Y canllaw hwn a hyfforddiant pellach
Mae’r canllaw hwn yn un o gyfres o ganllawiau cyflwyno ar gyfer defnyddwyr newydd.
- Gallwch weld canllawiau eraill ar gyfer Swyddogion Arholiadau, Swyddogion Presenoldeb neu ddefnyddwyr MIS MAT yma: Canllawiau hyfforddi i ddefnyddwyr newydd
- Gallwch weld ein canllawiau i athrawon yma: Canllaw i Athrawon newydd
Os ydych am gael hyfforddiant pellach, mae’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yma: Gwasanaethau Addysg a Hyfforddiant i Gwsmeriaid. Wedyn cysylltwch â customersales@arbor-education.com os ydych yn dod o dan gymorth Arbor, neu eich Partner Cymorth os nad ydych chi’n dod o dan gymorth Arbor.
Mae’r canllaw hwn yn cynnig cyflwyniad i Arbor ar gyfer gweinyddwyr, rheolwyr data, a staff swyddfa gefn arall. Mae’n trafod rheoli mynediad i ddefnyddwyr, tasgau AD, gweinyddu myfyrwyr ac ansawdd data. Mae’n cynnwys cyfarwyddiadau ar fewngofnodi, rheoli rolau staff, diweddaru proffiliau myfyrwyr, ymdrin â phresenoldeb, a chynhyrchu adroddiadau. Nod y canllaw yw symleiddio tasgau gweinyddol a gwella sut mae data’n cael ei reoli mewn ysgolion sy’n defnyddio Arbor.
Dyluniwyd Arbor i agor data i fyny i bawb, ac awtomeiddio tasgau ailadroddus er mwyn arbed amser i chi. Adeiladwyd proffiliau myfyrwyr, staff a gwarcheidwaid yn bwrpasol fel y gall staff gweinyddol fel chi weld trosolwg ar gyfer pawb yn eich ysol, a bydd ein tudalennau gweithredu torfol a’n Dangosfwrdd Ansawdd Data yn eich helpu chi i gymoni ac ychwanegu data.
Mae’r canllaw hwn yn cynnig cyflwyniad i reoli mynediad defnyddwyr at y MIS, tasgau gweinyddol cyffredin o ran AD a myfyrwyr, a bydd yn eich dysgu chi sut i gyflawni’r camau pwysicaf yn eich gwaith pob dydd.
Mewngofnodi
Mewngofnodi eich hun
Os nad ydych chi wedi mewngofnodi i Arbor eto, croeso! Mae eich ysgol bellach yn fyw, ac mae hi’n amser mewngofnodi.
Lansiwch borwr y rhyngrwyd - rydyn ni’n argymell Google Chrome, ac ewch i URL eich ysgol, e.e. http://[enwysgolenghreifftiol].uk.arbor.sc. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn adran Mewngofnodi am y tro cyntaf yr erthygl hon: Mewngofnodi ac allgofnodi o MIS yr Ysgol fel staff
Os nad yw hynny’n gweithio, cysylltwch â rhywun arall yn nhîm swyddfa’ch ysgol a fydd yn gallu anfon cyfrinair mewngofnodi atoch, a dilynwch y canllawiau ar ddatrys problemau sydd yn yr erthygl hon.
Helpu aelodau eraill o staff i fewngofnodi
Ar ôl mewngofnodi, mae’n bosibl y bydd angen i chi helpu aelodau eraill o staff i fewngofnodi hefyd. Gallwch anfon e-bost croeso at yr holl staff, sy’n cynnwys eu henw defnyddiwr a linc i osod cyfrinair. Gallwch osod cyfrinair ar eu cyfer â llaw hefyd, neu ofyn iddyn nhw ailosod eu cyfrinair os ydyn nhw’n cael trafferth i fewngofnodi.
Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr adran Helpu aelodau eraill o staff i fewngofnodi yn yr erthygl hon: Mewngofnodi ac Allgofnodi i MIS yr Ysgol fel staff a datrys problemau mewngofnodi
Awgrym: Y broblem fwyaf cyffredin i staff yw bod y system yn gofyn iddyn nhw adio Dyddiad geni wrth fewngofnodi. Mae hyn yn golygu bod y system yn ceisio eu mewngofnodi i hen broffil gwarcheidwad - dilynwch y cyfarwyddiadau hyn i ddileu’r cyfeiriad e-bost ar yr hen broffil.
Anfon manylion mewngofnodi at Warcheidwaid
Os yw eich ysgol eisoes wedi cynnau’r Porth Rhieni, mae’n bosibl; y bydd angen i chi gynorthwyo Prif Warcheidwaid i fewngofnodi. Mae rhagor o fanylion am hyn yma: Cychwyn arni gyda’r Porth Rhieni a’r Ap Rhieni.
Gallwch dracio ymgysylltiad rhieni, ac anfon e-byst mewngofnodi o’n tudalen Myfyrwyr > Rhieni a Gwarcheidwaid > Defnydd o’r Porth Rhieni. Oddi yma, gallwch ddewis pob gwarcheidwad, neu un gwarcheidwad penodol sydd angen mewngofnodi gan ddefnyddio gweithredu torfol. Gallwch weld cyfarwyddiadau llawn sut i wneud hyn yma: Anfon ac ail-anfon manylion mewngofnodi at Warcheidwaid.
Mae yna sawl rheswm pam y gallai rhieni gael trafferth mewngofnodi i’r Ap Rhieni neu’r Porth Rhieni. Gallwch rannu’r erthygl hon â rhieni i’w cynorthwyo i ddatrys y problemau mewngofnodi y maent yn eu profi, ac i’ch helpu chi i benderfynu beth yw’r broblem. Defnyddiwch yr awgrymiadau yn yr erthygl hon i ddatrys y broblem cyn ei chodi gyda Thîm Cymorth Arbor os ydych chi dan adain Arbor, neu eich Partner Cymorth os nad ydych chi dan adain Arbor.
Fy Nhudalen Hafan
Dyma’r sgrin gyntaf y gwelwch chi wrth fewngofnodi i safle Arbor eich ysgol.
- Prif ddewislenni a linciau i’r safle
- Chwilio
- Ffefrynnau
- Fy Nghalendr
- Tasgau
- Hysbysiadau
- Cyhoeddiadau’r ysgol
- Dangosyddion perfformiad allweddol (DPA)
Mae dadansoddiad llawn o sut y gallwch ddefnyddio pob adran yma: Fy Hafan - eich Tudalen Hafan Arbor wedi ei phersonoli
Pam mae fy nhudalen i’n edrych yn wahanol i dudalennau’r athrawon?
Os ydych chi’n weinyddwr heb unrhyw gyfrifoldebau addysgu neu fugeiliol, bydd eich tudalen hafan yn edrych yn wahanol i dudalennau’r staff arall yn eich ysgol.
- Welwch chi ddim cofrestrau presenoldeb anghyflawn yn eich adran Tasgau.
- Fyddwch chi ddim yn derbyn y rhan fwyaf o hysbysiadau am nad ydych chi’n gysylltiedig â myfyrwyr penodol.
- Welwch chi ddim y tab Fy Myfyrwyr, ond fe allwch chi ddrilio i lawr i DPA eich ysgol gyfan.
Mynediad i weinyddwyr a staff AD
Rheoli mynediad â rolau busnes a chaniatâd
Rolau busnes sy’n rheoli pa feysydd o Arbor y gall staff eu cyrchu. Rhaid rhoi Rôl Busnes i bob aelod o staff er mwyn iddynt allu mewngofnodi i Arbor.
Gallwch weld sut i ddarparu mynediad ar gyfer staff yma: Adio Rôl Busnes at aelod o staff
Awgrym: Er mwyn i Ganiatâd sy’n gysylltiedig â Rôl Busnes ddod i rym - bydd angen i’r aelod o staff allgofnodi o Arbor a mewngofnodi eto.
Daw pob rôl busnes yn Arbor â set ddiofyn o ganiatadau er mwyn galluogi’r aelod o staff i gyflawni’r tasgau sy’n gysylltiedig â’i rôl, gweld neu olygu meysydd penodol, neu gymryd rhai mathau o gamau. Dylid nodi na chewch chi greu rolau newydd.
Er enghraifft, mae gan athrawon ganiatâd diofyn i gymryd cofrestrau ar gyfer eu dosbarthiadau, ond nid oes ganddynt ganiatâd i gymryd y gofrestr ar gyfer pob dosbarth.
Os ffeindiwch chi fod angen i aelod o staff fod yn gallu cymryd camau ychwanegol yn Arbor, gallwch roi caniatâd iddyn nhw wneud y peth penodol yna yn hytrach na rhoi rhagor o rolau busnes iddynt: Rhoi caniatâd Ad-Hoc
Gallwch weld sut i ddileu mynediad yma: Tynnu caniatâd defnyddiwr
Os nad yw aelod o staff yn gweithio yn yr ysgol mwyach, rhaid i chi dynnu eu Rôl Busnes. Ni fyddan nhw’n gallu cyrchu Arbor ar ôl dyddiad gorffen eu Rôl Busnes. I ddysgu sut i ddod â chyflogaeth aelod o staff i ben a thynnu eu Rôl Busnes, cliciwch yma.
Diweddaru archwiliadau staff a defnyddio’r Cofnod Canolog Sengl o Staff
Rhaid i bob ysgol gadw cofnod canolog sengl cyfredol er mwyn sicrhau y cyflawnwyd yr holl archwiliadau a chamau diogelu er mwyn cadw eu myfyrwyr yn ddiogel. Mae gan Arbor dudalen bwrpasol sy’n eich galluogi chi i sicrhau bod gennych chi’r holl wybodaeth angenrheidiol am eich aelodau o staff, gallwch ddarllen am hyn yma: Gwirio a diweddaru Manylion Staff i Gofnod Canolog Sengl (SCR) yr Ysgol
Ni allwch lanlwytho i’r SCR yn dorfol, er enghraifft o daenlen, ond gallwch ddiweddaru’r archwiliadau o Ysgol > Holl Staff > Gweinyddu AD > Archwiliadau > Rheoli Mathau o Archwiliad. Ar y dudalen hon, gallwch ddefnyddio’r botwm Gweithredu torfol i ddiweddaru’r archwiliad. Mae rhagor o wybodaeth yma: Adio gwiriadau a chymwysterau staff
Os ydych am olygu manylion un aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r bar chwilio yn y gornel uchaf ar y dde neu’r dudalen Pori staff i ddod o hyd i’w proffil staff, a golygu’r proffil yn uniongyrchol oddi yno.
Awgrym: Cliciwch ar unrhyw faes â symbol > i weld rhagor o fanylion neu i’w olygu.
Adio contractau staff
O adran Contractau’r proffil staff, gallwch olygu neu adio contractau. Wrth adio contract newydd, gwnewch yn siŵr bod y Swydd gywir yn bodoli fel y gellir ei chofnodi ar gyfer Cyfrifiad y Gweithlu - mae rhagor o ganllawiau yma.
Gallwch ddewis a ydych am gynnwys yr aelod o staff yng Nghyfrifiad y Gweithlu ai peidio hefyd. Gallwch ddewis diystyru’r holl gontractau staff, neu rai penodol y unig, wrth gyflwyno’r wybodaeth trwy sianel wahanol – mae’r opsiynau sydd ar gael i chi yma.
Enw’r contract staff fydd yn ymddangos mewn canlyniadau chwilio yn Arbor, a’ch llofnod wrth anfon gohebiaeth. Os yw hyn yn anghywir:
- Os nad oes contract gan yr aelod o staff eto, gallwch adio un i newid eu teitl o Staff i’w rôl go iawn.
- Os oes contract ganddynt, dewiswch y contract, wedyn sgroliwch i lawr i fanylion y contract. Os nad oes teitl swydd yno, y Swydd a ddewiswyd fydd y rôl staff yn ddiofyn. I ddiwygio’r rôl, gallwch adio teitl swydd neu newid yr enw.
Gweinyddu Myfyrwyr
Yn Arbor, mae holl ddata myfyrwyr unigol yn cael ei storio ar Broffil y Myfyriwr. Gallwch ddefnyddio chwiliad pob dim neu’r dudalen Myfyrwyr > Pob Myfyriwr > Pori Myfyrwyr i ddod o hyd i’w proffil, a’i olygu yn uniongyrchol oddi yno.
Gallwch weld manylion llawn yr hyn y gallwch ei weld, ei olygu a’i wneud yma: Proffil y Myfyriwr
Awgrym: Cliciwch ar unrhyw faes â symbol > i weld rhagor o fanylion neu ei olygu.
AAA a chefndir myfyrwyr (Premiwm Disgyblion, Prydau Ysgol am Ddim)
Mae rhai o’r tagiau sy’n ymddangos ar gerdyn proffil y plentyn, fel Prydau Ysgol am Ddim, yn seiliedig ar Ddangosyddion Cefndir sy’n cael eu cyfrifo’n awtomatig. Gallwch olygu’r rhain o adran Cefndir proffil y myfyriwr.
Mae’r premiwm disgyblion ychydig bach yn wahanol, ac nid yw’n cael ei reoli ar sail blwch ticio fel yr oedd yn eich hen system MIS siŵr o fod. I bennu disgybl fel un sy’n Gymwys am Bremiwm Disgyblion (a allai fod yn derbyn cyllid), mae angen iddynt fod â Dangosyddion Cefndir penodol, fel y disgrifir yma.
Caiff y data yma ei gyflwyno yn y cyfrifiad wedyn, a bydd yr Adran Addysg yn ei ddefnyddio i helpu i bennu pwy ddylai gael eu gosod fel Derbynwyr Premiwm Disgyblion. Gallwch weld rhagor o fanylion, gan gynnwys sut i fewnforio data am Dderbynwyr Premiwm Disgyblion yma: Cymwys am Bremiwm Disgyblion vs Derbyn Premiwm Disgyblion.
Cliciwch i mewn i’r adran Anghenion Addysgol o’r ddewislen ar y chwith i weld anghenion y myfyriwr neu eu cofnodi fel myfyriwr ag AAA: Adio AAA (Angen Addysg Arbennig) ar gyfer myfyriwr.
Cofrestru yn yr ysgol a chofrestrau
Un rhan o broffil y myfyriwr sy’n bwysig dros ben yw’r adran Cofrestru. Yma gallwch weld y gofrestrau y bydd y plentyn yn ymddangos ynddynt, ac mae hi’n bwysig gwneud hyn yn iawn er mwyn atal gwallau yn y Cyfrifiad.
Gallwch olygu’r holl wybodaeth yma trwy glicio ar y maes o dan sylw neu adio cofrestriad newydd trwy glicio +Adio.
Os yw’r myfyriwr wedi ei gofrestru yn eich ysgol yn anghywir, neu os oes angen newid eu dyddiad cofrestru, cliciwch ar eu cofrestriad yn eich ysgol ar frig y dudalen.
Yn y blwch llithro, cliciwch Golygu, wedyn gallwch wneud y newidiadau. Bydd y rhain yn gymwys i’r holl gofrestriadau o dan sylw. Er enghraifft, os na fwriadwyd i’r myfyriwr gael ei gofrestru yn eich ysgol, cliciwch Dileu.
Yn olaf, sicrhewch fod y dull o gofrestru rydych chi wedi ei ddewis yn gywir. Os na ddewiswyd dull, bydd y system yn cymryd bod y myfyriwr yn fyfyriwr â chofrestriad sengl, ac mai eich ysgol chi yw’r unig ysgol y mae’r myfyriwr yn ei mynychu. Yr opsiynau eraill yw Cofrestriad deuol a Disgybl gwadd (dylid defnyddio hyn os ydych chi’n cofnodi disgyblion meithrin o ddarparydd preifat, gwirfoddol neu annibynnol arall hefyd - mae rhagor o fanylion am hyn yma).
Perthnasau rhwng gwarcheidwaid a myfyrwyr
Yn adran Teulu, Gwarcheidwaid a phobl gyswllt proffil y myfyriwr, gallwch reoli holl aelodau teulu’r plentyn, adio Gwarcheidwaid newydd a phennu blaenoriaeth pobl gyswllt mewn argyfwng er mwyn rheoli pa aelodau o’r teulu y dylid cysylltu â nhw neu a gaiff gasglu’r plentyn.
- Gallwch weld sut i adio gwarcheidwad, a’r gwahaniaeth rhwng prif warcheidwaid a gwarcheidwaid cyfreithiol yma: Aseinio perthnasau fel Prif Warcheidwaid neu Warcheidwaid Cyfreithiol
- Wedyn gallwch weld sut i reoli’r gosodiadau hyn yn dorfol yma: Diweddaru manylion cyswllt neu ddad-tanysgrifio o dderbyn gohebiaeth
Rheoli data defnyddwyr
Mae’r Dangosfwrdd Ansawdd Data yn eich galluogi chi i weld ac adio data coll am ddefnyddwyr sy’n Staff, Myfyrwyr, a Gwarcheidwaid yn Arbor. Gallwch weld sut mae hyn yn gweithio yma: : Defnyddio’r Dangosfwrdd Ansawdd Data
Datrys Dyblygu
Gallwch glustnodi a datrys achosion posibl o ddyblygu yn Ysgol > Data > Dangosfwrdd Ansawdd Data > Dyblygu Posibl:
- cofnodion myfyrwyr dyblyg er mwyn paratoi ar gyfer Cyfrifiad Ysgolion yr Adran Addysg (fel y gwelir isod)
- cofnodion gwarcheidwaid dyblyg i wella cyfathrebu â gwarcheidwaid ac arbed y gost sydd ynghlwm wrth orfod anfon nifer o negeseuon testun at yr un gwarcheidwaid
- cofnodion staff dyblyg er mwyn paratoi ar gyfer Cyfrifiad yr Adran Addysg o’r Gweithlu Ysgolion
Gallwch ddefnyddio’r maes yma i ddileu cyfeiriadau e-bost dyblyg hefyd, am y bydd angen i chi wneud yn siŵr fod gan yr holl broffiliau defnyddwyr gyfeiriadau e-bost unigryw i’w galluogi i fewngofnodi i’r proffil cywir: Gwirio am gyfeiriadau e-bost dyblyg
Cadw Data a dileu proffiliau
Mae gennym Ddangosfyrddau Cadw Data ar gyfer cofnodion personol hefyd, sy’n amlygu’r cofnodion sydd wedi mynd y tu hwnt i’r cyfnod ar gyfer cadw’r data fel y gellir eu dileu yn dorfol. Gallwch weld sut i reoli hyn yma: Rheoli cadw data ar gyfer data eich MIS
Amserlennu
Newid eich amserlen
Gellir gwneud diwygiadau sylfaenol i amserlenni, fel newid arweinwyr academaidd, newid ystafelloedd, golygu slotiau ar yr amserlen neu newid amserau gwersi yn Arbor. Golygu slotiau ar yr amserlen, amserau gwersi, ystafelloedd a staff
Gallwch fewnforio amserlenni newydd gan ein partneriaid darparu amserlenni, sef Edval neu TimeTabler hefyd. Cyn mewnforio eich ffeil, darllenwch y canllawiau isod er mwyn sicrhau eich bod chi’n dilyn y broses gywir yn dibynnu pryd rydych chi’n mewnforio’r ffeil.
- Edval: Y camau i’w cymryd cyn Mewnforio o Edval
- TimeTabler: Y camau i’w cymryd wrth fewnforio canol-blwyddyn neu ar gyfer y flwyddyn nesaf
Gallwch weld sut i newid yr amserlen ar gyfer myfyrwyr unigol yma: Symud myfyrwyr rhwng gwahanol ddosbarthiadau neu ddosbarthiadau cofrestru.
Defnyddio eich amserlenni
Gallwch weld amserlenni yn Arbor o Ysgol > Amserlen, a nodi bylchau a gwrthdaro, neu argraffu’r amserlenni ar gyfer staff neu fyfyrwyr. Gallwch ddewis gweld sut i fynd ati i neilltuo ystafelloedd hefyd.
Presenoldeb
Ewch i Myfyrwyr > Presenoldeb yn y bar llywio ar y brig. Noder: er bod yr opsiwn yma ar gael i Weinyddwyr, bydd angen i staff addysgu gyrchu cofrestrau trwy eu calendr.
Yn Presenoldeb dyddiol, cewch weld yr holl gofrestrau ar gyfer heddiw. Gallwch glicio ar bob cofrestr i weld Dangosfwrdd y Wers ar gyfer y dosbarth neu i agor y gofrestr. Am ragor o wybodaeth, darllenwch:
O dan Cofrestrau Anghyflawn, gallwch weld cofrestrau Heb eu Hagor ac Anghyflawn ac anfon e-bost i atgoffa athrawon i gwblhau’r gofrestr. Bydd marc cwestiwn wrth ymyl pob myfyriwr sydd heb farc presenoldeb. Mae’r manylion llawn yma.
Golygu marciau presenoldeb y gorffennol a’r dyfodol
Y ffordd hawsaf o olygu marciau presenoldeb o’r gorffennol yw mynd i’n tudalen golygu torfol: Golygu marciau presenoldeb yn dorfol
Awgrym: I olygu marciau statudol hanesyddol a fewnforiwyd o MIS blaenorol eich ysgol, bydd angen i chi ddefnyddio’r dudalen Marciau a Fewnforiwyd.
Defnyddiwch y dudalen Marciau Cofrestru i weld marciau presenoldeb bore a phrynhawn statudol yr holl fyfyrwyr yn eich ysgol am hyd at 10 diwrnod. Driliwch i lawr i mewn i wahanol grwpiau myfyrwyr a chymerwch gamau pellach fel adio myfyrwyr at ymyriad neu olygu marc myfyriwr. Gallwch weld rhagor o fanylion ynghylch sut mae’r dudalen hon yn gweithio yma: Sut i ddefnyddio’r dudalen Marciau Cofrestru presenoldeb
Defnyddir absenoldebau cynlluniedig i gofnodi pryd y disgwylir i fyfyriwr fod yn absennol o’r ysgol, a gellir eu defnyddio i ddewis marc rhaglenwi a fydd yn ymddangos yn awtomatig ar y gofrestr hefyd. Gallwch weld sut i ddefnyddio absenoldebau cynlluniedig yma: Adio a gweld Absenoldebau Cynlluniedig a marciau rhaglenwi at y dyfodol
Adroddiadau ar bresenoldeb
O’r ddewislen ar y chwith yn Myfyrwyr > Presenoldeb gallwch gyrchu amryw o dudalennau sy’n eich galluogi i ddadansoddi eich ystadegau Presenoldeb:
- Absenoldebau fesul dyddiad - Yr holl fyfyrwyr sy’n absennol ar ddyddiad penodol (a welir yn adran Ymholiadau Ategol absenoldebau myfyrwyr)
- Wythnosau Toredig - Myfyrwyr ag o leiaf un absenoldeb heb awdurdod, wedi eu dadansoddi fesul wythnos.
- Absenoldeb Di-dor - Myfyrwyr sydd wedi cael o leiaf 1 diwrnod o absenoldeb olynol o’r dyddiad dethol. Cliciwch ar bennawd y golofn i ddidoli’r rhain yn ôl y nifer fwyaf o absenoldebau.
- Cydberthynol/Brodyr a Chwiorydd - Parau o fyfyrwyr sy’n aml yn absennol yr un pryd.
- Absenoldebau Parhaus - Y myfyrwyr â’r nifer fwyaf o absenoldebau yn ystod y flwyddyn academaidd.
Ar ôl gweld y tueddiadau hyn, gallwch gymryd camau i’w hatal. Gallwch ddefnyddio’r botwm gweithredu torfol ar ochr chwith y tudalennau o hyd i gyflawni ymholiadau ategol gyda gwarcheidwaid neu i gymryd camau pellach, fel cofrestru’r myfyrwyr ar ymyriad.
Mae’r dudalen Ystadegau yn un bwerus dros ben, a gallwch ei defnyddio i greu unrhyw fath o gofnod presenoldeb fwy neu lai. Trwy ddefnyddio’r hidlyddion ar frig y dudalen, gallwch greu adroddiad am bresenoldeb unrhyw grŵp o fyfyrwyr a’i gymharu ag unrhyw grwpiau eraill o fyfyrwyr. Darllenwch yr erthygl hon i weld sut i gynhyrchu adroddiadau enghreifftiol: Gweld ystadegau presenoldeb.
Ar y dudalen Adroddiadau, gallwch gynhyrchu’r adroddiadau hyn i’w hargraffu:
- Tystysgrifau Presenoldeb yn dorfol, neu Dystysgrif Presenoldeb ar gyfer myfyriwr unigol
- Adroddiad Marciau Statudol
- Cofrestr Wythnosol i’w Hargraffu neu Gofrestrau gwersi i’w hargraffu
- Allforio Marciau fesul Wythnos ar gyfer ystod benodol o ddyddiadau
I weld sut i fynd ati i gynhyrchu’r holl ddogfennau hyn i’w hargraffu, ewch i: Argraffu cofrestrau wythnosol, adroddiadau presenoldeb a thystysgrifau
Adroddiadau
Y peth da am Arbor yw mai’r ffordd gyflymaf a hawsaf o lunio adroddiad yw mynd i’r rhan o’r system rydych chi am greu adroddiad arni fel rheol. Mae tablau data at ddibenion adrodd yn y rhan fwyaf o feysydd Arbor!
Er enghraifft, gallwch neidio’n syth i’r tudalennau adrodd Myfyrwyr > Presenoldeb > Absenoldebau i weld tablau parod y gallwch eu hidlo gan ddefnyddio grwpiau demograffig pwrpasol fel Premiwm Disgyblion vs Dim Premiwm.
Os penderfynwch chi fod angen adroddiad pwrpasol, gallwch ddefnyddio ein teclyn Ysgrifennu Adroddiadau Pwrpasol i ddefnyddio adroddiadau parod neu rhai rydych chi wedi eu dylunio eich hun. Gallwch fewnforio pob math o adroddiadau cyffredin o’n Canolfan Gymorth: Creu adroddiadau Ysgrifennu Adroddiadau Pwrpasol cyffredin. Gallwch amserlennu’r adroddiad i’w anfon allan a’i rannu ag aelodau eraill o staff hefyd, neu gyflawni cyfrifiadau pwrpasol a fformadu amodol.
Gellir lawrlwytho unrhyw dablau ac adroddiadau i’w rhannu yn Arbor hefyd. Neu gallwch greu Ffrwd Fyw, fel bod y data’n adnewyddu bob tro y byddwch yn ei agor, heb i chi orfod rhedeg yr adroddiad eto.
Adroddiadau ar eich myfyrwyr
Y ffordd gyflymaf o gael dadansoddiad o niferoedd myfyrwyr fesul blwyddyn, dosbarth cofrestru neu ddemograffeg, fel Rhyw neu Bremiwm Disgyblion, yw mynd i’r dudalen Myfyrwyr > Cofrestru > Niferoedd Myfyrwyr > Ystadegau. Gallwch weld rhagor am hyn yma, neu sgrolio i fyny i weld ffyrdd eraill o gynhyrchu rhestrau dosbarth yn: Ystadegau cofrestru cyffredinol
Awgrymiadau
Sut i fanteisio i’r eithaf ar Arbor
Darllenwch ein hadnoddau i gael awgrymiadau a thriciau wrth ddefnyddio Arbor:
- Awgrymiadau wrth ddefnyddio Arbor ar eich cyfrifiadur
-
Awgrymiadau ar ddefnyddio MIS Arbor yn effeithlon
Heb lefel y mynediad sydd ei angen arnoch?
Yn Arbor, mae mynediad at wahanol dudalennau, a’r gallu i gyflawni gwahanol dasgau ar dudalennau (fel clicio botwm) yn seiliedig ar ba fathau o ganiatâd sydd gennych.
Darllenwch yr erthygl hon i weld sut i gael mynediad: Does dim mynediad gen i ac mae angen rhagor o ganiatadau arnaf i.
Sut i gael cymorth pellach
Ewch i’r Ganolfan Gymorth yn support.arbor-education.com/hc neu cliciwch ar Canolfan Gymorth yng nghornel uchaf eich safle Arbor ar y dde i’w agor mewn tab newydd. Yma fe ffeindiwch chi Gwestiynau Cyffredin, canllawiau, tiwtorialau fideo a hyfforddiant ar lein am ddim, felly gallwch ddysgu sut bynnag sy’n gweithio orau i chi.
Darllenwch y rhan yma o’r Ganolfan Gymorth i weld sut i gychwyn arni, gan gynnwys beth i’w wneud os nad yw Arbor yn gweithio, a sut i gysylltu os oes angen rhagor o gymorth arnoch: Defnyddio Arbor, y Ganolfan Gymorth a’r Gymuned
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.