Os ydych chi’n defnyddio’r Ap Rhieni yn eich ysgol, mae gennych chi’r opsiwn i ddefnyddio negeseuon o fewn yr ap. Mae hyn yn gadael i’ch ysgol anfon gwybodaeth at rieni o fewn yr Ap Rhieni.
Gall rhieni gynnau hysbysiadau gwthio wrth osod yr Ap Rhieni ar eu ffôn, sy’n golygu y byddan nhw’n derbyn hysbysiad os oes neges newydd yn cael ei hanfon o fewn yr ap (dim ots a ydyn nhw’n wedi mewngofnodi ai peidio).
Weithiau, gall rhywbeth atal rhai rhieni rhag derbyn negeseuon gwthio ar eu ffonau. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi cynnau hysbysiadau gwthio ar eu ffonau, gall dyfeisiau iOS flocio negeseuon gwthio os yw’r ffôn yn derbyn llawer ohonyn nhw.
Os ydyn yw’r negeseuon gwthio’n cael eu hatal, gallan nhw gymryd y camau isod i’w cynnau eto:
- Cau’r Ap Rhieni (gan wneud yn siŵr nad yw’n rhedeg yn y cefndir - gwyliwch y fideo yma i weld sut i wneud hyn)
- Mynd i’r gosodiadau a diffodd hysbysiadau gwthio ar gyfer yr Ap Rhieni.
- Ailgychwyn y ffôn
- Mynd i’r gosodiadau a chynnau hysbysiadau gwthio ar gyfer yr Ap Rhieni.
- Ailgychwyn y ffôn eto.
- Nawr dylent fod yn gallu derbyn hysbysiadau gwthio eto.
Os nad yw’r hysbysiadau gwthio’n gweithio o hyd ar ôl cymryd yr holl gamau uchod, dadosodwch yr Ap Rhieni o’r ddyfais a’i osod eto. Wrth ei osod am yr ail dro, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cytuno i dderbyn hysbysiadau gwthio o’r ap.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.