Nid oes angen mewngofnodi fel aelod o staff na dyfalu beth mae aelod o staff yn cael ei weld ar sail pa fath o ganiatâd sydd ganddynt ar eu proffil staff neu’r rhestr gyflawn. Gallwch ddefnddio’r teclyn gwirio i weld a all aelod o staff gyrchu tudalen neu fotwm penodol gan ddefnyddio’r URL.
Caniatâd
Bydd angen caniatâd Ysgol: Caniatâd: Gweld arnoch i gyrchu a defnyddio’r dudalen hon. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Gwirio caniatâd a mynediad
Ewch i Ysgol > Defnyddwyr a Diogelwch > Rheoli Mynediad > Gwirio caniatâd.
- Yr aelod o staff - Dewiswch yr aelod o staff yn eich ysgol o restr o’r holl staff ar y safle Arbor yma sydd â rôl busnes gweithredol ar hyn o bryd.
- URL tudalen Arbor - Gallwch ddefnyddio amryw o wahanol fformatau i wirio, gan gynnwys yr URL llawn, neu heb gynnwys enw parth eich ysgol (student-ui/browse).
Wedyn cliciwch ar y botwm Gwirio caniatâd.
Os yw’r defnyddiwr yn gallu cyrchu’r dudalen, fe welwch chi neges sy’n dweud Mynediad ar Gael yn y blwch llithro.
Fe welwch chi restr o’r gwahanol fathau o ganiatâd sydd ei angen i gyrchu’r dudalen hon hefyd, ac a oes gan y defnyddiwr bob un ohonynt.
Os nad oes hawl gan y defnyddiwr i gyrchu’r dudalen, fe welwch chi neges yn y blwch llithro sy’n dweud Gwrthod Mynediad.
Fy Myfyrwyr vs Pob Myfyriwr
Mewn rhai achosion, mae’n gallu edrych fel pe bai gan aelod o staff yr hawl i edrych ar dudalen, ond am nad yw’r myfyriwr wedi aseinio iddyn nhw, ni allant weld y dudalen mewn gwirionedd.
Yn yr esiampl isod, nid yw Tiffany Griffiths yn gallu gweld y maes nodiadau bugeiliol, er bod ganddi un o’r caniatadau gofynnol. Mae hynny am nad yw hi wedi cael ei chysylltu â’r myfyrwyr o dan sylw, er enghraifft trwy fod yn athrawes iddyn nhw.
Mewn rhai senarios penodol, lle bo gan y defnyddiwr ganiatâd Fy Myfyrwyr yn hytrach na Pob Myfyriwr, gallai’r system ddangos bod mynediad gan y defnyddiwr er oes os nad oes e, fel yn yr esiampl isod.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw URL?
Mae rhagor o fanylion yma: Defnyddio URLs
A allwn ni wirio a oes modd cyrchu gweithredoedd ar dudalen?
Mae hyn yn bosibl pan nad yw staff yn gallu clicio ar fotwm penodol: Does dim mynediad gen i ac mae angen rhagor o ganiatadau arna’i
Beth yw caniatâd STAFF?
Gallwch anwybyddu’r caniatâd yma. Mae’r caniatâd yn bodoli yn y cefndir yn unig (nid yn y rhestr caniatâd) ac mae’n cael ei ddefnyddio i nodi bod unigolion yn aelodau o staff.
A all staff MIS y MAT ddefnyddio’r nodwedd yma?
Gallant, gellir defnyddio’r nodwedd yma yn MIS y MAT. I gyrchu’r dudalen hon ar safle MAT, ewch i Staff y Grŵp > Rheoli Mynediad > Gwirio Caniatâd.
A allwn ni wirio URLs o’r tu hwnt i Arbor?
Os ceisiwch chi wirio mynediad defnyddiwr at URL y tu hwnt i Arbor, neu at dudalen Arbor sydd ddim yn bodoli, cewch neges nad oes modd dod o hyd i’r caniatâd.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.