Cyflwyniad - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)

Mae’r erthygl hon yn cynnig cyflwyniad i’n cyfres o ganllawiau i’ch helpu chi gyda Threfnu Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid (Nosweithiau Rhieni) yn Arbor. Mae’r canllaw hwn yn trafod y caniatâd sydd ei angen arnoch i drefnu a rheoli Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid (neu Nosweithiau Rhieni) yn Arbor, yn ogystal â’r pethau allweddol i’w hystyried cyn mynd ati.

Mae Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid yn gynwysedig yn ein Pecynnau Comms a Perform. Ni fydd pecynnau Arbor eraill (fel Core) yn cynnig y nodwedd hon yn ddiofyn. Am uwchraddio neu holi pa becyn sydd gennych? Cysylltwch â’n Tîm Partneriaeth trwy e-bostio customersales@arbor-education.com.

Dyma’r canllawiau sydd yn y gyfres hon:

  1. Cyflwyniad - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
  2. Creu Cyfarfod - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
  3. Adio Cyfarfodydd - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
  4. Amserau ar Gael ac Amserau Egwyl - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
  5. Rheoli Cyfarfodydd - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)
  6. Trefniadau Penodol a Chwestiynau Cyffredin - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid)

Chwilio am gymorth gyda Chyfarfodydd â Gwarcheidwaid rydych chi wedi eu trefnu eisoes? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin a’n hawgrymiadau i ddatrys problemau.

Nodyn: I gael rhagor o wybodaeth am adroddiadau ar eich nosweithiau rhieni, cyfeiriwch at y canllaw ar Adroddiadau ar Gyfarfodydd â Gwarcheidwaid.
 

Caniatâd

  • Mae angen caniatâd Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid: Gweinyddu i drefnu a rheoli cyfarfodydd â gwarcheidwaid.

Os nad oes gennych chi’r caniatâd yma, gallwch ofyn i weinyddwr eich ysgol ei aseinio i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
 

Beth yw Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid?

Yn Arbor, gelwir nosweithiau rhieni yn Gyfarfodydd â Gwarcheidwaid. Gallwch fynd i’r adran hon trwy Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid > Cyfarfodydd â’r Holl Warcheidwaid. Bydd hyn eich galluogi chi i amserlennu a rheoli cyfarfodydd rhwng rhieni ac athrawon y gall rhieni eu bwcio trwy’r Porth Rhieni neu’r Ap.
 

Pethau i’w hystyried cyn mynd ati

Cyfarfodydd rhithwir

Nid ydym yn darparu linciau ar gyfer cyfarfodydd rhithwir yn awtomatig. Os ydych chi’n bwriadu cynnal cyfarfodydd rhithwir, bydd angen i chi greu linc Google Meet/Microsoft Teams â llaw, a’i rhannu â’ch gwarcheidwaid.
 

Cyfarfodydd ar wahân

Bydd angen i chi benderfynu a gaiff gwarcheidwaid a staff fwcio cyfarfodydd ar wahân ar gyfer pob gwarcheidwad sy’n gysylltiedig â phlentyn cyn cwblhau eich dewisiadau wrth amserlenni cyfarfodydd. Os felly, bydd angen i chi roi tic yn y blwch Caniatáu cyfarfodydd ar wahân wrth greu’r cyfarfod(ydd):

 

Ni chewch newid y dewis hwn ar ôl cynllunio’r cyfarfodydd. Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad, bydd angen i chi ddileu ac ail-greu’r cyfarfodydd, neu amserlennu cyfarfodydd pwrpasol ar gyfer y myfyrwyr sydd angen cyfarfodydd ychwanegol.

Yn ogystal, gallai fod yn ddefnyddiol i chi darllen ein canllawiau ar drefniadau mwy penodol ar gyfer cyfarfodydd cyn dechrau. Er enghraifft, ystyriwch ddarllen Rheoli rhieni sydd wedi gwahanu neu deuluoedd ar wasgar.
 

Yr adeg o’r flwyddyn

Os oes angen i chi amserlenni cyfarfodydd a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, ni fydd modd defnyddio’r Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid i ganiatáu i rieni fwcio trwy’r Porth Rhieni neu’r Ap tan ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

Dim ond cyfarfodydd a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol y caiff rhieni eu bwcio eu hunain. Yn hytrach, byddai angen i chi fwcio cyfarfodydd ar gyfer rhieni â llaw, neu drefnu cyfarfodydd fel digwyddiad er mwyn rheoli’r sesiynau i’w bwcio.
 

Cyfarfodydd ar Wahân

Os ydych chi’n trefnu 2 gyfarfod â gwarcheidwaid gyda’r un aelod o staff ar gyfer yr un diwrnod/amser, yna caiff argaeledd yr aelod o staff ei ddyblygu ar y ddau gyfarfod.

Er enghraifft, trefnu 2 gyfarfod â gwarcheidwaid ar 1 Ionawr rhwng 10AM a 12PM:
Cyfarfod 1 – pennu bod yr aelod o staff ar gael rhwng 10AM-11AM
Cyfarfod 2 – pennu bod yr aelod o staff ar gael rhwng 11AM-12PM
Bydd hyn yn peri i’r ddau slot gael eu pennu ar gyfer cyfarfodydd â gwarcheidwaid.

Yn hynny o beth, rydyn ni’n argymell pennu un cyfarfod â gwarcheidwad yn unig ar gyfer y diwrnod a’r amser penodol yna e.e.:

Cyfarfod 1 - 10AM - 11AM, staff ar gael trwy gydol y cyfnod,

Cyfarfod 2 - 11AM - 12PM, staff ar gael trwy gydol y cyfnod.
 

Calendrau staff

Er mwyn bwcio cyfarfod ag aelod o staff, rhaid bodloni’r amodau canlynol:

  • Rhaid i’r aelod o staff fod ar gael am gyfnod diffiniedig.
  • Rhaid i’r aelod o staff beidio â bod â digwyddiadau wedi eu hamserlennu eisoes.
  • Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn y cyfarfod fodloni’r ddau amod cyntaf yma.

Felly, sicrhewch fod calendrau’r staff yn glir o unrhyw ddigwyddiadau eraill yn ystod yr amserau cyfarfod dymunol, ac ystyriwch tynnu staff o unrhyw ddigwyddiadau sy’n gorgyffwrdd a dileu unrhyw ddigwyddiadau dal rydych chi wedi eu hychwanegu at galendrau staff (am y bydd hyn yn golygu nad oes modd bwcio’r amser yna).

Dyma ddiwedd ein canllaw cyntaf yn y gyfres Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid). Y canllaw nesaf yn ein cyfres yw Creu Cyfarfod - Trefnu Nosweithiau Rhieni (Cyfarfodydd â Gwarcheidwaid).

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
1 allan o 3 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.