Mae’r broses ar gyfer Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd yn Arbor yn dechrau ar 1 Mai, ac mae hyn yn darparu adnoddau ac arweiniad i ysgolion baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Gall defnyddwyr gyrchu rhestrau cyfeirio, cwestiynau cyffredin a chymorth o fewn y pecyn i sicrhau proses ddidrafferth. Argymhellir dechrau’n gynnar, am y daw’r newidiadau i rym ym mis Medi.
Mae’r Broses Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd yn Arbor yn agor ar 1 Mai felly rydyn ni wedi creu adnoddau gwych i helpu i’ch tywys chi trwy’r broses diwedd blwyddyn! Does dim angen aros, am na fydd y newidiadau’n dod i rym tan fis Medi - felly dechreuwch arni heddiw!
Caniatâd
- I gyrchu unrhyw ran o’r broses Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd, bydd angen caniatâd: Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu arnoch.
Os nad yw’r caniatâd yma gennych, gofynnwch i’ch tîm gweinyddol roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Ein Canllawiau ar gyfer Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd
Cyn cychwyn arni
- darllenwch ein cyflwyniad byr: Sut a phryd mae cyflawni’r broses diwedd blwyddyn?
- sicrhewch fod gennych chi’r holl wybodaeth angenrheidiol trwy fwrw golwg ar ein Rhestr Gyfeirio.
- gwyliwch ein gweminarau ar Drefnu Blwyddyn Ysgol Newydd ar Arbor HQ. Os nad ydych chi’n rhan o gymuned Arbor HQ eto, cliciwch yma i weld sut i fynd ati i ymuno.
Bydd ein canllawiau ar Drefnu Blwyddyn Ysgol Newydd yn eich tywys gam wrth gam trwy’r broses o baratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf. Cliciwch yma i gychwyn Cam 1: Canllaw i Drefnu Blwyddyn Ysgol Newydd
Unrhyw gwestiwn?
Mae rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sy’n codi am y broses ar gael i chi: Cwestiynau Cyffredin am Drefnu Blwyddyn Ysgol Newydd
Cymorth o fewn y pecyn
Ar y tudalennau trefnu, cewch ddefnyddio ein bot cymorth yn yr MIS sy’n llawn Cynghorion a Chwestiynau Cyffredin. Yn cyflwyno… Bot Arbor!
Sicrhau eich bod chi wedi cyflawni pob cam yn gywir
Chwilio am ffordd o wirio’ch bod chi wedi cwblhau pob cam? Defnyddiwch ein Rhestr Gyfeirio.
Os ydych chi’n gweld baner fel hyn ar eich safle, mae hynny’n golygu nad ydych chi wedi cwblhau un neu ragor o’r camau ar gyfer Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr erthygl hon i ddatrys y broblem a chael gwared ar y faner.
Cysylltu am gymorth pellach
Ysgolion dan gymorth partneriaid
Cysylltwch â’ch partner cymorth am gymorth pellach gyda Threfnu Blwyddyn Ysgol Newydd.
Ysgolion dan gymorth Arbor a Chymorth Lefel Uwch
Gallwch weld sut i gysylltu yma: Cysylltu â ni
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.