[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Mae’r erthygl hon yn darparu cyflwyniad i Borth Rhieni Arbor ar gyfer gwarcheidwaid a rhieni, sy’n rhoi manylion am sut i fewngofnodi, llywio dangosfwrdd yr hafan, a chael mynediad at nodweddion amrywiol megis ystadegau presenoldeb, aseiniadau, ac offer cyfathrebu. Mae hefyd yn esbonio sut i newid rhwng proffiliau lluosog plant a gweld gwybodaeth fanwl am gynnydd academaidd a gweithgareddau ysgol pob plentyn.
Os na allwch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn gan ddefnyddio’r erthygl hon, cysylltwch â’ch ysgol. Bydd yr yn cysylltu â ni, os oes angen. Peidiwch â chysylltu ag Arbor yn uniongyrchol.
Mewngofnodi
Os ydych chi’n ansicr ynghylch a yw eich ysgol yn defnyddio’r Porth Rhieni, gwiriwch â’r ysgol yn gyntaf.
Erioed wedi mewngofnodi o’r blaen? Ewch i’r erthygl hon i weld sut i fewngofnodi: Wrth ddechrau arni – Mewngofnodwch i’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni
Yn cael trafferth mewngofnodi? Gweithiwch drwy’r cynghorion hyn i ddatrys problemau gyda’ch ysgol: Pam na all rhieni fewngofnodi?
Dangosfwrdd Eich Hafan
Y dangosfwrdd yw’r sgrin gyntaf y byddwch yn ei gweld. Mae hyn yn rhoi cipolwg cyflym ar amserlen ddyddiol, pwyntiau ymddygiad, prydau bwyd, hysbysiadau, presenoldeb a chynnydd presennol y myfyriwr.
Gallwch weld eich negeseuon mewn ap trwy glicio ar y botwm hwn o dan lun eich plentyn.
Gallwch fynd yn ôl at y dudalen hon ar unrhyw adeg trwy glicio ar logo’r ysgol neu ddewis Dangosfwrdd o unrhyw ddewislen. Ar yr hafan, byddwch chi hefyd yn gweld adrannau ar gyfer:
- Ystadegau – Mae hyn yn dangos gwybodaeth am ystadegau presenoldeb, ymddygiad a chynnydd y myfyriwr am y tymor presennol.
- Ymgynghoriadau â gwarcheidwaid – Mae’r adran Ymgynghoriadau â Gwarcheidwaid yn galluogi gwarcheidwaid i drefnu amser ar gyfer cyfarfodydd Nosweithiau Rhieni trwy ddewis un o’r slotiau sydd ar gael yn unol â threfn yr ysgol.
- Aseiniadau – Mae’r adran hon yn dangos unrhyw aseiniadau gwaith cartref neu waith cwrs sy’n ddyledus, yn hwyr neu wedi cael eu marcio.
- Cyfrifon – Mae’r adran Cyfrifon yn llwytho balansau prydau bwyd presennol y myfyriwr a balansau cyfrifon atodol eraill.
- Tripiau – Cofrestrwch eich plentyn ar gyfer tripiau.
- Clybiau – Cofrestrwch ar gyfer clybiau safonol neu ar gyfer clybiau Brecwast a chlybiau Ar ôl yr Ysgol.
- Siop Ysgol – Gallwch chi brynu eitemau.
Bod yn warcheidwad ar gyfer mwy nag un plentyn – newid myfyrwyr
Os chi yw’r Prif Warcheidwad ar gyfer mwy nag un plentyn yn yr ysgol, gallwch gael mynediad a gweld pob plentyn trwy’r un porth.
Ar y Porth Rhieni
Ar ochr chwith eich hafan, cliciwch ar y saeth nesaf at enw’r plentyn presennol. Dewiswch y plentyn arall.
Wrth wneud hyn am y tro cyntaf, bydd angen i chi gofnodi dyddiad geni eich plentyn arall.
Ar yr Ap Rhieni
Placeholder notification that the App is not ready
Cliciwch ar yr eicon proffil ar waelod eich sgrin ar yr ochr dde a chlicio ar Newid myfyriwr.
Dewiswch pa blentyn yr hoffech ei weld.
Os dyma yw’r tro cyntaf i chi edrych ar wybodaeth ar gyfer y plentyn hwn, bydd rhaid i chi gadarnhau dyddiad geni’r plentyn.
Data sydd ar gael ar eich plentyn
Os yw ysgol eich plentyn wedi caniatáu mynediad, byddwch yn gallu clicio ar wahanol rannau o’r hafan i weld mwy o ddata ar eich plentyn.
Er enghraifft, o glicio ar y ganran presenoldeb, bydd y dudalen presenoldeb yn ymddangos, sy’n rhannu’r ffigurau presenoldeb yn ffigurau presennol, hwyr, neu absennol.
Wedi i chi glicio ar Presenoldeb neu eitem arall, byddwch yn gweld dewislen yn ymddangos ar ochr chwith y dudalen. Rydych chi bellach yn adran:
Proffil Myfyriwr
Gallwch gael mynediad at broffil eich plentyn trwy glicio ar y botwm Gweld y Proffil Myfyriwr ar eich hafan.
Mae hyn yn eich galluogi i weld gwybodaeth sylfaenol am eich plentyn, ac yn amlygu unrhyw hysbysiadau heb eu darllen neu gamau sydd angen eu cwblhau. Byddwch chi’n gallu diwygio manylion fel eich manylion cyswllt, gwybodaeth feddygol, cydsyniadau, ac ati.
Oddi yma, gallwch gael mynediad at fwy o feysydd proffil eich plentyn ar gyfer:
- Calendr ac Amserlen
- Presenoldeb – Mae’r dudalen crynodeb yn dangos ystadegau a phresenoldeb diweddar ar gyfer y flwyddyn academaidd, fel y dangosir. Mae’r dudalen Presenoldeb Yn Ôl Dyddiad yn rhoi manylion am bresenoldeb y myfyriwr, fesul diwrnod gyda'r marc.
- Ymddygiad – Edrychwch ar y pwyntiau ymddygiad cadarnhaol a negyddol sydd wedi cael eu rhoi, yn ogystal ag unrhyw sylwadau a allai fod wedi cael eu hysgrifennu am yr achosion.
- Cardiau adrodd – Bydd pob un o’r cardiau adrodd y mae eich ysgol wedi eu cyhoeddi ar gyfer eich plentyn ar gael yma.
- Cynnydd – Gallwch chi weld graddau presennol eich plentyn yma.
- Arholiadau – Yn yr adran hon, gallwch weld a lawrlwytho amserlen Arholiadau’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn bresennol.
- Taliadau – Gallwch chi reoli eich taliadau sy’n weddill.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.