Datrys Problemau Mewngofnodi ar gyfer Porth ac Ap Rhieni Arbor

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Mae’r canllaw hwn yn darparu cynghorion datrys problemau i’ch helpu i fewngofnodi ym Mhorth Rhieni neu Ap Rhieni eich ysgol. Argymhellir y dylech chi roi cynnig ar y camau hyn cyn cysylltu â’ch ysgol i ofyn am gymorth.

Sylwer: Dim ond rhieni â phroffil gwarcheidwad wedi ei ychwanegu at safle’r ysgol sy’n gallu defnyddio’r Ap Rhieni, ac ni all staff ac athrawon yr ysgol gael mynediad ato. 


1. Gwirio eich Gwybodaeth Fewngofnodi

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost fel eich enw defnyddiwr.

2. Problemau â Chyfrinair

Wedi anghofio eich cyfrinair?

  • Cliciwch ar y ddolen Wedi anghofio eich cyfrinair? ar eich tudalen fewngofnodi i dderbyn neges e-bost am ailosod cyfrinair.
  • Os nad yw’r neges e-bost yn cyrraedd, cysylltwch â’ch ysgol i ofyn am un. Fel arfer, gall yr ysgol anfon neges e-bost atoch â llaw i ailosod cyfrinair neu osod cyfrinair newydd y gallwch ei newid ar ôl i chi fewngofnodi.

 

Ddim wedi derbyn neges e-bost i fewngofnodi neu ailosod cyfrinair?

  • Yn gyntaf, cadarnhewch gyda’ch ysgol mai’r cyfeiriad e-bost yr ydych chi’n ei ddefnyddio yw’r un sydd ganddi ar ffeil ar gyfer eich cyfrif. Gall olygu’r cyfeiriad e-bost os yw hwn yn anghywir.
  • Os yw eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar ochr yr ysgol ond nad ydych yn derbyn y neges e-bost o hyd, gofynnwch i’ch ysgol anfon neges e-bost atoch â llaw i ailosod cyfrinair neu osod cyfrinair newydd i chi.
  • Os yw eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ddefnyddio ar safle mwy nag un ysgol, efallai na fyddwch chi’n gallu cael neges e-bost i ailosod cyfrinair ar gyfer y safle mwyaf cyfredol eich hun. I atal problemau yn y dyfodol, cysylltwch â’r hen ysgol i ddileu’r cyfeiriad e-bost neu’i newid o’r cyfrif hwnnw.

 

Dolen i Fewngofnodi Wedi Dod i Ben

  • Os ydych chi’n ceisio mewngofnodi gan ddefnyddio dolen o neges e-bost, dylech wybod na fydd y ddolen yn gweithio os cafodd ei hanfon mwy na 96 awr yn ôl.

 

  • I gywiro hyn, bydd angen i chi gael dolen ailosod newydd wedi’i hanfon atoch chi.

3. Negeseuon Gwall Cyffredin

"Nid oes gennych chi ganiatâd i gael mynediad at Arbor" (neu neges yn dweud bod y cyfrif wedi’i atal)

Mae hyn yn golygu bod eich cyfrif wedi’i atal ac na fyddwch yn gallu mewngofnodi. Rhaid i chi gysylltu â’ch ysgol i ofyn iddi alluogi eich cyfrif.

 

Sgrin Wag neu neges gwall

Gall hyn ddigwydd os nad yw eich proffil wedi cael ei gysylltu ag unrhyw fyfyrwyr. Gofynnwch i’ch ysgol wirio’r canlynol:

  • Fel pa fath o warcheidwad rydych chi wedi cael eich cofnodi; dim ond y rheiny sydd wedi eu marcio fel Prif Warcheidwaid sy’n gallu cael mynediad at yr Ap neu’r Porth Rhieni.
  • Bod yr ysgol wedi’ch cysylltu’n gywir â’ch plant.
  • Nad yw’r ysgol wedi creu proffiliau dyblyg trwy ddamwain gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost.

 

"Cyfeiriad e-bost neu gyfrinair yn anghywir" (yn yr Ap Rhieni)

Placeholder notification that the App is not ready

  • Ceisiwch fewngofnodi ar borwr gwe yn login.arbor.sc.
  • Os yw’r mewngofnodi ar y we yn gweithio ond nid yw’r ap, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio fersiwn ddiweddaraf yr ap. Os nad ydych chi’n gweld rhif y fersiwn ar y sgrin mewngofnodi, mae gennych chi hen fersiwn ac mae angen i chi lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf. 
  • Os na allwch chi fewngofnodi trwy’r porwr gwe, ceisiwch ailosod eich cyfrinair.

4. Problemau Mewngofnodi Eraill

  • Nid yw’r Porth Rhieni wedi’i alluogi: Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi os nad yw eich ysgol wedi galluogi’r Porth Rhieni eto. Cysylltwch â’ch ysgol i ofyn iddi droi’r Porth Rhieni ymlaen.

 

  • Wedi mewngofnodi yn y cyfrif anghywir: Mae hyn yn golygu bod eich ysgol wedi defnyddio eich cyfeiriad e-bost ar broffil gwarcheidwad, myfyriwr neu aelod staff arall trwy gamgymeriad. Cysylltwch â’ch ysgol i ofyn iddi gywiro hyn. Bydd angen i’r ysgol wirio am broffiliau gwarcheidwaid dyblyg, hefyd.
  • Nid ydych chi’n gallu gweld eich plentyn neu newid rhwng plant:
    • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cytuno i’r Telerau a’r Amodau y tro cyntaf y cawsoch fynediad at yr ap neu’r porth.

 

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofnodi dyddiad geni eich plentyn yn gywir.

5. Ddim yn Gallu Mewngofnodi o hyd?

Os nad yw’r un o’r camau hyn yn gweithio, bydd angen i chi gysylltu â’ch ysgol i ofyn am gymorth.

[Welsh/English Toggle Button will appear here]

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
153 allan o 1698 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.