[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Mae’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni yn galluogi rhieni i reoli gweithgareddau eu plentyn yn yr ysgol, yn cynnwys cofrestru ar gyfer clybiau, taliadau, a monitro presenoldeb a chynnydd. Mae mynediad ar gael yn unig i ysgolion sy’n defnyddio System Gwybodaeth Reoli Arbor. Gall rhieni lawrlwytho’r ap, galluogi hysbysiadau, a mewngofnodi gan ddefnyddio’u e-bost a’u cyfrinair. Mae’r erthygl yn rhoi cyfarwyddiadau manwl ar gyfer lawrlwytho, mewngofnodi a datrys problemau.
Mae’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni yn gadael i rieni gofrestru eu plentyn ar gyfer clwb neu drip, trefnu slotiau nosweithiau rhieni, a rheoli taliadau i gyd o’u ffôn neu’u cyfrifiadur. Gall rhieni hefyd wirio presenoldeb, ymddygiad a chynnydd eu plentyn.
Mae Arbor dim ond ar gyfer rhieni mewn ysgolion sy’n defnyddio System Gwybodaeth Reoli Arbor, sydd wedi galluogi’r Porth Rhieni. Os nad ydych chi’n siŵr p’un a yw hyn yn berthnasol i chi, rydym yn argymell y dylech chi gysylltu â swyddfa eich ysgol.
Os ydych chi’n cael anhawster defnyddio Arbor, cysylltwch â’ch ysgol. Peidiwch â chysylltu ag Arbor yn uniongyrchol.
Beth yw’r Porth Rhieni?
Y Porth Rhieni yw ein fersiwn ni o Arbor sy’n hygyrch i warcheidwaid ar liniadur neu gyfrifiadur.
Beth yw’r Ap Rhieni?
Yr Ap Rhieni yw’r fersiwn symudol o’n Porth Rhieni, i’w ddefnyddio ar ddyfeisiau symudol fel ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen. Os yw eich ysgol wedi troi’r Porth Rhieni ymlaen, gallwch lawrlwytho’r Ap a dechrau ei ddefnyddio ar unwaith.
Placeholder notification that the App is not ready
Sut ydw i’n dechrau arni gyda’r Ap Rhieni?
Lawrlwytho’r Ap Rhieni
Android
- Ewch i’r Play Store a chwilio am ‘Arbor’. Cliciwch ar yr opsiwn ar y top.
- Cliciwch ar Install i lawrlwytho’r Ap Rhieni. Wedi iddo gael ei osod, cliciwch ar Open.
iOS
- Ewch i’r App Store a chwilio am ‘Arbor’.
- Cliciwch ar yr opsiwn ar y top.
- Cliciwch ar Get i lawrlwytho’r Ap Rhieni.
Galluogi hysbysiadau gwthio
Android
- Gallwch chi droi Hysbysiadau Gwthio ymlaen neu i ffwrdd ar unrhyw adeg trwy fynd at y Gosodiadau (Settings) ar eich ffôn. Er enghraifft, ar Samsung Galaxy S8, ewch i Settings > Apps > Arbor > Notifications.
- Tapiwch y llithrydd i droi Hysbysiadau Gwthio ymlaen a rheoli eich gosodiadau.
iOS
Pan fyddwch chi’n lawrlwytho’r Ap Rhieni, byddwch yn derbyn anogiad i dderbyn hysbysiadau gan Arbor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis Allow i alluogi eich ysgol i anfon hysbysiadau gwthio atoch chi. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn hysbysiad pan fydd gennych chi neges newydd mewn ap.
Os byddwch chi’n dewis Don’t Allow, gallwch chi droi Hysbysiadau Gwthio yn ôl ymlaen ar unrhyw adeg trwy fynd i Settings ar eich ffôn.
- Er enghraifft, ar iPhone SE, ewch i Settings > Arbor > Notifications.
- Tapiwch y llithrydd i droi hysbysiadau gwthio ymlaen a rheoli eich gosodiadau. Rydym yn argymell y dylech chi osod eich arddull baner i ‘Parhaol’ (Permanent), fel nad yw’n diflannu.
Mewngofnodi
Cyn i chi fewngofnodi am y tro cyntaf, arhoswch hyd nes bydd eich ysgol wedi galluogi’r Porth Rhieni. Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi nes bydd yr ysgol wedi gwneud hyn.
Pan fydd eich ysgol yn galluogi’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni, bydd yn anfon neges e-bost o groeso i osod eich cyfrinair. Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn trwy’r ap, gan fod y dolenni yn ein negeseuon e-bost ailosod cyfrinair ond yn gweithio gyda phorwr. Dilynwch y cyfarwyddiadau Mewngofnodi am y tro cyntaf yn yr adran Mewngofnodi ar y Porth Rhieni isod.
Mewngofnodi ar y Porth Rhieni
1. Mewngofnodi am y tro cyntaf
Bydd y neges e-bost o groeso gan eich ysgol yn cynnwys eich manylion mewngofnodi a dolen a fydd yn mynd â chi at fersiwn porwr y Porth Rhieni lle mae angen i chi greu cyfrinair.
Gallwch ailosod eich cyfrinair gan ddefnyddio cyfrifiadur, neu ddefnyddio porwr symudol ar eich ffôn neu’ch cyfrifiadur llechen.
- Cliciwch ar y ddolen, wedyn clicio ar Wedi anghofio eich cyfrinair?
- Ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost, wedyn clicio ar Ailosod cyfrinair.
- Os oes gennych chi blentyn mewn mwy nag un ysgol Arbor, gofynnir i chi ddewis yr ysgol briodol.
- Wedyn, byddwch yn derbyn neges e-bost arall. Cliciwch ar y ddolen yn y neges e-bost hon i osod eich cyfrinair.
- Crëwch eich cyfrinair. Wedyn, byddwch yn cael eich mewngofnodi pan fyddwch yn clicio ar Creu cyfrinair.
- Cliciwch i dderbyn y telerau a’r amodau.
- Fel rhagofal diogelwch, gofynnir i chi wedyn gadarnhau dyddiad geni un o’ch plant.
Wedi i chi glicio ar ‘gwirio’, byddwch chi nawr wedi mewngofnodi!
Wedyn, gallwch gau’r porwr a newid i ddefnyddio’r ap.
2. Dychwelyd i fewngofnodi eto
Gan fod eich cyfrinair wedi’i greu erbyn hyn, gallwch chi fewngofnodi i’r Porth Rhieni trwy fynd i login.arbor.sc a mewnbynnu eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.
- Os oes gennych chi blentyn mewn mwy nag un ysgol Arbor, gofynnir i chi ddewis yr ysgol briodol. Cofnodwch eich cyfrinair, wedyn clicio ar Mewngofnodi.
- Os na allwch chi fewngofnodi, defnyddiwch ddolen Rwy’n warcheidwad ar yr ochr dde i weld cynghorion ar ddatrys problemau.
Mewngofnodi ar yr Ap Rhieni
Cadwch eich cyfrinair a’i lenwi fel mater o drefn gan ddefnyddio nodweddion gosodedig eich ffôn ar gyfer adnabod wyneb, sganio ôl bys neu gofnod pin.
Cyngor Da: Bydd angen i chi lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o’r App Store i ddefnyddio mewngofnodi biometrig:
- Y rhif fersiwn ar gyfer iOS ar gyfer mewngofnodi biometrig yw 24.1
- Y rhif fersiwn ar gyfer Android yw 35 (24)
1. Mewngofnodi am y tro cyntaf
Pan fyddwch yn agor yr ap am y tro cyntaf, byddwch yn cael eich annog i ychwanegu eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.
Bydd tic fel mater o drefn yn y blwch Cofio fy nghyfrinair ond gallwch ddileu’r tic oddi yno, os oes angen. Mae hyn yn galluogi Arbor i gofio eich cyfrinair y tro nesaf y byddwch chi’n mewngofnodi.
Gwnewch yn siŵr fod eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair yn gywir, neu byddwch yn derbyn y neges hon.
Pan fydd eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair yn gywir, byddwn yn gwirio eich manylion biometrig – naill ai drwy adnabod wyneb, sganio ôl bys neu gofnod pin.
- Pan fydd y gwiriad yn llwyddiannus, bydd mewngofnodi biometrig yn cael ei alluogi ar gyfer y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi, ac ni fydd angen i chi fewnbynnu eich cyfrinair Arbor.
- Bydd angen i chi sicrhau bod un o’r opsiynau hyn wedi’i alluogi er mwyn i chi allu cadw eich cyfrinair, neu bydd angen i chi dynnu’r tic o’r blwch.
Nesaf, bydd angen i chi ddewis eich ysgol. Os oes gennych chi gyfrifon ar fwy nag un ysgol, bydd tic nesaf at unrhyw ysgolion y mae eich cyfrinair yn gweithio ar eu cyfer.
- Cliciwch ar ysgol y mae tic wrth ei hochr i fewngofnodi ar unwaith.
- Cliciwch ar ysgol nad oes tic wrth ei hochr i fewnbynnu eich cyfrinair arall ar gyfer yr ysgol honno.
Wedi i chi fewnbynnu eich cyfrinair arall, bydd yn cadw’r cyfrinair hwn ar gyfer y tro nesaf.
Os oes gennych chi fwy nag un plentyn yn yr ysgol, dewiswch y plentyn yr ydych yn dymuno gweld ei broffil. Peidiwch â phoeni, gallwch chi ddewis plentyn arall wedi i chi fewngofnodi.
2. Dychwelyd i fewngofnodi eto
Pan fyddwch chi’n agor eich Ap Rhieni ac yn dewis cadw eich cyfrinair, byddwn yn cynnal gwiriad biometrig.
Sylwch, os nad ydych chi wedi mewngofnodi i’r Ap Rhieni am 1 mis, bydd angen i chi gofnodi eich cyfrinair y tro nesaf y byddwch chi’n mewngofnodi.
Wedyn, byddwn yn eich mewngofnodi fel mater o drefn gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair – cliciwch ar yr ysgol gyda’r tic.
Os yw’r mewngofnodi biometrig yn methu, bydd neges yn cael ei harddangos (bydd hyn yn amrywio ar sail OS dyfais) a bydd angen i chi roi cynnig arall arni neu gofnodi eich cod mynediad i allu dewis eich ysgol.
Os byddwch chi’n methu pob dilysiad, bydd gennych opsiwn i fewnbynnu eich cyfrinair Arbor.
Allgofnodi
O’r Porth Rhieni
I allgofnodi, cliciwch ar Allgofnodi yn y ddewislen ar y chwith.
Byddwch chi hefyd yn cael eich allgofnodi fel mater o drefn ar ôl cyfnod o ddwy awr o anweithgarwch. Os byddwch chi’n clicio’n ôl yn eich tab Arbor ychydig cyn i’r amser ddod i ben, gallwch chi ddewis p’un a ydych am aros wedi mewngofnodi.
O’r Ap Rhieni
Byddwch chi’n cael eich allgofnodi o’r Ap Rhieni fel mater o drefn ar ôl 30 munud o anweithgarwch. Gallwch chi hefyd allgofnodi trwy ddefnyddio’r nodwedd allgofnodi neu drwy gau’r Ap Rhieni i lawr yn gyfan gwbl (gweler y cyfarwyddiadau isod).
Tapiwch eicon y proffil yng ngwaelod eich sgrin ar yr ochr dde a dewis Allgofnodi.
Cau’r Ap Rhieni
Ar Android, er enghraifft ar Samsung Galaxy S8, gallwch chi gau’r Ap Rhieni trwy glicio ar eicon y bariau fertigol ar waelod eich sgrin ar yr ochr chwith. Sweipiwch yr Ap Rhieni i fyny i’w gau a byddwch chi wedi allgofnodi.
Ar iOS, er enghraifft ar iPhone SE, gallwch chi gau’r Ap Rhieni trwy glicio ar y botwm hafan ddwywaith. Sweipiwch yr Ap Rhieni i fyny i’w gau a byddwch chi wedi allgofnodi.
Ailosod fy nghyfrinair
Ydych chi’n cael anhawster ailosod eich cyfrinair? Mae nifer o resymau pam y gallech chi fod yn cael trafferth mewngofnodi i’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni. Defnyddiwch y cynghorion yn yr erthygl hon cyn codi mater gyda’ch ysgol: Datrys problemau mewngofnodi – pam na alla’ i fewngofnodi?
O’r tu mewn i Arbor/O’r tu mewn i’r Porth Rhieni
Ewch i Fy Eitemau > Fy Nghyfrif. Ychwanegwch fanylion eich cyfrinair newydd.
O’r tu mewn i’r Ap Rhieni
Os ydych chi wedi mewngofnodi yn yr Ap Rhieni, gallwch newid eich cyfrinair trwy glicio ar eicon y proffil, wedyn clicio ar eich enw.
- Wedyn, byddwch chi’n gallu gweld manylion eich cyfrif, yn cynnwys eich enw defnyddiwr nad yw’n gyfeiriad e-bost. Cliciwch i newid eich cyfrinair.
- Ar y sgrin nesaf, teipiwch eich cyfrinair presennol i mewn a’ch cyfrinair newydd, wedyn Newid Cyfrinair.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair
Ailosod eich cyfrinair ar gyfer y Porth Rhieni
Cliciwch ar y ddolen Wedi anghofio eich cyfrinair? ar y dudalen fewngofnodi fel bod neges e-bost i ailosod cyfrinair yn cael ei hanfon atoch.
Ailosod eich cyfrinair ar gyfer yr Ap Rhieni
Os ydych chi wedi cael mynediad at Arbor yn y gorffennol ac wedi anghofio eich cyfrinair, dewiswch yr opsiwn Wedi anghofio cyfrinair? wrth fewngofnodi i’r Ap Rhieni.
Bydd hyn yn mynd â chi at ail sgrin lle gallwch gofnodi eich cyfeiriad e-bost i greu neges e-bost newid cyfrinair.
Cwestiynau Cyffredin
A alla’ i fewngofnodi gan ddefnyddio enw defnyddiwr?
Er ein bod yn argymell y dylai defnyddwyr ddefnyddio eu cyfeiriadau e-bost i fewngofnodi, efallai bydd eich ysgol wedi rhoi enw defnyddiwr i chi.
- Gallwch chi ddefnyddio eich enw defnyddiwr nad yw’n gyfeiriad e-bost wrth fewngofnodi i’r Porth Rhieni gan ddefnyddio’r dudalen fewngofnodi sy’n benodol i’r ysgol.
- Ni allwch chi fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr nad yw’n gyfeiriad e-bost (mae angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost) wrth fewngofnodi i’r dudalen fewngofnodi generig, a’r Ap Rhieni.
Pam mae’n dangos yr ysgol anghywir i mi?
Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: Ysgol anghywir neu hen ysgol pan rwy’n ceisio mewngofnodi
Pam na alla’ i fewngofnodi?
Yn cael anhawster mewngofnodi? Mae nifer o resymau pam y gallech chi fod yn cael trafferth mewngofnodi i’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni. Defnyddiwch y cynghorion yn yr erthygl hon cyn codi mater gyda’ch ysgol: Datrys problemau mewngofnodi – pam na alla’ i fewngofnodi?
A oes angen i mi roi fy nghyfrinair i mewn bob tro?
Nac oes, does dim angen i chi roi eich cyfrinair i mewn bob tro. Edrychwch yma i gael mwy o fanylion: A oes rhaid i mi roi fy nghyfrinair i mewn bob tro i fewngofnodi?
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.