[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Fe welwch isod dempledi y gallwch eu copïo a’u gludo i negeseuon e-bost o fewn Arbor, a fydd yn gwneud cysylltu â gwarcheidwaid ynglŷn â’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni yn haws fyth! Fe allwch hefyd olygu unrhyw un o’r templedi pan fyddwch yn Arbor i fodloni anghenion eich ysgol. Mae rhagor o gymorth ar gael yn ein herthyglau ar anfon negeseuon e-bost a chreu templedi.
Newidiadau i ddod
Helô...
Mae Arbor yn gwneud rhai gwelliannau i’r Ap Rhieni a’r Porth Rhieni yr oeddem eisiau rhoi gwybod i chi amdanynt ymlaen llaw.
O ddiwedd prynhawn ddydd Mercher 8 Tachwedd, bydd eich Ap Rhieni a’ch Porth Rhieni yn dangos ffigur ‘Cyfanswm sy’n Weddill’ ar yr hafan. Mae’r rhif hwn yn dangos cyfanswm yr arian sy’n ddyledus ar gyfer eich holl blant, gan gynnwys prydau bwyd, teithiau a chlybiau. Cliciwch ar y rhif ‘Cyfanswm sy’n Weddill’ i weld manylion eich taliadau unigol.
Mae Arbor hefyd wedi’i gwneud yn haws dod o hyd i’ch Anfonebau, Nodiadau Credyd, ac Ychwanegiadau.
- Ychwanegu at gyfrifon (Porth Rhieni)
- Ychwanegu at gyfrifon (Ap Rhieni)
Dymuniadau gorau,
...
Cyflwyno’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni
Neges e-bost gyntaf at warcheidwaid
Pryd i’w ddefnyddio: Mae’r templed hwn yn wych pan fyddwch yn symud i Arbor gyntaf, i roi gwybod i warcheidwaid y byddant yn gallu defnyddio’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni cyn hir.
Helô ……
Rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn symud ein System Gwybodaeth Reoli i Arbor yn ...
Bydd defnyddio Arbor yn ein galluogi i gyfathrebu â chi’n fwy effeithlon ac yn dwyn holl lifoedd gwaith a data craidd yr ysgol ynghyd mewn un system.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau arni gydag Arbor ac yn gwahodd ein holl rieni i ymgyfarwyddo â’r system gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Dechrau arni – Mewngofnodi i’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni
Mae Arbor hefyd yn cynnig mynediad at lawer o adnoddau hyfforddiant sydd ar gael am ddim i chi fanteisio arnynt i’r eithaf! Mae’r rhain i gyd ar gael yma.
Byddwn yn anfon mwy o fanylion am yr ap rhieni a sut i gofrestru ar …, felly cadwch lygad am y wybodaeth hon a chofrestrwch eich plentyn pan ofynnir i chi.
Gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r nodwedd newydd hon gymaint â ni!
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ……
Dymuniadau gorau,
…….
Neges e-bost croeso a mewngofnodi
Pryd i’w ddefnyddio: Mae’r templed hwn yn wych pan fyddwch yn dechrau’r Porth Rhieni ac eisiau croesawu eich gwarcheidwaid. Mae’n dempled cychwynnol gwych.
Helô ……
Croeso i Arbor! Mae …… bellach yn defnyddio’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni, ac mae wedi sefydlu cyfrif i chi.
I orffen creu eich cyfrif, bydd angen i chi osod cyfrinair. Eich enw defnyddiwr yw’r cyfeiriad e-bost rydyn ni wedi anfon y neges e-bost hon ato.
Ewch i https://login.arbor.sc a chliciwch ar Anghofio’ch cyfrinair? i orffen sefydlu eich cyfrif.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ……
Gellir lawrlwytho’r Ap Rhieni o’r Play Store ar ffonau android neu’r Apple Store ar iPhones.
Dymuniadau gorau,
…….
Gwarcheidwaid nad ydynt wedi mewngofnodi eto
Pryd i’w ddefnyddio: Pan fyddwch wedi anfon eich negeseuon e-bost croeso cyntaf, ond nid yw’r holl rieni wedi mewngofnodi. Mae’r templed hwn yn eich galluogi i anfon neges atgoffa at y gwarcheidwaid hynny nad ydynt wedi mewngofnodi eto.
Helô …..,
Mae’n edrych fel nad ydych wedi mewngofnodi i’r Porth Rhieni eto!
Y Porth Rhieni yw’r lle gorau i gael y diweddaraf am eich plentyn tra bydd yn yr ysgol.
Mae’n hawdd mewngofnodi trwy ddilyn y ddolen hon. Yna, fe allwch ddewis mewngofnodi am y tro cyntaf a dilyn y camau i greu eich cyfrif. Bydd angen i chi hefyd gadarnhau dyddiad geni eich plentyn.
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth, mae canllawiau gwych ar gael yng Nghanolfan Gymorth Arbor! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â swyddfa eich ysgol.
Dymuniadau gorau,
…
Rydyn ni bellach yn defnyddio taliadau yn y Porth Rhieni
Pryd i’w ddefnyddio: Yr adeg orau i ddefnyddio’r templed hwn yw pan fyddwch yn ystyried cyflwyno taliadau trwy’r Porth Rhieni. Mae hyn yn golygu y bydd rhieni’n gallu gweld eu cyfrifon cwsmeriaid. Mae rhagor o wybodaeth am sefydlu cyfrifon cwsmeriaid ar gael yma.
Helô …..,
Rydyn ni bellach yn defnyddio taliadau yn y Porth Rhieni!
Bellach, fe allwch wneud taliadau ac ychwanegu at gyfrifon ar gyfer clybiau/teithiau, prydau bwyd (rhestrwch unrhyw fathau eraill o gyfrifon cwsmeriaid rydych chi’n eu defnyddio yn Arbor, y gall rhieni eu gweld) trwy fewngofnodi i’r Porth Rhieni. Mae eich balansau o’n system flaenorol wedi cael eu sefydlu a byddant yn ymddangos yn y Porth Rhieni, hefyd.
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllaw hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cyfeiriwch nhw at ……
Dymuniadau gorau,
......
Trefnu eich ymgynghoriad â gwarcheidwad (Noson Rieni)
Pryd i’w ddefnyddio: Pan fyddwch wedi creu eich ymgynghoriadau â gwarcheidwaid ac agor slotiau amser, byddwch eisiau dilyn hynny gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol. I weld mwy am greu eich ymgynghoriadau â gwarcheidwaid yn Arbor, cliciwch yma.
Helô …..,
Fe allwch bellach drefnu ymgynghoriad gwarcheidwad eich plentyn!
Bydd ymgynghoriad gwarcheidwad eich plentyn yn cael ei gynnal o ……… i …… ac fe allwch bellach fewngofnodi i’r Porth Rhieni a neilltuo’r slot amser sy’n well gennych. Cofiwch fod y slotiau amser yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin, ond os na allwch neilltuo slot, cysylltwch â’r ….
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i neilltuo’ch slot amser. Cofiwch wneud cofnod o’ch amser.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Dymuniadau gorau,
.......
Mae cerdyn adroddiad eich plentyn yn barod
Pryd i’w ddefnyddio: Rydych eisiau atgoffa rhieni a gwarcheidwaid y gallant weld cerdyn adroddiad eu plentyn yn yr Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni. Bydd hyn yn annog eich gwarcheidwaid i fewngofnodi ac yn eu galluogi i lawrlwytho’r cerdyn adroddiad. I gael cymorth i greu eich cerdyn adroddiad, cliciwch yma.
Helô,
Mae cerdyn adroddiad eich plentyn ar gael i’w weld trwy fewngofnodi i’r Porth Rhieni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ……….
Dymuniadau gorau,
......
Gallwch bellach gofrestru eich plentyn ar gyfer taith
Pryd i’w ddefnyddio: Mae’r templed hwn yn gweithio orau pan fyddwch wedi creu taith yn Arbor ac eisiau rhoi gwybod i’ch gwarcheidwaid y gallant bellach fewngofnodi i’r Porth Rhieni i neilltuo lle i’w plentyn a/neu wneud eu taliadau. Fe allwch weld sut i greu eich taith yma.
Helô …..,
Mae’r daith blwyddyn ……… i ……… ar agor, bellach.
Fe allwch fewngofnodi i’r Porth Rhieni a neilltuo lle i ……….. Fe allwch hefyd wneud eich taliad cyntaf o ….. y mae’n rhaid ei dalu erbyn …....
(Rhowch fanylion y daith yma)
Yn y Porth Rhieni, fe allwch gadw llygad ar eich taliadau ar gyfer y daith, unrhyw newidiadau a manylion y daith. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi trwy’r Porth Rhieni gydag unrhyw ddiweddariadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â …….
Dymuniadau gorau,
......
Gallwch bellach gofrestru’ch plentyn â chlwb
Pryd i’w ddefnyddio: Mae’r templed hwn yn gweithio orau pan fyddwch eisiau rhoi gwybod i warcheidwaid fod clwb wedi cael ei ryddhau y mae eu plentyn yn gymwys ar ei gyfer. Fe allwch anfon y templed hwn gyda’r holl wybodaeth am y clwb a gofyn iddynt fewngofnodi i’r Porth Rhieni i neilltuo lle i’w plentyn a/neu wneud taliadau. Fe allwch weld sut i sefydlu clybiau yn Arbor yma.
Helô …..,
Mae’r clwb ……… ar agor, bellach.
Fe allwch fewngofnodi i’r Porth Rhieni a chofrestru’ch plentyn. Fe allwch hefyd wneud eich taliad cyntaf o ….. y mae’n rhaid ei dalu erbyn …....
(Rhowch fanylion y clwb yma)
Yn y Porth Rhieni, fe allwch gadw llygad ar eich taliadau clwb, unrhyw newidiadau a manylion y clwb. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi trwy’r Porth Rhieni gydag unrhyw ddiweddariadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â …….
Dymuniadau gorau,
........
Y daflen Porth Rhieni ac Ap Rhieni ar gyfer gwarcheidwaid
Fe allech ddymuno argraffu neu anfon taflen at warcheidwaid i roi gwybod iddynt eich bod wedi symud i Arbor a’u cynghori i lawrlwytho Ap Rhieni Arbor. Cliciwch yma i lawrlwytho’r daflen.
[Welsh/English Toggle Button will appear here]
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.