5 ffordd o wirio’ch bod chi’n barod am y flwyddyn academaidd nesaf

Ar ôl gorffen trefniadau eich Blwyddyn Ysgol Newydd, bydd angen i chi sicrhau eich bod chi wedi gwneud y cyfan yn iawn. Dyma 5 cam allweddol i sicrhau eich bod chi’n barod i fynd.
 

1. A yw dyddiadau’r tymhorau ar eich Calendr Academaidd yn gywir?

Trefnu’r calendr academaidd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd yw’r cam cyntaf i gwblhau’r broses o Drefnu’r Flwyddyn Ysgol Newydd. Os nad ydych wedi gosod y dyddiadau cywir ar gyfer eich tymhorau a’ch gwyliau, mae’n bosibl na fydd eich cofrestrau’n ymddangos ar y dyddiadau cywir.

I wirio hyn, ewch i Ysgol > Strwythur yr Ysgol > Trefnu’r Flwyddyn Ysgol > 1. Calendr Academaidd.

Yn yr esiampl isod, fe welwch chi fod tymor yr Hydref wedi ei osod i ddod i ben ar 22 Rhagfyr, ond am fod gwyliau’r Nadolig wedi eu gosod i ddechrau ar 22 Rhagfyr, mae hynny’n gwrthwneud dyddiadau’r tymhorau. Felly ni fydd cofrestrau ar gyfer 22 Rhagfyr.

example_calendar.png
 

I drwsio hyn, gwnewch yn siŵr nad yw’r gwyliau yn gorgyffwrdd â dyddiadau’r tymhorau.

I wneud hyn, cliciwch ar y dyddiad rydych chi am ei ddiwygio. Yn yr esiampl, mae angen i mi newid dyddiad dechrau Gwyliau’r Nadolig i adlewyrchu’r dyddiad cyntaf pan nad oes angen cofrestrau. Dylech amserlennu’r gwyliau i ddechrau ar y 25ain (mae Arbor yn diystyru penwythnosau yn awtomatig).

Rhaid clicio ar y botwm Marcio’r Calendr yn Gyflawn eto i gadw eich newidiadau er mwyn parhau i olygu’r adrannau nesaf.

edit_holiday.png
 

2. Ydych chi wedi cofnodi pryd y bydd y rhai sy’n ymadael yn gorffen?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi dadgofrestru’r myfyrwyr a fydd yn ymadael yn gywir. Ewch i Broffil Myfyriwr un o’ch disgyblion Blwyddyn 6, 11 neu 13 na fydd ar y gofrestr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Ewch i’r adran Cofrestru gan ddefnyddio’r ddewislen ar y chwith, a dewiswch y flwyddyn academaidd nesaf o’r gwymplen.

Yn yr adran Cofrestriad Ysgol, dylech weld y bydd eu Cofrestriad Cyfredol yn dod i ben yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Ni ddylai fod unrhyw gofrestriadau ganddynt ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf chwaith.

Os na bennwyd dyddiad gorffen ar gyfer y myfyriwr eto, mae’n bosibl nad ydych chi wedi cwblhau trefnu’r flwyddyn ysgol newydd. Dylech osod dyddiadau gorffen ar gyfer yr holl fyfyrwyr fydd yn gadael ar ddiwedd y flwyddyn hon gan ddilyn y cyfarwyddiadau yma: Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd Cam 2 - Dad-gofrestru Myfyrwyr sy’n Ymadael

Screen_Shot_2019-07-08_at_15.21.16.png
 

3. A fydd eich myfyrwyr yn y grwpiau cywir?

Er mwyn sicrhau bod eich holl fyfyrwyr yn y flwyddyn ysgol, dosbarth cofrestru a llys cywir ar gyfer y flwyddyn nesaf, ewch i Ysgol > Strwythur yr Ysgol > Trefnu Blwyddyn Ysgol > Adolygu Trefniant y Flwyddyn Ysgol a chlicio ar Adolygu cofrestriadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

  • Gallwch ddilysu bod eich cofrestriadau’n gywir, a symud myfyrwyr i’r grwpiau cywir os oes angen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi aseinio unrhyw fyfyrwyr â blychau gwag i flwyddyn ysgol a dosbarth cofrestru.

Awgrym: Chwiliwch am enwau myfyrwyr penodol gan ddefnyddio’r botymau Ctrl+F (Windows) neu Cmd+F (Mac) i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Os oes unrhyw fyfyrwyr ar goll o’r dudalen hon, neu wedi cael eu hadio ers cwblhau cam 3 o’r broses trefnu blwyddyn newydd, mae hynny’n golygu nad oes ganddynt gofrestriad yn eich ysgol. Gwnewch yn siŵr fod gennych gofrestriad ar gyfer y myfyrwyr hyn trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn: Cofrestru un myfyriwr

Screenshot_2023-02-22_at_09.00.14.png
 

4. Ydych chi wedi amserlennu eich cofrestrau?

Mae angen i bob ysgol (gan gynnwys ysgolion cynradd) gwblhau’r cam yma er mwyn bod â chofrestrau ym mis Medi.

Os ydych chi wedi trefnu eich cyrsiau a’ch dosbarthiadau, byddwch chi’n gallu eu gweld nhw i gyd yn Ysgol > Rhaglenni > Cyrsiau > Cyrsiau’r Flwyddyn Nesaf.

Screenshot_2020-08-10_at_16.46.55.png
 

Yn yr esiampl, e welwch chi nad oes unrhyw ddosbarthiadau Celf a Dylunio wedi eu gosod ar gyfer Blwyddyn 11. Gallwch glicio ar y cwrs i amserlennu’r gwersi. Cliciwch +Adio yn yr adran Dosbarthiadau a Gwersi.

Os oes angen diwygio manylion sylfaenol y dosbarth, fel enw’r arweinydd academaidd, gallwch wneud hynny yma hefyd.

Screenshot_2020-08-10_at_16.48.19.png
 

Os nad ydych wedi trefnu eich Cyrsiau a Dosbarthiadau, bydd y dudalen yn adlewyrchu hynny.

Screenshot_2020-08-10_at_16.42.48.png
 

Os felly, ewch i Ysgol > Strwythur yr Ysgol > Trefnu Blwyddyn Ysgol > Cam 6 i amserlennu gwersi o ddosbarthiadau cofrestru, copïo eich cyrsiau o’r flwyddyn ddiwethaf, mewnforio ffeil TimeTabler neu drefnu eich cyrsiau a’ch dosbarthiadau eich hun.

Os ysgol arbennig ydych chi, dewiswch y canllawiau sydd fwyaf perthnasol i chi, am fod y trefniadau yr un fath i raddau helaeth i ysgolion arbennig neu ysgolion y brif ffrwd.

Ar ôl cwblhau cam 6m fe welwch chi restr o’r holl Ddosbarthiadau Cofrestru a drefnwyd. Nawr gallwch nodi eich bod wedi cwblhau’r cam yma.
 

5. A oes cofrestrau gennych ar gyfer diwrnod cyntaf y tymor?

Os nad ydych chi wedi trefnu’r cofrestrau, ni fydd eich athrawon yn gallu cofnodi presenoldeb ar eich diwrnod cyntaf nôl!

I weld a ydyn nhw’n barod, yn gyntaf gwiriwch bryd y dylai’ch cofrestrau ddechrau. Ewch i Ysgol > Strwythur yr Ysgol > Blynyddoedd Academaidd, wedyn dewiswch y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

academic_year.png
 

Yn yr esiampl isod, y 1af yw dyddiad cyntaf y tymor. Ond rydw i wedi pennu'r 2il a’r 3ydd fel dyddiau HMS, felly’r dyddiad cyntaf y mae angen cofnodi presenoldeb ar ei gyfer yw 4 Medi.

example_calendar_start.png
 

Nesaf, ewch i Myfyrwyr > Presenoldeb > Cofrestrau Fesul Dyddiad. Cliciwch ar eicon y calendr, dewiswch y dyddiad cyntaf y dylai eich cofrestrau fodoli ar ei gyfer, wedyn cliciwch Newid Dyddiadau.

select_date.png
 

Os ydych chi wedi trefnu eich cyrsiau, dosbarthiadau a grwpiau cofrestru yn gywir, dylent ymddangos ar y dudalen hon! Os na, gwnewch yn siŵr nad ydych chi wedi amserlennu gwyliau ar y diwrnod yma, gallai hynny naill ai olygu:

enrol_students.png

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
29 allan o 31 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.