Gwirio caniatâd aelod o staff i gyrchu gwahanol dudalennau neu fotymau

Nid oes angen mewngofnodi fel aelod o staff na dyfalu beth mae aelod o staff yn cael ei weld ar sail pa fath o ganiatâd sydd ganddynt ar eu proffil staff neu’r rhestr gyflawn. Gallwch ddefnddio’r teclyn gwirio i weld a all aelod o staff gyrchu tudalen neu fotwm penodol gan ddefnyddio’r URL.
 

Caniatâd

Bydd angen caniatâd Ysgol: Caniatâd: Gweld arnoch i gyrchu a defnyddio’r dudalen hon. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
 

Gwirio caniatâd a mynediad

Ewch i Ysgol > Defnyddwyr a Diogelwch > Rheoli Mynediad > Gwirio caniatâd.

  • Yr aelod o staff - Dewiswch yr aelod o staff yn eich ysgol o restr o’r holl staff ar y safle Arbor yma sydd â rôl busnes gweithredol ar hyn o bryd.
  • URL tudalen Arbor - Gallwch ddefnyddio amryw o wahanol fformatau i wirio, gan gynnwys yr URL llawn, neu heb gynnwys enw parth eich ysgol (student-ui/browse).

Wedyn cliciwch ar y botwm Gwirio caniatâd.

Screenshot_2023-05-11_at_10.02.00.png
 

Os yw’r defnyddiwr yn gallu cyrchu’r dudalen, fe welwch chi neges sy’n dweud Mynediad ar Gael yn y blwch llithro.

Fe welwch chi restr o’r gwahanol fathau o ganiatâd sydd ei angen i gyrchu’r dudalen hon hefyd, ac a oes gan y defnyddiwr bob un ohonynt.

access_available.png
 

Os nad oes hawl gan y defnyddiwr i gyrchu’r dudalen, fe welwch chi neges yn y blwch llithro sy’n dweud Gwrthod Mynediad.

access_denied.png
 

Fy Myfyrwyr vs Pob Myfyriwr

Mewn rhai achosion, mae’n gallu edrych fel pe bai gan aelod o staff yr hawl i edrych ar dudalen, ond am nad yw’r myfyriwr wedi aseinio iddyn nhw, ni allant weld y dudalen mewn gwirionedd.

Yn yr esiampl isod, nid yw Tiffany Griffiths yn gallu gweld y maes nodiadau bugeiliol, er bod ganddi un o’r caniatadau gofynnol. Mae hynny am nad yw hi wedi cael ei chysylltu â’r myfyrwyr o dan sylw, er enghraifft trwy fod yn athrawes iddyn nhw.

my_students_permissions.png
 

Mewn rhai senarios penodol, lle bo gan y defnyddiwr ganiatâd Fy Myfyrwyr yn hytrach na Pob Myfyriwr, gallai’r system ddangos bod mynediad gan y defnyddiwr er oes os nad oes e, fel yn yr esiampl isod.

Screenshot_2023-05-22_at_16.08.58.png
 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw URL?

Mae rhagor o fanylion yma: Defnyddio URLs
 

A allwn ni wirio a oes modd cyrchu gweithredoedd ar dudalen?

Mae hyn yn bosibl pan nad yw staff yn gallu clicio ar fotwm penodol: Does dim mynediad gen i ac mae angen rhagor o ganiatadau arna’i
 

Beth yw caniatâd STAFF?

Gallwch anwybyddu’r caniatâd yma. Mae’r caniatâd yn bodoli yn y cefndir yn unig (nid yn y rhestr caniatâd) ac mae’n cael ei ddefnyddio i nodi bod unigolion yn aelodau o staff.

Screenshot 2023-09-29 at 10.22.32.png
 

A all staff MIS y MAT ddefnyddio’r nodwedd yma?

Gallant, gellir defnyddio’r nodwedd yma yn MIS y MAT. I gyrchu’r dudalen hon ar safle MAT, ewch i Staff y Grŵp > Rheoli Mynediad > Gwirio Caniatâd.
 

A allwn ni wirio URLs o’r tu hwnt i Arbor?

Os ceisiwch chi wirio mynediad defnyddiwr at URL y tu hwnt i Arbor, neu at dudalen Arbor sydd ddim yn bodoli, cewch neges nad oes modd dod o hyd i’r caniatâd.

external_url.png

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
37 allan o 105 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.