Deall Rhaglenni a Gweithgareddau Dysgu i Ysgolion yng Nghymru

Mae’r canllaw yma’n amlinellu sut mae Rhaglenni a Nodau Dysgu (neu Gweithgareddau Dysgu) yn cael eu strwythuro a’u rheoli mewn ysgolion yng Nghymru, gan ddisgrifio’r gwahanol feysydd o dan sylw a sut i’w diweddaru. Ar gyfer casgliadau data ôl-16 oed yng Nghymru, mae casglu angen data ar lefel rhaglenni astudio ac ar lefel nodau dysgu.
 

Diffiniadau ac enghreifftiau

Gweithgareddau/Nodau Dysgu

Diffinnir gweithgaredd dysgu (neu nod dysgu yn Arbor) fel cwrs y mae disgybl yn ei ddilyn â’r nod o ennill cymhwyster penodol. Mae gweithgaredd dysgu’n cynnwys y nodweddion canlynol:

  • Mae’r cwrs yn arwain at gymhwyster neu uned o gymhwyster sy’n cael ei ddilysu’n allanol
  • Ystyrir pob cwrs sy’n arwain at gymhwyster fel gweithgaredd dysgu ar wahân
  • Rhaid i bob gweithgaredd dysgu fod â rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru (QWAD) a chod Disgownt, sy’n nodi’r pwnc, y math o gymhwyster, a lefel y cymhwyster
  • Rhaid cofnodi pob gweithgaredd a gyflawnir, gan gynnwys newidiadau i raglenni a gweithgareddau
  • Gall gweithgareddau dysgu gwmpasu mwy nag un flwyddyn
     

Rhaglenni Astudio

Diffinnir rhaglen fel cyfuniad o weithgareddau dysgu sy’n ffurfio rhaglen â phwrpas a deilliant diffiniedig i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach neu uwch.

Dylai pob disgybl ar y casgliad ôl-16 oed fod yn dilyn un rhaglen yn unig ar y tro (ni chânt orgyffwrdd) yn ystod y cyfnod adrodd, gydag o leiaf un nod dysgu. Fodd bynnag, gall disgyblion fod â mwy nag un rhaglen gaeedig. Mae rhaglenni astudio’n cynnwys y nodweddion canlynol:

  • Cyfuniad o un neu ragor o Weithgareddau Dysgu
  • Mae gan bob rhaglen nod benodol, â’r bwriad o helpu’r dysgwr i wneud cynnydd ar eu llwybr dethol, boed hynny i addysg bellach neu uwch, neu i mewn i gyflogaeth
  • Rhestrir rhaglenni yn y Cyfeirlyfr Rhaglenni, sy’n cynnwys tua 250 o wahanol raglenni: Cyfeirlyfr Rhaglenni 2024-25
  • Ni ellir cofrestru disgyblion ar fwy nag un rhaglen ar unrhyw adeg benodol. Ni ellir cofnodi rhaglen newydd nes bod y rhaglen flaenorol wedi cael ei chwblhau, naill ai’n llwyddiannus neu fel arall
  • Gall disgybl newid rhaglen yn ystod y flwyddyn academaidd, a dylid cofnodi unrhyw weithgareddau sy’n dal i fod yn berthnasol i’r rhaglen newydd fel gweithgareddau sy’n parhau. 
     

Rhaglen Astudio a Nodau Dysgu Enghreifftiol

Mae’r ddelwedd isod yn dangos y data sylfaenol a gofnodwyd yn y cyfrifiad. Mae’n dangos un myfyriwr, Raglenni astudio’r myfyriwr (e.e. A2) a’i Nodau Dysgu (e.e. Bioleg, Cemeg).

 

Mae’r ddelwedd yn dangos myfyriwr sydd wedi symud o Raglen 3 A2 (Bioleg, Cemeg a Mathemateg) i Raglen 2 Safon Uwch (Bioleg a Chemeg).

Yn yr achos hwn, mae gan y Nodau Dysgu Bioleg a Chemeg un cyfnod yr un, ond mae cwmpas eu dyddiadau yn y ddwy Raglen astudio. 
 

Ailgyflawni’r flwyddyn ac ailsefyll arholiadau

Mae angen i fyfyrwyr sy’n ailgyflawni unrhyw weithgaredd dysgu, lle maen nhw’n cyflawni’r un gweithgareddau addysgu a dysgu am ddwy flynedd yn olynol, gofnodi’r gweithgaredd yma eto yn yr ail flwyddyn. Gall hyn gynnwys un neu ragor o weithgareddau ar yr amserlen (a allai gynnwys dosbarthiadau adolygu).

Fodd bynnag, os yw’r disgybl ond yn ailsefyll yr un arholiad (dwywaith neu ragor) am unrhyw reswm, ni ddylid cofnodi hynny fel gweithgaredd dysgu yn rhan o raglen.
 

Trefnu Nodau Dysgu

Cam 1 - Adio’r Nod Dysgu

I adio Nod Dysgu newydd:

  • Ewch i Ysgol > Strwythur yr Ysgol > Nodau Dysgu neu Myfyrwyr > Cofrestru > Academaidd > Nodau Dysgu
  • Cliciwch y botwm +Adio gwyrdd
  • Yn y blwch llithro, dewiswch Enw y Nod Dysgu (e.e. Llenyddiaeth Saesneg)
  • Adiwch Enw Byr opsiynol (e.e. Saes Llên)
  • Cliciwch Adio Nod Dysgu i’w gadarnhau


 

Bydd hyn yn mynd â chi i’r trosolwg ar gyfer y Nod Dysgu rydych newydd ei adio. Gallwch gyrraedd y trosolwg yma hefyd trwy glicio ar y Nod Dysgu yn y tabl ar y dudalen Myfyrwyr > Cofrestru > Academaidd > Nodau Dysgu.

Ar dudalen Trosolwg yr Amcan Dysgu, gallwch reoli cyfnodau’r Amcanion Dysgu. Cyfnod o amser ar gyfer cyflawni Nod Dysgu yw hyn. I adio Cofnod:

  • Cliciwch +Adio

 

  • Yn y blwch llithro, adiwch fanylion cyfnod y Nod Dysgu:  
    • Enw (opsiynol) - Bydd adio enw opsiynol yn eich galluogi i glustnodi Cyfnod y Nod Dysgu’n gyflym. Gallwch ddewis defnyddio enw’r nod dysgu ac amcan o hyd y nod dysgu. Wrth adael hyn yn wag, bydd yn newid yn ddiofyn i enw’r nod dysgu (neu’r enw byr os pennwyd un), wedyn y dyddiadau dechrau a gorffen cynlluniedig (e.e. Saes Llên (UG) 24/25 (dyddiad dechrau cynlluniedig - dyddiad gorffen cynlluniedig).
    • Darparydd gweithgaredd dysgu - Y sefydliad sy’n darparu’r gweithgaredd dysgu, sef yn yr ysgol lle mae’r disgybl wedi ei gofrestru yn aml. Os yw’r gweithgaredd dysgu’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth, neu trwy drefniant breinio neu is-gontractio ag ysgol neu goleg arall, yna’r ysgol neu’r coleg yna yw darparydd y gweithgaredd dysgu.

      Defnyddiwch y maes yma i nodi ymhle y caiff y dysgu ei gyflawni. Os ysgol neu goleg arall sy’n ei ddarparu, dylid nodi eu henw yn y maes yma. Gosodwch hyn fel Gweithgaredd sy’n digwydd o fewn yr ysgol os yw’r gweithgaredd yn cael ei ddarparu’n fewnol.

    • Dyddiadau cynlluniedig - Gwnewch yn siŵr bod y dyddiadau dechrau a gorffen cynlluniedig yn cwmpasu dwy flynedd os yw’n Nod Dysgu ddwy flynedd o hyd.
    • Oriau Dysgu Cynlluniedig - Adiwch yr oriau dysgu cynlluniedig ar gyfer blwyddyn gyntaf y Nod Dysgu (cewch adio oriau blynyddoedd ychwanegol ar ôl creu’r achlysur).
    • Gweithgaredd dysgu trwy Gyfrwng y Gymraeg - mae hyn yn eich galluogi i nodi a gyflawnir y gweithgaredd dysgu yn Gymraeg. Yr opsiynau sydd ar gael yw: uniaith Saesneg, uniaith Gymraeg, model dwyieithog ffurfiol, grwpiau iaith gwahanol o fewn yr un dosbarth.
    • Categori’r Gweithgaredd Dysgu - mae hyn yn eich galluogi i nodi a yw gweithgaredd dysgu yn:  
      • Prif Weithgaredd - sef cymhwyster sylweddol sy’n greiddiol i’r rhaglen dysgu (e.e. Uwch Gyfrannol, Safon Uwch, BTEC, y Fagloriaeth Gymraeg, cymwysterau galwedigaethol) fel rheol
      • Gweithgaredd Arall - rhywbeth ategol i’r prif gymhwyster neu i fodloni anghenion dysgu penodol y dysgwr (e.e. ailsefyll TGAU neu ennill Tystysgrif Iechyd a Diogelwch) fel rheol


         
  • I gysylltu arholiad â gweithgaredd dysgu, dewiswch y Dyfarniad Cymhwyster Cysylltiedig perthnasol o’r gwymplen. Bydd hyn yn llenwi’r rhif QWAD a’r cod disgownt ar gyfer eich Cyfrifiad Ôl-16.

    Os nad yw’r cod rydych chi’n chwilio amdano yn y gwymplen, mae hynny’n golygu nad ydych wedi cynnig y cymhwyster o’r blaen. Os felly, gallwch adio gwybodaeth am arholiadau at y meysydd dalfan nes bod y cymhwyster wedi cael ei adio at yr adran arholiadau, neu nes bod y cymhwyster wedi ei sefydlu yn yr adran Arholiadau a fydd yn gwneud iddyn nhw ymddangos - gallwch weld sut i wneud hyn yma

    Os dewiswch chi ddefnyddio dalfan, dylech gofnodi’r QWAD a’r Cod Disgownt, wedi eu gwahanu â blaenslaes (/), yn y maes Dalfan cyfeirnod dyfarnu cymhwyster. Er enghraifft: C0000778/WG1234567.

  • Ar ôl adio’r holl fanylion perthnasol, cliciwch Adio Cyfnod Nod Dysgu i greu cyfnod y nod dysgu, a bydd hynny’n mynd â chi i dudalen trosolwg y cyfnod.
      

Rhaid creu cyfnod ar gyfer pob carfan o’ch myfyrwyr. Er enghraifft, os yw eich myfyrwyr Blwyddyn 12 yn astudio mathemateg am ddwy flynedd, rhaid i gyfnod eich Nod Dysgu gwmpasu dwy flynedd. Pan fydd y grŵp blwyddyn yna’n dod yn fyfyrwyr blwyddyn 13, bydd angen trefnu cyfnod Nod Dysgu arall ar gyfer eich blwyddyn 12 newydd.
 


 


Wrth glicio i mewn i gyfnod Nod Dysgu, fe welwch chi fod y Nod Dysgu’n rhedeg am ddwy flynedd, a bydd angen llenwi’r oriau dysgu ar gyfer yr ail flwyddyn.

Os na welwch chi’r ail flwyddyn yma, mae hynny’n golygu nad ydych chi wedi creu’r flwyddyn academaidd nesaf eto. Gallwch naill ai aros i lenwi’r oriau wrth greu’r flwyddyn nesaf, neu creu’r flwyddyn trwy ddilyn cam 1 yn yr erthygl hon.

Screenshot_2021-08-11_at_09.17.08.png
 

Adiwch yr oriau ar gyfer yr ail flwyddyn, wedyn cliciwch Cadw Newidiadau. Mae’r oriau’r un fath bob blwyddyn fel rheol, ond gallant newid.

Screenshot_2021-08-11_at_09.17.25.png
 

Cam 2 - Cysylltu’r Nod Dysgu â chwrs

Gallwch adio cyrsiau at Gyfnod Nod Dysgu trwy glicio ar y Cyfnod ar dudalen trosolwg y Nod Dysgu.

Yn Cyfnod y Nod Dysgu:

  • Cliciwch +Adio yn yr adran Cyrsiau

 

  • Dewiswch gwrs/cyrsiau o’ch amserlen i gysylltu’r Nod Dysgu â nhw gan ddefnyddio’r gwymplen Cwrs yn y blwch llithro
  • Cliciwch Adio Cwrs i gadarnhau

 

Cam 3 - Cofrestru’r myfyrwyr

Yn Cyfnod y Nod Dysgu, fe welwch chi dabl o’r myfyrwyr a gofrestrwyd. Dilynwch y camau hyn i gofrestru’r myfyrwyr:

  • Cliciwch +Adio uwchben y tabl


 

  • Dewiswch a ydych am ddewis y myfyrwyr i’w cofrestru â llaw (Cofrestru Myfyrwyr) neu adio myfyrwyr o ddosbarthiadau penodol yn awtomatig (Cofrestru Myfyrwyr o Gyrsiau) ar y naidlen.

    Screenshot 2024-02-14 at 10.03.34.png 
    • Os ydych chi’n dewis myfyrwyr penodol (Cofrestru Myfyrwyr), dewiswch y myfyrwyr i’w cofrestru yn y Nod Dysgu o’r gwymplen Myfyrwyr. Awgrym: Dewiswch enw grŵp cofrestru a phwyswch Ctrl + A ar eich bysellfwrdd i ddewis y dosbarth cyfan a’i ychwanegu yr un pryd.

      Screenshot 2024-02-14 at 10.18.32.png
    • Os ydych chi’n dewis cofrestru myfyrwyr o gwrs (Cofrestru Myfyrwyr o Gyrsiau), defnyddiwch y gwymplen Grwpiau Myfyrwyr i hidlo’r rhestr o gyrsiau fesul blwyddyn. Wedyn gallwch ddewis y cyrsiau o’r blwch Cyrsiau. Caiff pob myfyriwr yn y cyrsiau a ddewisir eu hychwanegu at y Nod Dysgu.

      Nodyn: Trwy ddewis dyddiad yn y gorffennol (yn y flwyddyn academaidd flaenorol) yn ‘Gweithredol o’ yn eich galluogi i ddewis grwpiau o fyfyrwyr a gafodd eu dadgofrestru (ymadawyr) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol.

Screenshot 2024-02-14 at 10.20.46.png
 

  • Adiwch fanylion pellach yn y blwch llithro:  
    • Ar gyfer oriau dysgu cynlluniedig, os yw nifer yr oriau ar gyfer myfyrwyr rydych chi’n eu cofrestru’n cyd-fynd â’r nifer a bennwyd eisoes ar gyfer Cyfnod y Nod Dysgu, gallwch adael y blwch yma’n wag. Os yw nifer yr oriau’n wahanol ar gyfer y myfyrwyr hyn, gallwch adio nifer newydd o oriau yma. Os oes Nod Dysgu dwy-flynedd gennych, a’ch bod wedi trefnu’r flwyddyn nesaf, fe welwch chi flwch am bob blwyddyn.
    • Yn achos Gweithgareddau dysgu trwy Gyfrwng y Gymraeg, os gadewch chi’r blwch yma’n wag, bydd Arbor yn codi’r dynodiad o Werthoedd Diofyn Cofrestru’r Nod Dysgu a bennwyd wrth greu’r cyfnod.
    • Ar gyfer Categori Gweithgaredd Dysgu, caiff y gwerth ei lenwi â’r Gwerthoedd Diofyn ar gyfer Cofrestriadau’r Nod Dysgu a bennwyd wrth greu’r achlysur. Os gadewch chi’r maes yma’n wag, ni chaiff unrhyw werthoedd eu pennu’n awtomatig.

 

  • Cliciwch y botwm Cofrestru Myfyrwyr gwyrdd i gadarnhau eich dewisiadau
  • Os yw’ch achlysur yn gysylltiedig â chwrs, bydd naidlen yn cynnig yr opsiwn i chi gofrestru’r myfyriwr yn y cwrs cysylltiedig.

Wedyn fe welwch chi dabl o’r myfyrwyr rydych newydd eu cofrestru.


 

Pennu myfyrwyr fel Dysgwyr LLDD (Dysgwyr ag Anghenion Dysgu a/neu Anableddau)

Yn ddiofyn, nid yw’r dynodiad ar gyfer Dysgwyr LLDD wedi ei bennu ar gyfer myfyrwyr a gofrestrwyd mewn Cyfnod Nod Dysgu. Os oes angen ychwanegu dynodiad penodol, rhaid gwneud hynny â llaw, fesul cofrestriad cyfnod nod dysgu.

Gallwch wneud hyn yn adran Nodau Dysgu tudalen Cofrestriadau proffil y myfyriwr, trwy fynd i adran Myfyrwyr cofrestredig y Trosolwg o Gyfnod y Nod Dysgu, neu’r tab Myfyrwyr ar y dudalen Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Diweddaru Torfol > Diweddaru Nodau Dysgu’n Dorfol.

  • Cliciwch ar y myfyriwr (os ydych chi’n defnyddio’r dudalen trosolwg neu’r dudalen diweddaru torfol) neu’r nod dysgu (os ydych chi’n defnyddio tudalen Cofrestru proffil y myfyriwr).
  • Yn y blwch llithro, cliciwch Golygu
  • Defnyddiwch y gwymplen Dysgwr LLDD i bennu’r dynodiad angenrheidiol. Dyma’ch opsiynau:  
    • Nid LLDD/Dim angen
    • LLDD wedi ei gofrestru ar weithgaredd dysgu gwahanol ac LLDD (Ble mae dysgwr ar weithgaredd lle mae gan y disgyblion ar yr un gweithgaredd dysgu yr un anawsterau dysgu a/neu anableddau.)
    • LLDD wedi ei gofrestru ar weithgaredd dysgu'r brif ffrwd ac LLDD (Ble mae dysgwr ar weithgaredd lle nad oes gan y mwyafrif o’r disgyblion ar yr un gweithgaredd dysgu anawsterau dysgu a/neu anableddau.)
  • Cliciwch Cadw’r Newidiadau

 

Golygu a yw Nod Dysgu’n Brif Weithgaredd Dysgu neu’n Weithgaredd Dysgu Arall

O’r maes Nodau Dysgu

Ewch i Myfyrwyr > Cofrestru > Nodau Dysgu a dewis y Nod Dysgu ac wedyn Cyfnod y Nod Dysgu.
 

Yn dorfol

O Gyfnod y Nod Dysgu: 
 

  • Ticiwch y blychau wrth enwau’r holl fyfyrwyr rydych am osod neu newid Categori’r Gweithgaredd Dysgu ar eu cyfer
  • Cliciwch y botwm Gweithred Torfol
  • Dewiswch Pennu Categori Gweithgaredd Dysgu: Prif neu Pennu Categori Gweithgaredd Dysgu: Arall
  • Yn y ffenestr naid, cliciwch Pennu categori i gadarnhau.

 

Fesul myfyriwr unigol

O fewn Cyfnod y Nod Dysgu:

  • Cliciwch y myfyriwr rydych am newid Categori’r Gweithgaredd Dysgu ar ei gyfer
  • Yn y blwch llithro, cliciwch y botwm Golygu oren.

 

  • Defnyddiwch y gwymplen Categori Gweithgaredd Dysgu i bennu’ch dewis
  • Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
     

O broffil y myfyriwr

Ewch i’r dudalen Cofrestru ar ochr chwith proffil y myfyriwr a sgroliwch i lawr i weld eu cofrestriad ar Nodau Dysgu. Gallwch ychwanegu cofrestriadau os oes angen trwy glicio +Adio Gallwch glicio i mewn i gofrestriad Nod Dysgu a chlicio Golygu i nodi Categori y Gweithgaredd Dysgu.

 

O’r dudalen Diweddaru Nodau Dysgu yn Dorfol

Gallwch reoli Nodau Dysgu hefyd o’r dudalen Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Diweddaru Torfol > Diweddaru Nodau Dysgu yn Dorfol.

Gallwch wneud y canlynol yn dorfol o’r fan yma:
 

  • Tab myfyrwyr - Cofrestru myfyrwyr unigol ar bob Nod Dysgu.
  • Tab cyrsiau - Cofrestru myfyrwyr unigol ar bob cwrs sy’n gysylltiedig â Nod Dysgu. Y flwyddyn ddiofyn fydd y flwyddyn academaidd gyfredol, a’r grŵp blwyddyn ddiofyn fydd y grŵp blwyddyn isaf a bennwyd ar eich safle dros Flwyddyn 12. Os nad oes unrhyw flwyddyn 12 neu’n uwch, bydd hyn yn mynd i’r grŵp blwyddyn isaf yn eich ysgol yn ddiofyn.
  • Tab Cyfnod Nodau Dysgu – Mae hyn yn dangos y Nodau Dysgu sy’n rhedeg yn y flwyddyn academaidd a ddewiswyd. Cliciwch un i fynd i’r cyfnod, lle gallwch ei olygu fel a welir o’r maes Nodau Dysgu uchod.

Nodyn: Mae gan bob tab hidlydd Blwyddyn Academaidd a/neu Myfyrwyr sy’n gweithredu’n annibynnol ar ei gilydd. Ni fydd newid hidlydd ar un o’r tabiau’n newid yr hidlydd ar y llall. Felly, os nad ydych chi’n gweld y data cywir, sicrhewch eich bod wedi gosod y flwyddyn academaidd gywir a’r grŵp/grwpiau cywir o fyfyrwyr. Os oes angen i chi newid yr hidlydd, defnyddiwch y cwymplenni a chlicio’r botwm Cymhwyso gwyrdd.


 

Yn Dorfol

Mae’r tab Myfyrwyr yn cynnig blychau ticio i’ch galluogi i reoli data yn dorfol.

Y flwyddyn ddiofyn fydd y flwyddyn academaidd gyfredol, a’r grŵp blwyddyn ddiofyn fydd y grŵp blwyddyn isaf a bennwyd ar eich safle dros Flwyddyn 12. Os nad oes unrhyw flwyddyn 12 neu’n uwch, bydd hyn yn mynd i’r grŵp blwyddyn isaf yn eich ysgol yn ddiofyn.

Cliciwch i mewn i’r hidlyddion i ddewis blwyddyn a grŵp myfyrwyr gwahanol, ac i ddewis a ydych am gynnwys myfyrwyr lle na bennwyd unrhyw brif nodau neu lle pennwyd sawl prif nod.

 

Gallwch ddefnyddio’r weithred torfol i bennu Nod Dysgu fel prif weithgaredd dysgu myfyriwr.
 

Fesul myfyriwr

Cliciwch ar fyfyriwr, a dewis Golygu.

Screenshot 2024-03-22 at 14.57.28.png
 

Defnyddiwch y gwymplen Categori Gweithgaredd Dysgu i bennu eich dewis, wedyn cliciwch Cadw’r Newidiadau.

Screenshot 2024-03-22 at 14.57.47.png
 

Diddymu Nod Dysgu myfyriwr yn sgil cwblhau, tynnu allan neu drosglwyddo

Pan fo myfyrwyr yn gadael cwrs, neu eich ysgol, rhaid i chi ddiddymu eu cofrestriad yn y Nod Dysgu hefyd. Gallwch wneud hyn naill ai trwy fynd i:

  • Myfyrwyr > Cofrestru > Nodau Dysgu a dewis y Nod Dysgu, wedyn yr Achlysur Nod Dysgu, neu
  • Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Diweddaru Torfol > Diweddaru Nodau Dysgu yn Dorfol > Tab Myfyrwyr.
     

Cwblhau Nod Dysgu

Os yw eich myfyrwyr wedi cwblhau eu Nod Dysgu, bydd angen i chi ddangos eu bod wedi cwblhau’r Nod Dysgu. Yn y tabl Myfyrwyr Cofrestredig:

  • Ticiwch y myfyrwyr
  • Cliciwch y botwm Gweithred Torfol
  • Dewiswch Cwblhau yn Dorfol

 

  • Yn y blwch llithro:  
    • Ychwanegwch y Dyddiad cwblhau (os yw hyn yn wahanol i ddyddiad gorffen cynlluniedig cyfnod y Nod Dysgu)
    • Ticiwch y blwch Cofrestru ar ôl cwblhau? os ydych am gofrestru’r myfyrwyr hyn ar nod dysgu arall yn syth ar ôl ei gwblhau
    • Ychwanegwch unrhyw Nodiadau
    • Cliciwch Cwblhau yn Dorfol
    • Cliciwch Cwblhau ar y naidlen i gadarnhau.

Ar ôl rhoi tic yn y blwch Cofrestru ar ôl cwblhau? nodwch fanylion cofrestriadau nesaf y myfyrwyr ar gyfer nodau dysgu a’u cadw (os na fyddwch chi’n gwneud hyn, ni fydd y nod dysgu yn cadw wedi ei Gwblhau).

Ar ôl marcio bod myfyriwr wedi cwblhau’r nod, bydd y tabl Myfyrwyr Cofrestredig yn dangos bod y myfyriwr wedi cwblhau’r Nod Dysgu, a’r dyddiad cwblhau go iawn.

Screenshot_2022-12-09_at_16.53.01.png
 

Newid statws Nod Dysgu o Cwblhawyd i Yn Parhau

Os bydd myfyriwr yn parhau â Nod Dysgu, gallwch newid eu statws o ran cwblhau’r Nod Dysgu nôl trwy ddileu’r dyddiad gorffen. Mae dwy ffordd o wneud hyn.
 

Fesul myfyriwr:

  • Cliciwch ar y myfyriwr
  • Yn y blwch llithro, cliciwch Golygu
  • Dilëwch y Dyddiad Gorffen Go Iawn
  • Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
     

Yn dorfol:

  • Yn y tabl Myfyrwyr Cofrestredig, cliciwch y blychau wrth enwau’r myfyrwyr rydych chi am eu golygu
  • Defnyddiwch Gweithredu Torfol
  • Dewiswch Diweddaru Dyddiad Gorffen Go Iawn yn Dorfol
  • Yn y blwch llithro, gwnewch yn siŵr bod y maes Dyddiad Gorffen Go Iawn yn wag
  • Cliciwch Diweddaru yn Dorfol
     

Tynnu myfyriwr allan o Nod Dysgu (a chwrs)

  • Ticiwch y blychau wrth enwau’r myfyrwyr rydych am eu tynnu allan
  • Cliciwch y botwm Gweithred Torfol
  • Dewiswch Tynnu Allan yn Dorfol.


 

  • Yn y blwch llithro, nodwch y dyddiad tynnu allan
  • Dewiswch Rheswm dros dynnu allan
  • Gadewch Nodyn (opsiynol)
  • Cliciwch Tynnu Allan yn Dorfol.

 

Os oes unrhyw fyfyrwyr wedi cofrestru ar y cwrs y mae’r Nod Dysgu yn gysylltiedig ag ef, gallwch ddewis beth i’w wneud â chofrestriad y myfyriwr ar y cwrs:

  • Tynnu Allan o Nod Dysgu yn unig - caiff myfyrwyr eu tynnu allan o’r Nod Dysgu, ond byddant yn aros yn gofrestredig ar y cwrs ac yn aros ar gofrestr y dosbarth.
  • Tynnu Allan o’r ddau - caiff myfyrwyr eu dileu o’r ddau, a chaiff y dyddiad gorffen ar gyfer tynnu allan o’r Nod Dysgu ei gymhwyso i’r cwrs fel y diwrnod olaf y bydd y myfyriwr yn ymddangos ar gofrestr y dosbarth.
     

 


Gallwch wneud hyn ar gyfer un myfyriwr trwy glicio ar eu henw a chlicio Tynnu Allan yn y blwch llithro.

 

Trosglwyddo myfyriwr

I drosglwyddo myfyriwr i Nod Dysgu gwahanol:

  • Cliciwch ar enw’r myfyriwr
  • Cliciwch Trosglwyddo yn y blwch llithro


 

  • Dewiswch y Rheswm dros drosglwyddo
  • Ychwanegwch Nodyn (opsiynol)

 

  • Yn yr adran Trosglwyddo i Nod Dysgu, dewiswch y Nod Dysgu newydd a’r cyfnod i’w trosglwyddo nhw iddynt.

 

  • Yn yr adran Trosglwyddo Cyrsiau:  
    • Dewiswch y Cwrs cyfredol i drosglwyddo’r myfyriwr ohono
    • Dewiswch y Cwrs newydd i’w trosglwyddo nhw iddo

      I ddewis cwrs newydd i’w trosglwyddo nhw iddo, bydd angen i chi fod wedi dewis Nod Dysgu yn uwch i fyny yn y blwch llithro. Bydd y blwch yma’n dangos unrhyw gwrs nad yw’r myfyriwr eisoes wedi cofrestru arno.  
    • Pennwch Dyddiad dechrau newydd ar gyfer cofrestru ar y cwrs newydd. Dyma’r diwrnod cyntaf y byddan nhw ar y cwrs newydd, y diwrnod cyn hynny fydd eu diwrnod olaf ar yr hen gwrs.
    • Cliciwch Trosglwyddo.

Bydd eu cofrestriad ar y Nod Dysgu a’r cwrs yn dod i ben y diwrnod cyn iddynt ddechrau eu cofrestriad ar eu Nod Dysgu a’u cwrs newydd.

Screenshot 2024-03-27 at 16.07.16.png
 

Awgrym: Mae yna sawl rheswm posibl pam na allwch drosglwyddo myfyriwr i gwrs newydd ynghyd â’r Nod Dysgu.

  • Nid yw’r myfyriwr wedi ei gofrestru ar y cwrs sy’n gysylltiedig â’r Nod Dysgu rydych chi’n trosglwyddo ohoni.
  • Maen nhw eisoes wedi cofrestru ar y cwrs newydd. Gallwch ddilysu cofrestriad myfyriwr ar eu proffil.
  • Nid oes cwrs yn gysylltiedig ag un neu’r ddau o’r Nodau Dysgu.

Screenshot 2024-03-27 at 16.02.15.png
 

Diweddaru neu ddileu’r dyddiadau dechrau a gorffen

Gallwch glicio ar fyfyriwr unigol i ddiwygio dyddiadau dechrau a gorffen eu cofrestriad ar Nod Dysgu trwy glicio Golygu ar y blwch llithro.

Gallwch ddiweddaru’r rhain yn dorfol trwy ddilyn y camau hyn:

  • Dewiswch y myfyrwyr gan ddefnyddio’r blychau ticio
  • Defnyddiwch y botwm Gweithred Torfol
  • Dewiswch Diweddaru Dyddiad Dechrau Cynlluniedig, Dyddiad Gorffen Cynllunedig, neu Dyddiad Gorffen Go Iawn yn Dorfol yn dibynnu beth rydych am ei newid

 

  • Yn y blwch llithro, dewiswch y dyddiad newydd i’w roi ar waith
  • Cliciwch Diweddaru yn dorfol.

Awgrym: Dilëwch y gwerthoedd yn y maes dyddiadau i ddileu’r dyddiad.


 

Adio a rheoli Rhaglenni Astudio

Gallwch ddod o hyd i raglenni astudio o dan Myfyrwyr > Cofrestru > Academaidd > Rhaglenni Astudio ac ar Tudalen cofrestru proffiliau myfyrwyr.
 

Adio Rhaglenni Astudio a Chyfnodau

I adio rhaglen astudio newydd:

  • Ewch i Myfyrwyr > Cofrestru > Academaidd > Rhaglenni Astudio
  • Cliciwch y botwm +Adio gwyrdd
  • Ar y blwch llithro, defnyddiwch y gwymplen Rhaglen i ddewis y rhaglen briodol. Chwiliwch am y rhaglen yn ôl cyfeirnod neu enw, neu sgroliwch trwy’r rhestr. Rhestrir y rhaglenni sydd ar gael yn y Cyfeirlyfr Rhaglenni, sy’n cynnwys tua 250 o wahanol raglenni: Cyfeirlyfr Rhaglenni 2024-25
  • (Opsiynol) Defnyddiwch y maes Enw byr i roi enw pwrpasol i’ch rhaglen fel ei bod yn haws ei hadnabod
  • Cliciwch y botwm gwyrdd Adio Rhaglen astudio

 

Ar ôl ei adio, cewch eich ailgyfeirio i dudalen Trosolwg y Rhaglen Astudio newydd. Gallwch fynd i’r dudalen hefyd trwy fynd i Myfyrwyr > Cofrestru > Academaidd > Rhaglenni astudio a chlicio ar y rhaglen berthnasol. Oddi yma, gallwch ychwanegu Cyfnodau Rhaglenni Astudio (amserlenni’r rhaglenni astudio) trwy ddilyn y camau hyn:

  • Cliciwch y botwm +Adio gwyrdd
  • Yn y blwch llithro, ychwanegwch fanylion Cyfnod y Rhaglen Astudio:  
    • Enw (opsiynol) - Bydd adio enw opsiynol yn eich galluogi i glustnodi Cyfnod y Rhaglen Astudio yn gyflym. Gallech ddewis defnyddio enw’r rhaglen astudio ac amcan ynghylch am ba hyd y bydd y nod dysgu’n rhedeg. Wrth adael hyn yn wag, bydd yn newid yn ddiofyn i enw’r Rhaglen Astudio (neu’r enw byr os rhoddwyd un) wedyn y dyddiadau dechrau a gorffen cynlluniedig os rhoddwyd y rhain), a’r dyddiadau dechrau a gorffen cynlluniedig, e.e. 2 A2 - 2 A1 (dyddiad dechrau cynlluniedig - dyddiad gorffen cynlluniedig).
    • Dyddiadau cynlluniedig - adiwch ddyddiadau dechrau a gorffen cynlluniedig Cyfnod y Rhaglen Astudio
    • Blwyddyn y rhaglen - pennwch flwyddyn y rhaglen astudio y mae’r achlysur yn ymwneud â hi
    • Oriau cyswllt dan arweiniad - mae hyn yn eich galluogi i bennu amcangyfrif diofyn o nifer yr oriau cyswllt ar gyfer addysgu, hyfforddi neu asesu ar gyfer myfyrwyr sy’n cael eu cofrestru ar gyfer y cyfnod o dan sylw

 

Cofrestru myfyrwyr ar Raglen Astudio

I gofrestru myfyrwyr ar Raglen Astudio, ewch i’r Cyfnod perthnasol (Myfyrwyr > Cofrestru > Academaidd . Rhaglenni Astudio, cliciwch ar y Rhaglenni Astudio perthnasol wedyn y Cyfnod), a dilynwch y camau hyn:

  • Cliciwch y botwm +Adio yn yr adran Myfyrwyr Cofrestredig
  • Yn y naidlen, dewiswch Cofrestru myfyrwyr o’r rhestr o fyfyrwyr neu Cofrestru myfyrwyr o’r Nodau Dysgu. Bydd yr opsiwn cyntaf yn eich galluogi i gofrestru myfyrwyr penodol ar gwymplen, a’r ail yn eich galluogi i adio’r holl fyfyrwyr sydd wedi eu cofrestru mewn Cyfnod Nod Dysgu penodol yr un pryd.

  • Yn y blwch llithro, defnyddiwch y gwymplen i bennu pa fyfyrwyr neu nodau dysgu i’w cofrestru. OS ydych chi’n cofrestru yn seiliedig ar nod dysgu, defnyddiwch y dyddiad Gweithredol o i adio myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar y nod(au) dysgu dethol o’r dyddiad gweithredol
  • Pennwch y dyddiadau dechrau a gorffen cynlluniedig ar gyfer cofrestriad Cyfnod Rhaglenni Astudio’r myfyrwyr
  • Cliciwch Cofrestru myfyrwyr 
     

Diweddaru statws Cwblhau Rhaglenni Astudio

Mae 5 gwahanol statws ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Astudio yng Nghymru:

  • Yn parhau
  • Wedi cwblhau
  • Wedi tynnu allan
  • Wedi trosglwyddo i raglen newydd gyda’r un darparydd
  • Wedi trosglwyddo rhaglen i ddarparydd arall

Bydd gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Gyfnod Rhaglen Astudio ond sydd heb Ddyddiad gorffen go iawn statws Yn Parhau. I newid statws arall nôl i Yn Parhau, gallwch naill ai:

  • Clicio ar y myfyriwr
  • Clicio Golygu yn y blwch llithro
  • Dileu’r Dyddiad Gorffen Go Iawn
  • Clicio Cadw

NEU

  • Ticio’r blychau wrth ymyl y myfyrwyr rydych am eu newid
  • Defnyddio’r botwm Gweithredu Torfol gwyrdd a dewis Diweddaru Dyddiad Gorffen Go Iawn yn Dorfol
  • Dileu’r dyddiad o’r maes Dyddiad gorffen go iawn
  • Clicio Diweddaru yn Dorfol


 

I farcio bod y myfyrwyr Wedi tynnu allan, gallwch naill ai:

  • Clicio ar y myfyriwr
  • Clicio Tynnu Allan
  • Adio Dyddiad gorffen
  • Clicio Tynnu Myfyriwr Allan

NEU

  • Ticio’r blychau wrth ymyl y myfyrwyr rydych am eu diweddaru
  • Defnyddio’r botwm Gweithredu torfol gwyrdd a dewis Tynnu Allan yn Dorfol
  • Nodi’r dyddiad Tynnu Allan yn y blwch llithro
  • Clicio Tynnu Allan yn Dorfol.

 

I farcio myfyriwr fel Wedi cwblhau:

  • Ticiwch y blychau wrth ymyl enwau’r myfyrwyr rydych am eu diweddaru
  • Defnyddiwch y botwm Gweithredu torfol gwyrdd a dewis Cwblhau yn Dorfol
  • Gosodwch y Dyddiad cwblhau yn y blwch llithro neu gadewch y blwch yn wag i ddefnyddio’r dyddiad gorffen cynlluniedig
  • Cliciwch Cwblhau yn Dorfol

 

I farcio myfyriwr â statws Trosglwyddo:

  • Cliciwch y myfyriwr â statws Yn Parhau
  • Cliciwch Trosglwyddo yn y blwch llithro
  • Dewiswch a ydych am eu trosglwyddo i raglen gyda’r un darparydd neu â darparydd gwahanol  
    • Os ydyn nhw’n aros gyda’r un darparydd, gosodwch Dyddiad gorffen ar gyfer y rhaglen gyfredol, a defnyddio’r adran Trosglwyddo i Raglen Astudio i gofnodi manylion y rhaglen newydd i’w trosglwyddo iddi
    • Os yw’r myfyriwr yn mynd i ddarparydd gwahanol, yn syml, pennwch Ddyddiad gorffen
  • Cliciwch Trosglwyddo myfyriwr 
     

Diweddaru oriau cyswllt dan arweiniad, blwyddyn y rhaglen neu ddyddiadau cynlluniedig

Mae yna ddwy ffordd o ddiweddaru Oriau Cyswllt dan Arweiniad, a thair ffordd o ddiweddaru blwyddyn y rhaglen a dyddiadau cynlluniedig

Yr opsiwn cyntaf yw newid blwyddyn neu ddyddiadau diofyn yr Oriau Cyswllt dan Arweiniad. Bydd diweddaru’r gwerthoedd diofyn yn newid y gwerthoedd cyfatebol ar gyfer unrhyw fyfyrwyr y mae’r gwerth diofyn cyfredol wedi ei bennu ar eu cyfer. Er enghraifft, os oes dau fyfyriwr gennych, y mae gan y naill 400 awr a’r llall 500 awr, ac mae eich gwerth diofyn wedi ei bennu yn 400, bydd newid y gwerth diofyn i 450 yn diweddaru oriau’r myfyriwr cyntaf yn unig. I wneud hyn:

  • Cliciwch Oriau Cyswllt dan Arweiniad, Blwyddyn y Rhaglen neu un o’r dyddiadau cynlluniedig yn yr adran Gwerthoedd Diofyn Cofrestriadau’r Rhaglen Astudio.
  • Yn y blwch llithro, golygwch y gwerth diofyn perthnasol
  • Cliciwch Cadw’r Newidiadau

 

Yr ail opsiwn yw diweddaru’r oriau fesul myfyriwr unigol

  • Cliciwch ar y myfyriwr yn adran Myfyrwyr Cofrestredig Cyfnod y Rhaglen Astudio
  • Yn y blwch llithro, cliciwch Golygu
  • Diweddarwch yr Oriau Cyswllt dan Arweiniad, Blwyddyn neu Dyddiadau’r rhaglen
  • Cliciwch Cadw’r Newidiadau 
     

Y trydydd opsiwn yw defnyddio Gweithredu torfol. Dylid nodi nad yw’r opsiwn yma ar gael ar gyfer Oriau Cyswllt dan Arweiniad:

  • Ticiwch y blychau wrth enwau’r myfyrwyr rydych am eu diweddaru
  • Cliciwch Gweithredu torfol a dewis beth rydych chi am ei ddiweddaru
  • Nodwch y gwerthoedd newydd yn y blwch llithro
  • Cliciwch y botwm gwyrdd i gadarnhau

 

Dileu Cofrestriad ar Gyfnod Rhaglen Astudio

Os ychwanegwyd cofrestriad ar gyfer myfyriwr ar Raglen Astudio ar ddamwain, gallwch ddilyn y camau hyn i ddileu’r cofrestriad:

  • Ewch i Gyfnod y Rhaglen Astudio perthnasol trwy Myfyrwyr > Cofrestru > Academaidd > Rhaglenni Astudio neu ewch i’r dudalen Cofrestru ar broffil y myfyriwr
  • Cliciwch ar y cofrestriad
  • Yn y blwch llithro, cliciwch Dileu
  • Cliciwch Dileu eto i gadarnhau
Oedd yr erthygl yma o gymorth?
0 allan o 0 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.