CYBLD Cymru - Prydau Bwyd a Nodweddion yr Ysgol

Mae’r canllaw yma’n trafod y dudalen Prydau Bwyd a Nodweddion yr Ysgol. Maes “Ar y diwrnod” yw hwn sy’n cofnodi data cyfanred ar lefel ysgol, fel ymrwymiadau addysgu’r pennaeth, llywodraethwyr, a’r niferoedd sy’n cymryd prydau bwyd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
 

Y Gyfres CYBLD

Hwn yw’r trydydd canllaw yn ein cyfres ar lenwi CYBLD Cymru. Gallwch gyrchu’r canllawiau eraill yn y gyfres yma:

Caniatâd

  • I gyrchu a rheoli’r cyfrifiad, rhaid i chi fod â chaniatâd Datganiadau Data: Gweinyddu.

Os nad oes gennych chi’r caniatâd yma, gofynnwch i staff swyddfa neu weinyddwr eich ysgol i’w ychwanegu at eich proffil i chi.
 

Beth yw’r dudalen Prydau Bwyd a Nodweddion yr Ysgol?

Maes “Ar y diwrnod” o’r cyfrifiad yw’r dudalen hon.

Yn wahanol i ddata disgyblion unigol (y mae Arbor yn ei godi o broffiliau myfyrwyr yn awtomatig), mae’r data ar y dudalen hon yn cynrychioli cyfansymiau cyfanred ac yn rhoi ciplun o’r gweithgarwch ar Ddiwrnod y Cyfrifiad ei hun.

Am fod y data yma’n aml yn ymwneud â digwyddiadau go iawn ar y diwrnod (e.e. sawl carton o laeth gafodd eu defnyddio ar y diwrnod), yn hytrach na chofnodion parhaol, bydd angen i chi gofnodi neu ddilysu’r ffigurau ar gyfer llawer o’r eitemau data â llaw.

Mae’r dudalen hon yn ymrannu’n bump adran penodol:

  1. Nodweddion yr Ysgol
  2. Prydau Bwyd
  3. Brecwast
  4. Llaeth
  5. Llywodraethwyr

 

Llywio

  • Ewch i Ysgol > Data > Allforio > Datganiadau Data.
  • Dewiswch CYBLD
  • Dewiswch Prydau Bwyd a Nodweddion yr Ysgol o’r ddewislen ar y chwith.
     

Nodweddion yr Ysgol

Mae’r adran hon yn cofnodi ymrwymiadau addysgu eich Pennaeth ac, ar gyfer cyfnodau penodol, mynychder addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
 

Beth i’w gofnodi

  • Ymrwymiad Addysgu’r Pennaeth: Rhaid i chi ddewis cod sy’n dangos faint o wythnos y Pennaeth sy’n cael ei dreulio yn addysgu. Rhaid i chi ddewis y cod mwyaf priodol: 
    • 1 (Dim): Ddim yn addysgu o gwbl neu yn achlysurol iawn.
    • 2: Llai na 50% o’r wythnos ar gyfartaledd.
    • 3: Rhwng 51% a 99% o’r wythnos ar gyfartaledd.
    • 4 (100%): Yn addysgu llawn-amser.
  • Pynciau a Addysgir trwy Gyfrwng y Gymraeg: Mae’r maes hwn yn fandadol i ysgolion Uwchradd a Chanol. Cofnodwch nifer y pynciau (0-10) sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn llwyr neu’n ddwyieithog. 
    • Nodyn: Os oes nifer o bynciau Gwyddoniaeth neu Ieithoedd Tramor Modern yn cael eu haddysgu trwy’r Gymraeg, byddant yn cyfrif fel un yn unig o ran y cyfanswm.

 

Sut i wneud hyn

  • Cliciwch ar adran Nodweddion yr Ysgol, cliciwch ar Ymrwymiad Addysgu’r Pennaeth neu Pynciau a Addysgir trwy Gyfrwng y Gymraeg
  • Yn y blwch llithro, dewiswch y cod cywir o’r gwymplen, neu nodwch rif rhwng 0 a 10
  • Nodwch nifer y pynciau (os yw’n berthnasol).
  • Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
     

Pethau i’w nodi

Mae’r adran hon yn weladwy i’r cyfnodau Cynradd, Uwchradd, Canol ac Ysgolion Arbennig, ond yn gudd i ysgolion Meithrin.
 

Prydau Bwyd

Mae’r adran hon yn cofnodi nifer y ciniawau ysgol a gymerwyd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.

 

Beth i’w gofnodi

  • Prydau Ysgol am Ddim a Gymerwyd: Nifer y disgyblion oedd yn gymwys am Bryd Ysgol am Ddim (FSM) ac a gymerodd y pryd go iawn ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
  • Prydau Ysgol â Thâl a Gymerwyd: Nifer y disgyblion a dalodd am bryd bwyd yr ysgol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
     

Sut i wneud hyn

  1. Cliciwch ar yr adran Prydau Bwyd.
  2. Cofnodwch y nifer ar gyfer y ddau faes (dylai fod hwn yn rhif cyfan; ni chaniateir degolion)
  3. Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
     

Pethau i’w nodi

  • "Cymerwyd" vs "Cymwys": Peidiwch â chofnodi cyfanswm nifer y disgyblion sy’n gymwys i gael FSM yn unig. Rhaid nodi nifer y prydau bwyd a gafodd eu gweini go iawn ar y diwrnod.
  • Gweladwyedd: Nid oes angen i ysgolion Uwchradd lenwi’r maes “Prydau ysgol â thâl a gymerwyd”, a chaiff hyn ei guddio.
     

Brecwastau

Mae’r adran hon yn tracio Menter Brecwast am Ddim Llywodraeth Cymru i ddisgyblion Cynradd.

 

Beth i’w gofnodi

  • Brecwast am Ddim ar Ddiwrnod y Cyfrifiad: Cyfanswm nifer y disgyblion a gymerodd frecwast am ddim ar ddiwrnod y Cyfrifiad.
  • Brecwast FSM ar Ddiwrnod y Cyfrifiad: Cyfrifiad o’r Myfyrwyr sy’n Gymwys ar gyfer FSM a gymerodd frecwast am ddim ar ddiwrnod y Cyfrifiad, ni ddylai hyn gynnwys Myfyrwyr ag Amddiffyniad Pontio FSM neu UPFSM.
  • Brecwast am Ddim mewn Wythnos Nodweddiadol: Nifer y disgyblion a gymerodd frecwast a ddim o leiaf unwaith mewn wythnos ysgol nodweddiadol cyn y cyfrifiad.
  • Brecwast FSM mewn Wythnos Nodweddiadol: Y Myfyrwyr sy’n gymwys am FSM sydd wedi cymryd brecwast am ddim yn ystod yr wythnos cyn wythnos y cyfrifiad. Rhaid i hyn beidio â chynnwys Myfyrwyr ag Amddiffyniad Pontio-FSM neu UPFSM. Rhaid cyfri pob myfyriwr unwaith yn unig, dim ots a gawson nhw 1 brecwast am ddim neu 5.
     

Sut i wneud hyn

  • Cliciwch ar yr adran Brecwast.
  • Nodwch y niferoedd ar gyfer y diwrnod ac ar gyfer yr wythnos flaenorol.
  • Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
     

Pethau i’w nodi

  • Gweladwyedd: Mae’r adran hon wedi ei chuddio ar gyfer Ysgolion Uwchradd.
  • Wythnos Nodweddiadol: Os nad oedd yr wythnos cyn y cyfrifiad yn un “nodweddiadol” e.e. am fod yr ysgol ar gau neu am fod tywydd eithafol), defnyddiwch yr wythnos nodweddiadol nesaf.
     

Llaeth

Mae’r adran hon yn cofnodi’r llaeth a gymerwyd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
 

Beth i’w gofnodi

  • Llaeth am Ddim: Nifer y disgyblion a gymerodd llaeth am ddim ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
  • Llaeth am Dâl: Nifer y disgyblion a dalodd am laeth ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.

 

Sut i wneud hyn

  1. Cliciwch ar yr adran Llaeth.
  2. Nodwch y ffigurau â llaw yn y blwch llithro
  3. Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
     

Pethau i’w nodi

  • Gweladwyedd: Mae’r adran hon wedi ei chuddio ar gyfer Ysgolion Uwchradd.
     

Llywodraethwyr

Mae’r adran hon yn cofnodi cyfansoddiad eich Corff Llywodraethu ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
 

Beth i’w gofnodi

  • Pennaeth ar y Corff Llywodraethu Dewiswch Ydy neu Nac ydy i ddangos a yw’r Pennaeth yn aelod ffurfiol o’r corff ai peidio.
  • Dynion ar y Corff Llywodraethu Nifer y llywodraethwyr gwrywaidd sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.
  • Menywod ar y Corff Llywodraethu Nifer y llywodraethwyr benywaidd sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.
  • Llywodraethwyr sy’n Medru’r Gymraeg Nifer y llywodraethwyr sy’n medru’r Gymraeg.
  • Seddi Gwag ar gyfer Llywodraethwyr: Cyfanswm nifer y seddi gwag ar y Corff Llywodraethu.

 

Sut i wneud hyn

  1. Cliciwch ar yr adran Llywodraethwyr
  2. Llenwch y meysydd yn y blwch llithro.
  3. Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
     

Pethau i’w nodi

  • Gweladwyedd: Mae’r adran hon wedi ei chuddio yn ei chyfanrwydd ar gyfer ysgolion Meithrin.
  • Seddi Gwag: Cofiwch wirio eich Offeryn Llywodraethu er mwyn cyfrifo nifer y seddi gwag yn gywir (Cyfanswm nifer y seddi minws Llywodraethwyr Cyfredol).
Oedd yr erthygl yma o gymorth?
0 allan o 0 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol
Cysylltwch â Ni

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.