Mae’r erthygl hon yn trafod mewngofnodi ac allgofnodi i MIS Arbor yr Ysgol fel aelod o staff, a’r problemau cyffredin sy’n gallu codi wrth fewngofnodi. Darllenwch yr erthyglau eraill yma os ydych chi’n chwilio am wybodaeth a chynghorion ar ddatrys problemau gyda:
- Mewngofnodi i Rieni
- Mewngofnodi i Fyfyrwyr
- Mewngofnodi i MIS MAT
- Mewngofnodi i safle ysgol fel defnyddiwr MAT – bydd angen i chi fewngofnodi i MIS eich MAT, nid safle’r ysgol yn uniongyrchol.
Rydw i wedi dilyn y cyfarwyddiadau ond yn methu â mewngofnodi o hyd
Os ydych chi wedi trio ailosod eich cyfrinair (gweler isod) ond yn methu â mewngofnodi o hyd, cysylltwch â swyddfa eich ysgol i ddilysu’ch cyfeiriad e-bost, chwilio am negeseuon e-bost dyblyg neu ailosod eich cyfrinair â llaw.
Mewngofnodi fel aelod o staff
Awgrym: Rydyn ni’n awgrymu bod defnyddwyr yn defnyddio eu cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os yw’ch ysgol wedi rhoi cyfrinair nad yw’n gyfeiriad e-bost i chi, darllenwch ein canllawiau yma.
Nodwch fod y dudalen y gwelwch chi wrth fewngofnodi’n edrych ychydig bach yn wahanol nawr. Gallwch ddarllen y canllawiau llawn am hyn yma.
Mewngofnodi am y tro cyntaf
Cychwynnwch borwr rhyngrwyd - rydyn ni’n argymell Google Chrome
Ewch i’r URL a anfonwyd atoch yn eich e-bost croeso lle gallwch greu cyfrinair newydd a mewngofnodi.
Os nad oes e-bost croeso gennych, neu os yw’r linc wedi darfod ymhen 96 awr, holwch berson cyswllt Arbor eich ysgol. Ychwanegwch nod tudalen at eich porwr i ddod o hyd i Arbor yn gyflym yfory!
Gallwch glicio’r opsiwn Mewngofnodi am y tro cyntaf? hefyd, a dilyn y camau sydd yno.
Cliciwch ar y linc yn yr e-bost.
Noder: bydd y linc yma’n gweithio am 96 awr yn unig. Os oes 96 awr wedi mynd heibio, gofynnwch i’ch tîm gweinyddol ailosod eich cyfrinair, neu cliciwch ar y dudalen mewngofnodi eto.
Wedyn gallwch greu cyfrinair a mewngofnodi.
Wrth fewngofnodi am y tro cyntaf, bydd angen i chi ddarllen a derbyn ein Hamodau a Thelerau. Ticiwch y blwch ar y gwaelod, wedyn cliciwch Derbyn.
Dychwelyd at Arbor
I fewngofnodi i MIS gan ddefnyddio tudalen fewngofnodi eich ysgol, ewch i URL eich ysgol e.e. http://[enwysgolenghreifftiol].uk.arbor.sc
Nodwch eich enw defnyddiwr neu’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair yn y blychau pwrpasol, a chliciwch Mewngofnodi.
Mae fy nghyfrinair wedi darfod, ond dydw i ddim yn cofio beth oedd e
Mae angen i mi ailosod fy nghyfrinair
Os ydych chi wedi anghofio’ch cyfrinair, gallwch glicio ar y linc Wedi Anghofio’ch Cyfrinair?
Nodwch eich cyfeiriad e-bost a chlicio Cais i newid cyfrinair, a chewch neges e-bost gyda linc i ailosod eich cyfrinair.
Helpu aelodau eraill o staff i fewngofnodi
I fewngofnodi am y tro cyntaf, gallwch:
- anfon e-bost croeso at yr holl staff sy’n cynnwys eu henw defnyddiwr a linc i osod eu cyfrinair
- gosod cyfrinair iddyn nhw â llaw
- gofyn iddyn nhw ailosod eu cyfrinair eu hunain os ydyn nhw’n cael trafferth mewngofnodi.
Caniatâd
Bydd angen caniatâd Ysgol: Gweinydd Cyffredinol: Gweinyddu, Ysgol: Cyfrifon Defnyddwyr: Gweinyddu, neu Staff: Manylion Defnyddiwr Gweinyddu arnoch i newid cyfrineiriau a rheoli mynediad defnyddwyr staff. Os nad oes caniatâd gennych, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr roi caniatâd i chi gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Rydyn ni wedi cynnwys ambell i awgrym isod i’ch helpu i ddatrys problemau cyffredin.
Anfon yr e-bost croeso at aelod o staff i fewngofnodi am y tro cyntaf
Mae gan Arbor gyfleuster i anfon e-bost croeso wrth greu aelodau newydd o staff.
Gellir anfon yr e-bost croeso wrth greu proffil ar gyfer aelod o staff. I greu proffil staff ewch i Ysgol > Holl Staff > Adio Aelod Newydd o Staff.
Wrth adio aelod newydd o staff, rhaid cynnwys:
- Cyfeiriad e-bost
- Tic yn y blwch Anfon E-bost Croeso
- Rôl busnes
Bydd glicio’r botwm creu Aelod o Staff yn anfon e-bost croeso gyda chyfarwyddiadau i fewngofnodi i’r aelod o staff o dan sylw.
Wedyn dylai’r aelod o staff glicio ar y linc yn eu neges e-bost, a bydd hynny’n mynd â nhw i dudalen lle gallant newid eu cyfrinair a mewngofnodi.
Gallwch anfon yr e-bost croeso wrth ychwanegu cyfeiriad e-bost at Proffil Staff aelod o staff hefyd. Yn yr adran Manylion Cyswllt, cliciwch +Adio a dewiswch gyfeiriad e-bost.
Yn y blwch, dewiswch y cyfeiriad e-bost a thiciwch y blwch i anfon yr e-bost croeso.
Ailosod cyfrinair neu ail-anfon manylion mewngofnodi
I ailosod cyfrinair defnyddiwr, gallwch anfon linc i ailosod y cyfrinair atynt trwy e-bost.
Yn gyntaf, bydd angen i chi fynd i broffil y defnyddiwr trwy glicio Ysgol > Holl Staff > Pori Staff a dewis yr aelod o staff o’r rhestr. Fel arall, gallwch gyrchu eu proffil trwy deipio eu henw yn y bar chwilio yn y gornel uchaf ar y dde.
O’r dudalen proffil, sgroliwch i lawr i adran Manylion y Defnyddiwr.
Cliciwch ar yr enw defnyddiwr a bydd blwch yn ymddangos gyda’r opsiynau canlynol:
Ailosod Cyfrinair - os oes cyfeiriad e-bost ar y proffil, cliciwch ar y botwm hwn i anfon neges e-bost â linc i ailosod y cyfrinair yn awtomatig. Cofiwch y bydd y linc yn darfod ymhen 96 awr.
Newid Cyfrinair - Os nad oes cyfeiriad e-bost ar broffil y defnyddiwr, cliciwch ar yr opsiwn yma i newid y cyfrinair â llaw.
Newid Enw Defnyddiwr - os nad oes cyfeiriad e-bost ar broffil y defnyddiwr, rhoddir enw defnyddiwr gwneud nad yw’n gyfeiriad e-bost i’r defnyddiwr, a gallant newid yr enw defnyddiwr trwy glicio ar y botwm yma.
Gall enw defnyddiwr gynhyrchu cais i ailosod cyfrinair ar gyfer y proffil trwy fynd i dudalen mewngofnodi safle Arbor eich Ysgol. Oddi yno, gallant glicio ar y linc Wedi anghofio eich cyfrinair? a fydd yn mynd â nhw trwy gyfres o gamau i greu cyfrinair newydd.
Datrys problemau mewngofnodi staff
Mae yna nifer o resymau pam na all defnyddiwr fewngofnodi i safle Arbor eich ysgol.
Nid yw’r aelod o staff wedi derbyn e-bost mewngofnodi neu ailosod cyfrinair
Gallwch weld sut i drwsio hyn yma: Nid yw’r e-bost yn cael ei hanfon, neu mae’n mynd i’r cyfeiriad e-bost anghywir
Mae’r system yn gofyn i aelod o staff adio dyddiad geni myfyriwr
Os yw’r system yn gofyn i aelod o staff am ddyddiad geni plentyn, mae hynny’n golygu bod y cyfeiriad e-bost wedi cael ei ddefnyddio ar broffil gwarcheidwad - efallai bod un o’u plant wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol.
Bydd angen i chi sicrhau bod y cyfeiriad e-bost ar gyfrif yr aelod o staff yn unigryw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn, bydd hynny’n caniatáu iddyn nhw fewngofnodi i’w cyfrif staff.
Gwiriwch y porwr a’r dudalen
Sicrhewch eu bod nhw’n defnyddio Google Chrome.
Gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad y safle fel a ganlyn: https://[enweichysgol].uk.arbor.sc
Gwiriwch y manylion mewngofnodi
Gwiriwch y manylion mewngofnodi gan sicrhau eich bod wedi gosod y cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar gyfer Arbor fel enw defnyddiwr.
Adiwch gyfeiriad e-bost gwaith yn yr adran Manylion Cyswllt (os yw’r cyfeiriad ar goll). Gwnewch yn siŵr mai’r cyfeiriad e-bost gwaith sydd wedi ei ragosod - cliciwch ar yr e-bost a diwygiwch y manylion. Dyma fydd eu henw defnyddiwr i fewngofnodi.
Dilyswch y Rolau Busnes
Sicrhewch fod gan yr aelod o staff rôl busnes weithredol ar eu proffil staff. Sicrhewch fod y dyddiad gorffen wedi ei osod i ‘parhaol’ neu fod y dyddiad yn y dyfodol - gallwch glicio i newid y dyddiad.
Os nad oes rôl busnes ganddynt, ni fyddan nhw’n gallu mynd i mewn, a bydd neges yn ymddangos sy’n dweud “Nid oes caniatâd gennych i gyrchu Arbor”.
Sicrhewch nad yw’r neges ailosod cyfrinair wedi darfod
Gwnewch yn siŵr bod yr e-bost am y cyfrinair wedi cael ei anfon llai na 96 awr yn ôl. Os cafodd ei anfon mwy na 96 awr yn ôl, bydd y linc wedi darfod a bydd angen anfon un arall.
Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n defnyddio’r linc gywir i fewngofnodi
Gwnewch yn siŵr na ydyn nhw’n clicio ar y linc yn yr e-bost ailosod cyfrinair. Os ydyn nhw’n clicio ar y linc yma, dylent fynd i’r brif dudalen mewngofnodi yn lle.
Cliriwch y cwcis a’r storfa dros dro
Mae’n bosibl y bydd angen adnewyddu’r porwr er mwy cyrchu Arbor. I wneud hyn, bydd angen clirio’r storfa dros dro - cliciwch yma am gyfarwyddiadau ar sut i glirio’r storfa.
Os nad yw hynny’n gweithio, gallwch glicio’r cwcis ar gyfer Arbor - cliciwch yma am gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn ar y porwyr mwyaf cyffredin. Bydd angen i chi ddileu cwcis Arbor ac mae’n bosibl y bydd angen chwilio am y rhain trwy ddilyn y cyfarwyddiadau.
Allgofnodi
I allgofnodi, cliciwch ar y linc Allgofnodi sydd yng nghornel uchaf eich tudalen Arbor ar y dde. Bydd hyn yn eich allgofnodi o safle eich ysgol.
Cewch eich allgofnodi’n awtomatig ar ôl cyfnod segur o ddwy awr hefyd. Os cliciwch chi nôl i mewn i’ch tab Arbor toc cyn i’r amser ddod i ben, gallwch ddewis a ydych am allgofnodi neu beidio.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.