Trefnu Prydau Bwyd - Cyflwyniad

Mae’r gyfres yma o erthyglau’n cynnig canllaw cam wrth gam i helpu ysgolion i drefnu rheoli prydau bwyd yn Arbor, gan gynnwys caniatâd, creu prydau bwyd, prisio, amserlennu a rheoli pwy sy’n bresennol. Mae’n cynnwys nodweddion opsiynol hefyd fel dewisiadau rheolaidd o ran prydau bwyd, a sut i ddelio â phrydau bwyd am ddim i fyfyrwyr cymwys.

Am ganllaw syml yn hytrach nag esboniad manwl gam wrth gam, gweler: Trefnu Prydau Bwyd Safonol - Rhestr Gyfeirio (Canllaw Cyflym)

Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant ar Drefnu Prydau Bwyd a Rheoli Prydau Bwyd. I brynu’r hyfforddiant yma, e-bostiwch customersales@arbor-education.com. Mae rhagor o fanylion yma.

Os yw eich ysgol am ddefnyddio Prydau Bwyd yn Arbor, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y canllawiau hyn i drefnu hyn ar eich safle.

Mae hi’n bosibl i rieni archebu prydau bwyd ymlaen llaw gan ddefnyddio Bwydlenni. I ddysgu sut i drefnu hyn, cwblhewch gamau 1 i 5 yn y gyfres hon cyn mynd i Bwydlenni Cylchol.

Y canllaw hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o wyth. Dyma’r canllawiau eraill yn y gyfres:

Caniatâd

  • Proffil Myfyriwr: Prydau Bwyd: Gweinyddu Pob Myfyriwr - Trefnu prydau bwyd ar gyfer myfyrwyr
  • Cyllid: Gweinyddu - Pennu prisiau ar gyfer y prydau bwyd

Os nad oes caniatâd priodol gennych, gofynnwch i’ch tîm gweinyddol roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Pa mor hir byd y broses drefnu’n cymryd?

  • Adio pryd bwyd - 1 funud
  • Adio darpariaethau - 5 munud
  • Adio prisiau prydau bwyd - 15 munud
  • Amserlennu prydau bwyd - 5 munud
  • Adio pwy sy’n bresennol am brydau bwyd - 5 munud
  • (Opsiynol) Adio dewisiadau bwyd - yn amrywio yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr

Cyn mynd ati i drefnu prydau bwyd

Yn gyntaf, penderfynwch a ydych am godi tâl ar bob myfyriwr am brydau bwyd.

Os nad ydych am godi tâl ar fyfyrwyr am brydau bwyd, dylech hepgor y canllaw Trefnu Prydau Bwyd - Cam 3 - Adio Prisiau yn y gyfres hon.

Os ydych am godi tâl ar fyfyrwyr, gwiriwch:

  1. Eich bod wedi trefnu taliadau â cherdyn yn Arbor. I alluogi taliadau â cherdyn am Brydau Bwyd, rhaid cwblhau’r broses Trefnu Taliadau â Cherdyn.
     
  2. Bod gennych chi’r pecyn cywir. Mae prydau bwyd yn gynwysedig yn ein holl becynnau Perform a’n pecyn Comms diweddaraf. Ni fydd pecynnau eraill Arbor yn cynnig y nodwedd yma’n ddiofyn. Cysylltwch â customersales@arbor-education.com am wybodaeth ar eich pecyn cyfredol ac i uwchraddio’ch pecyn.
     
  3. Eich bod wedi creu Cyfrif Cwsmeriaid ar gyfer prydau bwyd yn Ysgol > Taliadau > Trefnu > Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid, a’i fod wedi ei osod fel 'Dangos ar y Porth Rhieni' ar y dudalen hon os ydych am i warcheidwaid allu ychwanegu arian at y cyfrif.
     
  4. Eich bod wedi cynnau eich Cyfrif Cwsmeriaid am Brydau Bwyd yn Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Ap a Phorth > Gosodiadau’r Porth Rhieni ac wedi dilysu bod Gosodiadau Taliadau eich Porth Rhieni yn diwallu eich anghenion. Bydd hyn yn caniatáu i warcheidwaid weld balans eu cyfrifon Prydau Bwyd ac ychwanegu atynt ar y Porth Rhieni a’r Ap.
     
  5. Eich bod wedi pennu’r balans cychwynnol i drosglwyddo unrhyw arian cychwynnol draw o’ch system rheoli prydau bwyd blaenorol: Creu Balansau Cyfrif Cychwynnol

Awgrymiadau i greu Trefniant Prydau Bwyd Da

  1. Peidiwch â rhuthro - mae hi’n gallu bod yn demtasiwn rhuthro trwy bob cam, ond mae dileu gwybodaeth wallus yn gallu bod yn dipyn o dasg! Cymrwch eich amser i gyflawni pob cam er mwyn sicrhau eich bod wedi cofnodi’r holl wybodaeth yn gywir.
     
  2. Peidiwch â chyflawni camau diangen - mae rhai o’r camau’n opsiynol, ac efallai na fyddan nhw’n berthnasol i’ch ysgol chi. I symleiddio’r broses, rydyn ni’n argymell ysgrifennu’r cynllun ar gyfer prydau bwyd eich ysgol cyn cychwyn arni.
     
  3. Ni all staff yr ysgol ddileu trefniadau prydau bwyd - er y gall staff ddileu gwybodaeth o bob cam, dim ond Arbor Support sy’n gallu dileu’r pryd yn llwyr, felly cofiwch drefnu’r prydau bwyd sy’n angenrheidiol yn unig.

Pan fyddwch chi’n hyderus bod gennych bopeth yn barod i ddechrau trefnu eich prydau bwyd, ewch ymlaen i’r canllaw nesaf yn y gyfres i gychwyn eich trefniadau. Trefnu Prydau Bwyd - Cam 1 - Adio Pryd Bwyd

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
15 allan o 44 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.