Mae’r canllaw hwn yn trafod y dudalen Athrawon a Staff Cynorthwyol, lle’r byddwch chi’n cofnodi ffigurau staffio cyfanredol (Nifer ac Oriau) ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
Y Gyfres CYBLD
Hwn yw’r pumed canllaw yn ein cyfres ar CYBLD Cymru. Gallwch gyrchu’r canllawiau eraill yn y gyfres yma:
- CYBLD Cymru - Canllaw Cyffredinol a Throsolwg
- CYBLD Cymru - Y Dudalen Dosbarthiadau
- CYBLD Cymru - Prydau Bwyd a Nodweddion yr Ysgol
- CYBLD Cymru - Cyfrifo Disgyblion
- CYBLD Cymru - Athrawon a Staff Cymorth (y canllaw hwn)
-
CYBLD Cymru - Addysgu’r Gymraeg
Caniatâd
- I gyrchu a golygu’r data yma, rhaid i chi fod â chaniatâd Ysgol: Datganiadau Data: Gweinyddu arnoch.
Os nad oes gennych chi’r caniatâd yma, gofynnwch i staff swyddfa neu weinyddwr eich ysgol ei ychwanegu at eich proffil i chi.
Beth yw’r Dudalen Athrawon a Staff Cynorthwyol?
Tra bod Cyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgol (SWAC) yn casglu data am staff unigol, mae’r datganiad CYBLD yn dal i ofyn am gyfrifiadau cyfanredol ar gyfer eich staff.
Mae’r dudalen hon yn cofnodi cyfanswm nifer y staff, a lle bo’n berthnasol, cyfanswm nifer eu horiau gwaith. Mae’n ymrannu’n dair adran:
- Athrawon nad ydynt yn Addysgu (Uwchradd a Chanol yn unig)
- Athrawon: (Yr holl athrawon cymwysedig)
- Staff Cynorthwyol: (Yr holl staff cynorthwyol)
Llywio
- Ewch i Ysgol > Data > Allforio > Datganiadau Data.
- Dewiswch CYBLD
- Dewiswch Athrawon a Staff Cynorthwyol o’r ddewislen ar y chwith.
Defnyddio’r Awto-gyfrifiannell
Er mwyn helpu i leihau faint o ddata y mae angen ei gofnodi â llaw, gallwch sbarduno cyfrifiannell i lenwi’r dudalen hon yn seiliedig ar y cofnodion a gedwir yn eich adran Contractau Staff ac Amserlen diwrnod y cyfrifiad.
Rhybuddion Pwysig
- Risg o Drosysgrifio: Bydd clicio “Ail-gyfrifo” yn dileu unrhyw newidiadau rydych chi wedi eu gwneud i’r dudalen hon â llaw.
- Ffynhonnell y Data: Os nad yw eich contractau staff yn Arbor yn gyfoes (e.e. os oes rolau busnes coll neu oriau gwallus), bydd y cyfrifiannell yn cynhyrchu’r ffigurau’n anghywir.
- Dilysu â Llaw Ar ôl rhedeg y cyfrifiannell, bydd angen i chi ddilysu bod y canlyniadau’n gywir ac yn gyflawn.
Sut i ddefnyddio hyn
- Cliciwch y linc Ail-gyfrifo’r Holl Ddata yn y Faner Gwybodaeth.
- Cliciwch Ydw
- Bydd y system yn codi data o gontractau gweithredol a’r amserlen i lenwi’r rhesi.
Adolygu a Thrwsio Data Staff â Llaw
Ar ôl rhedeg y cyfrifiannell, dylech wirio bod y canlyniadau’n gywir ac yn gyflawn. Cliciwch ar faes yn un o’r tablau i’w olygu yn y blwch llithro cyn clicio Cadw i gadarnhau’r newidiadau.
Athrawon nad ydynt yn Addysgu (Uwchradd a Chanol yn Unig)
Mae’r adran hon yn cofnodi athrawon sy’n bresennol yn yr ysgol ond nad ydynt yn addysgu dosbarth ar yr adeg a bennwyd yn y cyfrifiad (Gwers 3 fel rheol). Mae hyn yn cynnwys athrawon sydd ar amser CPA neu’n cyflawni dyletswyddau rheoli.
- Cyfri niferoedd: Nifer y staff sy’n cyd-fynd â’r disgrifiad penodol yma.
- Cynnwys: Rhaid cynnwys y pennaeth yn y cyfrifiad hwn os oedden nhw’n bresennol ond nad oedden nhw’n addysgu yn ystod y cyfnod penodol yna.
- Golygu â Llaw: Bydd clicio ar Athrawon nad ydynt yn Addysgu yn agor y blwch llithro Golygu Nifer yr Athrawon nad ydynt yn Addysgu.
Athrawon (Pob Ysgol)
Mae’r adran hon yn cofnodi’r holl athrawon cymwys sydd yng nghyflogaeth yr ysgol, dim ots a ydyn nhw’n addysgu ar yr amser penodol o dan sylw ai peidio.
Beth i’w gofnodi
Mae’r adran hon yn dangos tabl o athrawon wedi eu cyfuno yn ôl Categori, Rhyw a Chyfnod Swydd.
- Meysydd Gorfodol: Rhaid i chi nodi Nifer ar gyfer pob categori. Os “Rhan-amser” yw Cyfnod y Swydd, rhaid i chi nodi cyfanswm nifer yr Oriau rhan-amser (cyfanswm yr oriau cyfeiriedig yr wythnos) ar gyfer y grŵp yna hefyd.
- Rheol Unigrywiaeth: Rhaid i bob cyfuniad o Gategori, Rhyw a Chyfnod Swydd fod yn unigryw; bydd y system yn eich atal rhag cadw cyfuniadau dyblyg.
- Cynnwys: Rhaid cynnwys staff sy’n absennol dros dro am lai na thymor, athrawon peripatetig, a staff cyflenwi sy’n llenwi swyddi dros dro.
-
Hepgor: Peidiwch â chynnwys staff ar absenoldeb tymor hir (un tymor neu ragor), cynorthwywyr digyflog, a staff cyflenwi sy’n cyflenwi ar gyfer absenoldebau byrdymor.
Sut i adio cofnod newydd:
Os yw’r awto-gyfrifiannell yn hepgor athro/athrawes neu grŵp o athrawon (e.e. os nad yw athrawon cyflenwi ar eich system contractau), cliciwch y botwm +Adio i adio cofnod newydd.
Nodyn: os oes gennych athro â’r un nodweddion o ran categori, rhyw a chyfnod swydd, golygwch y cofnod cyfredol yn lle a chynyddu’r Nifer.
- Dewiswch y Categori, Rhyw a Chyfnod y Swydd.
- Cofnodwch y Nifer a’r Oriau.
- Cliciwch Cadw’r Newidiadau.
Sut i olygu neu ddileu cofnod
- Cliciwch ar y cofnod rydych am ei olygu
- Gwnewch y newidiadau angenrheidiol ar y blwch llithro
- Cliciwch Cadw neu Dileu yn ôl yr angen
Staff Cynorthwyol (Pob Ysgol)
Mae’r adran hon yn adrodd ar staff nad ydynt yn addysgu, fel Cynorthwywyr Addysgu (CA), Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU), a staff gweinyddol.
Beth i’w gofnodi
- Categori Cymorth: Rhaid i chi fapio’r staff i godau cywir Llywodraeth Cymru (e.e. Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch, Cynorthwyydd Meithrin, Rheolwr Busnes).
-
Cyfri niferoedd Nifer y staff yn y categori hwnnw.
Sut i adio cofnod newydd:
Os yw’r awto-gyfrifiannell yn hepgor staff cymorth, cliciwch y botwm +Adio i adio cofnod newydd.
Sut i olygu neu ddileu cofnod
- Cliciwch ar y cofnod rydych am ei olygu
- Gwnewch y newidiadau angenrheidiol ar y blwch llithro
- Cliciwch Cadw neu Dileu yn ôl yr angen
Nodiadau Pwysig
- Cymorth Fesul Un: Rhaid cynnwys staff cymorth sy’n bresennol yn benodol i ddarparu cefnogaeth fesul un ar gyfer disgybl yn y cyfrifiadau hyn.
- Categorïau Dilys: Os ydych chi’n cofnodi data â llaw, sicrhewch eich bod chi’n dewis y “Categori Cymorth” cywir o’r gwymplen, am fod hyn yn mapio’n uniongyrchol i godau gofynnol y Cyfrifiad.
Nodyn: Wrth adio cofnodion â llaw, rhaid sicrhau bod y “Categori Cymorth” yn cyd-fynd â chodau dilys y CYBLD.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.