Mae’r erthygl hon yn amlinellu’r camau i y mae angen i ysgolion eu cymryd i osod a gweithredu’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni yn Arbor, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod proffiliau’r gwarcheidwaid a’r myfyrwyr yn gywir, datrys dyblygu a chyflunio’r gosodiadau cyn lansio. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd strategaethau cyfathrebu i ymgysylltu rhieni yn effeithiol hefyd.
Cyn cynnau’r Porth Rhieni ar gyfer eich ysgol, rhaid gwneud ambell i beth i sicrhau ei fod yn gweithio fel y dylai i’r holl ddefnyddwyr. Dilynwch ein Rhestr Gyfeirio ar gyfer y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni
Faint o amser bydd hyn yn ei gymryd?
- Gosod proffiliau coll a’u cysylltu - mae hyn yn dibynnu ar y nifer sydd i’w datrys, ond rydyn ni’n argymell caniatáu o leiaf 1 awr
- Datrys proffiliau dyblyg - mae hyn yn dibynnu ar y nifer sydd i’w datrys, ond rydyn ni’n argymell caniatáu o leiaf 30 munud
- Dilysu cyfeiriadau e-bost - mae hyn yn dibynnu ar y nifer i’w datrys, ond rydyn ni’n argymell caniatáu o leiaf 1 awr
- Trefnu a dosbarthu caniatâd (os oes angen) - 15 munud
- Trefnu taliadau â cherdyn - mae amcangyfrif yma
- Dewis gosodiadau eich Porth Rhieni - 10 munud
- Cynnau’r Porth Rhieni - 1 funud
- Anfon manylion mewngofnodi - 10 munud
Pethau i’w hystyried cyn cychwyn arni
Pryd fyddwch chi’n cynnau’r Porth Rhieni?
- A oes amser delfrydol gennych i gynnau’r Porth Rhieni?
- A oes gennych sawl ap i’w
cyfuno? - A oes gan eich rhieni lawer o bethau y mae angen iddyn nhw gofrestru ar eu cyfer yn barod?
- A oes gennych chi’r amser i gyflwyno hyn nawr?
A fydd angen tasglu arnoch? A yw’r gwaith yn addas i un person neu a oes angen tîm? Oddi wrth bwy yn yr ysgol bydd angen cymorth i:
- Wirio e-byst
- Cysylltu â gwarcheidwaid
- Hysbysebu
- Cynllunio ar gyfer cynnau’r porth
Sut byddwch chi’n hysbysebu’r Porth Rhieni? Sicrhewch gefnogaeth y rhieni trwy gynllunio strategaeth dda ar gyfer y cynnwys fel bod rhieni’n dod yn ôl ac yn mewngofnodi drosodd a thro! Trefnwch ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, codwch bosteri neu anfonwch e-byst. Cofiwch gynllunio pryd rydych chi’n bwriadu cynnau’r Porth Rhieni a pha feysydd rydych chi am i’r rhieni eu gweld!
- Posteri
- Cyfryngau cymdeithasol
- E-byst, llythyrau
- Sesiynau galw heibio
- Nosweithiau rhieni ar y Porth Rhieni
Mae templedi enghreifftiol ar gyfer gohebiaeth a phoster yma: Templedi ar gyfer posteri a thaflenni cyfathrebu ar gyfer y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni
Cam 1 - Gwirio manylion eich myfyrwyr a’ch gwarcheidwaid er mwyn atal problemau mewngofnodi
Bydd angen i chi sicrhau bod yr holl warcheidwaid wedi cael eu cofnodi’n gywir, ac nad oes unrhyw broffiliau dyblyg. Rhaid hefyd i bob proffil fod â chyfeiriad e-bost hollol unigryw, neu caiff gwarcheidwaid a staff broblemau wrth fewngofnodi.
Gwnewch yn siŵr bod yr holl fyfyrwyr rydych chi am i’r gwarcheidwaid fod yn gallu eu gweld ar eu Porth Rhieni wedi cael eu hadio at eich safle Arbor.
Wedyn, gwnewch yn siŵr bod yr holl warcheidwaid rydych chi am iddynt allu cyrchu’r Porth Rhieni wedi cael eu hadio a’u cysylltu â’r plant cywir fel Prif Warcheidwad. Gallwch wneud hyn yn adran Teulu, Gwarcheidwaid a Chysylltiadau proffil y myfyriwr. Ar ôl adio gwarcheidwad at broffil un myfyriwr, gallwch glicio ar y gwarcheidwad i fynd i’w proffil a a’u cysylltu ag unrhyw fyfyrwyr eraill.
Cadwch lygad am unrhyw warcheidwaid nad ydynt yn gysylltiedig â myfyrwyr - ni fyddan nhw’n gallu gweld gwybodaeth unrhyw blentyn wrth fewngofnodi. Ewch i Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Gwarcheidwaid heb unrhyw fyfyrwyr cysylltiedig. Cofiwch ddileu’r proffiliau hyn gan ddefnyddio gweithred torfol, neu eu cysylltu â’r myfyriwr cywir trwy glicio ar eu henw.
Os oes gwarcheidwad â mwy nag un proffil gennych, ni fydd y Porth Rhieni’n gwybod pa broffil i’w ddangos wrth fewngofnodi, a bydd yn codi gwall.
- I weld sut i ddatrys eich holl fyfyrwyr dyblyg, cliciwch yma.
- I weld sut i ddatrys eich holl warcheidwaid dyblyg, cliciwch yma.
Gwnewch yn siŵr fod gan yr holl Brif Warcheidwaid gyfeiriad e-bost ar eu proffil, ac nad oes unrhyw warcheidwaid â chyfeiriadau e-bost coll. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yma a llenwi unrhyw fylchau trwy fynd i Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid / Diweddaru’n Dorfol > Manylion Cyswllt Gwarcheidwaid.
Mae hyn yn bwysig dros ben, am fod y cyfeiriad e-bost yn gweithredu fel yr enw defnyddiwr y mae gwarcheidwaid yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i’r Porth Rhieni.
Rhaid gwneud yn siŵr nad yw’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar broffil gwarcheidwad yn cael ei ddefnyddio ar broffil myfyriwr neu staff hefyd.
Er enghraifft, os yw proffil staff a phroffil gwarcheidwad yn rhannu’r un cyfeiriad e-bost, ni fydd y system yn gwybod a ydyn nhw’n ceisio mewngofnodi fel aelod o staff neu fel gwarcheidwad, a bydd gwall yn codi. Felly rhaid i gyfeiriadau e-bost fod yn wahanol ar bob proffil.
Gallwch ddilysu a datrys unrhyw gyfeiriadau e-bost dyblyg gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau yn yr erthygl hon: Sut i wirio am gyfeiriadau e-bost dyblyg ac atal defnyddwyr rhag mewngofnodi i’r cyfrif anghywir.
Os ydych chi am i’r cyfeiriad e-bost gael ei gofnodi ar broffil myfyriwr a gwarcheidwad, cliciwch ar yr adran Manylion Defnyddiwr a chlicio’r botwm Diffodd Cyfrif yn y bar ar yr ochr fel bod y cyfeiriad e-bost a ddefnyddir fel enw defnyddiwr yn weithredol i’r rhiant yn unig.
Noder: Os yw’ch ysgol yn defnyddio’r porth myfyrwyr, bydd diffodd cyfrif y myfyriwr yn golygu nad oes modd i’r myfyriwr fewngofnodi mwyach. Yn hytrach felly, dylech ychwanegu e-bost newydd fel enw defnyddiwr ar broffil y disgybl.
Cam 2 - Penderfynu ar osodiadau eich Porth Rhieni
Ar ôl gosod eich holl fyfyrwyr a gwarcheidwaid yn gywir, rhaid i chi benderfynu pa nodweddion rydych am eu dangos a beth rydych am i warcheidwaid ei wneud ar y Porth Rhieni.
Er enghraifft, ydych chi am i warcheidwaid fod yn gallu gwneud taliadau ar gyfer Clybiau a Theithiau, ond nid Prydau Bwyd, neu a ydych chi am ddangos eich Pwyntiau Ymddygiad Cadarnhaol, ond nid Digwyddiadau Negyddol?
Gweler isod sut i roi’r gosodiadau hyn ar waith cyn rhyddhau eich Porth Rhieni.
Mae gennym sawl math o ganiatâd parod y gallwch ofyn i warcheidwaid ei roi. I bennu pa fathau o fathau ganiatâd ddylai gael eu casglu trwy’r Porth Rhieni, neu i ychwanegu rhai newydd, cliciwch yma.
Byddwch am sicrhau bod rhieni’n gallu talu am yr holl wahanol fathau o gyfrifon sydd eu hangen arnoch.
Dylid nodi na all gwarcheidwaid wneud taliadau ategol ar gyfer cyfrifon Clybiau a Theithiau am nad yw’r cyfrifon hyn yn cael eu defnyddio i gadw balans. Mae gofyn iddyn nhw dalu am Glybiau a Theithiau pan fo angen taliadiadau. Ni chewch dalu swm ategol i’w ddefnyddio’n ddiweddarach. Am hynny, nid oes angen i chi drefnu cyfrifon o’r math yma.
Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n bwrw golwg ar ein siwrnai Dechrau Adeiladu Hybu ar gyfer Taliadau â Cherdyn os nad ydych chi wedi trefnu taliadau â cherdyn ar eich safle eto: Cychwyn arni gyda thaliadau Arbor
Penderfynwch beth rydych am ei ddangos ar y Porth Rhieni. Gweithiwch trwy bob adran yn yr erthygl hon gan ddewis eich gosodiadau. Mae hi’n bwysig cael y dewisiadau yma’n gywir, am eu bod nhw’n pennu beth y gall gwarcheidwaid ei weld: Gosodiadau’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni
Dewiswch a ydych am ddefnyddio Negeseuon o fewn yr Ap, a gaiff rhieni ymateb i’r rhain ai peidio, a phennwch gosodiadau ar gyfer SMS dilynol.
Gallwch ddewis hefyd a gaiff gwarcheidwaid ddiweddaru gwybodaeth yn awtomatig, neu a oes angen i staff yr ysgol ei hadolygu’n gyntaf. Cliciwch yma i weld beth mae hyn yn ei olygu i’ch ysgol chi.
Cam 3 - Cynnau eich porth rhieni
Ar ôl cwblhau’r camau isod, gallwch ddweud wrth warcheidwaid bod modd iddynt ddewis cyfrinair a mewngofnodi.
Nodwch y caiff y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni ei gynnau ar gyfer pob Prif Warcheidwad - ni chewch ei gynnau ar gyfer rhai yn unig.
Pan fyddwch chi’n barod i gynnau eich Porth Rhieni, dilynwch y cyfarwyddiau hyn i gynnau eich Porth Rhieni (a fydd yn cynnau’r Ap Rhieni hefyd): Galluogi mynediad i’r Porth Rhieni
Ar ôl cynnau eich Porth Rhieni, cewch ddilysu bod yr holl osodiadau’n gywir trwy fewngofnodi fel gwarcheidwad. Ar ôl cael caniatâd, cewch fewngofnodi i weld beth y bydd y gwarcheidwaid yn ei weld a datrys unrhyw broblemau. Darllenwch yr erthygl hon i weld sut i fynd ati.
Gallech ddewis gwahodd rhieni sydd ar y staff i fewngofnodi i brofi eich gosodiadau cyn anfon negeseuon croeso at yr ysgol i gyd.
Cyn gwahodd gwarcheidwaid i fewngofnodi yn dorfol, bydd angen i chi benderfynu ble’r ydych am eu cyfeirio i fewngofnodi. Darllenwch yr erthygl yma i benderfynu pa linc i’w anfon wrth ddilyn cam d: Pa dudalen URL ddylai defnyddwyr ei defnyddio i fewngofnodi?
Ni fydd gwarcheidwaid yn cael hysbysiad yn awtomatig pan fyddwch chi’n cynnau eich Porth Rhieni - bydd angen i chi roi gwybod iddyn nhw ac anfon y manylion mewngofnodi atynt. Gallwch weld sut i wneud hyn yma: Anfon ac ail-anfon manylion mewngofnodi at Warcheidwaid
Ar ôl i’ch ysgol gynnau’r Porth Rhieni, gall gwarcheidwaid lawrlwytho’r Ap, a mewngofnodi gan ddefnyddio’r un enw defnyddiwr (e-bost) a chyfrinair ag ar gyfer y Porth Rhieni. Gall rhieni lawrlwytho’r Ap Rhieni am ddim, naill ai o’r Play Store ar ffonau Android, neu yr App Store ar IOS.
Datrys problemau a chymorth i rieni
Dylid nodi mai dim ond rhieni â phroffil gwarcheidwaid fel Prif Warcheidwad ar safle eu hysgol gaiff ddefnyddio’r Ap Rhieni. Ni chaiff staff yr ysgol ac athrawon fewngofnodi.
Mae yna nifer o resymau pam y gallai rhieni gael trafferthion wrth fewngofnodi i’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni.
- Gallwch rannu’r erthygl hon â rhieni fel y gallant ddatrys y problemau mewngofnodi y maent yn eu profi eu hunain, ac i’ch helpu chi i benderfynu beth yw’r broblem: Pam na allaf i fewngofnodi i Borth Rhieni neu Ap Rhieni fy ysgol?
- Gallwch ddefnyddio’r erthygl hon i ddatrys problemau o’ch ochr chi: Pam na all rhieni mewngofnodi?
At bwy ddylai rhieni a gwarcheidwaid droi am gymorth?
Darllenwch ein canllawiau yma A all Arbor Support gynorthwyo rhieni’n uniongyrchol?
Canllawiau i’w rhannu â rhieni
Mae pob math o gymorth ar gael i warcheidwaid yn ein Canolfan Gymorth a gallwch eu cyfeirio i’r fan yna. Mae gennym erthyglau yn Y Ganolfan Gymorth i chi eu hanfon allan trwy e-bost neu y gallwch gyfeirio’r rhieni atynt hefyd, gan gynnwys:
- Cyflwyniad byr i Arbor ar gyfer gwarcheidwaid a rhieni
- Cychwyn arni a mewngofnodi
- Taliadau, Siop yr Ysgol, Prydau Bwyd, Clybiau a Theithiau
- Proffiliau, negeseuon a chyfarfodydd
Sgroliwch i lawr i dudalen hafan y Ganolfan Gymorth i ddod o hyd i adran y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni.
Beth yw’r cam nesaf?
Felly rydych chi wedi dewis eich gosodiadau, cynnau’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni, nawr rydych am wybod sut i gynyddu ymgysylltiadau rhieni a’u hannog i fewngofnodi?
Neidiwch i ran nesaf eich siwrnai i roi Hwb i’ch ysgol i’r lefel nesaf. Yma gallwch ddysgu sut i:
- Ddefnyddio cysylltiadau
- Teilwra’r wybodaeth i’w rhannu
- Tracio cysylltiadau rhieni
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.