Gweld ac Aseinio Caniatâd i Staff

Mae’r erthygl hon yn esbonio sut i weld pa fathau o ganiatâd sydd gan aelod o staff a sut i aseinio caniatâd ychwanegol ad-hoc iddynt yn uniongyrchol o’u proffil staff.
 

Gwybodaeth Allweddol:

  • Rhaid i chi fod â chaniatâd "Caniatâd: Gweinyddu" i weld ac aseinio caniatâd. Penaethiaid, Rheolwyr Busnes, Gweinyddwyr yr Ysgol neu AD, ac aelodau’r Uwch Dîm Rheoli sydd â’r caniatâd yma fel rheol.
  • Er mwyn i unrhyw newidiadau o ran caniatâd ddod i rym, rhaid i’r aelod o staff allgofnodi o Arbor a mewngofnodi eto.
  • Ni allwch ychwanegu caniatâd ar gyfer sawl aelod o staff yr un pryd (yn dorfol).
     

1. Gweld pa fathau o Ganiatâd sydd gan Aelodau o Staff Eisoes

I weld pa fathau o ganiatâd sydd gan aelod o staff eisoes:

  1. Ewch i broffil yr aelod o staff.
  2. O’r ddewislen ar y chwith, cliciwch ar Rolau a Chaniatâd > Caniatâd

Fe welwch chi restr o’r mathau o ganiatâd sydd ganddynt eisoes.
 

Screenshot_2022-12-19_at_11.09.40.png

Awgrym: Os oes angen i chi wirio a oes modd i aelod o staff gyrchu gwahanol dudalennau, mae gwybodaeth am sut i fynd ati yn yr erthygl ‘Gwirio a oes gan aelod o staff fynediad at wahanol dudalennau fel defnyddiwr’.

 

2. Aseinio Caniatâd Ad Hoc i Aelod o Staff

I ychwanegu caniatâd newydd ar gyfer aelod o staff:

  1. Ewch i broffil yr aelod o staff.
  2. Cliciwch ar Rolau a Chaniatâd > Caniatâd o’r ddewislen ar y chwith.
  3. Yn y gornel uchaf ar y dde, cliciwch y botwm Aseinio Caniatâd Ad Hoc - (sydd i’w gweld yn y sgrinlun uchod).
  4. Yn y neidlen, dewiswch y mathau o ganiatâd rydych chi am eu rhoi i’r defnyddiwr.
  5. Mae opsiwn ar gael i roi caniatâd dros dro am gyfnod penodol trwy adio Dyddiad gorffen yn hytrach na’i adael yn “Parhaus”.
  6. Cliciwch Aseinio caniatâd.

Screen_Shot_2018-09-19_at_11.03.19.png

Nodyn: Os na allwch chi weld caniatâd penodol i’w adio, mae hynny’n golygu bod gan yr aelod o staff y caniatâd yna’n barod.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
32 allan o 145 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.