Rydyn ni wedi diweddaru’r opsiynau o ran gallu iaith ar gyfer myfyrwyr a staff ar safleoedd Arbor Cymru fel bod Cymraeg a Saesneg bellach wedi eu rhestru ar wahân. Roedd y rhain yn arfer bod yn gyfunol, oedd yn golygu nad oedd rhai nodweddion AI, fel Awgrymu E-bost, yn gallu penderfynu pa iaith i’w defnyddio.
Awgrym byr!
Oeddech chi’n gwybod mai’r ffordd gyflymaf o ddrafftio gohebiaeth yw defnyddio Arbor AI?
Pan welwch chi Awgrymu E-bost neu Awgrymu SMS, cliciwch y botwm a rhowch amlinelliad byr o’r hyn rydych am ddweud, dewiswch eich arddull (a hyd yn oed iaith), a bydd yn creu drafft pwrpasol perffaith i chi o fewn eiliadau!
Beth fydd effaith hyn?
Ni fydd y newid yma’n effeithio ar eich cyfrifiadau/datganiadau. Mae’r opsiwn Cymraeg a/neu Saesneg yn dal i fod ar gael ar broffiliau myfyrwyr a staff at ddibenion cyfrifiadau. Bydd datganiadau statudol yng Nghymru’n parhau i greu allbwn Cymraeg, Saesneg a Chymraeg a/neu Saesneg o dan yr un cod statudol, sef: Cymraeg a/neu Saesneg (ABA).
Er ei bod hi bellach yn bosibl cofnodi Cymraeg a Saesneg yn unigol ar gyfer myfyriwr, nid oes angen gwneud hyn at ddibenion y cyfrifiad.
Sgiliau Iaith neu Ieithoedd Cyntaf
Wrth bennu neu newid Sgiliau Iaith neu Iaith Gyntaf myfyrwyr a staff ar safleoedd Arbor Cymru, gallwch ddewis y gwahanol opsiynau hyn:
- Saesneg
- Cymraeg
- Cymraeg a/neu Saesneg
Ni fydd unigolion oedd wedi cofnodi Cymraeg a/neu Saesneg o’r blaen yn gweld unrhyw newid ar eu proffil oni bai bod gweinyddwr yn newid hyn â llaw.
Adroddiadau Pwrpasol
Mae’n bosibl y sylwch chi nad yw rhai o’ch hidlyddion adrodd yn gweithio fel yr oedden nhw o’r blaen.
Mae’n bosibl na fydd adroddiadau pwrpasol Ysgrifenwyr Adroddiadau a oedd yn arfer hidlo yn ôl “Cymraeg a/neu Saesneg” yn codi’r un grŵp o fyfyrwyr neu staff mwyach am nad fyddan nhw’n cynnwys y rhai a gofnodwyd fel siaradwyr naill ai Saesneg neu Gymraeg ar wahân.
Byddai angen i’r adroddiadau hyn gynnwys Cymraeg a Saesneg ar wahân yn yr hidlydd, yn ogystal â’r opsiwn cyfunol, i gynnwys yr un myfyrwyr yn yr allbwn.
I ddisodli’r hen hidlydd:
- Ffeindiwch eich Adroddiad Pwrpasol (Ysgol > Ysgrifennwr Adroddiadau Pwrpasol) a’i agor
- Cliciwch y botwm Golygu
- Sgroliwch i’r adran Hidlyddion a chlicio’r Pensil wrth ymyl yr hidlydd Iaith
- Yn y blwch llithro, gwnewch yn siŵr bod amodau’r hilydd wedi eu gosod i Yn un o… a’u bod yn cynnwys Cymraeg a Saesneg fel dau opsiwn ar wahân, yn ogystal â’r opsiwn cyfunol
- Cliciwch Cadw’r Newidiadau
Cyfrifiadau a Datganiadau
Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar eich datganiadau cyfrifiad neu’ch data. Mae’r opsiwn Cymraeg a/neu Saesneg yn dal i fod ar gael ar broffiliau myfyrwyr a staff at ddibenion cyfrifiadau. Bydd datganiadau statudol yng Nghymru yn parhau i allbynnu Cymraeg, Saesneg a Chymraeg a/neu Saesneg o dan yr un cod statudol: Cymraeg a/neu Saesneg (ABA).
Er ei bod hi’n bosibl cofnodi Cymraeg a Saesneg ar wahân ar gyfer person erbyn hyn, nid oes angen gwneud hyn ar gyfer y cyfrifiad.
Sut mae defnyddio’r nodwedd Awgrymu e-bost gyda’r ieithoedd newydd?
Gallwch gynhyrchu e-byst posibl yn y naill iaith neu’r llall trwy ddilyn y camau hyn:
- Ewch i Ysgol > Gohebiaeth > Creu > E-bost
- Cliciwch y botwm Awgrymu E-bost gwyrdd yn y gornel uchaf ar y dde
- Dewiswch naill ai Cymraeg neu Saesneg o’r gwymplen Iaith/Ieithoedd
- Nodwch y manylion rydych chi am i’r e-bost eu cynnwys, a defnyddiwch y blychau ticio i awgrymu arddull
- Cliciwch Awgrymu E-bost
Noder: nid yw’r opsiwn Cymraeg a/neu Saesneg cyfunol yn ymddangos yn y gwymplen Awgrymu e-bost. Gallwch ddewis dethol Cymraeg a Saesneg, ac os felly, bydd Arbor yn cynhyrchu fersiwn ag un iaith ar ben y llall o fewn un neges.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.