Cyflwyniad i Daliadau yn Arbor

Mae’r erthygl hon yn cynnig cyflwyniad i reoli taliadau yn Arbor, gan amlinellu’r camau y gall ysgolion eu cymryd i drefnu a defnyddio’r nodweddion talu yn effeithiol. Mae’n trafod dechrau trefnu taliadau â cherdyn, rheoli taliadau ar gyfer clybiau, teithiau a phrydau bwyd, yn ogystal â’r mesurau diogelwch sy’n gweithredu ar gyfer trafodion ar lein. Yn ogystal, mae’n esbonio’r gwahanol becynnau sydd ar gael, a sut i uwchraddio i gael rhagor o nodweddion.

Y canllaw hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o bedwar. Dyma’r canllawiau sydd yn y gyfres hon:

  1. Cyflwyniad i Daliadau yn Arbor
  2. Trefnu’r ardal Taliadau er mwyn galluogi taliadau ar gyfer Siop yr Ysgol, Clybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd
  3. Hwb - Manteisio i’r eithaf ar Daliadau yn Arbor
  4. Y gosodiadau a argymhellir wrth drefnu taliadau

 

Awgrym: Ansicr ble i ddechrau gyda thaliadau yn Arbor, neu angen cymorth i drefnu taliadau? Rhowch gynnig ar ein Canllaw i Gymorth gyda Thaliadau yn yr Ap!
 

Pa nodweddion sydd wedi eu cynnwys yn fy mhecyn?

Mae gennym bob math o wahanol nodweddion y gallwch eu defnyddio i reoli taliadau yn rhan o’ch MIS. Ehangwch yr adran isod i edrych ar y tabl a gweld grid o’r prif nodweddion sy’n gynwysedig ym mhob pecyn sylfaenol. Oddi tano, mae yna restr o’r pecynnau a’r nodweddion talu sy’n gynwysedig gyda phob un.

Awgrym: Efallai eich bod chi wedi clywed am Payments Plus. Dyna’r enw am y pecyn cyflawn o’r cynhyrchion yma.

  • Siop yr Ysgol
  • Bwydlenni Cylchol a’r Porth Rhieni/Dewis Prydau trwy’r Ap
  • Talu ag Apple Pay neu Google Pay

I ddysgu sut i uwchraddio eich pecyn, cysylltwch â customersales@arbor-education.com

Gweld y tabl - Cliciwch i ehangu
Nodwedd Core Comms Perform Gofynion eraill
Trefnu Clybiau a Theithiau ✓ ✓ ✓  
Cyfleuster i rieni gofrestru a thalu am glybiau a theithiau ✓ ✓ Rhaid cynnau’r Porth Rhieni a’r Ap.
Trefnu Prydau Bwyd Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig. ✓  
Taliadau am Brydau Bwyd gan Fyfyrwyr a Staff Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig ✓  
Arlwyaeth heb arian parod Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig ✓ Rhaid trefnu Integreiddio.
Cofrestru taliadau arian parod, â siec neu drosglwyddiad banc Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig ✓
Prosesu ad-daliadau a chofnodi anfonebau Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig ✓
Cyfleuster i rieni dalu am brydau bwyd a chyfrifon ychwanegu arian eraill â cherdyn, ac i chi i gofnodi taliadau ac ad-daliadau Ein pecyn Comms diweddaraf yn unig ✓ Rhaid i chi fod wedi trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle.
Bwydlenni Cylchol a Dewis Prydau Bwyd trwy’r Porth Rhieni/Ap Ein pecyn Perform diweddaraf yn unig Rhaid i chi fod wedi trefnu Bwydlenni Cylchol ar eich safle, rhaid cynnau’r Porth Rhieni a’r Ap.
Siop yr Ysgol Ein pecyn Perform diweddaraf yn unig Rhaid i chi fod wedi trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle.
Talu ag Apple Pay neu Google Pay     Ein pecyn Perform diweddaraf yn unig Rhaid i chi fod wedi trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle.

 

Nodweddion Core:

  • Trefnu Clybiau a Theithiau Yn y pecynnau Core, Comms a Perform.
     

Nodweddion Comms:

  • Gall rhieni gofrestru a thalu am glybiau a theithiau: Rhaid cynnau’r Porth Rhieni a’r Ap.

  • Trefnu Prydau Bwyd: Yn y pecyn Comms diweddaraf yn unig, a Perform.

  • Taliadau am Brydau Bwyd gan Fyfyrwyr a Staff: Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.

  • Arlwyaeth heb arian parod: Bydd angen integreiddio i drefnu hyn. Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.

  • Cofnodi taliadau arian parod, â siec neu drosglwyddiad banc: Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.

  • Prosesu ad-daliadau a chofnodi anfonebau: Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.

  • Cyfleuster i rieni dalu am brydau bwyd a chyfrifon ychwanegu arian eraill â cherdyn, ac i chi gofnodi taliadau ac ad-daliadau. Rhaid trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. Yn y pecyn Comms diweddaraf a Perform.
     

Nodweddion Perform:

  • Bwydlenni Cylchol a Dewis Prydau bwyd yn y Porth Rhieni/App: Mae angen trefnu Bwydlenni Cylchol ar eich safle, a galluogi’r Porth Rhieni a’r Ap. Yn y pecyn Perform diweddaraf yn unig.

  • Siop yr Ysgol: Rhaid trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. Yn y pecyn Perform diweddaraf yn unig.

  • Talu ag Apple Pay neu Google Pay: Rhaid trefnu Taliadau â Cherdyn ar eich safle. Yn y pecyn Perform diweddaraf yn unig.
     

Sut mae taliadau’n gweithio yn Arbor?

Gallwch drefnu, gwneud a rheoli taliadau, adroddiadau ac anfonebau yn MIS Arbor, gan arbed amser a fyddai’n cael ei dreulio’n cynnal ac yn defnyddio nifer o wahanol systemau fel arall.

Mae’r ffyrdd o ddefnyddio a sefydlu taliadau yn Arbor yn ymrannu’n ddau brif fath:

  • Trefniadau sy’n cynnwys talu â charden - Mae hyn yn caniatáu i rieni dalu trwy’r Ap Rhieni a’r Porth Rhieni. Gallwch reoli taliadau â llaw hefyd gan ddefnyddio arian parod, siec neu drosglwyddiad banc.
  • Trefniadau heb daliadau â cherdyn - Gan ddefnyddio’r dull yma, gallwch gofnodi taliadau a wneir ag arian parod, siec neu drosglwyddiad banc â llaw yn unig.

Noder: Mae swyddogaethau taliadau â cherdyn Arbor ar gael i ysgolion:

  • sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig, heb gynnwys Ynys Manaw
  • sydd â chyfrif banc sy’n derbyn taliadau trwy BACS neu ddebyd uniongyrchol
  • sydd ag unrhyw un o’n pecynnau Perform, neu ein pecyn Comms diweddaraf. Ni fydd pecynnau eraill Arbor yn cynnig y nodwedd hon yn ddiofyn. Am uwchraddio neu ganfod pa becyn sydd gennych? Cysylltwch â’ch Rheolwr Partneriaeth.
     

Dewis peidio â defnyddio Taliadau â Cherdyn

Am mai swyddogaeth taliadau â cherdyn Arbor yw’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol a syml, rydyn ni’n argymell bod ysgolion yn ei ystyried.

Os ydych chi’n sicr nad ydych am ddefnyddio Arbor i reoli taliadau â cherdyn, gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf ar eich siwrnai: Adeiladu - Trefnu’r maes Taliadau i alluogi taliadau ar gyfer Siop yr Ysgol, Clybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd. Gallwch hepgor yr adran ar sefydlu taliadau â cherdyn a neidio’n syth i’r adran Sefydlu Clybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd.
 

Defnyddio Taliadau â Cherdyn

Trwy sefydlu taliadau â cherdyn, gallwch dalu allan i nifer o gyfrifon banc a gweld dadansoddiad manwl o bob taliad, oll gyda ffi trafod ostyngol o 1.275% + TAW (sy’n rhatach na’r rhan fwyaf o ddarparwyr).

Ar ôl trefnu taliadau, gallwch symud ymlaen i drefnu eich:

  • Teithiau - Digwyddiadau untro lle mae’r myfyrwyr oddi ar safle’r ysgol.
  • Clybiau Safonol - Gweithgareddau sy’n digwydd drosodd a thro i fyfyrwyr
  • Gofal Cofleidiol - Clybiau Brecwast neu Ar ôl Ysgol sy’n gallu cynnwys pryd bwyd
  • Prydau Bwyd – Bydd Gwarcheidwaid yn ychwanegu at y cyfrif prydau bwyd, sy’n gallu cael ei anfonebu am gost pryd bwyd y myfyriwr yn awtomatig pob dydd
  • Siop yr Ysgol - Eitemau Gwisg Ysgol neu o’r Siop Byrbrydiau

Byddwn ni’n dangos i chi sut i drefnu taliadau â cherdyn, wedyn sut i bennu at ba ddibenion y caiff taliadau â cherdyn eu defnyddio yn y cam nesaf: Adeiladu – Trefnu’r maes Taliadau er mwyn galluogi taliadau i Siop yr Ysgol, am Glybiau, Teithiau ac am Brydau Bwyd’
 

Sut mae taliadau’n cael eu gwneud?

Gan staff yr ysgol

O fewn eich MIS, gallwch gofnodi taliadau arian parod neu â siec am Glybiau, Teithiau a Phrydau Bwyd. Gallwch gofnodi taliadau ar gyfer Cyfrifon Cwsmeriaid myfyrwyr unigol neu aelodau unigol o staff hefyd trwy fynd i’r adran Taliadau ar ochr chwith eu proffiliau.

Gallwch gymryd taliadau â cherdyn am Brydau Bwyd a Chyfrifon Cwsmeriaid eraill (sydd wedi galluogi taliadau â cherdyn) lle bynnag y gwelwch chi’r botwm 'Talu â cherdyn/Ychwanegu arian â cherdyn' hefyd. Nid yw’n bosibl gwneud taliadau â cherdyn ar gyfer Clybiau a Theithiau trwy Arbor fel gweinyddwr - byddai angen i chi Fewngofnodi fel gwarcheidwad a gwneud y taliad â cherdyn fel petaech yn warcheidwad yn lle.
 

Gan rieni a gwarcheidwaid

Os ydych chi wedi trefnu Taliadau â Cherdyn, gall rhieni a gwarcheidwaid dalu o fewn y Porth Rhieni a’r Ap Rhieni hefyd. Cliciwch ar y linciau isod i weld esiamplau o sut mae hyn yn edrych i warcheidwaid:

Gallwch adio rhagor o opsiynau talu trwy sefydlu Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid. Cyfrifon rhagdalu yw’r rhain, sy’n golygu y gall staff r ysgol neu rieni a gwarcheidwaid ychwanegu at y balans ar y cyfrif hwn ar gyfer myfyrwyr a/neu staff - yn debyg i Brydau Bwyd - wedyn gallwch anfonebu y cyfrifon hyn â llaw i’ch helpu chi i reoli balans y cyfrifon a chodi tâl am eitemau.
 

A yw taliadau yn Arbor yn ddiogel?

Mae Arbor yn cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer dilysu taliadau ar lein, sef Dilysu Cwsmeriaid yn Gadarn (SCA), a gyflwynwyd i wella diogelwch. Wrth wneud taliad ar lein, mae SCA yn gofyn eich bod chi’n dilysu eich bod chi pwy rydych chi’n dweud yr ydych chi. Yn Arbor, mae hynny’n golygu y bydd angen i ddefnyddwyr neu rieni gwblhau cam ychwanegol i ddilysu trafodion wrth wneud taliad trwy MIS Arbor, y Porth Rhieni neu’r Ap Rhieni.

Wrth wneud taliad a nodi manylion y cerdyn (mae Arbor yn derbyn taliadau â Visa a Mastercard yn unig), mae’n bosibl y bydd angen i chi Ddilysu’ch Taliad â Cherdyn.

Screenshot_2021-07-08_at_16.53.06.png
 

Ein darparydd taliadau

Rydyn ni’n defnyddio Stripe i gyflawni taliadau â cherdyn, ond o fewn Arbor. Mae trefnu taliadau yn Arbor yn creu Cyfrif Stripe Connected ar gyfer eich ysgol.

Mae Stripe yn cymryd preifatrwydd a diogelwch o ddifri calon. Darllenwch Polisi Preifatrwydd Stripe ar eu gwefan i gael esboniad am sut ac at ba ddibenion y maent yn casglu, yn defnyddio, yn cadw, yn datgelu ac yn diogelu unrhyw ddata personol a ddarperir gan Arbor.

Mae nodweddion diogelwch Stripe yn cynnwys:

  • Darparwr Gwasanaethau PCI Lefel 1 - y radd uchaf o ddiogelwch ar gyfer prosesu taliadau.
  • Mae gan unrhyw drafodion a wneir trwy Stripe amddiffyniad SSL (Secure Socket Layer). Caiff yr holl wybodaeth yn cael ei hanfon yn ddiogel wrth brosesu’r taliad.
  • Mae rhifau cardiau credyd yn cael eu hamgryptio, sy’n sicrhau diogelwch.
     

All-daliadau ac ad-daliadau

Awgrym: Dim ond os ydych chi wedi trefnu derbyn taliadau â cherdyn y gellir gwneud all-daliadau; fel arall, rhaid ymdrin ag arian parod y tu allan i Arbor.

Ni fydd taliadau a wneir i Arbor yn cael eu talu’n syth i’ch cyfrif banc.

Mae Arbor yn talu’r arian a gesglir o daliadau â cherdyn i gyfrifon banc yn wythnosol, bob dydd Llun (o’r dydd Sul blaenorol i ddiwedd dydd Sadwrn). Er enghraifft, yn achos y pedwar taliad yma:

  • Dydd Sul, 1 Mawrth - yn mynd i’r cyfrif banc dydd Llun, 9 Mawrth
  • Dydd Mercher, 4 Mawrth - yn mynd i’r cyfrif banc dydd Llun, 9 Mawrth
  • Dydd Sadwrn, 7 Mawrth - yn mynd i’r cyfrif banc dydd Llun, 9 Mawrth
  • Dydd Sul, 8 Mawrth – ni fydd hyn yn cael ei dalu tan y dydd Llun canlynol.

Weithiau, ni fydd yr arian o’r trafodion â cherdyn yn barod ar gyfer yr all-daliad a amserlennwyd, ac os felly, cânt eu gohirio tan y dydd Llun canlynol. Yn ogystal, gall trosglwyddiadau i gyfrifon banc gymryd hyd at dri diwrnod busnes i’w prosesu trwy Stripe. Am hynny, ni allwn warantu y bydd yr arian yn ymddangos mewn cyfrifon banc ar ddydd Llun y taliad. Mewn ambell i achos prin, gallai gymryd tan y dydd Iau canlynol i’r cyllid fod ar gael.

Bydd ad-daliadau’n effeithio ar swm yr all-daliad, sy’n cael ei gyfrifo trwy dynnu cyfanswm yr ad-daliadau o gyfanswm nifer y trafodion â cherdyn a gafwyd yn ystod cyfnod yr all-daliad.
 

Gweminar Cyflwyno

Am gael rhagor o wybodaeth ond wedi cael llond bol ar ddarllen? Gwyliwch ein gweminar ar drefnu a rheoli taliadau yn Arbor isod. Defnyddiwch yr amsernodau o dan y fideo i neidio i’r adrannau sydd o’r diddordeb mwyaf i chi.
 

  

Amsernodau:

  • 00:00 - Gwybodaeth allweddol ar ffioedd a’n darparydd taliadau
  • 02:30 - Y wybodaeth fydd ei hangen arnoch i drefnu taliadau
  • 05:00 - Trefnu taliadau â cherdyn
  • 08:00 - Mathau o Gyfrifon Cwsmeriaid
  • 10:40 - Rheoli taliadau ar broffil y myfyriwr
  • 16:30 - Clybiau
  • 22:00 - Teithiau
  • 27:30 - Taliadau ar y Porth Rhieni
  • 34:30 - Adroddiadau ar daliadau
  • 37:00 - Negeseuon atgoffa i ychwanegu arian
  • 38:00 - Adroddiadau ar yr holl daliadau

Beth sydd nesaf?

Dyma ddiwedd y canllaw cyntaf yn y gyfres. Nawr eich bod chi wedi cael cyflwyniad i nodweddion talu Arbor, y cam nesaf yw dechrau meddwl am fynd ati i adeiladu eich trefniadau talu:

Opsiynau wrth drefnu taliadau

Ydych chi’n cynnig hyfforddiant?

Gall ein harbenigwyr Addysgu Cwsmeriaid gynnig cyngor trylwyr ar sut i ddefnyddio’r meysydd a drafodir yn y gyfres hon, a meysydd eraill yn Arbor. Yn dibynnu ar y maes, mae yna sesiynau Sylfaen, ymgynghoriadau mwy manwl neu sesiynau pwrpasol.

I drafod beth fyddai’n gweithio orau at anghenion eich ysgol chi, cysylltwch â customersales@arbor-education.com

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
1 allan o 2 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.