Sut i adio myfyriwr newydd

Mae’r erthygl hon yn esbonio sut i ychwanegu myfyrwyr newydd at eich safle Arbor yn ystod y flwyddyn ysgol, gan bwysleisio na ddylent gael eu hadio trwy’r broses arferol ar gyfer ymgeiswyr er mwyn osgoi effeithio ar adroddiadau’r cyfrifiad. Mae’n amlinellu’r caniatâd angenrheidiol, dulliau o adio myfyrwyr gan ddefnyddio Ffeil Trosglwyddo Cyffredin (CTF) neu â llaw, a’r camau ar gyfer eu cofrestru yn y flwyddyn ysgol a’r dosbarthiadau priodol.

Efallai y cewch chi fyfyrwyr yn ymuno â’ch ysgol rhan o’r ffordd trwy’r flwyddyn, neu fyfyrwyr nad oeddech chi’n eu disgwyl yn ymuno â chi ym mis Medi. Yn yr erthygl hon, gallwch weld sut i fynd ati i adio myfyrwyr at eich safle Arbor rhan o’r ffordd trwy’r flwyddyn.

Ni ddylech eu hadio nhw yn rhan o’r broses gyffredin ar gyfer ymgeiswyr, am y bydd hyn yn effeithio ar niferoedd eich ymgeiswyr ar gyfer adroddiadau’r Cyfrifiad. Darllenwch ganllawiau cyfrifiad yr Adran Addysg am ganllawiau ar dderbyniadau.

Awgrym bach!

Oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n gallu awtomeiddio eich prosesau derbyn yn ystod y flwyddyn gan ddefnyddio Arbor Workflows?

Mae gennym dempled llif gwaith Derbyn Myfyriwr Newydd (Uwchradd a Chweched) ar Ganol Blwyddyn sy’n hawdd ei lwytho sy’n casglu gwybodaeth am y derbyniad, yn tynnu sylw’r Pennaeth Blwyddyn a’r Cydlynydd AAA at fanylion hanfodol, ac yn creu cofnod newydd ar gyfer y myfyriwr yn Arbor yn awtomatig.

Os oes gennych chi un o’n pecynnau diweddaraf, bydd Arbor Workflows yn gynwysedig eisoes. Os na, cysylltwch â ni yn customersales@arbor-education.com i drafod adnewyddu neu ychwanegu Workflows. Gallwch ddysgu rhagor am Arbor Workflows yma: Arbor Workflows

Caniatâd

I ychwanegu myfyriwr newydd, bydd angen caniatâd Myfyriwr: Adnabod: Gweinyddu Pob Myfyriwr neu Myfyriwr: Adnabod: Gweinyddu Fy Myfyrwyr arnoch. Mae canllaw yma sy’n esbonio sut i fynd ati i aseinio’r caniatâd yma i chi os nad oes gennych ganiatâd eisoes.
 

Adio’r myfyriwr

Opsiwn 1 - Defnyddio CTF

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch wedi cael Ffeil Trosglwyddo Cyffredin (CTF) gan ysgol flaenorol y myfyriwr. Does dim ots a yw’r ysgol flaenorol yn defnyddio Arbor neu ddarparydd MIS arall, mae CTFs yn cynnwys yr un data bob tro.

I weld sut i fewnforio CTF a chreu myfyriwr ar eich safle, cliciwch yma.

Ar ôl mewnforio’r CTF a chreu’r Proffil Myfyriwr newydd, bydd angen cofrestru’r disgybl mewn dosbarth cofrestru, grŵp blwyddyn a dosbarthiadau. I wneud hyn, ewch i Broffil y Myfyriwr ac ewch i’r adran Cofrestriadau trwy’r ddewislen ar y chwith, a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr erthygl hon.
 

Opsiwn 2 - Â llaw

Os nad yw eu hysgol flaenorol yn defnyddio MIS, mae’n bosibl y bydd angen i chi adio manylion y myfyriwr â llaw. I adio myfyriwr newydd, ewch i Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Adio Myfyriwr Newydd.

Mae’r dudalen hon yn llwytho ffurflen fel y gellir adio Myfyriwr Newydd at MIS yr ysgol. Nodwch fanylion sylfaenol y myfyriwr ar y ffurflen, a chliciwch Creu Myfyriwr. Bydd hyn yn creu Proffil Myfyriwr ar eu cyfer.

Screen_Shot_2019-07-23_at_09.49.26.png
 

Cofrestru’r myfyriwr

Y cam nesaf yw cofrestru’r myfyriwr yn y grŵp blwyddyn, y dosbarth cofrestru a’r llys cywir. Ewch i Proffil y Myfyriwr a dewiswch yr adran Cofrestriadau o’r ddewislen ar y chwith, a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr erthygl hon.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
18 allan o 155 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.