Mae ein hysgol wedi ei gosod fel safle yn Lloegr, oes modd ei throsi’n safle ar gyfer ysgol yng Nghymru/Ynys Manaw/Cayman/yr Alban neu i’r gwrthwyneb?

Yn anffodus, nid yw hynny’n bosibl. Mae hyn am fod yna ormod o eitemau data yn y cefndir a fydd yn anghywir o “drosi” y safle.

Er enghraifft mae statws AAA yn Lloegr yn wahanol i statws ADY yng Nghymru, ac ni ellir mapio’r rhain yn unigol yn effeithiol, felly byddai trosi o fersiwn Lloegr o Arbor i fersiwn Cymru’n achosi pob math o anghysonderau o ran data.

Yr unig opsiwn i newid safle (e.e. o Loegr i Gymru) yw i chi ofyn am safle newydd o’r math cywir, wedyn ail-gofnodi’r data fel petaech yn creu safle’r ysgol o’r newydd. Mae rhagor am y broses yna yma: Cyn cychwyn arni – Trosi â llaw

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
0 allan o 0 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.