Mae yna nifer o resymau pam y gallai rhieni gael trafferthion wrth fewngofnodi i’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni. Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau isod cyn codi’r broblem gyda Thîm Cymorth Arbor os ydych chi dan gymorth Arbor, neu eich Partner Cymorth os nad ydych chi dan adain Arbor.
Darllenwch yr erthyglau eraill yma os ydych chi’n chwilio am wybodaeth a chynghorion ar ddatrys problemau gyda:
- Mewngofnodi i staff
- Mewngofnodi i MIS MAT
- Mewngofnodi i Fyfyrwyr
-
Mewngofnodi i safle ysgol fel defnyddiwr MAT – bydd angen i chi fewngofnodi i MIS eich MAT, nid safle’r ysgol yn uniongyrchol.
Caniatâd
Bydd angen caniatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu neu Ysgol: Cyfrifon Defnyddwyr: Caniatâd Gweinyddu arnoch i ailasod cyfrineiriau a rheoli mynediad ar gyfer gwarcheidwaid. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Cyn rhoi cynnig ar yr awgrymiadau hyn
- Gwnewch yn siŵr bod cyfeiriad e-bost wedi ei gofnodi ar broffil y gwarcheidwad. Rhaid cael cyfeiriad e-bost i fewngofnodi.
- Ffeindiwch gyfrif y gwarcheidwad - ceisiwch ddefnyddio chwilio Pob Dim.
- Rhannwch yr erthygl yma â’ch holl rieni fel y gallan nhw ddatrys problemau mewngofnodi heb orfod cysylltu â chi: Datrys problemau mewngofnodi
- Ymgyfarwyddwch â sut y dylai’r gwarcheidwaid gael cymorth: A all Arbor Support gynorthwyo rhieni a gwarcheidwaid yn uniongyrchol?
- Gallwch fewngofnodi fel gwarcheidwad i weld beth maen nhw’n ei weld er mwyn datrys problemau os nad yw’r gwarcheidwad wedi rhannu digon o fanylion â chi.
Y rhesymau mwyaf cyffredin am broblemau mewngofnodi
Y rheswm fwyaf cyffredin dros unrhyw broblemau mewngofnodi a mynediad yw bod eich ysgol wedi cofnodi proffil dyblyg ar ryw adeg, neu fod yr un cyfeiriad e-bost wedi cael ei ddefnyddio ar broffil defnyddiwr arall (myfyriwr, gwarcheidwad neu aelod o staff).
Os yw cyfeiriad e-bost gwarcheidwad wedi cael ei ddyblygu ar broffil arall, bydd hynny’n eu hatal rhag mewngofnodi i’r Ap Rhieni yn llwyr yn hytrach na’u dargyfeirio i’r cyfrif anghywir. Mae rhagor o fanylion am hyn yn yr adran ar y gwall - “Nid ydych wedi mewngofnodi” neu “Ffeindiwyd sawl defnyddiwr â’r un cyfeiriad e-bost. Cysylltwch â swyddfa’r ysgol i ddatrys y broblem.” ar yr Ap Rhieni.
Darllenwch yr erthygl ar sut i ddatrys cyfeiriadau e-bost dyblyg yma: Gwirio am gyfeiriadau e-bost dyblyg ac atal defnyddwyr rhag mewngofnodi i’r cyfrif anghywir.
Gwirio’r cyfrif
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r enw defnyddiwr ar ffurf cyfeiriad e-bost wrth fewngofnodi, yn hytrach nac unrhyw ddefnyddiwr arall.
Ailosod y cyfrinair
Nid yw’r gwarcheidwad wedi derbyn e-bost mewngofnodi neu e-bost ailosod cyfrinair
Ewch i broffil y gwarcheidwad, sgroliwch i lawr i Manylion y Defnyddiwr, a chliciwch ar yr Enw Defnyddiwr. Yn y blwch llithro, gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad e-bost yn cyd-fynd â’r un y mae’r gwarcheidwad yn ei ddefnyddio i fewngofnodi. Y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd ar gyfer yr e-bost croeso fydd hwn.
Gallwch weld sut i olygu hyn yma: Nid yw’r e-bost yn cael ei hanfon, neu mae’n mynd i’r cyfeiriad e-bost anghywir
Os ydyn nhw’n defnyddio’r cyfeiriad e-bost cywir ac nad yw’r e-bost i ailosod y cyfrinair yn cyrraedd o hyd, gallwch anfon e-bost i ailosod y cyfrinair atynt eich hun, neu osod cyfrinair newydd y gallant ei newid wrth fewngofnodi o adran Manylion y Defnyddiwr ar eu proffil.
Os yw eu cyfeiriad e-bost yn cael ei ddefnyddio ar safleoedd mwy nag un ysgol, mae’n bosibl na fydd modd iddynt gael e-bost i ailosod y cyfrinair ar gyfer y safle cyfredol eu hunain. Byddai angen iddynt gysylltu â’r hen ysgol i ddileu neu newid y cyfeiriad e-bost o’r cyfrif yna er mwyn atal problemau pellach yn y dyfodol.
Dydyn nhw ddim yn gallu mewngofnodi gyda’r linc yn yr e-bost
Os yw’r gwarcheidwad wedi cael linc i ailosod eu cyfrinair, gwnewch yn siŵr ei fod wedi cael ei anfon llai na 96 awr yn ôl.
Os cafodd ei anfon mwy na 96 awr yn ôl, bydd y linc i greu cyfrinair wedi darfod.
Anfonwch gyfeiriad y linc URL i’r dudalen mewngofnodi atyn nhw.
Gofynnwch i’r gwarcheidwad glicio ar yr opsiwn Wedi Anghofio eich Cyfrinair wrth fewngofnodi i ailosod y cyfrinair.
Os nad yw’r neges ailosod cyfrinair yn cyrraedd, gallwch anfon linc i ailosod y cyfrinair atynt eich hun o adran Manylion y Defnyddiwr eu proffil.
Problemau mynediad
Nid yw’r system yn cydnabod manylion y cyfrif
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr bod proffil gwarcheidwad wedi ei greu ar gyfer y defnyddiwr gyda chyfeiriad e-bost: Creu gwarcheidwad, perthynas neu berson cyswllt newydd ar gyfer myfyriwr
Cysylltwch y plentyn â’r gwarcheidwad trwy glicio +Adio yn adran Myfyrwyr Cysylltiedig proffil y gwarcheidwad.
Dim ond Prif Warcheidwaid plentyn gaiff cyrchu’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni ar gyfer eu plant, felly bydd angen i chi eu cysylltu â phob un o’u plant fel prif warcheidwad. Gallwch ddilysu hyn trwy fynd i Broffil y Gwarcheidwad a chlicio ar y cysylltiad â’r plentyn.
Nid oes caniatâd ganddynt i gyrchu Arbor
Os ydyn nhw’n cael neges i ddweud bod eu cyfrif wedi ei atal, ni fyddan nhw’n gallu mewngofnodi.
Gallwch doglo i weld a yw cyfrif wedi ei atal o adran Manylion y defnyddiwr ar eu proffil.
Nid yw’r Porth Rhieni wedi ei alluogi
Gwenwch yn siŵr eich bod wedi galluogi’r Porth Rhieni. Dim ond os yw’r Porth Rieni wedi ei alluogi eisoes y gall rhieni mewngofnodi i’r Ap Rhieni.
Er mwyn galluogi’r Porth Rhieni, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y canllaw hwn i baratoi i’w gynnau, wedyn ewch ymlaen i’w gynnau gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn. Galluogi mynediad i’r Porth Rhieni
Nid yw’r gwarcheidwad yn gysylltiedig â myfyriwr ac mae’n gweld sgrin wag
Bydd y gwarcheidwad yn gweld sgrin wag os nad yw eu proffil wedi ei gysylltu ag unrhyw fyfyrwyr.
Gallai gwarcheidwaid darpar-fyfyrwyr gael yr un neges hefyd. I ddefnyddio’r Porth Rhieni i gasglu gwybodaeth am fyfyrwyr newydd, bydd angen i chi naill ai:
- galluogi’r Porth Rhieni ar gyfer gwarcheidwaid ymgeiswyr - gallwch weld sut i wneud hyn yma.
- cwblhau cam 3 o’r broses gosod blwyddyn ysgol newydd - gallwch weld sut i wneud hyn yn y fan yma.
Dim ond Prif Warcheidwaid plentyn gaiff cyrchu’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni ar gyfer eu plant, felly bydd angen i chi eu cysylltu â phob un o’u plant fel prif warcheidwad. Gallwch ddilysu hyn trwy fynd i Broffil y Gwarcheidwad a chlicio ar y cysylltiad â’r plentyn.
Os nad yw’r plentyn yn gysylltiedig â’r gwarcheidwad, gallwch glicio +Adio yn yr adran Myfyrwyr Cysylltiedig ar broffil y gwarcheidwad i’w cysylltu.
Nid yw’r gwarcheidwad yn gallu gweld eu plentyn neu symud rhwng eu plant
Gwnewch yn siŵr eu bod wedi cydsynio i’r Amodau a Thelerau wrth ddefnyddio’r Ap neu’r Porth Rhieni am y tro cyntaf.
Gwnewch yn siŵr eu bod wedi nodi dyddiad geni’r plentyn y maen nhw’n gysylltiedig â nhw.
Os nad yw’r plentyn wedi ei gysylltu â’r gwarcheidwad, gallwch glicio +Adio yn yr adran Myfyrwyr Cysylltiedig ar broffil y gwarcheidwad i’w cysylltu.
Os ydyn nhw wedi eu cysylltu â phlentyn, efallai bod yna broffil gwarcheidwad dyblyg. Bydd angen i chi gyfuno’r proffiliau fel y gall y gwarcheidwad weld eu holl blant. Darllenwch yr erthygl yma i weld sut.
Awgrym: Ddim yn siŵr pa broffil gwarcheidwad yw’r mwyaf diweddar? Bydd manylion dosbarth cofrestru unrhyw fyfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r gwarcheidwaid wrth ymyl eu henw.
Nid yw’r system yn derbyn y dyddiad geni mae’r gwarcheidwad yn ei nodi
Fel haen ychwanegol o ddiogelwch, wrth i warcheidwaid fewngofnodi a cheisio cyrchu manylion un o’r myfyrwyr sy’n gysylltiedig â nhw am y tro cyntaf, bydd gofyn iddyn nhw nodi dyddiad geni (DG) y plentyn. Ni fydd y system yn gofyn i’r gwarcheidwad nodi dyddiad geni’r plentyn yna eto ar ôl i’r DG gael ei dderbyn.
Mae yna ambell i beth i’w gwirio os bydd hyn yn digwydd:
- Cadarnhewch eu bod nhw’n defnyddio’r fformat cywir wrth nodi’r dyddiad geni. Dyma esiamplau o fformatau derbyniol: "1 Ion 2001", "1af Ionawr 2001" a "01/01/2001". Os oes unrhyw amheuaeth, gofynnwch i’r rhiant glicio ar eicon y calendr yn y maes Dyddiad Geni i ddewis y dyddiad perthnasol.
- Cadarnhewch fod y dyddiad geni’n gywir ar broffil y myfyriwr a’i fod yn cyd-fynd â’r un y mae’r gwarcheidwad yn ei nodi. Gallwch newid dyddiad geni myfyriwr o brif dudalen eu proffil.
-
Cadarnhewch fod dyddiad geni’r plentyn cywir yn cael ei geisio a’i nodi. Bydd enw cyntaf y myfyriwr y mae gofyn i’r rhiant nodi dyddiad geni ar ei gyfer ar y sgrin. Os nad hwn yw’r plentyn cywir, ni chaiff y dyddiad geni ei dderbyn.
-
Gwiriwch am broffiliau dyblyg. Os oes sawl proffil gan y gwarcheidwad gyda’r un cyfeiriad e-bost, neu os ydyn nhw’n rhannu cyfeiriad e-bost â phroffil arall, gallai hynny olygu bod y cais yn gofyn am ddyddiad geni’r myfyriwr anghywir. I wirio, rydyn ni’n argymell:
- Chwilio am y cyfeiriad e-bost y mae’r gwarcheidwad yn ei ddefnyddio i fewngofnodi trwy Chwiliad Pob Dim
- Gwirio a oes unrhyw broffiliau newydd yn codi, ac os felly: Dileu’r cyfeiriad e-bost o’r proffiliau eraill neu cyfuno’r proffiliau fel y bo’n briodol, fel bod y cyfeiriad e-bost yn gysylltiedig ag un rhiant yn unig.
-
Gwiriwch a yw’r rhiant yn gallu cwblhau’r dilysiad trwy URL penodol eich ysgol. Os ydyn nhw’n gallu mewngofnodi trwy URL penodol eich ysgol, mae hynny’n dangos eu bod nhw’n mewngofnodi i’r ysgol anghywir. Mae rhagor am hyn yma: Defnyddio’r ysgol anghywir neu hen ysgol wrth geisio mewngofnodi i’r Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni
Mae’r gwarcheidwad yn cael ei fewngofnodi i’r cyfrif anghywir
Awgrym: methu dod o hyd i’r cyfrif? Ceisiwch ddefnyddio Chwiliad Pob Dim.
Gwiriwch nad yw’r cyfeiriad e-bost y mae’r gwarcheidwad yn ei ddefnyddio wedi cael ei ddefnyddio ar broffil dyblyg ar gyfer myfyriwr, aelod o staff neu warcheidwad arall. Os felly, bydd angen i chi newid yr e-bost ar un o’r proffiliau fel bod y system yn gwybod pa gyfrif i fewngofnodi iddo.
Er enghraifft, os oes gan warcheidwad a phlentyn yr un cyfeiriad e-bost, bydd angen i chi newid neu ddileu e-bost y plentyn.
Os ydyn nhw’n aelod o staff yn yr ysgol ac yn ceisio mewngofnodi i’w cyfrif gwarcheidwad, bydd angen gwneud yn siŵr bod cyfeiriadau e-bost gwahanol ar y ddau gyfrif. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr erthygl hon.
Os ydyn nhw’n cael eu mewngofnodi i hen gyfrif gwarcheidwad, bydd angen i chi gyfuno’r rhain fel bod y gwarcheidwad yn gallu gweld eu holl blant. Darllenwch yr erthygl yma i weld sut.
Awgrym: Ddim yn siŵr pa broffil gwarcheidwad yw’r mwyaf diweddar? Bydd manylion dosbarth cofrestru unrhyw fyfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r gwarcheidwaid wrth ymyl eu henw.
Gwall E-bost neu gyfrinair anghywir ar yr Ap Rhieni
Os ydyn nhw’n gweld neges ar sgrin mewngofnodi’r Ap Rhieni sy’n dweud bod yr e-bost neu’r cyfrinair yn anghywir, gofynnwch iddyn nhw geisio mewngofnodi i login.arbor.sc ar borwr gwe.
Os ydyn nhw’n gallu mewngofnodi trwy login.arbor.sc, ond nid i’r Ap Rhieni, gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’r ap - os ydyn nhw, fe welan nhw rif y fersiwn ar y sgrin mewngofnodi.
- Os nad ydyn nhw’n gallu gweld rhif y fersiwn, bydd angen iddyn nhw lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf.
- Os ydyn nhw’n gallu gweld rhif y fersiwn ond yn methu mewngofnodi o hyd, darllenwch yr adran Does dim o’r camau yma wedi gweithio isod.
Os nad ydyn nhw’n gallu mewngofnodi trwy login.arbor.sc:
- Ceisiwch ailosod eu cyfrinair.
- Os na fyddan nhw’n derbyn neges e-bost i ailosod yr e-bost, neu os na allan nhw fewngofnodi ar ôl i chi ailosod eu cyfrinair, darllenwch yr adran Does dim o’r camau yma wedi gweithio isod.
Gwall “Nid ydych wedi mewngofnodi” neu “Ffeindiwyd sawl defnyddiwr â’r un cyfeiriad e-bost. Cysylltwch â swyddfa’r ysgol i ddatrys y broblem” ar yr Ap Rhieni.
Os yw cyfeiriad e-bost gwarcheidwad wedi ei ddyblygu ar broffil arall, bydd hynny’n eu hatal rhag mewngofnodi i’r Ap Rhieni yn llwyr yn hytrach na’u dargyfeirio i’r cyfrif anghywir, ac fe welan nhw un o’r negeseuon gwall uchod.
Mae hyn yn effeithio ar fewngofnodi i’r Ap Rhieni yn unig
Bydd y gwarcheidwaid o dan sylw yn gallu mewngofnodi i Arbor gan ddefnyddio’r Porth Rhieni o hyd. Gallant fynd i linc benodol eich ysgol neu fynd i https://login.arbor.sc/ a mewngofnodi oddi yno.
Sut i ddatrys y gwall mewngofnodi i’r Ap Rhieni
Bydd angen i chi sicrhau bod y cyfeiriad e-bost mae’r rhiant yn bwriadu ei ddefnyddio i fewngofnodi wedi ei gofnodi ar gyfer eu proffil nhw yn unig, ac nid ar gofnod unrhyw warcheidwad, myfyriwr neu staff eraill.
Y ffordd gyflymaf o wirio am e-bost dyblyg ar gyfer un gwarcheidwad yw:- Copïo’r cyfeiriad e-bost y mae’r rhiant yn ei ddefnyddio i geisio mewngofnodi
- Gludo’r cyfeiriad i’r Chwiliad Pob Dim (y chwyddwydr yng nghornel de uchaf Arbor) a phwyso Enter neu glicio ar Gweld pob canlyniad
- Ar y dudalen chwilio canlyniadau, gwiriwch a oes mwy nag un proffil yn ymddangos yn y canlyniadau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi clicio ar Gweld pob canlyniad/wedi pwyso Enter. Ni fydd canlyniadau chwiliad cyflym sy’n ymddangos o dan y bar chwilio’n dangos yr holl gyfrifon â’r cyfeiriad e-bost bob tro.
-
Os oes sawl proffil yn rhannu’r e-bost:
- Tynnwch yr e-bost o’r proffil(iau) lle na ddylai fod trwy glicio ar y proffil(iau) a golygu’r cyfeiriad e-bost yn adran Manylion Cyswllt y dudalen Hafan
- Neu, cyfunwch y proffiliau dyblyg os ydyn nhw ar gyfer yr un person.
- Pan fo’r cyfeiriad e-bost yn gysylltiedig â’r rhiant â’r broblem mewngofnodi yn unig, bydd y rhiant yn gallu mewngofnodi.
Gwirio’r system
Gall rhieni ddefnyddio’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni ar ffôn symudol, ond gallai’r Ap Rhieni ddarparu profiad mwy cyflawn iddynt.
Maen nhw’n defnyddio’r Porth Rhieni
- Sicrhewch eu bod nhw’n defnyddio un o’r porwyr gwe rydyn ni’n eu cynnal.
- Gofynnwch iddyn nhw adnewyddu’r porwr trwy glirio’r storfa a’r cwcis sy’n gysylltiedig ag Arbor.
Maen nhw’n defnyddio’r Ap Rhieni
- Rhaid iddyn nhw fod yn defnyddio Android 5.0 neu IOS 13.0 neu fersiynau diweddarach er mwyn i’r Ap weithio’n iawn.
- Os nad ydyn nhw’n gweld rhif y fersiwn ar sgrin mewngofnodi’r Ap Rhieni, maen nhw’n defnyddio hen fersiwn o’r ap - gofynnwch iddyn nhw lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf.
Does dim un o’r camau hyn wedi gweithio
Os nad yw’r rhiant neu’r gwarcheidwad yn gallu mewngofnodi ar ôl cymryd yr holl gamau yma, gall ysgolion godi problem gyda Thîm Cymorth Arbor os ydych chi dan gymorth Arbor, neu eich Partner Cymorth os nad ydych chi dan adain Arbor.
Dilynwch y cyfarwyddiadau yma: A all Cymorth Arbor gynorthwyo rhieni a gwarcheidwaid yn uniongyrchol?
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.