Mae’r erthygl hon yn cynnig arweiniad ar sut i derfynu cofrestriad myfyriwr mewn ysgol, gan gynnwys y mathau angenrheidiol o ganiatâd, sut i ddadgofrestru myfyriwr, a sut i ddelio â marciau presenoldeb segur ar ôl i fyfyriwr ymadael.
Gellir defnyddio’r erthygl hon pan fo myfyriwr wedi bod yn mynychu eich ysgol ac rydych am farcio nad ydynt ar y gofrestr mwyach. Os ydych chi am ddadgofrestru myfyrwyr yn dorfol, gallwch wneud hyn yng Ngham 2 o Proses Trefnu Blwyddyn Ysgol Newydd.
Os nad yw’r myfyriwr erioed wedi mynychu eich ysgol, galwch weld sut i ddileu’r cofrestriad.
Caniatâd
Bydd angen caniatâd Cofrestru: Gweinyddu Pob Myfyriwr arnoch i reoli cofrestriadau myfyrwyr yn yr ysgol, ac yn eu grwpiau blwyddyn, dosbarthiadau cofrestru a’u llysoedd.
Os nad oes caniatâd gennych, cysylltwch â staff eich swyddfa - gallan nhw ddilyn y canllawiau hyn i roi’r caniatâd cywir i chi.
Terfynu’r cofrestriad
I derfynu cofrestriad myfyriwr, ewch i’r adran Cofrestru ar Broffil Myfyriwr y myfyriwr. Cliciwch ar gofrestriad cyfredol y myfyriwr.
Yn y blwch, cliciwch ar y botwm Dadgofrestru Myfyriwr oren.
Dewiswch y dyddiad ymadael a’r rheswm, wedyn cliciwch ar un o’r opsiynau Dadgofrestru.
Os yw’r myfyriwr wedi cofrestru ar o leiaf un Rhaglen Astudio, cewch ddewis Rheswm dros Dynnu Allan hefyd.
- Os yw’r dyddiad ymadael cyn dyddiad y flwyddyn academaidd gyfredol, caiff yr holl gofrestriadau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol eu dileu.
- Os yw’r dyddiad ymadael yn y flwyddyn academaidd gyfredol, caiff yr holl gofrestriadau ar raglenni ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol eu terfynu, a nodir bod y myfyriwr wedi Tynnu Allan.
Fe welwch chi restr o bopeth y caiff y myfyriwr ei ddadgofrestru ohono. Sgroliwch i lawr i glicio ar Cadarnhau Dyddiad Ymadael os yw hyn yn gywir.
Golygu dyddiad ymadael myfyriwr
Gallwch olygu dyddiad ymadael myfyriwr os ydyn nhw wedi cael eu dadgofrestru trwy gamgymeriad trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn adran Sut mae golygu neu ddileu dyddiad ymadael myfyriwr neu’r rheswm dros ymadael? yn yr erthygl yma.
Marciau Segur
Os ydych chi wedi bod yn cofnodi marciau presenoldeb ar gyfer myfyriwr ers iddyn nhw adael hyd nes cael cadarnhad gan yr ysgol newydd eu bod wedi cyrraedd, mae’n bosibl y bydd gennych farciau segur ar eu proffil. Bydd y rhain yn ymddangos am nad yw Arbor yn dileu unrhyw farciau presenoldeb yn awtomatig, hyd yn oed os ydyn nhw ar gyfer sesiynau y mae myfyriwr wedi cael ei dynnu ohonynt.
Efallai y byddwch am ddileu’r marciau segur fel nad ydyn nhw’n ymddangos ar dystysgrifau presenoldeb ac yn effeithio ar eu cofnod presenoldeb. Ar ôl dileu’r rhain, gallai’r ystadegau presenoldeb newid yn dibynnu pa farciau sydd wedi cael eu dileu.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.