Gosodiadau’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni

Ewch i Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Ap a Phorth > Gosodiadau’r Ap Rhieni. Ar y dudalen hon, gallwch ddiweddaru’r gosodiadau i alluogi neu atal gwarcheidwaid rhag cyrchu rhai mathau o ddata. Gallwch alluogi neu analluogi mynediad i’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni o’r dudalen hon hefyd.

Cyn cynnau’r Porth Rhieni, sicrhewch fod y data cywir ar ddangos i rieni yn unig. Er y gallwch ddiwygio hyn unrhyw bryd, trwy osod eich dewisiadau cyn cynnau’r Porth Rhieni, gallwch sicrhau nad oes unrhyw ddata ychwanegol yn cael ei rannu.

Awgrym: Trwy gynnau nodwedd, bydd holl ddata’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn ymddangos yn yr ardal hon. Ni ellir newid hyn. Er enghraifft, bydd cynnau ymddygiad yn dangos yr holl ddigwyddiadau, pwyntiau ac ati yn y gorffennol.
 

Caniatâd

Bydd angen caniatâd Gweinyddu Cyffredinol: Gweinyddu arnoch. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i’ch tîm gweinyddu rhoi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
 

Gwirio a Golygu Gosodiadau’r Porth Rhieni

Ewch i Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Ap a Phorth > Gosodiadau’r Porth Rhieni.

Screenshot_2021-12-20_at_11.15.31.png
 

Gweithgareddau

Cliciwch ar un o’r meysydd i ddewis a ydych am ddangos clybiau neu deithiau ar y Porth Rhieni. Mae hyn yn golygu bod rhieni’n gallu gweld clybiau/teithiau y mae’r myfyriwr yn gymwys ar eu cyfer, yn cymryd rhan ynddynt, ac wedi eu mynychu, yn ogystal â chofrestru a thalu am glybiau newydd (os yw’ch ysgol wedi galluogi taliadau â cherdyn).

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.27.14.png
 

Os ydyn nhw wedi eu galluogi, bydd y dangosfwrdd a phroffil y myfyriwr yn dangos hyn hefyd.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.38.55.png
 

Asesiadau

Cliciwch ar un o’r meysydd i ddewis a ydych am ddangos canlyniadau Cynnydd neu dracio’r cwricwlwm.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.30.02.png
 

Os ydyn nhw wedi eu galluogi, bydd y dangosfwrdd a phroffil y myfyriwr yn dangos hyn hefyd.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.39.32.png
 

Presenoldeb

Cliciwch ar y maes i ddewis a ydych am ddangos Presenoldeb ai peidio.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.40.33.png
 

Os yw hyn wedi ei alluogi, bydd y dangosfwrdd a phroffil y myfyriwr yn dangos hyn.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.41.16.png
 

Ymddygiad

Yn Ymddygiad gallwch ddewis arddangos Nodiadau, Cosbau, Digwyddiadau Ymddygiad a Graddfeydd Dyfarnu Pwyntiau.


 

Cliciwch ar dop y rhestr i olygu a ddylai Nodiadau Ymddygiad a Chosbau gael eu harddangos.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.51.27.png
 

Gallwch ddewis a ydych am ddangos digwyddiadau cadarnhaol neu negyddol i’r rhieni – mae hyn wych os ydych chi am rannu eich digwyddiadau cadarnhaol ond nid y rhai negyddol!

Dylid nodi y bydd pob math o ddigwyddiad wedi gosod i “Na” yn awtomatig. Os ydych chi am iddyn nhw ymddangos ar y porth rhieni, cliciwch i doglo’r nodwedd yma.


 

Os yw hyn wedi ei alluogi, bydd hyn yn ymddangos ar y dangosfwrdd ac ar broffil y myfyriwr.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.49.33.png
 

Gallwch ddewis a ydych am ddangos eich Graddfeydd Dyfarnu Pwyntiau Ymddygiad i rieni – mae hyn yn wych os ydych chi am rannu eich graddfa gadarnhaol, ond nid yr un negyddol! Gallwch doglo hefyd a ydych am gynnwys sylwadau, pwy ddyfarnodd y pwyntiau, ac ym mha ddigwyddiad.

Newidiwch y maes y Dangos y raddfa bwyntiau a chliciwch Cadw Newidiadau.

​Screenshot_2021-12-20_at_11.21.17.png

Wedyn bydd y pwyntiau i’w gweld ar y Porth Rhieni.

​
 

Arholiadau

Gallwch ddewis arddangos Amserlen Arholiadau’r flwyddyn academaidd gyfredol a rhai’r gorffennol, a chaniatáu i rieni ei lawrlwytho fel ffeil PDF. Gallwch ryddhau cofrestriadau am arholiadau a chanlyniadau arholiadau (gan gynnwys canlyniadau arholiadau mewnol) hefyd. Bydd y canlyniadau ar gael i’w gweld ar ôl i ddyddiad yr embargo a’r cyfnod o amser rydych chi wedi ei ddewis fynd heibio hefyd.

Mae’r nodweddion hyn wedi eu gosod yn awtomatig i ‘Na’ yn ddiofyn.

Screen_Shot_2019-07-18_at_16.37.12.png

Screen_Shot_2019-07-18_at_16.37.45.png
 

Cysylltiadau

Yn Cysylltiadau, gallwch ddewis arddangos a galluogi negeseuon Yn yr Ap am gysylltiadau nad ydynt yn sensitif o ran amser â rhieni. I gael rhagor o fanylion am ddefnyddio negeseuon Yn yr Ap, darllenwch yr erthygl hon.

Screenshot_2021-08-06_at_11.34.59.png
 

Taliadau

Mae dangos cyfrifon yn caniatáu i rieni weld eu balans a gwneud taliadau â cherdyn am Brydau Bwyd, Clybiau neu Deithiau.

Mae’n penderfynu a gaiff rieni weld y balans cyffredinol ar gyfer eu cyfrifon ai peidio hefyd.

Awgrym: Bydd hyn yn dangos £0 os yw pob balans yn sero neu pob un yn bositif. Dyluniwyd y system fel hyn fel nad yw balans positif ar un cyfrif yn cuddio swm negatif sy’n weddill ar gyfrif arall.

Screenshot 2023-09-19 at 10.46.17.png0 outstanding.png
 

Mae’r nodwedd yma wedi ei chynnau’n ddiofyn. Os ydych chi am ei diffodd, cliciwch ar y maes Cyfanswm taliadau, ei newid i ‘Na, peidiwch â dangos cyfanswm y taliadau’ wedyn clicio ‘Cadw Newidiadau’.

Gallwch ddewis:

  • Dangos y cyfrifon talu, ond nid cyfanswm y Taliadau
  • Dangos y ddau
  • Peidio â dangos y naill na’r llall

Awgrym: Rhaid i chi fod wedi dewis dangos y cyfrifon i ddangos cyfanswm y Taliadau. Ni chewch ddangos cyfanswm y Taliadau heb ddangos y cyfrifon yn gyntaf.

Screenshot 2023-09-19 at 13.46.32.png
 

Gallwch ddewis a ydych am ddangos pob Math o Gyfrif Cwsmer a sefydlwyd ar y porth rhieni - sy’n ddefnyddiol os yw rhai cyfrifon at ddefnydd yr ysgol yn unig. Mae hyn yn pennu hefyd pa gyfrifon y gall rhieni wneud taliadau â cherdyn ar eu cyfer.

Gallwch gyflawni hyn hefyd o’r dudalen Ysgol > Taliadau > Trefnu > Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid. Cliciwch yma i ddysgu sut.

Screen_Shot_2019-05-14_at_11.59.33.png
 

Os ydych chi’n dewis ddiffodd popeth, bydd yn edrych fel hyn, ac ni fydd y rhieni’n gallu gweld nac ychwanegu at eu balans.

Screenshot 2023-09-19 at 13.42.04.png
 

Manylion Myfyrwyr

Gallwch reoli faint o wybodaeth am y myfyrwyr y gall rhieni ei gweld a’i golygu ar Broffil Myfyriwr eu plentyn. Dylid nodi y gellir gofyn am gydsyniad yr ysgol ar gyfer unrhyw newidiadau. Gweler yr adran isod am fanylion.

Screenshot_2021-12-20_at_11.17.00.png
 

Cliciwch ar faes i olygu’r gosodiadau hyn.

Screen_Shot_2019-05-14_at_12.32.57.png

Screenshot_2021-12-20_at_11.17.45.png
 

Y Calendr a’r Amserlen

Defnyddiwch yr adran hon i ddewis a ydych am ganiatáu i warcheidwaid lawrlwytho amserlen PDF i’w hargraffu trwy’r Porth Rhieni neu’r Ap: Y Calendr a’r amserlen ar y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni
 

 


Y gosodiad Dangos calendr y flwyddyn academaidd newydd sy’n pennu a ddylai rhieni/gwarcheidwaid gael gweld y calendr ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd wrth fewngofnodi i’r Porth/Ap Rhieni ai peidio.
 

 

Mae’r gosodiad Modd dangos staff ar galendr y Porth Rhieni yn dangos a ddylai enwau staff ymddangos ai peidio, ac os felly, sut. Yr opsiynau yw Staff Byw (diofyn, yn dangos pwy sy’n cyflenwi mewn amser real), Staff a aseiniwyd (sy’n dangos pwy yw’r athro/athrawes ar yr amserlen yn unig), neu Dim staff (cuddio’r enwau). Mae rhagor am hyn yma: Rheoli sut mae enwau staff yn ymddangos ar galendrau ac amserlenni myfyrwyr a gwarcheidwaid
 

 

Mae’r gosodiad Amserlen myfyrwyr i’w lawrlwytho a’i hargraffu yn eich galluogi i reoli a gaiff rhieni lawrlwytho copïau PDF o’r amserlen ai peidio. Ar ôl cynnau hyn, gallwch ddewis fformat ar gyfer argraffu amserlenni.

Gallwch ddewis pa fathau o ddigwyddiadau i’w cynnwys yn y fersiwn i’w hargraffu hefyd. Yn ddiofyn, bydd hyn yn cynnwys Gwersi yn unig, ond gallwch ddewis mathau ychwanegol o ddigwyddiadau (ymyriadau, cosbau, gwaharddiadau, arholiadau, clybiau neu deithiau) gan ddefnyddio’r gwymplen.
 

Screenshot 2023-12-14 at 14.56.51.png
 

Y nodwedd arall yn yr adran hon yw’r gallu i guddio calendr y flwyddyn nesaf. Mae ysgolion wedi dweud wrthym ni eu bod am weithio ar Galendr Academaidd y flwyddyn nesaf heb i bobl ei weld cyn pryd.

Mae gosodiad o’r enw Dangos calendr y flwyddyn academaidd nesaf wedi cael ei ychwanegu er mwyn sicrhau nad oes modd i neb, heblaw’r bobl sy’n gweithio arnyn nhw, weld y calendrau nes eu bod nhw’n barod.

Mae’r gosodiad yma wedi ei ddiffodd yn ddiofyn sy’n sicrhau nad oes modd cyrchu calendrau sydd ar y gweill.

Noder: nid oes modd atal dangos calendr am y flwyddyn academaidd gyfredol yn llwyr; dim ond calendr y flwyddyn nesaf a’r amserlenni i’w hargraffu y gellir cyfyngu arnynt. Gall rhieni weld yr holl ddigwyddiadau a mathau o ddigwyddiadau ar amserlen eu plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol trwy’r calendr ar y Porth Rhieni neu’r Ap.

 

Derbyn newidiadau i Gofnod y Myfyriwr yn Awtomatig/â Llaw

Trwy ddefnyddio’r gosodiadau yn yr ardal Diogelwch a Phreifatrwydd gallwch doglo i ddewis a gaiff rieni olygu manylion sylfaenol amdanyn nhw a’u plant. Cofiwch, y Prif Warcheidwaid yn unig gaiff cyrchu’r Porth Rhieni.

Os nad ydych am i Arbor dderbyn newidiadau’n awtomatig heb unrhyw ddilysu gweinyddol neu gydsyniad gan yr ysgol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod hyn i 'Na, peidiwch ag awto-dderbyn newidiadau i gofnodion myfyrwyr'.

Os dewiswch chi ‘Na, peidiwch ag awto-dderbyn newidiadau i gofnodion myfyrwyr’, bydd modd i chi dderbyn neu wrthod ceisiadau i newid y wybodaeth yma yn y Datngosfwrdd Ansawdd Data. I weld sut i wneud hyn, cliciwch yma.

Screenshot_2022-01-28_at_16.17.27.png
 

Galluogi mynediad i’r Porth Rhieni

Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch ar yr adran Diogelwch a Phreifatrwydd i alluogi eich Porth Rhieni (a’u galluogi nhw i ddefnyddio’r Ap Rhieni hefyd).

  • Toglwch i ganiatáu Mewngofnodi i Rieni i alluogi Prif Warcheidwaid eich myfyrwyr cyfredol i fewngofnodi. Gwarcheidwaid myfyrwyr sydd ar gofrestr eich ysgol ar hyn o bryd yw’r rhain, yn ogystal â’r rhai â dyddiad cofrestru yn y dyfodol.
  • Toglwch i ganiatáu Mewngofnodi i rieni i alluogi Prif Warcheidwaid eich darpar-fyfyrwyr i fewngofnodi. Darpar-fyfyrwyr eich ysgol ar gyfer y flwyddyn hon neu flynyddoedd y dyfodol yw’r rhain sydd â statws ymgeisydd heb Gofrestru, Wedi Tynnu Nôl neu Wedi eu Gwrthod - gallwch ddarllen rhagor am y broses hon yma
     

Deunyddiau darllen pellach a Chwestiynau Cyffredin

Angen gwybod rhagor am sut y mae hyn i gyd yn gweithio? Er enghraifft, sut mae ymyriadau’n ymddangos ar y Porth a’r Ap. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hwylus yma: Cwestiynau Cyffredin am Reoli’r Porth Rhieni a’r Ap

Nodyn pwysig am y gosodiad ‘Mewngofnodi i ddarpar-fyfyrwyr’

Trwy alluogi Mewngofnodi i rieni darpar-fyfyrwyr, bydd rhieni’n gweld bod eu plentyn yn dan ystyriaeth am le yn yr ysgol wrth fewngofnodi i Arbor, hyd yn oed os nad ydych wedi eu hysbysu’n swyddogol eto. Mae hyn yn arbennig o debygol o ddigwydd os yw ysgol gyfredol y plentyn yn defnyddio Arbor eisoes, neu os oes gan y rhiant blentyn arall mewn ysgol Arbor.

I atal hyn rhag digwydd, rydyn ni’n argymell cadw’r gosodiad yma wedi ei ddiffodd nes eich bod chi’n barod i rannu‘r wybodaeth!

Screenshot_2022-01-28_at_16.24.32.png

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
1 allan o 3 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.