch sawl rhes a defnyddio’r botwm Gweithred torfol i newid blwyddyn ysgol y myfyriwr. Cliciwch y botwm Nôl i ddychwelyd i Trefnu’r Flwyddyn Ysgol Newydd.

Awgrym: Dim ond cofrestriad myfyriwr at y dyfodol y gallwch ei olygu o’r dudalen hon. Os oes angen i chi newid eu cofrestriad cyfredol, defnyddiwch adran Cofrestru Proffil y Myfyriwr.

Screenshot_2023-02-15_at_15.17.43.png
 

6. Dyrchafu myfyrwyr dosbarth cofrestru

Y cam nesaf yw dyrchafu myfyrwyr Dosbarth Cofrestru o ddosbarthiadau cofrestru’r flwyddyn hon i’w dosbarthiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Peidiwch â phoeni yma os nad ydych i’n siŵr pa fyfyrwyr sy’n perthyn ym mha ddosbarthiadau cofrestru newydd eto - gallwch symud y myfyrwyr o gwmpas wedyn.

Yn y blwch, dewiswch i ba ddosbarth cofrestru y dylid dyrchafu’r myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn nesaf.

  • Os oes unrhyw ddosbarthiadau cofrestru gennych heb flwyddyn ysgol wedi ei haseinio iddynt, bydd angen eu hychwanegu cyn cwblhau’r cam yma: Newid y grŵp blwyddyn sy’n gysylltiedig â dosbarth cofrestru
  • Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n dyrchafu pob Dosbarth Cofrestru i’r dosbarth y bydd y mwyafrif o’r myfyrwyr ynddi’r flwyddyn nesaf. Gallwch symud myfyrwyr unigol i ddosbarthiadau gwahanol yn y cam nesaf oes angen.

Screenshot_2023-02-15_at_15.21.39.png
 

7. Adolygu a diwygio cofrestriadau dosbarth cofrestru

Y cam olaf yw gwneud unrhyw newidiadau i’r dosbarthiadau cofrestru y mae myfyrwyr wedi cael eu dyrchafu’n awtomatig iddynt os oes angen. Cam opsiynol yw hwn.

Screenshot_2023-02-15_at_15.31.14.png
 

Cliciwch ar y gell a bydd tudalen yn llwytho ar gyfer y grŵp blwyddyn cyntaf yn eich ysgol. Dewiswch y grŵp blwyddyn rydych chi am wneud newidiadau iddo trwy glicio ar y gornel uchaf ar y dde a dewis y grŵp blwyddyn o’r gwymplen. Gallwch naill ai:

  • Clicio ar y gell sy’n cynnwys manylion y dosbarth. Bydd cwymplen yn ymddangos sy’n cynnig y dewis o ddosbarthiadau ar gyfer eu blwyddyn ysgol. Dewiswch y dosbarth rydych chi am eu symud nhw iddo.
  • Dewiswch nifer o resi a defnyddio’r botwm Gweithred torfol i newid dosbarth cofrestru’r myfyriwr.

Noder: Cewch symud myfyrwyr i ddosbarthiadau cofrestru yn yr un flwyddyn yn unig o’r fan yma. I symud myfyriwr i ddosbarth cofrestru mewn blwyddyn wahanol, bydd angen eu hychwanegu at y grŵp blwyddyn.

Screenshot_2023-02-15_at_15.33.42.png
 

Datrys myfyrwyr sydd heb gofrestriad

Os oes unrhyw fyfyrwyr gennych na chafodd eu haseinio i grŵp blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, ni fyddant wedi cael eu dyrchafu i’r grŵp blwyddyn nesaf yng Ngham 2. Yn hytrach, bydd y myfyrwyr hyn yn ymddangos yn yr adran Adolygu.

Screenshot_2023-02-15_at_15.37.35.png
 

Cofrestru myfyrwyr a fydd yn mynychu

Os bydd myfyrwyr yn mynychu eich ysgol y flwyddyn nesaf, bydd angen i chi eu hychwanegu at grŵp blwyddyn a dosbarth cofrestru. Cliciwch ar enw’r myfyriwr i fynd i’w proffil a’u haseinio i grŵp blwyddyn a dosbarth cofrestru.

Yn gyntaf, newidiwch y flwyddyn academaidd i’r flwyddyn nesaf. Yn yr adran Cofrestriadau ar gyfer y flwyddyn hon, cliciwch +Adio i adio eu cofrestriad yn y grŵp blwyddyn ac ati priodol.

Screenshot_2023-02-15_at_15.39.19.png

Screenshot_2023-02-15_at_15.40.01.png
 

Dileu myfyrwyr na fydd yn mynychu

I ddadgofrestru myfyrwyr sy’n ymadael os na fyddan nhw’n mynychu’ch ysgol yn y flwyddyn academaidd newydd, bydd angen i chi ddileu neu derfynu eu cofrestriad. Cliciwch ar enw’r myfyriwr i fynd i’r proffil.

Cliciwch ar eu cofrestriad yn eich ysgol. Yn y blwch, cliciwch ar y botwm Golygu.

Screenshot_2023-02-15_at_15.43.11.png
 

Wedyn gallwch:

  • Ddadgofrestru’r myfyriwr os nad ydynt yn mynychu mwyach trwy glicio Dadgofrestru’r Myfyriwr.
  • Dileu eu cofrestriad yn llwyr trwy glicio Dileu os na fynychodd y myfyriwr eich ysgol erioed. Awgrym: Os ydych am ddileu’r myfyriwr o’ch system wedyn cyn i’r cyfnod ar gyfer cadw data ddod i ben, darllenwch yr erthygl hon.

Dim ots pa ddull y dewiswch chi i ddileu cofrestriadau coll, ni ddylai’r myfyriwr ymddangos yn adran Adolygu eich tudalen Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd Cam 3 mwyach. Dylech geisio dileu’r holl fyfyrwyr a restrir yn yr adran hon.

Screenshot_2023-02-15_at_15.43.55.png
 


Os dewiswch chi ddileu cofrestriad myfyriwr, byddant wedi eu marcio fel Cofrestredig yn yr adran Ymgeiswyr o hyd os cawsant eu hychwanegu fel ymgeisydd.

Screenshot_2023-02-15_at_15.45.33.png
 

Sicrhewch fod eich myfyrwyr yn y flwyddyn gywir

I sicrhau bod eich holl fyfyrwyr yn y grŵp blwyddyn gywir ar gyfer y flwyddyn nesaf, ewch i Myfyrwyr > Cofrestru. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen Grwpiau Blwyddyn. Newidiwch y flwyddyn academaidd gan ddefnyddio’r gwymplen.

Os nad ydych wedi cwblhau’r holl drefniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf eto, ni welwch chi unrhyw grwpiau blwyddyn yma. Cwblhewch yr adran uchod i ddyrchafu eich myfyrwyr i’w grwpiau blwyddyn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Screenshot_2023-02-15_at_15.50.30.png
 

Os ydych chi wedi cwblhau’r cam yma, gallwch wirio bod eich cofrestriadau’n gywir. Gallwch glicio ar y tab Cofrestriadau yn uniongyrchol i olygu cofrestriadau myfyrwyr.

Screenshot_2023-02-15_at_15.51.10.png
 

Marcio’n gyflawn

Pan ydych chi’n fodlon bod yr adran yma’n gyflawn, cliciwch y botwm gwyrdd Marcio’n Gyflawn.

Screenshot_2023-02-15_at_15.54.12.png
 

Os ydych chi am ddychwelyd i’r cam yma i wneud newidiadau, cliciwch ar y botwm coch Dychwelyd i anghyflawn.

Rhaid i chi glicio ar y botwm Marcio’n Gyflawn eto i gadw eich newidiadau fel y gallwch barhau i olygu’r holl adrannau nesaf.

Screenshot_2023-02-15_at_15.54.52.png

Screenshot_2023-02-15_at_15.54.33.png

Screenshot_2023-02-15_at_15.55.10.png
 

Cwestiynau Cyffredin

Dydw i ddim yn gallu cyrchu’r cam yma am ei fod wedi ei Gloi

Os yw’r cam yma wedi ei gloi, bydd angen i chi fynd nôl i’r cam Calendr Academaidd a chlicio Marcio’r Calendr yn Gyflawn.

Screenshot_2023-02-14_at_10.01.48.png

Screenshot_2023-02-13_at_16.57.27.png
 

Oes modd ailosod y cam yma?

Darllenwch ein canllawiau yma: Oes modd ailosod cam yn y broses Trefnu Blwyddyn Newydd?
 

Pryd ddylen ni gofrestru ymgeiswyr?

Mae rhagor o fanylion yma: Oes rhaid i ni gofrestru ein hymgeiswyr nawr?
 

A allwn ni wahanu neu gyfuno grwpiau o fyfyrwyr?

Mae ein canllawiau ar gyfer gwahanu grwpiau cyfredol yma: Rhannu myfyrwyr yn ddau ddosbarth cofrestru ar gyfer y flwyddyn nesaf

Darllenwch ein canllawiau ar fod â mwy nag un grŵp blwyddyn mewn Dosbarth Cofrestru: Dosbarthiadau cofrestru â grwpiau blwyddyn cymysg
 

Oes modd newid enwau’r grwpiau o fyfyrwyr?

Gallwch weld sut i newid enwau Grwpiau Blwyddyn yma: Newid enw Grŵp Blwyddyn

Ac enwau Dosbarthiadau Cofrestru yma: Newid enw dosbarth cofrestru
 

Dydyn ni ddim am ddyrchafu myfyrwyr Blwyddyn 6, Blwyddyn 11 neu Flwyddyn 13?

Darllenwch ein canllawiau yma: Sut dylen ni ddyrchafu myfyrwyr Blwyddyn 6, Blwyddyn 11 neu Flwyddyn 13?
 

Oes modd cadw myfyrwyr yn eu grŵp blwyddyn cyfredol?

Gallwch weld sut i wneud hyn ar gyfer myfyrwyr Meithrin yma: Cadw myfyrwyr yn y Feithrinfa wrth ddyrchafu grwpiau blwyddyn

Ac ar gyfer blynyddoedd eraill yma: Cadw myfyriwr nôl am flwyddyn
 

A all myfyrwyr neu warcheidwaid weld y dosbarthiadau a’r athrawon cofrestru newydd?

Darllenwch ein canllawiau yma ac yma.
 

Fe gofrestron ni’r ymgeiswyr cyn adio grŵp blwyddyn neu ddosbarth cofrestru?

Os ydych chi wedi cofrestru myfyrwyr cyn eu hadio at grŵp blwyddyn neu ddosbarth cofrestru, cewch ddadwneud y cofrestriad wedyn eu hadio at grŵp Blwyddyn, dosbarth Cofrestru neu Lys. Gallwch weld sut i wneud hyn yma: Beth ddylwn i ei wneud os cofrestrwyd ein hymgeiswyr cyn ychwanegu grŵp blwyddyn neu ddosbarth cofrestru?
 

Beth fydd yn digwydd pan fyddwn ni’n adio rhagor o fyfyrwyr ar ôl cwblhau’r cam yma?

Os ydych chi eisoes wedi dyrchafu grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau cofrestru, ni fydd unrhyw fyfyrwyr a ychwanegwch ar Arbor yn ymddangos yn yr adrannau ‘Diwygiadau’ neu Adolygu.

Yn hytrach, bydd angen i chi fynd i’w Proffil Myfyriwr a’u hychwanegu at y grŵp blwyddyn a dosbarth cofrestru o’r adran Cofrestriadau. Gallwch weld sut i wneud hyn yn yr erthygl hon: Cofrestru un myfyriwr
 

Dydw i ddim yn gallu adio myfyrwyr at grŵp blwyddyn/ffurflen gofrestru?

Os oes gennych chi ddosbarthiadau cofrestru â myfyrwyr o fwy nag un grŵp blwyddyn, mae’n bosibl na chewch ddewis myfyrwyr am fod angen i chi gysylltu’r dosbarth cofrestru â’r ddau grŵp blwyddyn. Gallwch weld sut i ddatrys hyn yma: Dosbarthiadau cofrestru â grwpiau blwyddyn cymysg
 

Myfyrwyr yn y grŵp blwyddyn neu’r dosbarth cofrestru anghywir?

Os ydych chi wedi cofrestru myfyrwyr yn y grwpiau anghywir ar ddamwain, neu os oes angen eu symud o gwmpas, gallwch weld sut i wneud hynny yma: Mae myfyrwyr yn y grŵp blwyddyn neu’r dosbarth cofrestru anghywir ar gyfer y flwyddyn nesaf

Nid yw nifer y myfyrwyr mewn grwpiau blwyddyn yn cyd-fynd â’r nifer mewn dosbarthiadau cofrestru?

Mae ein canllawiau ar hyn yma.
 

Pam fod gohebiaeth wedi mynd at y grŵp anghywir o fyfyrwyr ar ôl dechrau/cwblhau Cam 3 o Drefnu’r Flwyddyn Ysgol Newydd?

Ar ôl dechrau Cam 3 o Drefnu’r Flwyddyn Ysgol newydd, fe welwch chi ddwy set o grwpiau blwyddyn yn y maes At. Y grwpiau heb label blwyddyn yw’r flwyddyn academaidd gyfredol. Y grwpiau sydd wedi eu labelu â blwyddyn (e.e. ‘Blwyddyn 6 2026/2027’) yw carfan y flwyddyn nesaf. Gwiriwch y label cyn anfon; trwy ddewis yr un anghywir, bydd e-bost yn mynd at warcheidwaid y plant anghywir.

Beth yw’r cam nesaf?

Y cam nesaf yn y Broses Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd yw copïo eich Grwpiau pwrpasol draw.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
0 allan o 5 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.