CYBLD Cymru - Y Dudalen Dosbarthiadau

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i lenwi adran Dosbarthiadau’r datganiad CYBLD. Maes “ar y diwrnod” yw hwn â’r nod o gofnodi ciplun o grwpiau addysgu eich ysgol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
 

Y Gyfres CYBLD

Hwn yw’r ail ganllaw yn ein cyfres ar lenwi CYBLD Cymru. Gallwch gyrchu’r canllawiau eraill yn y gyfres yma:

Caniatâd

  • I gyrchu a golygu’r data yma, rhaid i chi fod â chaniatâd Ysgol: Datganiadau Data: Gweinyddu arnoch.

Os nad oes gennych chi’r caniatâd yma, gofynnwch i staff swyddfa neu weinyddwr eich ysgol i’w ychwanegu at eich proffil i chi.
 

Beth yw’r Dudalen Dosbarthiadau?

Mae’r dudalen Dosbarthiadau’n cofnodi manylion y dosbarthiadau sy’n cael eu haddysgu yn eich ysgol ar ddiwrnod y cyfrifiad. Mae’n cofnodi nifer y staff (athrawon a staff cynorthwyol) sy’n bresennol yn y dosbarth, a nifer y disgyblion (y mae’r ysgol yn gartref iddynt a rhai gwadd) sy’n bresennol.
 

Llywio

  • Ewch i Ysgol > Data > Allforio > Datganiadau Data.
  • Dewiswch CYBLD
  • Dewiswch Dosbarthiadau o’r ddewislen ar y chwith.


 

Pa ddewisiadau a data y dylid eu cynnwys?

Mae’r gofynion yn dibynnu ar gyfnod addysgu eich ysgol:

  • Meithrin a Chynradd: Cofnodwch fanylion ar gyfer yr holl ddosbarthiadau cofrestredig sy’n rhedeg ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
  • Canol, Uwchradd ac Arbennig: Cofnodwch fanylion ar gyfer yr holl ddosbarthiadau cofrestredig sy’n rhedeg yn ystod y drydedd wers ar amserlen yr ysgol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
     

Meysydd Data Allweddol

Mae’r data canlynol yn cael ei gasglu ar gyfer pob dosbarth:

  • Enw’r Dosbarth: Enw’r grŵp addysgu:
  • Grŵp Blwyddyn a Chyfnod Allweddol: Blwyddyn y cwricwlwm a’r cyfnod allweddol y mae’r dosbarth yn perthyn iddynt.
  • Athrawon: Nifer yr athrawon cymwys sy’n bresennol yn y dosbarth.
  • Staff Cynorthwyol: Nifer y staff cynorthwyol sy’n bresennol.
  • Disgyblion Cartref: Disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn eich ysgol (cofrestriad Sengl, Prif Cyfredol, neu Atodol Cyfredol).
  • Disgyblion Gwadd: Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol arall ond sy’n mynychu’ch ysgol chi (cofrestriad Gwadd).
  • Categori’r Gymraeg: Lefel y Gymraeg a ddefnyddir wrth addysgu’r dosbarth.

 

Rhesymeg o ran Gweladwyedd

Ni fydd pob ysgol yn gallu gweld pob maes. Cofiwch y rheolau yma:

  • Dewis Amser: Mae’r prompt i ddewis amser (e.e. 11:30 am) yn ymddangos ar gyfer ysgolion Canol, Uwchradd ac Arbennig yn unig. Cymerir bod ysgolion Cynradd yn cynnwys pob dosbarth ar y diwrnod o dan sylw.
  • Adran Eithriadau: Mae’r meysydd cofnodi “Eithriadau Dosbarth” wedi eu cuddio’n ddiofyn. Dim ond os yw’r gymhareb Disgybl-i-Athrawon a gyfrifwyd yn > 30 a’r Math o Gyfrifiad yw Babanod (I) neu Iau (J) y bydd y rhain yn ymddangos.
  • Dim Myfyrwyr: Caiff unrhyw ddosbarth heb unrhyw ddisgyblion y mae’r ysgol yn gartref iddynt A heb unrhyw ddisgyblion gwadd eu fflagio’n fewnol i gael eu hepgor o’r ffeil XML terfynol, hyd yn oed os yw’n ymddangos ar eich rhestr.
     

Cynhyrchu Data am Ddosbarthiadau

Defnyddio’r Awto-gyfrifiannell

Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n defnyddio’r awto-gyfrifiannell i lenwi’r dudalen hon yn hytrach na chofnodi’r data â llaw. Mae’r cyfrifiannell yn defnyddio eich amserlen gyfredol a data am gontractau staff.
 

Sut i redeg y Cyfrifiannell ar gyfer pob dosbarth

 

  1. Cliciwch y botwm Adio yng nghornel uchaf y dudalen Dosbarthiadau ar y dde.
  2. Dewiswch Amser (Uwchradd/Canol/Arbennig yn unig): Cewch eich promptio i fewnbynnu Amser penodol ar gyfer y Cyfrifiad (11:30 am yw’r amser diofyn).
  3. Cadarnhewch y weithred.

Rhybudd: Bydd rhedeg y swyddogaeth “Adio” (Ailgyfrifiad Llawn) yn dileu holl Ddosbarthiadau Cyfredol y Cyfrifiad ac unrhyw eithriadau o ran maint dosbarthiadau a nodwyd â llaw. Bydd hyn yn dychwelyd y datganiad i’r cyflwr a gyfrifwyd.
 

Ail-gyfrifo Un Dosbarth

Os ydych chi wedi gwneud newidiadau i un dosbarth yn unig (e.e. i gywiro cofrestriad myfyriwr neu amserlen athro/athrawes) ac nad ydych am ailosod yr ymateb cyfan, gallwch ail-gyfrifo un dosbarth.

 

  1. Cliciwch ar y dosbarth o dan sylw yn y rhestr.
  2. Cliciwch y botwm Ail-gyfrifo ym mlwch llithro’r dosbarth.
  3. Nodyn: Bydd hyn yn diweddaru cyfrifiadau’r staff a’r disgyblion ar gyfer y dosbarth yma’n unig. Fodd bynnag, cofiwch y bydd yn dileu unrhyw eithriadau rydych chi wedi eu cofnodi â llaw ar gyfer y dosbarth penodol yma hefyd.
     

Adolygu a Thrwsio Data Dosbarthiadau

 

Ar ôl i’r awto-gyfrifiannell wneud ei waith, bydd data’r dosbarth yn ymddangos mewn rhestr. Rhaid adolygu pob cofnod i sicrhau ei fod yn gywir. Bydd dewis rhes yn agor blwch llithro “Golygu Gwers / Dosbarth” lle gallwch wirio a thrwsio’r meysydd gorfodol canlynol:

  • Disgyblion y mae’r Ysgol yn Gartref iddynt: Nifer y disgyblion a aseiniwyd i’r dosbarth y mae eich sefydliad yn ysgol gartref iddynt.
  • Disgyblion Gwadd: Nifer y disgyblion â statws cofrestru “Gwadd” sydd wedi eu haseinio i’r dosbarth ac sy’n bresennol ar ddiwrnod y cyfrifiad.
  • Athrawon: Nifer y staff addysgu sy’n gyfrifol am y dosbarth. Peidiwch â chynnwys staff y mae eu rôl yn ymwneud yn llwyr neu’n bennaf â darparu cymorth i disgyblion unigol.
  • Staff Cynorthwyol: Nifer y staff cynorthwyol sy’n cynorthwyo’r athro/athrawes. Yn debyg i gyfrifiad yr athrawon, peidiwch â chynnwys staff sy’n darparu cymorth fesul un.
  • Math y Dosbarth y Cyfrifir ei Faint: Mae hyn yn dynodi a yw’r dosbarth yn ddosbarth Babanod (I), Iau (J), Meithrin, (N) neu Uwchradd (S).
     

Eithriadau o ran Maint Dosbarthiadau (Meintiau Dosbarthiadau Babanod)

Mae deddfwriaeth yn cyfyngu ar faint dosbarthiadau Babanod (Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2) i 30 disgybl yr athro/athrawes. Os oes gennych ddosbarth sy’n fwy na’r cyfyngiad, rhaid i chi ddarparu rheswm “Eithriad a Ganiateir”.
 

Sut i Adio Eithriadau

  • Gwiriwch y Rhybudd: Os yw’r cyfrifiannell yn canfod cymhareb Disgybl: Athro/athrawes sy’n fwy na 30 (ar gyfer mathau o gyfrifiadau Babanod/Iau), bydd yn dangos rhybudd.
  • Agorwch y Dosbarth: Cliciwch ar y dosbarth lle mae’r gwall.
  • Ffeindiwch yr Adran: Sgroliwch i’r adran Eithriadau Dosbarth. Bydd adran hon yn weladwy os yw’r nifer yn uwch na’r terfyn.
  • Nodwch y Codau: Fe welwch restr o godau ar gyfer eithriadau dilys (e.e. Cod A ar gyfer disgyblion â CDU). Nodwch nifer y disgyblion sy’n berthnasol i bob cod.
  • Dalgylch: Ar gyfer rhai codau (fel symud i mewn i’r ardal y tu hwnt i’r cylch derbyniadau arferol), rhaid cofnodi nifer y “Disgyblion yn y Dalgylch”.

Pwysig: Rhaid cyfrifo am bob disgybl uwchlaw’r terfyn o 30.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
1 allan o 1 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.