Yr erthygl hon yw’r ail yn ein cyfres Trefnu Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid (Nosweithiau Rhieni). Mae’r canllaw yn trafod adio eich noson rieni, dewis dyddiadau a dewis cyfnod hunan-amserlennu ar gyfer rhieni.
Dyma’r canllawiau sydd yn y gyfres hon:
- Cyflwyniad - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
- Creu Cyfarfod - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
- Adio Cyfarfodydd - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
- Amserau ar Gael ac Amserau Egwyl - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
- Rheoli Cyfarfodydd - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
-
Trefniadau Penodol a Chwestiynau Cyffredin - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
Dewis dyddiadau’r cyfarfodydd
Cyn adio eich noson rieni, dewiswch eich dyddiadau dechrau a gorffen. Yn y cam yma byddwch chi’n diffinio’r dyddiadau cyffredinol a’r cyfnod o amser sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd, ac yn nes ymlaen, cewch bennu am ba hyd y gellir bwcio cyfarfodydd rhwng y dyddiadau cyffredinol hynny.
Er enghraifft, os byddwch chi’n cynnal cyfarfodydd eich noson rieni dydd Llun a dydd Mawrth, gallwch drefnu bod y dyddiadau’n dechrau dydd Llun ac yn gorffen dydd Mawrth yn y cam yma. Trwy adio amserau ar gael ac amserau egwyl gallwch bennu pryd yn union y gellir bwcio cyfarfodydd ar y dydd Llun a’r dydd Mawrth.
Gall y cyfarfodydd ymestyn dros nifer o ddiwrnodau. Er enghraifft, os ydych chi’n cynnal noson rhieni dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, dylech osod y dyddiad dechrau fel dydd Llun a’r dyddiad gorffen fel dydd Mercher. Ni fydd angen i staff fod ar gael trwy’r dydd; gallwch bennu’r amserau pan mae staff ar gael ar gyfer cyfarfodydd yn nes ymlaen (gweler y pedwerydd ganllaw, Amserau ar Gael ac Amserau Egwyl).
Trwy greu nifer o gyfarfodydd â gwarcheidwaid yn lle un, gall rhieni fwcio cyfarfodydd ar wahân am bob diwrnod. Felly’r ffordd orau o fynd ati yw amserlennu un noson rieni ar draws nifer o ddiwrnodau.
O ran amserau dechrau, y peth gorau yw pennu’r amser dechrau fel yr amser y gallai’r cyfarfod cyntaf ddigwydd ar y diwrnod cyntaf (h.y. beth yw’r amser cynharaf y gallai’r cyfarfod ddechrau?), ac o ran yr amser gorffen, gallwch ddefnyddio amser gorffen y cyfarfod olaf ar ddiwrnod olaf y cyfarfodydd (h.y. pryd y mae’r cyfarfodydd yn dod i ben yn llwyr?).
Creu Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid
I greu eich cyfarfodydd, pan fyddwch wedi penderfynu ar ddyddiadau ac amserau dechrau:
1. Ewch i Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid
2. Cliciwch +Adio i agor blwch llithro
3. O’r blwch lithro, gallwch olygu manylion y noson rieni.
- Enw’r Noson Rieni: Cliciwch ar y geiriad diofyn a theipiwch Enw eich Noson Rieni. Bydd rhieni’n gallu gweld yr enw yma ar y Porth neu’r Ap, felly cofiwch ddewis enw priodol a chlir.
- Dechrau’r Cyfarfodydd: Cliciwch ar y calendr i ddewis y Dyddiad a’r Amser rydych chi am i’r cyfarfodydd ddechrau.
- Diwedd y Cyfarfodydd: Cliciwch ar y calendr i ddewis y Dyddiad a’r Amser rydych chi am i’r cyfarfodydd ddod i ben.
- Mae Hunan-amserlennu yn caniatáu i chi bennu cwmpas yr amser pan gall Gwarcheidwaid gofrestru ar gyfer cyfarfodydd trwy’r Porth Rhieni neu’r Ap. Gadewch y dyddiadau a’r amserau’n wag os nad ydych am i rieni fwcio eu cyfarfodydd eu hunain:
- Hunan-amserlennu’n Agor: Cliciwch ar y calendr i ddewis y Dyddiad a’r Amser pan rydych chi am i’r gwarcheidwaid ddechrau bwcio amserau eu cyfarfodydd.
-
Hunan-amserlennu’n Cau: Cliciwch ar y calendr i ddewis y Dyddiad a’r Amser pan rydych am gau bwcio i warcheidwaid.
Nodyn: Yn achos nosweithiau rhieni sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, ni fydd hunan-amserlennu’n agor tan ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf hyd yn oed os yw’r dyddiad a’r amser ar gyfer Agor Hunan-amserlennu cyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Mae hynny’n golygu na chaiff rhieni fwcio cyfarfodydd yn y flwyddyn academaidd nesaf yn annibynnol nes bod y flwyddyn academaidd wedi dechrau, ond cewch gofrestru myfyrwyr â llaw ar gyfer y cyfarfodydd hyn.
4. Cliciwch Cadw Newidiadau i gadarnhau eich dewisiadau
Tudalen Trosolwg
Bydd clicio "Cadw’r newidiadau" yn creu noson rieni newydd, a bydd yn mynd â chi i’r Dudalen trosolwg ar gyfer y noson rieni.
Ar dudalen y trosolwg, cewch weld a diwygio unrhyw wybodaeth a nodwyd yn y blwch llithro (trwy glicio ar ‘Teitl’).
I ddileu noson rieni a grëwyd trwy gamgymeriad, defnyddiwch y botwm Canslo Cyfarfod â Gwarcheidwad ar ochr dde’r Dudalen Trosolwg.
Gallwch fynd i dudalen trosolwg y noson rieni i’w olygu ar unrhyw adeg trwy fynd i Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid > Pob Cyfarfod â Gwarcheidwaid a chlicio ar y noson rieni rydych am ei diwygio neu ei rheoli. Nodyn: dim ond nosweithiau rhieni heb unrhyw gyfarfodydd wedi eu hamserlennu y gellir eu dileu. Mae rhagor am hyn yma: Dileu’r Noson Rieni yn ei chyfanrwydd
Dyma ddiwedd yr ail ganllaw yn ein cyfres Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid). Y canllaw nesaf yn ein cyfres yw Adio Cyfarfodydd - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid).
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.