Mae’r canllaw yma’n esbonio’r dudalen Addysgu’r Gymraeg. Mae’r dudalen hon yn cael ei defnyddio i gofnodi data am staff cymwys sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y Gyfres CYBLD
Hwn yw’r canllaw olaf yn ein cyfres ar lenwi CYBLD Cymru. Gallwch gyrchu’r canllawiau eraill yn y gyfres yma:
- CYBLD Cymru - Canllaw Cyffredinol a Throsolwg
- CYBLD Cymru - Y Dudalen Dosbarthiadau
- CYBLD Cymru - Prydau Bwyd a Nodweddion yr Ysgol
- CYBLD Cymru - Cyfrifo Disgyblion
- CYBLD Cymru - Athrawon a Staff Cymorth
-
CYBLD Cymru - Addysgu’r Gymraeg (y canllaw hwn)
Caniatâd
- I gyrchu a golygu’r data yma, rhaid i chi fod â chaniatâd Ysgol: Datganiadau Data: Gweinyddu.
Os nad oes gennych chi’r caniatâd yma, gofynnwch i staff swyddfa neu weinyddwr eich ysgol i’w ychwanegu at eich proffil i chi.
Beth yw’r dudalen Addysgu’r Gymraeg?
Mae’r dudalen hon yn cofnodi nifer yr athrawon sy’n gymwys, a chyfanswm nifer yr oriau yr wythnos y maent yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n addysgu’r Gymraeg fel pwnc.
Llywio
- Ewch i Ysgol > Data > Allforio > Datganiadau Data.
- Dewiswch CYBLD
- Dewiswch Addysgu’r Gymraeg o’r ddewislen ar y chwith.
Gweladwyedd
Mae’r dudalen hon yn weladwy ar gyfer ysgolion Cynradd, Uwchradd a Chanol. Caiff ei chuddio ar gyfer ysgolion Meithrin ac Arbennig.
Defnyddio’r Awto-gyfrifiannell
I symleiddio’r broses adrodd, mae Arbor yn cynnwys cyfrifiannell awtomatig sy’n cyfuno data o Gontractau Staff cyfredol ac Amserlenni’ch Cyrsiau.
Rhybuddion Pwysig
- Risg o Drosysgrifio: Bydd sbarduno ail-gyfrifiad yn trosysgrifio’r holl ddata cyfredol yn yr adran hon. Os ydych chi wedi ychwanegu rhes ar gyfer athro/athrawes nad ydynt ar eich amserlen, caiff y wybodaeth yna ei cholli.
-
Ffynhonnell y Data Os nad yw’r awto-gyfrifiannell yn cynhyrchu’r canlyniadau disgwyliedig, y cam cyntaf yw gwneud yn siŵr bod Rôl Busnes y Cyfrifiad yn gywir yng Nghontractau eich Staff, a bod y gosodiadau cywir ar Amserlenni’ch Cyrsiau yn y maes Defnyddio’r Gymraeg yn y Dosbarth. Bydd trwsio ffynhonnell y data ac ailredeg y cyfrifiannell yn sicrhau cysondeb hirdymor y data ar draws yr MIS.
Sut i wneud hyn
- Chwiliwch am y Faner Gwybodaeth las ar frig y dudalen.
- Cliciwch y botwm Ailgyfrifo y tu fewn i’r faner.
- Bydd y system yn clustnodi staff cymwys a’u hymrwymiadau addysgu Cymraeg ar gyfer wythnos y cyfrifiad, ac yn llenwi’r tabl. Caiff y data ei arddangos ar ffurf tabl wedi ei grwpio yn ôl y cyfuniad unigryw Categori, Rhyw a Chyfnod Swydd.
Meysydd Data Allweddol
Ar gyfer pob grŵp o athrawon, rhaid i chi ddarparu (neu ddilysu) y meysydd canlynol. Caiff y data ei grwpio yn ôl Categori, Rhyw a Chyfnod Swydd.
1. Categori Addysgu’r Gymraeg
Rhaid i chi ddewis rôl/statws cymhwyster penodol ar gyfer y grŵp o athrawon. Mae categorïau cyffredin yn cynnwys:
- Addysgu’r Gymraeg fel iaith gyntaf.
- Addysgu’r Gymraeg fel ail iaith.
- Cymwys ond ddim yn addysgu’r Gymraeg.
- Ddim yn gymwys i addysgu’r Gymraeg.
2. Rhyw a Chyfnod Swydd
Rhyw: Gwrywaidd neu Fenywaidd.
Cyfnod Swydd: Llawn-amser (FT) neu Ran-amser (PT).
3. Nifer
Cyfanswm nifer yr athrawon sy’n cyd-fynd â’r cyfuniad penodol yma o Gategori, Rhyw a Chyfnod Swydd.
-
Dilysu: Rhaid i’r nifer fod rhwng 1 a 99.
4. Oriau Addysgu’r Gymraeg
Cyfanswm nifer cyfanredol yr oriau yr wythnos y mae’r grŵp yma’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
-
Y Rheol Dim Oriau: Os yw’r categori yn “Cymwys ond ddim yn addysgu’r Gymraeg” neu “Ddim yn gymwys”, rhaid rhoi 0 yn y maes oriau. Os nodwch chi oriau yn y fan yma, bydd y cyfrifiad yn codi gwall.
Cofnodi â Llaw
Os nad yw’r awto-gyfrifiannell yn cofnodi trefniant penodol (er enghraifft, os nad yw Arbor yn adlewyrchu amserlen athro yn llwyr), gallwch adio data â llaw.
- Cliciwch y botwm Adio yng nghornel uchaf yr adran ar y dde.
- Dewiswch y categori Addysgu’r Gymraeg, Rhyw a Chyfnod y swydd o’r cwymplenni.
- Cofnodwch y Nifer a’r Oriau.
- Cliciwch Creu.
Golygu neu ddileu cofnod
- I Olygu: Cliciwch unrhyw res yn y tabl i agor y blwch llithro Golygu. Ar y sgrin yma, mae’r Categori, Rhyw a Chyfnod y Swydd wedi eu cloi; i newid hyn, rhaid dileu’r cofnod a chreu un newydd.
- I Ddileu: Mae botwm “Dileu” yn y blwch llithro Golygu i ddileu casgliadau gwallus.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.